| (Dai) Hei, dere mlân, Dic. | |
| (1, 1) 32 | Mae hast arnat ti bore 'ma o's e ddim? |
| (1, 1) 34 | Pum munud i naw yw hi nawr; am naw r'ŷm ni'n arfer brecwasta. |
| (1, 1) 35 | Mwy o hast i lanw dy grombil, spo, nag i lanw glo heddi 'to. |
| (1, 1) 37 | Ti, boi bach, sy'n codi glo i chi'ch dou, iefe? |
| (1, 1) 41 | Dere, gofyn fendith, 'ngwas i. |
| (Bob) {yn syml} | |
| (Dai) Dwy i na Idwal byth yn gofyn bendith, a dŷm ni ddim wedi trengi yto, e Id? | |
| (1, 1) 51 | Does dim llawer o wahaniaeth gen i beth ych chwi'ch dou yn gredu, ond mi all mwy o flas fod ar fara menyn dim ond gweud thenciw amdano fe, ond gall e, Bob? |
| (Bob) Shŵr o fod. | |
| (1, 1) 61 | Ond Idwal, yn shŵr iti... |
| (Idwal) {yn torri arno} | |
| (Idwal) {Gyda'i gilydd.} | |
| (1, 1) 97 | Mi ddylai fod yn gas gan dy galon di, Dai. |
| (Dai) {yn fawreddog} | |
| (Dai) Sure snip, 20 to 1. | |
| (1, 1) 104 | Os yw'r gêm yna'n talu cystal i ti, pam wyt ti mor ddwl â dod lawr fan hyn? |
| (1, 1) 105 | Mae'n dda bod y bois ma'n gallach na thi. |
| (1, 1) 107 | Ar y radio neithiwr roedd e'n dweud i'r llywodraeth gario, a bod y bil yn saff hyd y committee stage. |
| (Idwal) Good. | |
| (Idwal) Cer mlaen â'th geffylau. | |
| (1, 1) 150 | Gad lonydd iddyn nhw, Dai. |
| (1, 1) 151 | Mae Idwal eisiau'r pethau ma erbyn ei sertifficet. |
| (1, 1) 152 | Wyt i'n gwybod ei fod e'n mynd i eiste ei ecsam yr haf'ma? |
| (1, 1) 153 | Be' dda yw stwff felna, leiciwn i wybod. |
| (1, 1) 154 | Dwli pen hewl. |
| (Idwal) Prove that the square on AG equals the sum of the squares on the other two sides. | |
| (1, 1) 165 | Gad na fe, Id, y mochyn dienaid sut ag yw e. |
| (1, 1) 166 | Der, byta dy fwyd. |
| (1, 1) 167 | Does gyda ni ddim gormod o amser i gael... |
| (1, 1) 168 | Ac rwyt ti'n cael blas ar y taclau 'na! |
| (1, 1) 169 | Fuodd gen i ddim diddordeb ynddyn nhw arioed... |
| (1, 1) 170 | Na fe, {IDWAL wedi eistedd, mewn cywilydd at DAI, a rhyfeddod at ddoethineb DIC} cwpla dy fwyd. |
| (Bob) {yn torri'r tawelwch digysur} | |
| (Bob) Wel, wir, brecwast go brin sy gen i heddi a ffido Dai a chwbwl. | |
| (1, 1) 173 | Hy, ie, wir, 'ngwasi; ond mi fydd bola Dai rhy dynn i blygu, mi alli fentro. |
| (1, 1) 174 | Hwde {estyn gylffyn o fara cyrens iddo}, cymer y bara cyrens ma, alla i ddim ei gwpla fe. |
| (Dai) Be gythraul sy'n bod arnat ti? | |
| (Dai) Oes pinshed fach gen ti, Dic? | |
| (1, 1) 195 | Oes thenciw. |
| (Dai) Wel der â blewyn te! | |
| (1, 1) 199 | O dyna gân arall nawr. |
| (1, 1) 201 | Pryd prynaist ti faco ddiwetha, Dai? |
| (Dai) Y diawl, yn gwneud sport ar'y mhen i! | |
| (Dai) Mi leiciwn i gael mwgyn bach o hon nawr. | |
| (1, 1) 206 | Ti yw'r diawl. |
| (1, 1) 207 | Sut y dest ti â honna lawr? |
| (1, 1) 208 | Ac rwyt ti mor wan â chath fach, ac yn ddigon dwl i'w thano hi. |
| (1, 1) 210 | Dyna! |
| (Dai) O reit, o reit, rwyt ti'n barticlar iawn. | |
| (Dai) O ca dy lol. | |
| (1, 1) 220 | Bob, faint o fwc sy'n dy dram di bore 'ma. |
| (1, 1) 221 | Rwy'n siwr na ellit ti ddim llanw honna i gyd yn lân dy hunan; a ti llanwodd hi fwya, gynta. |
| (1, 1) 222 | Os cewch chi'ch dal am lanw glo brwnt, maes cewch chi fynd yn bendramwnwgwl. |
| (Bob) {gan edrych ar DAI} | |
| (Bob) Mae'r glo rwy i wedi roi ar y top yn iawn, ond... wni ddim be sy'n ei chanol hi. | |
| (1, 1) 226 | Petawn i'n ffeierman f'hunan, fydde gen i ddim byd i'w wneud ond gwneud hebddot ti, Dai. |
| (Dai) Petai ti'n ffeierman mai fyddai raid i fi gael rhyw ffordd arall falle. | |
| (Dai) Pwy eisiau iti deimlo sy? | |
| (1, 1) 245 | Mae rheswm ar bopeth. |
| (1, 1) 246 | Rwyt ti wrth dy fodd yn chwilio popeth gwael am bawb. |
| (1, 1) 247 | Dim ond celwyddau dynion o dy deip di sy am Morgan Lewis. |
| (1, 1) 248 | Mae'n well i chi ofalu neu fe gewch chi'ch hunan mewn twll y gŵr drwg maes o law. |
| (Dai) O'r sant, sut ag wyt ti. | |
| (Dai) Fallai bod hi rywbeth yn debyg i Moc ei brawd. | |
| (1, 1) 257 | Er mwyn y Nefoedd, dal dy dafod, Dai. |
| (Idwal) Gedwch na fe, mi ddwed rywbeth heb fod yn hir y bydd raid imi roi whelpen iddo fe. | |
| (Bob) Nawr te, dere mlaen. | |
| (1, 1) 275 | Gad lonydd iddo, Idwal. |
| (1, 1) 276 | Paid â gwneud sylw ohono. |
| (1, 1) 277 | Dim ond dy bryfocio di mae e, i'th hela di'n grac. |
| (1, 1) 279 | Ond wyddost ti Dai, rwyt ti'n haeddu'r goten orau gest ti erioed am siarad felna. |
| (Dai) {yn chwerthin} | |
| (1, 1) 290 | Ddylet ti ddim siarad felna o flaen y bois 'ma. |
| (Dai) Arnyn nhw mae'r bai, nhw ddechreuodd. | |
| (Dai) A mae Bob yn gwybod cymaint â finnau llawn. | |
| (1, 1) 293 | Mae gen ti ferch fach dy hunan cofia. |
| (1, 1) 294 | Pa ddylanwad wyt ti'n ddisgwyl gael arni hi? |
| (1, 1) 295 | Druan fach o Mrs. Davies! |
| (Dai) Does dim eisiau iti foddrach amdanyn nhw. | |
| (Dai) Does neb wedi rhoi hawl iti i fesan yn 'y musnes i, oes e, er dy fod ti'n esgus bod mor dduwiol ac yn gweddïo rownd abowt. | |
| (1, 1) 298 | Nagoes, nagoes. |
| (1, 1) 299 | Ond druain bach ddweda i, yn dy ofal di. |
| (Dai) Pait di â becso dim amdanyn nhw. | |
| (Dai) Ca di dy geg amdanyn nhw. | |
| (1, 1) 303 | A dyw Mrs. Davies ddim yn gryf iawn, ond nagyw hi? |
| (Dai) Mae'r hen groten yn burion, does dim eisiau iti ffysan lot amdani hi. | |
| (Dai) Mae lot o anal ynddi hi eto. | |
| (1, 1) 306 | A Marged fach, der weld, pedair ar ddeg yw hi nawr? |
| (Dai) Nage, pymtheg. | |
| (Dai) Nage, pymtheg. | |
| (1, 1) 308 | Mae'n ddrwg gen i amdani hi. |
| (Dai) Mae hi'n dda ddigon. | |
| (Dai) Diawst i, mae hi'n dod yn hen groten fach lân, hefyd, my boi. | |
| (1, 1) 314 | Edrych ar ei hôl hi, er mwyn Duw, os nad oes gen ti ddim byd arall i fod yn falch ohono. |
| (1, 1) 316 | Dai, pob lwc iti. |
| (1, 1) 317 | Mi ddylet ddod i benshwn am beidio â gweithio, neu am hau celwyddau. |
| (1, 1) 318 | Yr unig biti yw fod y bois bach 'ma yn dy ofal di. |
| (1, 1) 319 | Os na ofeli di mi fyddi wedi dwyn ei job oddi ar Bob a'i roi e ar yr hewl heb na dôl na dim. |
| (1, 1) 320 | Ac os bydd e gyda thi'n hir mi fydd heb ei gymeriad hefyd mae arnai ofan. |
| (Lewis) Rwy'n ofni y bydd raid iti fynd, Dai. | |
| (1, 1) 415 | Hylo, bore da, syr. |
| (Lewis) Bore da, Dic. | |
| (Lewis) Faint ych chwi wedi'i wneud bore ma? | |
| (1, 1) 419 | Newydd hela'r ail maes. |
| (1, 1) 420 | Mae'r drydedd bron yn wag mewn yna. |
| (1, 1) 421 | Dyw'r lle ddim yn ffôl. |
| (1, 1) 422 | Rŷm ni'n gallu dod i ben ag e'n weddol nawr. |
| (Lewis) Dyna oeddwn innau'n feddwl. | |
| (Lewis) Gwisg dy got! | |
| (1, 1) 429 | O! Mr. Lewis! |
| (Lewis) Beth arall alla i wneud? | |
| (Dai) Rwy i'n hen barod... | |
| (1, 1) 438 | Rhowch un cyfle arall iddo fe, Mr. Lewis. |
| (Lewis) Beth well fydda i. | |
| (1, 1) 464 | Wel, wel... Mae byd pert o'i flaen e, druan; a'i deulu hefyd... Wel, wel. |