| (Beelzebub) Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern, | |
| (Beelzebub) A'r hanes oll yn drefnus ar eì dafod— | |
| (1, 1) 216 | Dialedd yn dyfod i mewn. |
| (Beelzebub) Ha! dyma fe o flaen ei feistr yn barod: | |
| (Beelzebub) Yr achos, maint, a natur y cyffröad! | |
| (1, 1) 220 | Ha, ha, ha! mae chwerthin bron fy hollti, |
| (1, 1) 221 | Erioed o'r blaen ni welais fath drueni: |
| (1, 1) 222 | Wrth i mi nesu tua maes y cyffro, |
| (1, 1) 223 | Ac ysgrechfeydd taranllyd bron fy moedro, |
| (1, 1) 224 | Mi sefais eiliad wedi haner ofni, |
| (1, 1) 225 | Gan dybied ddarfod i mi gyfeiliorni |
| (1, 1) 226 | A chroesi'r terfyn yn fy anwybodaeth |
| (1, 1) 227 | I ryw fyd arall, gwaeth uwchlaw cymhariaeth. |
| (1, 1) 228 | Na'r dalaeth waethaf yn dy ymerodraeth; |
| (1, 1) 229 | Mi welwn o fy mlaen fil-fyrdd o ffurfiau |
| (1, 1) 230 | Hagr, erch, ofnadwy, o bob math o liwiau— |
| (1, 1) 231 | Yn gwau yn wylltiog trwy a thraws eu gilydd, |
| (1, 1) 232 | A chynddeiriogrwydd oedd yn eu lleferydd! |
| (1, 1) 233 | Eirth hagr a llewod yn eu plith mi welwn,. |
| (1, 1) 234 | Seirph a gwiberod hefyd ddarganfyddwn, |
| (1, 1) 235 | Ac angenfilod anferth, filoedd lawer, |
| (1, 1) 236 | Nad oes un enw ddengys eu herchyllder; |
| (1, 1) 237 | A chreaduriaid, tebyg iawn i ddynion, |
| (1, 1) 238 | A'u danedd miniog dynent yn ysgyrion |
| (1, 1) 239 | Sarph danllyd fawr, ac iddi gant o benau, |
| (1, 1) 240 | A'i chorph i gyd yn orlawn o golynau; |
| (1, 1) 241 | O gylch un welwn wedi tỳn ymdorchi, |
| (1, 1) 242 | Ac wrth ei bodd edrychai yn ei boeni; |
| (1, 1) 243 | Ei phenau erch ysgydwai yn ei wyneb, |
| (1, 1) 244 | A'i llygaid aml yn gochion greulondeb; |
| (1, 1) 245 | Ac wedi edrych yn fygythiol arno, |
| (1, 1) 246 | A'r truan caeth yn wae a dychryn trwyddo, |
| (1, 1) 247 | Ei frathu wnai â'i danedd oll ar unwaith, |
| (1, 1) 248 | Nes gwaeddai allan gan bangfeydd anobaith; |
| (1, 1) 249 | Ac felly gwnai dro ar ol tro ei boeni, |
| (1, 1) 250 | Nes ydoedd ar eì loesion wedi meddwi; |
| (1, 1) 251 | Yn ymyl hwn, mi welwn adyn arall |
| (1, 1) 252 | Yn cael ei boeni am ei fywyd angall,— |
| (1, 1) 253 | Ellyllon lu a'i gwanent â'u bidogau, |
| (1, 1) 254 | Ac ar ei fynwes dawnsient i'w ruddfanau; |
| (1, 1) 255 | Ei daflu wnaent â'u gwaewffyn i fynu, |
| (1, 1) 256 | A dalient ef â'u blaenau wedi hyny; |
| (1, 1) 257 | I'w enau bwrient gorn o hylif eirias, |
| (1, 1) 258 | A lluchient ef drachefn i ffwrnes wynias; |
| (1, 1) 259 | Nes oedd ei waedd, a gwaedd llu mawr ychwaneg, |
| (1, 1) 260 | I'w clywed fel taranau fyrdd ar osteg; |
| (1, 1) 261 | Annhrefn eisteddai ar eì orsedd sitrach |
| (1, 1) 262 | A gwnai bob dim o'i gylch yn strim-stram-strellach; |
| (1, 1) 263 | Ellyllon, angenfilod, damnedigion, |
| (1, 1) 264 | Mwg taglyd poeth, a storm o danllyd wreichion, |
| (1, 1) 265 | Cleddyfau miniog, bolltau a bwledi, |
| (1, 1) 266 | A llawer mwy o offerynau cyni |
| (1, 1) 267 | Yn mhob cyfeiriad welwn yn chwyrnellu, |
| (1, 1) 268 | Ac aflywodraeth yn eu llywodraethu; |
| (1, 1) 269 | Nes haner meddwl, fel y d'wedais eisioes, |
| (1, 1) 270 | Fy mod mewn byd na welswn yn fy einioes: |
| (1, 1) 271 | Ond wedi craffu yn fwy manwl arnynt, |
| (1, 1) 272 | Fe adnabuais ambell un o honynt; |
| (1, 1) 273 | Ac yn eu canol safwn mewn amrantiad: |
| (Beelzebub) Yr achos, maint, a natur y cyffröad, | |
| (Beelzebub) Gad wybod pwy o'm deiliaid a'i hachosodd? | |
| (1, 1) 277 | Neb yn neillduol: Piwsi bach o Gymro |
| (1, 1) 278 | Oedd newydd ddyfod dan ruddfanu yno, |
| (1, 1) 279 | A'r holl gythreuliaid yn y fan gyffröent |
| (1, 1) 280 | Ac ar yr adyn truan ymosodent: |
| (1, 1) 281 | O! fel y rhuthrent ar eu rhwym ysglyfaeth; |
| (1, 1) 282 | O! fel y gwaeddai yntau dan ei driniaeth; |
| (1, 1) 283 | Arteithient ef yn mhob rhyw ddull a allent, |
| (1, 1) 284 | Gan dyngu i dy enw na orphwysent |
| (1, 1) 285 | Nes iddo brofi eithaf eu cynddaredd |
| (1, 1) 286 | Ac yfed gwaddod cwpan ei ddialedd. |