| (1, 0) 1 | YR ACT GYNTAF |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Pan gyfyd y llen gwelir stafell, stafell mewn hen dŷ, ond erbyn hyn wedi ei throi yn stydi. |
| (1, 0) 4 | Ar un mur mae silffoedd llyfrau yn llawn o hen lyfrau Cymraeg di-liw. |
| (1, 0) 5 | Wrth y silffoedd mae cadair efo llyfrau arni. |
| (1, 0) 6 | Ar y mur sydd gyferbyn mae ffenestr a'r llenni wedi eu tynnu. |
| (1, 0) 7 | O flaen y ffenestr mae telisgop seryddol a chadair wrth ei ymyl. |
| (1, 0) 8 | Yn y cefn, sef y mur gweladwy arall, mae drws yn y canol, yr unig ddrws yn y stafell. |
| (1, 0) 9 | Wrth ymyl y drws, eto yn y cefn, mae bwrdd ac arno lyfrau. |
| (1, 0) 10 | Yn wir, mae llyfrau wedi eu gadael yma ac acw ar hyd y stafell. |
| (1, 0) 11 | ~ |
| (1, 0) 12 | Yng nghanol y stafell mae soffa hynod o flêr efo rhyw fath o gwrlid gwlân budr ar ei chefn. |
| (1, 0) 13 | Wrth ei hochr mae hen gadair ledr hynod flêr a chlustogau budr arni. |
| (1, 0) 14 | Rhwng y soffa a'r gadair mae bwrdd coffi ac arno botel o wisgi, gwydrau, jwg ddŵr, a phaced o fisgedi. |
| (1, 0) 15 | Yn nhu blaen y llwyfan, yn y canol, mae tân trydan ac yn y tu blaen hefyd wrth ymyl cadair olwyn mae hen lamp drydan. |
| (1, 0) 16 | ~ |
| (1, 0) 17 | Wrth ymyl y soffa, yn eistedd yn y gadair olwyn, mae hen wraig, sef Emily, yn eistedd. |
| (1, 0) 18 | Mae ei dillad yn flêr, hen, a budr. |
| (1, 0) 19 | O'i blaen mae bwrdd bychan ac arno deganau clwt. |
| (1, 0) 20 | Mae hi wrthi'n gwnïo'n llafurus pan gyfyd y llen. |
| (1, 0) 21 | ~ |
| (1, 0) 22 | O hirbell, clywir sŵn awyren jet yn nesâu. |
| (1, 0) 23 | Mae Emily yn rhoi'r gorau i'r gwnïo a chodi ei phen. |
| (1, 0) 24 | Fel y cryfha'r sŵn mae Emily yn aflonyddu a dechrau mwmial yn annealladwy, sy'n troi yn fath o weiddi hunllefus. |
| (1, 0) 25 | ~ |
| (1, 0) 26 | Ynghanol y llefain hwn mae'r drws yn agor a daw Roberts a Parry i mewn. |
| (1, 0) 27 | Mae Roberts yn flêr ei wisg — hen siwt, hen grys a thei budr — ac nid yw wedi siafio ers dyddiau. |
| (1, 0) 28 | Mae Parry yn weddol dalcus — trowsus llwyd, crys gwyn, a'i wddw'n agored, a chôt olau ysgafn sy'n gweddu i'w oed. |
| (1, 0) 29 | ~ |
| (1, 0) 30 | Pan wêl Roberts ei wraig Emily yn y cyflwr y mae hi, mae'n rhuthro ati a'i chysuro fel pe bai'n cysuro plentyn. |
| (1, 0) 31 | Saif Parry yn syllu ar hyn. |
| (1, 0) 32 | Yn raddol, daw Emily ati ei hun ac y mae'n mynd ymlaen unwaith eto efo'r gwnïo. |
| (Roberts) {Gan droi at Parry sydd wrth y drws.} | |
| (Parry) Caredig iawn. | |
| (1, 0) 52 | Mae Roberts yn tywallt dau wydriad o wisgi. |
| (Roberts) Dŵr? | |
| (Roberts) Dyma be ddeud'is i, ynte, Emily? | |
| (1, 0) 131 | Nid yw'n ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo. |
| (Roberts) {Yn codi a mynd at Emily.} | |
| (Roberts) Ydi. | |
| (1, 0) 146 | Saib. |
| (Parry) Môn. | |
| (Parry) Caredig iawn. | |
| (1, 0) 162 | Mae Roberts yn mynd at Emily a rhoi bisgeden yn ei llaw gan arwain ei llaw at ei cheg. |
| (1, 0) 163 | Mae Emily yn bwyta. |
| (1, 0) 164 | Daw Roberts yn ôl ac eistedd. |
| (Parry) Digestive. | |
| (Roberts) Cenedl fechan. | |
| (1, 0) 207 | Saib. |
| (Parry) Credu imi'ch gweld chi yn Steddfod Llangefni. | |
| (Roberts) Na. | |
| (1, 0) 221 | Saib. |
| (Roberts) Eich hun oeddech chi? | |
| (Parry) Deall yn iawn. | |
| (1, 0) 227 | Saib. |
| (Roberts) Un arall? | |
| (Parry) Hynod wâr. | |
| (1, 0) 269 | O'r pellter megis, daw sŵn peiriant awyren jet eto a'r un yw ymateb Emily pan fo'r awyren yn nesâu. |
| (1, 0) 270 | Mae Roberts yn rhuthro ati a'i chofleidio. |
| (1, 0) 271 | Mae'r sŵn yn graddol bellhau. |
| (Roberts) Yr awyrennau jet... | |
| (Parry) Mae'n ddrwg gen i. | |
| (1, 0) 287 | Mae Parry yn rhuthro at y drws a'i agor. |
| (1, 0) 288 | Mae Roberts yn cychwyn rowlio Emily o'r stafell. |
| (1, 0) 289 | Cyn mynd mae'n troi at Parry. |
| (Roberts) Abertawe. | |
| (Parry) Aberhenfelen. | |
| (1, 0) 294 | Mae Roberts yn rowlio Emily allan gan adael y drws yn lled agored. |
| (1, 0) 295 | Mae Parry yn y stafell ei hun ac y mae'n cerdded yn syth at y silff lyfrau, tynnu ei sbectolau a byseddu'r llyfrau. |
| (1, 0) 296 | Daw Roberts yn ôl. |
| (Parry) Wedi dal ati mae'n siwr? | |
| (Parry) Mi ddylwn i fod wedi mynd. | |
| (1, 0) 377 | Saib. |
| (Roberts) Buddug, ynte? | |
| (Roberts) Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch? | |
| (1, 0) 472 | Mae Parry yn anesmwytho. |
| (Parry) O, oedd. | |
| (Roberts) Dirmyg. | |
| (1, 0) 479 | Saib. |