| (1, 0) 1 | ACT I |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Parc ar ystad Sorin. |
| (1, 0) 4 | Llwybr llydan yn arwain i bendraw'r parc at lyn; ar draws y llwybr gwelir llwyfan wedi ei chodi'n frysiog ar gyfer drama; felly ni welir y llyn. |
| (1, 0) 5 | Llwyn o goed o boptu'r llwyfan. |
| (1, 0) 6 | Cadair neu ddwy a bwrdd. |
| (1, 0) 7 | Y mae'r haul newydd fachlud. |
| (1, 0) 8 | Iago a'r gweithwyr eraill y tu ôl i'r llen. |
| (1, 0) 9 | Clywir sŵn eu morthwylion a'u peswch. |
| (1, 0) 10 | Daw Masia a Medfedenco o'r chwith; maent wedi bod am dro. |
| (Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser? | |
| (Medfedenco) Na, fydda i ddim. | |
| (1, 0) 36 | Distawrwydd. |
| (Masia) Mae'n fwll, cawn ddrycin yn y nos. | |
| (Masia) Yn eich barn |chi|, 'does dim mwy truenus na thlodi, ond yn fy marn i, mae'n ganmil gwell i ddyn wisgo carpiau a hel cardod o dŷ i dŷ na ─ ond fedrwch chi ddim dallt peth fel 'na. | |
| (1, 0) 40 | Sorin a Treplieff yn dod i mewn. |
| (Sorin) {A'i bwys ar ei ffon.} | |
| (Medfedenco) Cofiwch adael inni wbod mewn pryd. | |
| (1, 0) 55 | Exit. |
| (Sorin) Hynny yw, bydd y ci yn udo trwy'r nos heno eto. | |
| (Sorin) Ron i'n canu rywbryd ers talwm, a dyma J.P yn deud wrtha i, "Mae gynnoch chi lais nerthol, syr", ac wedi meddwl tipyn dyma fo'n deud wedyn: "ond hen lais go gas ydi o hefyd". | |
| (1, 0) 160 | Chwardd ac â allan. |
| (Nina) Mae nhad a'i wraig yn gwrthod gadael imi ddwad yma. | |
| (Nina) 'Rydych chi'n llond fy nghalon i. | |
| (1, 0) 164 | Edrych o'i hamgylch. |
| (Treplieff) Does na neb ond ni yma. | |
| (Treplieff) Na, 'does na neb yna. | |
| (1, 0) 168 | Cusanu. |
| (Nina) Pa goeden ydi honna? | |
| (Nina) Isht, isht. | |
| (1, 0) 181 | Sŵn traed. |
| (Treplieff) Pwy sy na? | |
| (Nina) Yn y marn i rhaid cael cariad mewn drama, mae hynny'n anhepgor. | |
| (1, 0) 209 | Exit Nina a Treplieff. |
| (1, 0) 210 | Polina a Dorn yn dod i mewn. |
| (Polina) Mae'n damp yma. | |
| (Shamraieff) Fedra i ddim cyd-weld â chi fan yna, ond o ran hynny, matter o chwaeth ydi'r cwbl; |de gustibus aut bene aut nihil|. [1] | |
| (1, 0) 251 | Treplieff yn dod i mewn. |
| (Arcadina) {Wrth ei mab.} | |
| (Treplieff) "A pham y syrthiaist ti i bwll aflendid a cheisio cariad yn nyfnderoedd camwedd?" | |
| (1, 0) 261 | Clywir corn tu ôl i'r llen. |
| (Treplieff) Foneddigion a boneddigesau, dechreuwn, sylwch a gwrandewch. | |
| (Treplieff) Dyma ddechrau. | |
| (1, 0) 264 | Gan daro'r llawr â'i ffon. |
| (1, 0) 265 | Mewn llais uchel. |
| (Treplieff) Chwi gysgodion, sanctaidd, hen, fydd yn lledu eich adenydd dros y llyn liw nos, bwriwch drymder cwsg ar ein hamrantau fel y breuddwydiom am yr hyn a ddigwydd ymhen dau gan mil o flynyddoedd. | |
| (Arcadina) Breuddwydiwn ta. | |
| (1, 0) 270 | Y llen yn codi. |
| (Nina) Mae dynion, llewod, eryrod a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed cop, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na aller y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd ─ aeth weithian filoedd o oesau heibio, a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r loer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer. | |
| (Nina) Enaid y byd wyf |i|, ynof |i| mae Enaid Alecsandr Fawr, enaid Cesar, enaid Shakespeare, enaid Napoleon a phryfyn distatlaf y llwch; yn fy mherson i crynhowyd holl reddfau'r byw, ac adnewyddaf bob bywyd ynof i fy hun. | |
| (1, 0) 276 | Ymddengys goleuadau gwibiog Jac y Lantern yn y niwl. |
| (Arcadina) {Yn ddistaw bach.} | |
| (Nina) Ond ni ddaw hyn i fod am oesau, filoedd hir, wedi i'r lloer a FIX Siriws disglair, a'r ddaear raddol droi yn llwch, o'r dyddiau hyn i hynny, braw, braw! | |
| (1, 0) 288 | Distawrwydd. |
| (1, 0) 289 | Ymhen y llyn ymddengys dau bwynt coch. |
| (Nina) Wele fy ngwrthwynebwr cadarn, y diafol, yn FIX nesáu; gwelaf ei lygaid erchyll, coch. | |
| (Treplieff) Torrais y |monopoly|, mi ─ mi ─ | |
| (1, 0) 313 | Exit. |
| (Arcadina) Be sy arno fo? | |
| (Polina) 'Rochor arall i'r llyn y maen nhw. | |
| (1, 0) 343 | Distawrwydd. |
| (Arcadina) {Wrth Trigorin.} | |
| (Masia) Hei! | |
| (1, 0) 359 | Exit. |
| (Nina) {Yn dod i mewn.} | |
| (Nina) Dydd da i chi. | |
| (1, 0) 363 | Cusanu Arcadina a Polina. |
| (Sorin) Bravo, bravo. | |
| (Shamraieff) Iago, machgen i, tyn y cyrten na i fyny. | |
| (1, 0) 384 | Y llen yn codi. |
| (Nina) {Wrth Trigorin.} | |
| (Shamraieff) Rhywbryd erstalwm yn yr opera yn Mosco, 'rwy'n cofio'n dda, canodd yr enwog Silfa y |do| uchaf, a'r noson honno, fel pe tae o bwrpas, roedd canwr bas o gôr ein plwy ni yn eistedd ar ymyl y galeri, ac ar drawiad, dyma lais o'r galeri gryn wythawd yn is: "Bravo Silfa' nes synnu'r holl dŷ. | |
| (1, 0) 396 | Distawrwydd. |
| (Dorn) Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan. | |
| (Nina) Fedra i ddim. | |
| (1, 0) 416 | Exit. |
| (Arcadina) Wir, mae'r eneth yn anlwcus iawn. | |
| (Arcadina) Dowch, yr hen greadur anniddan. | |
| (1, 0) 425 | Yn gafael yn ei fraich. |
| (Shamraieff) {Yn rhoi ei fraich i'w wraig.} | |
| (Medfedenco) Be di cyflog aelod o'r côr? | |
| (1, 0) 435 | Exit pawb ond Dorn. |
| (Dorn) {Ar ei ben ei hun.} | |
| (Dorn) Rydych yn ŵr talentog, rhaid ichi fynd ymlaen. | |
| (1, 0) 447 | Treplieff yn gwasgu ei law ac yn ei gofleidio'n wyllt. |
| (Dorn) Ow, 'rydych chi'n nerfau i gyd. | |
| (Treplieff) Diolch yn fawr i chi. | |
| (1, 0) 472 | Exit. |
| (Dorn) Ieuenctid, ieuenctid! | |
| (Masia) Pan fydd dim mwy i'w ddeud, "ieuenctid, ieuenctid" dyna gewch chi gan bawb. | |
| (1, 0) 475 | Cymer bins o snisin. |
| (1, 0) 476 | Dorn yn cipio'r blwch snisin a'i luchio i'r llwyn. |
| (Masia) Rhoswch. | |
| (Dorn) Be fedra i neud, mhlentyn i, be fedra i neud, be fedra i neud? | |
| (2, 0) 491 | Clwt sgwâr o welltglas llyfn yn y pen draw ar y dde a theras mawr; ar y chwith ceir golwg o'r llyn a'r haul yn tywynnu arno. |
| (2, 0) 492 | Gardd flodau. |
| (2, 0) 493 | Hanner dydd, gwres mawr. |
| (2, 0) 494 | Ar ochr y clwt glas, yng nghysgod hwn waglwyfen, Arcadina, Dorn a Masia yn eistedd ar fainc. |
| (2, 0) 495 | Llyfr agored ar lin Dorn. |
| (Arcadina) {Wrth Masia.} | |
| (Arcadina) Raid ichi ddim mynd ymhell i gael enghraifft, cymwch fi a Trigorin. | |
| (2, 0) 528 | Sorin yn dod i mewn ar bwys ei ffon a Nina gydag ef: Medfedenco yn gwthio cadair freichiau ar eu hôl. |
| (Sorin) {Megis wrth blentyn.} | |
| (Masia) Mae gynno fo lais swynol a thrist, ac y mae'n edrych fel bardd bob modfedd ohono. | |
| (2, 0) 563 | Sorin yn chwyrnu. |
| (Dorn) Nos dawch. | |
| (Sorin) Dim o'r fath beth. | |
| (2, 0) 569 | Distawrwydd. |
| (Arcadina) Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig. | |
| (Dorn) 'Does dim eisiau dallt, mae'r peth yn rhy blaen. | |
| (2, 0) 580 | Distawrwydd. |
| (Medfedenco) Mi ddylai Piotr Nicolaiefits roi gorau i smocio. | |
| (Masia) Mae nghoes i wedi cyffio. | |
| (2, 0) 596 | Exit. |
| (Dorn) Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio. | |
| (Dorn) 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.' | |
| (2, 0) 610 | Shamraieff a Polina yn dod i mewn. |
| (Shamraieff) Dyma nhw. | |
| (Shamraieff) Dyma fi'n mynd heddiw, chwiliwch am rywun arall yn stiward ichi. | |
| (2, 0) 636 | Exit. |
| (Arcadina) 'Run fath bob ha, yn cael f'insyltio yma bob ha! | |
| (Arcadina) Ddo i byth yma eto. | |
| (2, 0) 639 | Exit. |
| (Sorin) {Yn wyllt.} | |
| (Sorin) Ie, wir, dychrynllyd iawn, ond eith o ddim i ffwrdd, mi â i ato fo rwan am sgwrs. | |
| (2, 0) 662 | Exit. |
| (Dorn) Ond tydi pobol yn ddiflas, mi ddylid cicio'ch gŵr o'r tŷ; ond mi fydd yr hen frechdan na Piotr Nicolaiefits a'i chwaer yn crefu arno faddau iddyn nhw, mi gewch chi weld. | |
| (Polina) Mae'r amser yn mynd, 'dydym ni ddim mor ifanc ag y buom, gadwch inni fynd i ymguddio am flwyddyn neu ddwy cyn mynd o'r byd ma, a rhoi taw ar yr holl dwyll a'r clwyddau ma. | |
| (2, 0) 671 | Distawrwydd. |
| (Dorn) 'Rydw i'n bymtheg a deugain, mae'n rhy hwyr imi newid fy ffordd o fyw. | |
| (Polina) Rhowch nhw i mi, rhowch nhw i mi. | |
| (2, 0) 694 | Yn eu rhwygo a'u taflu. |
| (2, 0) 695 | Exit. |
| (Nina) {Ar ei phen ei hun.} | |
| (Trigorin) Dyma ŵr yn digwydd dŵad heibio, ac am nad oes ganddo ddim gwell i'w neud yn ei difa hi fel yr wylan yma. | |
| (2, 0) 821 | Distawrwydd. |
| (Arcadina) {O'r ffenestr.} | |
| (Arcadina) 'Rydym ni'n aros. | |
| (2, 0) 826 | Exit Trigorin. |
| (Nina) {Wedi ystyried tipyn.} | |
| (Nina) Breuddwyd gwag! | |
| (3, 0) 829 | Ystafell ginio yn nhŷ Sorin. |
| (3, 0) 830 | Drws ar y dde, drws ar y chwith, side-board, cwpwrdd a photeli ffisig etc. |
| (3, 0) 831 | Bwrdd ar ganol y llawr, cist a bagiau, a'r holl le ar gychwyn. |
| (3, 0) 832 | Trigorin wrth y bwrdd yn bwyta, a Masia yn sefyll wrth ei ymyl. |
| (Masia) 'Rwy'n deud hyn i gyd wrthoch chi fel llenor, gellwch neud defnydd ohono rywbryd. | |
| (Masia) Dyn clên ydych chi, mae'n ddrwg gin i eich bod chi'n mynd. | |
| (3, 0) 852 | Yfant. |
| (Trigorin) 'D oes arna i ddim isio mynd. | |
| (Masia) Ond nid musnes i ydi hynny. | |
| (3, 0) 862 | Distawrwydd; daw Iago o'r chwith i'r dde yn cludo cist. |
| (3, 0) 863 | Daw Nina i mewn a sefyll wrth y ffenestr.) |
| (3, 0) 864 | 'Does gin f'athro i fawr yn ei ben, ond y mae'n ddyn da ac yn glawd, ac yn fy ngharu'n ddwys. |
| (3, 0) 865 | Mae biti gin i drosto fo a'r hen wreigan gin i fam o hefyd. |
| (3, 0) 866 | Wel, pob llwyddiant i chi! |
| (3, 0) 867 | Peidiwch â'm hanghofio i. |
| (Nina) {Wedi cau ei dwrn, yn estyn ei braich.} | |
| (Masia) Ond nid musnes i ydi hynny. | |
| (3, 0) 869 | Diolch yn fawr ichi am eich caredigrwydd. |
| (3, 0) 870 | Anfonwch eich llyfrau imi, a chofiwch daro'ch henw arnynt. |
| (3, 0) 871 | Peidiwch â deud 'i'r hoff foneddiges fwyn' ond 'Marie na ŵyr o ba le y daeth, na phaham y mae yn y byd yma?' Da y boch chi! |
| (Nina) {Wedi cau ei dwrn, yn estyn ei braich.} | |
| (Trigorin) Fedr neb roi cyngor ichi. | |
| (3, 0) 881 | Distawrwydd. |
| (Nina) Dyma ni'n mynd bawb ei ffordd ei hun. | |
| (Nina) Ie, yr wylan. | |
| (3, 0) 892 | Distawrwydd. |
| (Nina) Ond dyna ben ar ein sgwrs ni, mae nhw'n dŵad – ga i ddau funud bach gynnoch chi cyn ichi fynd i ffwrdd, peidiwch â gwrthod. | |
| (Nina) Ond dyna ben ar ein sgwrs ni, mae nhw'n dŵad – ga i ddau funud bach gynnoch chi cyn ichi fynd i ffwrdd, peidiwch â gwrthod. | |
| (3, 0) 894 | Â allan ar y chwith, ac ar yr un pryd daw Arcadina i mewn ar y dde, Sorin ac wedyn Iago â'r gist etc. |
| (Arcadina) Rhoswch gartre, 'r hen fachgen. | |
| (Arcadina) 'Does gin i ddim arian. | |
| (3, 0) 949 | Chwardd Sorin. |
| (Arcadina) Nag oes. | |
| (Arcadina) Help, help! | |
| (3, 0) 971 | Daw Treplieff i mewn â rhwymyn am ei ben, a Medfedenco. |
| (Arcadina) Mae o'n wael. | |
| (Arcadina) 'Does gin i ddim arian, actres ydw i, nid banker. | |
| (3, 0) 995 | Distawrwydd. |
| (Treplieff) Mam, rhowch gadach arall ar y mhen i, mae'ch llaw chi mor dyner. | |
| (Treplieff) Merched crefyddol oeddyn nhw hefyd. | |
| (3, 0) 1018 | Distawrwydd. |
| (Treplieff) Yn y dyddiau diwedda ma, 'r wy'n eich caru chi'n angerddol fel pan o'n i'n blentyn. | |
| (Arcadina) Y cedsiwr. | |
| (3, 0) 1048 | Treplieff yn eistedd ac yn wylo'n ddistaw. |
| (Arcadina) Y creadur diddim! | |
| (Trigorin) 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.' | |
| (3, 0) 1078 | Treplieff yn clodi'r cadach oddi ar y llawr ac yn mynd allan. |
| (Arcadina) {Yn edrych ar ei wats.} | |
| (Trigorin) Gadwch inni aros yma tan yfory. | |
| (3, 0) 1091 | Arcadina yn ysgwyd ei phen. |
| (Trigorin) Gadwch inni aros. | |
| (Arcadina) Fel y mynnwch chi, am hynny, awn gyda'n gilydd, ta. | |
| (3, 0) 1151 | Distawrwydd. |
| (3, 0) 1152 | Trigorin yn taro nodyn yn ei lyfr. |
| (Arcadina) Be 'dych chi'n neud? | |
| (Shamraieff) 'Yn yr helfa.' | |
| (3, 0) 1170 | Ar draws sgwrs Shamraieff: daw Iago i mewn gyda'r gist, a morwyn yn cario het Arcadina a'i mantell, parasol a menyg; pawb yn helpu Arcadina i wisgo. |
| (3, 0) 1171 | O'r chwith dyma'r cogydd, braidd yn nerfus. |
| (3, 0) 1172 | Daw Polina, Andreiefna, ac wedyn Sorin a Medfedenco. |
| (Polina) {Â basged yn ei llaw.} | |
| (Arcadina) Rhwng y tri ohonoch, cofiwch. | |
| (3, 0) 1208 | Â pawb allan ar y dde. |
| (3, 0) 1209 | Mae'r llwyfan yn wag. |
| (3, 0) 1210 | Clywir sŵn traed, olwynion yn rhygnu etc. |
| (3, 0) 1211 | Daw'r forwyn yn ôl. |
| (3, 0) 1212 | Cymer y fasged eirin oddi ar y bwrdd ac â allan. |
| (Trigorin) {Yn dychwelyd.} | |
| (Trigorin) Rhaid imi frysio. | |
| (3, 0) 1227 | Distawrwydd. |
| (Nina) Hanner munud. | |
| (Trigorin) {Cusanu a chusanu.} | |
| (3, 0) 1236 | Llen |
| (4, 0) 1237 | Dwy flynedd ar ôl terfyn Act III. |
| (4, 0) 1238 | ~ |
| (4, 0) 1239 | Parlwr yn nhŷ Sorin, wedi ei drefnu yn stydi i Constantin Treplieff. |
| (4, 0) 1240 | Drysau ar y dde ac ar y chwith yn arwain i ystafelloedd eraill. |
| (4, 0) 1241 | Drws gwydr i'r teras. |
| (4, 0) 1242 | Heblaw dodrefn arferol parlwr ceir desg yn y gongl dde, soffa wrth y drws ar y chwith; cwpwrdd llyfrau; llyfrau ar y ffenestri a'r cadeiriau, gyda'r hwyr, lamp â chap arni a'r golau'n wan. |
| (4, 0) 1243 | Clywir y coed yn suo a sŵn y gwynt yn y simnai. |
| (4, 0) 1244 | Y gwyliwr yn curo ar ei styllen oddi allan. |
| (4, 0) 1245 | Daw Medfedenco a Masia i mewn.) |
| (Masia) {Yn galw.} | |
| (Masia) O'r gorau, o'r gorau, mi ddo i fory, 'rydych chi'n ddigon i... | |
| (4, 0) 1276 | Treplieff a Polina yn dod i mewn. |
| (Masia) Be di hyn mam? | |
| (Polina) Mae hen bobol fel plant. | |
| (4, 0) 1282 | Distawrwydd. |
| (Medfedenco) Mi 'dwi'n mynd. | |
| (Polina) Dyna ddigon, nos dawch ta. | |
| (4, 0) 1289 | Exit Medfedenco. |
| (Polina) {Gan edrych ar bapurau Treplieff.} | |
| (Polina) Mi wn i hynny trwy brofiad. | |
| (4, 0) 1300 | Treplieff yn mynd allan heb ddweud gair. |
| (Masia) Dyna chi wedi digio fo, 'doedd dim gofyn ichi ei flino fo. | |
| (Masia) Mae nhw wedi addo symud y gŵr acw i ardal arall; ac wedi inni ymadael, mi anghofiaf bopeth, gnaf, mi dynna i'r hen gariad yma o'r gwraidd. | |
| (4, 0) 1312 | Sŵn miwsig trist yn dod o ystafell arall. |
| (Polina) Dyna Costia yn canu'r piana, arwydd ei fod o'n ddigalon. | |
| (Masia) Os symudan nhw Simeon, mi fydda i wedi anghofio popeth cyn pen y mis – lol ydi'r cwbwl. | |
| (4, 0) 1316 | Drws yn agor. |
| (4, 0) 1317 | Dorn a Medfedenco yn dod i mewn a Sorin yn y gadair. |
| (Medfedenco) Mae gin i chwech ohonyn nhw yn y tŷ, a phris y blawd wedi codi. | |
| (Masia) Gall fynd allan i'r ardd, pan fyn, a myfyrio yno. | |
| (4, 0) 1333 | Sŵn y gwylwyr yn curo'r styllen. |
| (Sorin) Ble mae fy chwaer? | |
| (Sorin) Os oedd gofyn ichi anfon am fy chwaer, rhaid mod i'n ddifrifol o wael. | |
| (4, 0) 1337 | Distawrwydd. |
| (Sorin) Dyma fel y mae hi, 'rwy'n ddifrifol o wael ac eto cha i ddim tropyn o ffisig gennyn nhw. | |
| (Sorin) Wyth mlynedd ar hugain, os gwelwch chi'n dda. | |
| (4, 0) 1364 | Treplieff yn dod i mewn. |
| (Dorn) Ond dyma ni'n rhwystr i Constantin ac yntau'n brysur. | |
| (Treplieff) Na, dim o'r fath beth. | |
| (4, 0) 1367 | Distawrwydd. |
| (Medfedenco) Pa dre oedd yr orau gynnoch chi pan oeddech chi'n rhodio'r byd? | |
| (Treplieff) 'Ron i'n gweld o ble 'roedd y gwynt yn chwythu a wnes i ddim pwyso arni hi. | |
| (4, 0) 1392 | Distawrwydd. |
| (Treplieff) 'Does gin i ddim mwy o ddeud am hyna. | |
| (Treplieff) Ddaw hi ddim. | |
| (4, 0) 1405 | Distawrwydd. |
| (Treplieff) Mae ei thad a'i mam-yng-nghyfraith yn gwrthod ei derbyn hi, ac wedi rhoi'r gweision i wylio rhag iddi ddwad ar gyfyl y tŷ. | |
| (Dorn) Yr Hen Ddon Juan! | |
| (4, 0) 1415 | Shamraieff yn chwerthin o'r tu allan. |
| (Polina) Dyna nhw wedi dwad o'r stesion. | |
| (Treplieff) Ydyn, mi glywa i lais mam. | |
| (4, 0) 1418 | Daw Arcadina, Trigorin ac Shamraieff i mewn. |
| (Shamraieff) {Wrth ddod i mewn.} | |
| (Trigorin) Mi ddeudodd Irina Nicolaiefna eich bod chi wedi anghofio'r hen gweryl a'ch dicter. | |
| (4, 0) 1434 | Treplieff yn estyn ei law iddo. |
| (Arcadina) {Wrth ei mab.} | |
| (Trigorin) Mewn gair, yr un hen hanes. | |
| (4, 0) 1447 | Arcadina a Polina yn gosod bwrdd chwarae cardiau ar ganol y llawr ac yn ei agor. |
| (Trigorin) Croeso drwg ges i gin y tywydd a'r gwynt creulon na. | |
| (Masia) Ond mae gynnoch chi geffylau erill. | |
| (4, 0) 1459 | Distawrwydd. |
| (Masia) 'Does dim dichon eich trin chi. | |
| (Treplieff) Diolch yn fawr, ond maen well gin i beidio. | |
| (4, 0) 1488 | Exit. |
| (Arcadina) Rhodded pawb ei geiniog i lawr. | |
| (Masia) Pedwar ar ddeg ar hugain. | |
| (4, 0) 1504 | Clywir miwsig trist o stafell arall. |
| (Arcadina) A'r ovation a ges i gin y students. | |
| (Arcadina) Piotr, ydych chi wedi blino? | |
| (4, 0) 1522 | Distawrwydd. |
| (4, 0) 1523 | Mae'n cysgu. |
| (Dorn) Mae'r J.P. yn cysgu. | |
| (Arcadina) Costia, caewch y ffenast na, mae na ddrafft. | |
| (4, 0) 1554 | Ffenestr yn cau. |
| (Masia) Wyth a phedwar ugain! | |
| (Arcadina) Rhaid imi gael deud yr hanes am fy nerbyniad yn Charcoff. | |
| (4, 0) 1572 | Pawb yn mynd allan ond Treplieff. |
| (Treplieff) {Yn darllen ei ysgrif cyn ychwanegu ati.} | |
| (Treplieff) Mae'n ddigon i dorri calon dyn. | |
| (4, 0) 1583 | Distawrwydd. |
| (Treplieff) 'Rwy'n dod i gredu'n gadarnach bob dydd nad oes dim a wnelo ffurfiau hen a newydd â'r mater o gwbwl, ac y dylai dyn ysgrifennu'n rhydd fel y llifa'r ffrwd o'i galon – heb feddwl am ffurfiau. | |
| (Treplieff) 'Rwy'n dod i gredu'n gadarnach bob dydd nad oes dim a wnelo ffurfiau hen a newydd â'r mater o gwbwl, ac y dylai dyn ysgrifennu'n rhydd fel y llifa'r ffrwd o'i galon – heb feddwl am ffurfiau. | |
| (4, 0) 1585 | Clywir rhywun yn curo'r ffenestr. |
| (Treplieff) Be di hyna? | |
| (Treplieff) Pwy sy 'na? | |
| (4, 0) 1593 | Yn mynd allan ac yn rhedeg ar hyd y teras. |
| (4, 0) 1594 | Yn dod yn ei ôl. |
| (Treplieff) Nina! | |
| (Treplieff) Nina! | |
| (4, 0) 1597 | Nina yn crio. |
| (4, 0) 1598 | Dan deimlad dwys. |
| (Treplieff) Nina! | |
| (Nina) Rhowch glo ar y drws. | |
| (4, 0) 1610 | Sŵn cloi drws. |
| (Treplieff) 'Does na ddim clo ar y drws arall. | |
| (Treplieff) Yn enw Duw, Nina? | |
| (4, 0) 1656 | Distawrwydd. |
| (Nina) Mae'r cerbyd wrth y giât. | |
| (Nina) Gwylan ydw i – nage actres ydw i. | |
| (4, 0) 1672 | Arcadina a Trigorin yn chwerthin y tu allan. |
| (Nina) O! | |
| (Nina) Ni chlywir mwyach ysgrech garan yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf.' | |
| (4, 0) 1717 | Exit. |
| (Treplieff) Fynnwn ni er dim i neb ei chyfarfod yn yr ardd a deud wrth mam a pheri iddi gynhyrfu. | |
| (Treplieff) Fynnwn ni er dim i neb ei chyfarfod yn yr ardd a deud wrth mam a pheri iddi gynhyrfu. | |
| (4, 0) 1719 | Yn rhwygo ei holl lawysgrifau a'u lluchio dan y bwrdd: yn datgloi y drws ac yn mynd allan. |
| (Dorn) {Yn cesio agor y drws.} | |
| (Dorn) Obstacle race! | |
| (4, 0) 1725 | Arcadina, Polina, Iago, Masia, Shamraieff a Trigorn yn dod i mewn. |
| (Arcadina) Rhowch y gwin coch a'r cwrw ar gyfer Boris Alecsiefits inni gael yfed a chwarae ar yr un pryd. | |
| (Polina) Dowch â'r tê i mewn rŵan. | |
| (4, 0) 1730 | Yng ngolau'r canhwyllau ac yn eistedd wrth y bwrdd cardiau. |
| (Shamraieff) {Yn mynd â Trigorin at y cwpwrdd.} | |
| (Trigorin) 'D 'wy'n cofio dim! | |
| (4, 0) 1739 | Clywir ergyd ar y dde rywle tu allan i'r tŷ nes peri i bawb grynu. |
| (Arcadina) {Yn frawychus.} | |
| (Dorn) | |
| (4, 0) 1759 | Llen |