| (1, 0) 1 | Cymer y ddrama le yng nghegin MALACHI WILLIAMS. |
| (1, 0) 2 | Gwelir lle tân ar y dde, a thwb yn hanner llawn o ddwr brwnt ar yr aelwyd. |
| (1, 0) 3 | Ffetan ar y llawr o flaen y twb, rhyngddo a'r tân, a box sebon yn y golwg gerllaw; drws yn arwain i'r scullery tu cefn ar y dde, ffenestr yn y cefn, a drws-y-bach i'r chwith iddi; drws yn arwain i'r "rwm-genol" yn y pared chwith. |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Eistedd MALACHI, gwr dros drigain oed, garw a blewog, mewn llodrau "dwetydd" a chrys gwlanen, ar sciw yn y cefn, gan blygu i glymu careiau ei esgidiau. |
| (1, 0) 6 | Uniona yn sydyn gan rwbio ei gefn. |
| (Malachi) Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych! | |
| (Mari) Ma 'na ddwsan o lassis duon yn nror y ford. | |
| (1, 0) 37 | JACOB EVANS, gwr tua'r un oed a MALACHI, yn agor "drws-y-back" ac yn gwthio ei ben i mewn. |
| (Jacob) Malachi, machgan annwl-i, 'dych-chi ddim yn meddwl dod i'r pwyllgor heno? | |
| (Mari) {yn wawdlyd} ar ol i fi lasso 'i scitsha fa. | |
| (1, 0) 42 | Daw JACOB i mewn dan chwerthin. |
| (Malachi) {Yn syllu ar esgidiau JACOB.} | |
| (Malachi) Mari, lassis lletar sy gita Jacob. | |
| (1, 0) 45 | Daw MARI â'r golwg gan gario cot, gwasgod, front a het MALACHI. |
| (Mari) D'ôs gen-i ddim lassan letar yn y ty nawr. | |
| (Mari) Cerwch o'r ffordd. | |
| (1, 0) 48 | MARI yn gosod ei ddillad ar gadair, gan ei wthio o'r neilltu, ac yna yn chwilio yn nror y ford; MALACHI yn eistedd ar y sciw; MARI yn dod o hyd i garai ddu ac yn plygu o flaen MALACHI gan blethu y garai yn ei esgid.) |
| (Mari) Jacob, oti'ch gwraig chi yn gorffod lasso'ch scitsha chi fel hyn? | |
| (Mari) Nawr, y |front|, nesa. | |
| (1, 0) 59 | MARI yn cydio yn y front. |
| (1, 0) 60 | MALACHI yn griddfan ac yn edrych ar JACOB. |
| (Malachi) Mwfflar sy am wddwg Jacob! | |
| (Mari) Dewch nawr, Malachi, {yn dal i fyny ei got a'i wasgod iddo gyda'i gilydd} mwstrwch, 'r ych-chi'n symud fel anglodd. | |
| (1, 0) 73 | MALACHI, ar ol gosod ei fraich chwith yn y llawes yn aros yn sydyn â'i freichiau ar led, fel bwgan brain. |
| (Malachi) {Yn ofidus.} | |
| (Jacob) Synnwn i damad nawr nad rai felna ma proffeswrs y coleg yn wishgo. | |
| (1, 0) 102 | Ergyd ar "ddrws-y-back." |
| (1, 0) 103 | Ymddengys MATTHEW BIFAN, gwr o'r pump a deugain i'r hanner cant, cymharol drwsiadus, masnachwr llwyddiannus. |
| (Matthew) Shwt ych-chi 'ma heno? | |
| (Mari) Dewch miwn, Matthew, fydd Malachi ddim hannar munad cyn dod. | |
| (1, 0) 107 | MATTHEW ym dod mewn. |
| (1, 0) 108 | Obadiah yn ei ddilyn. |
| (Mari) O, 'r ych-chi Obadiah 'na hefyd. | |
| (Mari) Dewch miwn, dewch miwn. | |
| (1, 0) 111 | Un o "Bohemians"—anghydffurfiaeth ydyw OBADIAH, o dan ddeugain oed; am gyfrif ei hun yn "Llenor"; ei wallt braidd yn hir, a'i ddillad hytrach yn afler. |
| (Matthew) 'D yw Mrs. Evans, Ty-capal, ddim wedi cynnu tamad o dân yn y vestry, na gola chwaith, ag on ni'n meddwl, os nag os gwaniath gita chi, y celsa-ni gynnal y pwyllgor yma. | |
| (Mari) Dyna, os collwch chi'r bwtwn yna eto, fe'i gwinia fa â chordyn y tro nesa. | |
| (1, 0) 124 | Y tri yn dod i mewn o'r "scullery." |
| (Mari) Ishteddwch lawr am funad, fe gynna-i dân yn y rwm genol nawr. | |
| (Jacob) Fe af finna man hyn. | |
| (1, 0) 151 | Cymer pob aelod o'r Pwyllgor ei le yn awr, rhywbeth tebyg i hyn. |
| (1, 0) 152 | Eistedd MALACHI yn y canol, MARI ar ei law chwith, ac OBADIAH ar ei dde. |
| (1, 0) 153 | Myga JACOB yn egniol ger y tân, tra 'yr erys MATTHEW ar yr ochr chwith, nid ymhell oddiwrth MARI. |
| (1, 0) 154 | Wedi i MALACHI gymeryd y gadair, teyrnasa distawrwydd llethol am beth amser. |
| (1, 0) 155 | Y mae y cadeirydd yn edrych ac yn teimlo yn anghysurus iawn. |
| (1, 0) 156 | Try o'r diwedd at JACOB. |
| (Malachi) {Yn rhyw hanner sisial.} | |
| (Mari) Otyn, otyn. | |
| (1, 0) 176 | MALACHI yn eistedd yn ei gadair yn ffromllyd, gan edrych oddiamgylch yn erfyniol am gydymdeimlad. |
| (Malachi) Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma. | |
| (Malachi) Ond... ond, i fynd ymlan... ia... a... i fynd ymlan... ia... {yn troi yn sydyn at JACOB}, Jacob Evans, 'r ych chi'n gwpod beth i wêd yn well na fi, a chitha'n cyoeddi bob Sul─dewch nawr, gair bach yn fyr. | |
| (1, 0) 203 | MALACHI yn eistedd. |
| (1, 0) 204 | JACOB yn codi yn araf a phwysig. |
| (Jacob) Gyfeillion, ar ol sylwata tarawiadol y cadeirydd 'dos gen i fawr i wêd. | |
| (Mari) Y gwir yn erbyn y byd, myn brain-i, Jacob. | |
| (1, 0) 297 | JACOB, MATTHEW ac OBADIAH yn eistedd. |
| (Malachi) {Yn annerch y tri gwr.} | |
| (Malachi) Dewch nawr. | |
| (1, 0) 377 | Cyfyd MATTHEW yn bwyllog gan siarad yn fawreddog ac awdurdodol. |
| (Matthew) Y peth cynta sy gita ni gofio pan yn dewish y prif-ddarn yw bod y byd-cerddorol yn symud ymlan. | |
| (Matthew) Ma isha rwpath mwy na |phitchfork|, cofiwch, i nithir cerddor. | |
| (1, 0) 384 | OBADIAH yn codi yn wyllt. |
| (Malachi) Dyna glatchan yn 'i lle, Matthew. | |
| (Malachi) Pob un sy dros y "Blotyn bach," i ddod a'r hen amsar melys nol? | |
| (1, 0) 450 | JACOB a MARI yn codi dwylaw. |
| (Malachi) Pob un sy'n grôs? | |
| (Malachi) Pob un sy'n grôs? | |
| (1, 0) 452 | MALACHI, MATTHEW, ac OBADIAH yn codi dwylaw. |
| (1, 0) 453 | Gwena MALACHI yn foddhaus iawn. |
| (Malachi) Nawr ta, Jacob, ble 'r ych-chi nawr, eh? | |
| (Malachi) Pob un sy dros "Y don o flan y gwyntodd"? | |
| (1, 0) 469 | MARI ac OBADIAH yn codi dwylaw. |
| (Malachi) Pob un sy'n grôs? | |
| (Malachi) Pob un sy'n grôs? | |
| (1, 0) 471 | MATTHEW, JACOB a MALACHI yn erbyn y cynhygiad. |
| (1, 0) 472 | Malachi yn gwenu. |
| (Obadiah) O'n i'n eilio'r cynyciad er mwyn dangos y dryswch sy'n dilyn o gymeryd yr hen ganu 'ma gynta. | |
| (Obadiah) 'R wy-i'n cretu y dylsa-ni fynd ymlan at yr ochor lenyddol. | |
| (1, 0) 475 | MATTHEW ar ei draed. |
| (Malachi) Itha right. | |
| (Malachi) Ishteddwch i lawr, Matthew, fe ddewn ni'n ol at y canu eto. | |
| (1, 0) 478 | MATTHEW yn eistedd dan rwgnach. |
| (Obadiah) {Yn chwyddo.} | |
| (Obadiah) 'Dyw orgraff y Beibl ddim hannar |right|. | |
| (1, 0) 513 | JACOB, MATTHEW a MALACHI yn neidio i fyny. |
| (Malachi) {Gyda dwyster.} | |
| (Jacob) Dyna fe, lwchi, 'dos dim daioni yn dod o ddarllan y |New Theology| 'na. | |
| (1, 0) 517 | OBADIAH yn codi eto. |
| (Malachi) {Yn dyner ond penderfynol.} | |
| (Malachi) Cofiwch chi, tsa aelota Pisgah yn dod i wpod am hyn, fe fysa hi yn galed iawn arnoch-chi. | |
| (1, 0) 522 | OBADIAH yn parhau ar ei draed; JACOB yn codi. |
| (Jacob) Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora. | |
| (Jacob) Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora. | |
| (1, 0) 524 | OBADIAH yn eistedd. |
| (Matthew) Dyna ryw synnwyr nawr. | |
| (Matthew) A nawr, er mwyn i ni ddangos yn bod ni yn ddynon gwybotus a diwyllietic, yn diall ysbryd yr ôs—er mwyn i ni gal testun |realistic|, ac er mwyn pleso Obadiah, 'rwy-i'n cynnyg gwobor o gini am yr awdl ora ar "Dwlc Mochyn." | |
| (1, 0) 547 | Terfysg yn y pwyllgor. |
| (1, 0) 548 | Obadiah yn codi ar ei draed yn wyllt. |
| (Obadiah) Tsa chi'n wrboneddig, a thicyn o synnwyr cyffretin yn ych pen chi, fe ddiallsach ar unwaith mai nid dyna on-i'n feddwl. | |
| (Obadiah) Tsa chi'n wrboneddig, a thicyn o synnwyr cyffretin yn ych pen chi, fe ddiallsach ar unwaith mai nid dyna on-i'n feddwl. | |
| (1, 0) 550 | MATTHEW yn chwerthin yn wawdlyd. |
| (Malachi) {Yn fygythiol.} | |
| (Malachi) Odd hawl gita ni i ddewis Mari yn aelod o'r pwyllgor 'ma? | |
| (1, 0) 567 | MARI yn plethu ei breichiau ac yn gwenu. |
| (Jacob a Matthew) Odd, ôdd—ôdd. | |
| (Malachi) Obadiah! | |
| (1, 0) 609 | Par Mari i ddal y papur i fyny o'u blaen gan wenu arnynt. |
| (1, 0) 610 | ~ |
| (1, 0) 611 | LLEN |