| (1, 0) 1 | Golygfa: Theatr |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Amser: Y Presennol |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Pan ddaw'r gynulleidfa i mewn i'r theatr, gwelant fod y llwyfan wedi ei rannu'n ddwy. |
| (1, 0) 6 | Y rhan ar y dde (o safbwynt y gynulleidfa) yw Ystafell Newid Robert Deiniol, ac fe wêl y rhai sylwgar ein gwron yn eistedd ar soffa ddigon blêr yn yfed wisgi. |
| (1, 0) 7 | Mae hanner potel hanner llawn ar y bwrdd coluro a gwelwn ef yn y man yn cerdded yn sigledig o'r soffa i'r bwrdd i lenwi ei wydryn. |
| (1, 0) 8 | Daw â'r botel, chwarter llawn erbyn hyn, gydag ef a'i rhoi wrth ei draed ger y soffa. |
| (1, 0) 9 | Ar ddechrau'r ddrama, mae Ystafell Newid Robert Deiniol yn hawlio tua chwarter gofod y llwyfan, a'r tri chwarter arall yw'r rhan lle perfformir y "panto". |
| (1, 0) 10 | ~ |
| (1, 0) 11 | Yn y rhan honno (lle mae'r llenni i lawr) gwelir pobl yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn brysur yn paratoi ar gyfer dechrau'r perfformiad ymhen rhyw hanner awr. |
| (1, 0) 12 | (Gellir eu gweld trwy ddefnyddio llenni meinwe─|gauze|.) |
| (1, 0) 13 | Y dyn amlycaf yn y paratoadau hyn yw'r Dyn Llwyfan sydd wedi ei wisgo mewn ofarôl ddu a chrys gwyn. |
| (1, 0) 14 | ~ |
| (1, 0) 15 | Gwelwn Robert Deiniol yn awr yn tollti gweddill yr hanner potel i'w wydryn ac yn cuddio'r botel wag y tu ôl i bentwr o offer llwyfan. |
| (1, 0) 16 | Mae'n cerdded i ran arall o'r Ystafell Newid ac yn codi hanner potel arall sydd wedi ei chuddio. |
| (1, 0) 17 | Rhydd gusan gariadus iddi a mynd â hi gydag ef at y soffa. |
| (1, 0) 18 | Yn y man, bydd yn syrthio i gysgu gyda'i wydryn yn ei law, ond nid cyn gwneud ei farc ar yr hanner potel newydd yma. |
| (1, 0) 19 | ~ |
| (1, 0) 20 | Bydd rhan o'r gynulleidfa wedi sylwi hefyd ar gymeriad mewn siwt 'dici-bo' yn y cyntedd. |
| (1, 0) 21 | Dyn bach ffyslyd iawn o'r enw Maldwyn Evans yw hwn. |
| (1, 0) 22 | Fo yw'r Goruchwyliwr Llwyfan a byddwn yn ei weld yn y man ar y llwyfan. |
| (1, 0) 23 | Ar hyn o bryd, mae'n goruchwylio'r cyntedd ac yn croesawu'r gynulleidfa. |
| (1, 0) 24 | Pwrpas hyn i gyd yw cael y gynulleidfa, yn y man, i sylweddoli bod y ddrama wedi dechrau y foment y daethant dros drothwy'r theatr, a'u bod, mewn gwirionedd, yn actio ynddi. |
| (1, 0) 25 | ~ |
| (1, 0) 26 | Daw Sera Rees i mewn i'r llwyfan panto. |
| (1, 0) 27 | Mae wedi ei gwisgo fel Dick Whittington─esgidiau uchel at y pen-glin; het a phluen ynddi ac ati. |
| (1, 0) 28 | Gwelir hi'n rhoi gorchymyn i'r Dyn Llwyfan i symud dodrefnyn. |
| (1, 0) 29 | Yn y man, daw Mici Tiwdor i'r llwyfan panto wedi ei wisgo fel cath. |
| (1, 0) 30 | Mae'r ddau yn sgwrsio ac yn cyfeirio at ran arbennig o'r set─coeden bren neu rywbeth cyffelyb. |
| (1, 0) 31 | ~ |
| (1, 0) 32 | Yn yr Ystafell Newid, erbyn hyn, mae Robert Deiniol yn cysgu'n drwm. |
| (1, 0) 33 | Yn y cefndir, gwelwn Ferch y Gwisgoedd, Elin Wyn, yn ceisio agor drws yr ystafell. |
| (1, 0) 34 | (Dim ond ffrâm yw'r drws gan fod angen i ni weld pawb a fydd y tu allan iddo.) |
| (1, 0) 35 | Wedi methu mynd i mewn, prysura Elin Wyn yn awr i'r llwyfan panto a gwelwn hi'n cael gair â Dick Whittington (Sera Rees). |
| (1, 0) 36 | Mae'n amlwg mewn pryder am fod Robert Deiniol wedi ei gloi ei hun i mewn ac yn gwrthod agor. |
| (1, 0) 37 | Mae'r ddwy ferch yn awr yn croesi at ddrws ystafell Robert Deiniol ac yn ei sgrytian a'i guro. |
| (1, 0) 38 | Ceir rhyw fath o ymateb gan R.D., ond dim mwy na throi ei din at y gynulleidfa. |
| (1, 0) 39 | Dywed Sera Rees rywbeth wrth Elin Wyn ac mae honno'n mynd ar draws y llwyfan panto ac i lawr grisiau bach i'r awditoriwm. |
| (1, 0) 40 | Mae'n cerdded yn frysiog i fyny llwybr canol y theatr at y cyntedd. |
| (1, 0) 41 | ~ |
| (1, 0) 42 | Daw'r band i mewn a dechrau tiwnio, ond ni chlyw'r gynulleidfa 'run sŵn o gwbl. |
| (1, 0) 43 | Yn wir, mae'n hollbwysig nad yw'r gynulleidfa yn y theatr hyd yma wedi clywed yr un sŵn na'r un gair o'r llwyfan─mae'r cyfan wedi bod fel meim iddynt. |
| (1, 0) 44 | ~ |
| (1, 0) 45 | Yn y man, gwelwn Maldwyn Evans, y Goruchwyliwr Llwyfan, yn cerdded yn frysiog gydag Elin Wyn tuag at y llwyfan. |
| (1, 0) 46 | Maent yn dringo'r grisiau ac yn cerdded at ddrws yr Ystafell Newid. |
| (1, 0) 47 | Dilyna Sera Rees hwy unwaith eto. |
| (1, 0) 48 | Gwelwn Maldwyn Evans yn awr yn curo a sgrytian y drws. |
| (1, 0) 49 | Mae pawb yn amlwg yn bur bryderus am gyflwr Robert Deiniol. |
| (1, 0) 50 | Mae Maldwyn yn awr yn cerdded yn frysiog i'r llwyfan panto ac yn rhoi arwydd i'r Dyn Llwyfan ei ddilyn. |
| (1, 0) 51 | Gwna hwnnw hynny yn hollol beiriannol. |
| (1, 0) 52 | Yn wir, ni ddangosir unrhyw emosiwn gan y cymeriad hwn trwy gydol y ddrama─dim ond ufuddhau i bob gorchymyn fel robot. |
| (1, 0) 53 | Saif Maldwyn eto o flaen drws yr Ystafell Newid a dywed rywbeth wrth y Dyn Llwyfan. |
| (1, 0) 54 | Gwelwn ef yn pwyntio at y drws yr un pryd. |
| (1, 0) 55 | Rhydd y Dyn Llwyfan un gic anferth i'r drws sy'n ei agor â chlec a glywir drwy'r theatr. |
| (1, 0) 56 | Ar yr un eiliad yn union, mae goleuadau'r awditoriwm yn diffodd; golau'r Ystafell Newid yn codi a'r band yn dechrau canu. |
| (Deiniol) {Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.} | |
| (Deiniol) Lle ma'n nhw?... | |
| (1, 0) 61 | Rhuthra Maldwyn, Sera ac Elin i mewn. |
| (Deiniol) {Yn edrych mewn syndod ar y drws.} | |
| (Maldwyn) 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi? | |
| (1, 0) 66 | Mae Elin yn mynd yn syth at y stand dillad a gafael mewn gwisg merch. |
| (1, 0) 67 | Yn y panto, mam Dick yw Robert Deiniol. |
| (Deiniol) Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal. | |
| (Maldwyn) Dam! | |
| (1, 0) 87 | Mae'n troi'r meic y ffordd arall. |
| (1, 0) 88 | Ar yr un pryd, mae Deiniol yn ceisio tynnu ei drowsus, ond yn cael cryn drafferth i gadw cydbwysedd. |
| (1, 0) 89 | Mae Elin a Sera yn ceisio'i wisgo. |
| (1, 0) 90 | Daw Mici Tiwdor, y gath, i mewn. |
| (Mici) Alla i fod o help? | |
| (Sera) Dic yn pregyrs a'i fam yn cael y bai. | |
| (1, 0) 182 | Mae'r ddau'n chwerthin ac yna'n difrifoli. |
| (Sera) Lle ma' hi rŵan? | |
| (Sera) Ac mi fydd yn y parti heno? | |
| (1, 0) 188 | Cyn iddo allu ateb daw Elin Wyn i mewn gyda belt gwyrdd. |
| (Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro. | |
| (Elin) Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro. | |
| (1, 0) 190 | Mae'n rhoi'r belt am ganol Deiniol. |
| (1, 0) 191 | Daw Maldwyn Evans i mewn yn nerfau i gyd. |
| (Maldwyn) Reit! | |
| (Sera) Sglyfath! | |
| (1, 0) 253 | Daw'r Cynorthwy-ydd llwyfan i mewn gyda myg a jygiad o goffi. |
| (Deiniol) Mi fedra i 'u cael nhw'n fan'na, dalltwch... | |
| (Deiniol) {Yn cyfeirio at Sera.} | |
| (1, 0) 258 | Mae Maldwyn yn cymryd y jygiad coffi a'r myg a'u rhoi i Elin. |
| (Maldwyn) Stwffia hwnna i lawr 'i gorn claga fo─falla sobrith o ddigon i'r drydedd sgets. | |
| (Maldwyn) mi fyddi di'n chwara extra yn Pobl y Cwm weddill dy oes! | |
| (1, 0) 286 | Mae'n stompio allan a chroesi'r llwyfan panto. |
| (1, 0) 287 | Gwelwn ef yn rhoi arwydd i'r band sydd, yr eiliad honno, yn cynyddu i ryw fath o ffanffer terfynol. |
| (1, 0) 288 | Rhydd Maldwyn arwydd i'r tair dawnsferch ac y mae'r rheini'n cymryd eu lle. |
| (1, 0) 289 | Mae'n rhoi un ciw arall ac fe gyfyd y llen ar y panto. |
| (1, 0) 290 | Cynydda'r golau yn y rhan yma o'r llwyfan yr un pryd. |
| (1, 0) 291 | Cawn y ddawns agoriadol yn awr. |
| (1, 0) 292 | ~ |
| (1, 0) 293 | Tra bo'r ddawns agoriadol yn digwydd, gwelwn Elin Wyn yr un pryd yn ceisio cymell Deiniol i yfed ei goffi. |
| (1, 0) 294 | Mae'n amlwg o'i ystumiau ei fod yn casáu ei flas. |
| (Deiniol) Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel? | |
| (Deiniol) Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel? | |
| (1, 0) 296 | Mae Elin yn troi botwm y speaker sydd yng nghornel y Stafell Newid. |
| (1, 0) 297 | Fel y gwna hyn, mae'r golau a'r gerddoriaeth yn pylu ar y llwyfan panto. |
| (Deiniol) Ma' 'mhen i fel bwcad! | |
| (Elin) Dria i rwbath. | |
| (1, 0) 309 | Mae'n cerdded allan o'r ystafell i nôl siwgr. |
| (1, 0) 310 | Cyn gynted ag yr â Elin Wyn o'r stafell, mae Deiniol yn tynnu hanner potel arall o wisgi o guddfan y tu ôl i lyfrau neu rywbeth cyffelyb.) |
| (Deiniol) Os mêts. | |
| (Deiniol) {Mae'n rhoi cusan i'r botel.} | |
| (1, 0) 313 | Gwelwn Deiniol yn awr yn tollti joch dda o wisgi i'w fyg coffi a'r gweddill i'r jwg coffi. |
| (1, 0) 314 | Cymer gegiad o'i fyg ac yn awr daw gwên fawr dros ei wyneb. |
| (1, 0) 315 | Y foment hon, daw Elin i mewn. |
| (Deiniol) {Y wên yn diflannu.} | |
| (Elin) Dach chi'n fy nrysu i'n lân efo'ch giamocs─'tisio het a siôl i'r drydedd sgets. | |
| (1, 0) 347 | Mae'r ddawns yn dod i ben a daw Dic a'r Gath i'r llwyfan. |
| (1, 0) 348 | Gwelwn Deiniol yn troi'r speaker i fyny. |
| (Elin) {Yn ceisio rhoi'r het am ei ben.} | |
| (Dic) O, pwsi, pwsi, pwsi! | |
| (1, 0) 392 | Mae hyn yn giw i'r band ddechrau ar yr intro i'r gân. |
| (Dic) {Llwyfan.} | |
| (Dic) Bob tro ma' hi/Mam yn llawn. | |
| (1, 0) 398 | Mae Dic yn rhoi mwythau i'r Gath yn ystod y gerddoriaeth rhwng y penillion. |
| (Deiniol) {Yn ei stafell.} | |
| (Elin) Welis i be'? | |
| (1, 0) 447 | Yn ystod hyn i gyd, mae Dic yn cerdded o'r llwyfan yn benisel o drist gyda'r Gath yn ei ddilyn. |
| (1, 0) 448 | Daw Dawnswyr yn ôl i'r llwyfan yn awr i ddawnsio'n dawel a gwneud ambell dric acrobatig. |
| (Deiniol) Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud? | |
| (Elin) Ond dim ond chdi sy'n 'i ffwcio hi! | |
| (1, 0) 468 | Mae'n pwysleisio bob gair. |
| (1, 0) 469 | Mae saib hir o ddistawrwydd yn awr. |
| (Deiniol) Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud. | |
| (Elin) Mwy o'r 'ballu' ddwedwn i. | |
| (1, 0) 517 | Daw Maldwyn i mewn ac mae Deiniol yn troi ei gefn ato i sipian ei goffi. |