| (1, 1) 1 | Dylid cofio mai o safbwynt y gynulleidfa, nid yr actorion, y defnyddir y termau "De" a "Chwith" yn y nodiadau hyn. |
| (1, 1) 2 | ~ |
| (1, 1) 3 | Cegin HUW CLOCSIWR. |
| (1, 1) 4 | Yng nghanol y mur, yn wynebu, mae drws yn agor i'r fynedfa, neu'r "passage". |
| (1, 1) 5 | Ar y dde i'r drws, bwrdd bychan, a llestr mawr hen-ffasiwn arno. |
| (1, 1) 6 | Wrth ei ben, ar y mur mewn lle amlwg, llun dyn a barf fawr ganddo. |
| (1, 1) 7 | Mae'r llun hwn wedi eì dynnu rhyw hanner can mlynedd yn ôl. |
| (1, 1) 8 | Mewn un gongl, bwrdd bychan a set radio arno. |
| (1, 1) 9 | Cloc mawr yn y gongl ar y dde; cwpwrdd yn y gongl ar y chwith. |
| (1, 1) 10 | Wrth droi i'r dde yn y drws, fe ewch i'r gegin bach, a'r llofft; wrth droi i'r chwith, i'r drws ffrynt a'r stryd. |
| (1, 1) 11 | ~ |
| (1, 1) 12 | Pan godir y Llen, mae HUW yn eistedd ar soffa, tua'r canol, yn gwneud rhywbeth i esgid ar ei lin. |
| (1, 1) 13 | Mae ganddo farclod lledr o'i flaen. |
| (1, 1) 14 | CATRIN yn eistedd wrth y tân, wrthi'n trwsio hosan. |
| (1, 1) 15 | ~ |
| (1, 1) 16 | Am ryw ddau funud neu dri nid oes air rhyngddynt, gan eu bod yn gwrando ar y radio—clywir perfformiad meistrolgar ar biano. |
| (1, 1) 17 | Pan ddaw'r rhaglen i ben, mae HUW yn troi y radio i ffwrdd. |
| (Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd. | |
| (Huw) Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser. | |
| (1, 1) 65 | Huw yn mynd i sefyll wrth y tân. |
| (Catrin) Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti! | |
| (Huw) Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James? | |
| (1, 1) 153 | BLODWEN yn dod i mewn, eì chôl amdani. |
| (Blodwen) Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad? | |
| (Huw) O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─ | |
| (1, 1) 267 | Clywir sŵn WILI JOHN draw. |
| (Catrin) Aros am funud, mae Wili John yn dwad. | |
| (Catrin) Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o. | |
| (1, 1) 273 | WILI JOHN yn dod i mewn ar wib, gan ddal ei ddwy fraich allan. |
| (1, 1) 274 | Mae'n rhoi tro rownd y llwyfan gan wneud sŵn fel eroplên. |
| (Huw) Hei, llai o dwrw, boi bach. | |
| (Huw) Ble rwyt ti'n mynd, Catrin? | |
| (1, 1) 305 | CATRIN yn rhoi côl amdani a hel ar ei phen. |
| (Catrin) Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas. | |
| (Catrin) Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa. | |
| (1, 1) 316 | HUW yn rhoi cap am ben WILI JOHN. |
| (Huw) Pa bryd fyddi di'n ôl tybed? | |
| (Catrin) Tyrd Wili John. | |
| (1, 1) 326 | CATRIN a WILI JOHN yn mynd drwy'r drws. |
| (1, 1) 327 | Huw yn gafael mewn esgid ac yn eistedd i lawr ar y soffa. |
| (1, 1) 328 | Dechreu mwmian canu'n ddistaw. |
| (1, 1) 329 | Yna ymhen ychydig daw cnoc ar y drws, a daw Dic Bersi i mewn. |
| (1, 1) 330 | Mae'r siwt sydd amdano wedi gweld dyddiau gwell, ond mae'n drwsiadus ddigon. |
| (1, 1) 331 | Cadach sydd am ei wddf yn lle colar. |
| (1, 1) 332 | Mae'n dal ei gap yn ei law. |
| (Huw) O chdi sydd yna Dic Betsi? | |
| (Dic) I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi. | |
| (1, 1) 380 | DIC BETSI yn eistedd i lawr ar y dde. |
| (1, 1) 381 | Clocsiwr yn codi ar ei draed mewn syndod. |
| (Huw) Be! | |
| (Huw) Aros! | |
| (1, 1) 416 | Clywir sŵn draw. |
| (1, 1) 417 | Yna y drws yn agor ac ENOC yn dod i mewn. |
| (1, 1) 418 | Hen gôt llongwr fawr amdano, a hen gap pîg-gloyw ar ei ben. |
| (1, 1) 419 | Cadach mawr coch am ei wddf. |
| (1, 1) 420 | Fel llawer i hen forwr, mae'n gwisgo barf, a hwnnw wedi troi yn wyn. |
| (1, 1) 421 | Mae ganddo ffon yn ei law. |
| (Enoc) Ahoy there, Clocsiwr! | |
| (Huw) Rhoswch, mi helpa i chi efo'r gôt yna. | |
| (1, 1) 437 | HUW yn mynd at ENOC i dynnu ei gôt. |
| (1, 1) 438 | Dic yn neidio i fyny gyda'r un bwriad. |