| (1, 0) 1 | AMSER: Tua 1941. |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | GOLYGFA |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Yr ochr arall i'r llwyfan oddi wrth y gynulleidfa. |
| (1, 0) 6 | Digwydd y chwarae heno mewn neuadd fawr, ac y mae digon o le felly y tu hwnt i'r llwyfan inni gynnal drama arall. |
| (1, 0) 7 | Dyna'r ddrama a welwn ni─y ddrama answyddogol. |
| (1, 0) 8 | ~ |
| (1, 0) 9 | Y mae lle i fynd a dod yn y cefn Ch. a De. |
| (1, 0) 10 | Llenni sydd yn y cefn. |
| (1, 0) 11 | Ychydig iawn o ddodrefn a welir─rhyw gadair fan hyn, bocs fan draw, rhywbeth i eistedd arno pan fo dyn yn aros ei dro i fynd ar y llwyfan. |
| (1, 0) 12 | Y mae digon o ystafelloedd bach yn y neuadd lle gallasai'r chwaryddion ymgasglu rhwng y chwarae, ond y mae'r cyfan wedi'i feddiannu heno, a gofru i'r cwmni wneud ar ystafell fach a chefn y llwyfan. |
| (1, 0) 13 | ~ |
| (1, 0) 14 | Yn ystod dechrau a diwedd a ddrama chwaraeir "y ddrama swyddogol," ond mae'n amhosibl i ni ddeall gair ohoni. |
| (1, 0) 15 | Y mae'n amlwg eu bod nhw ar y llwyfan yn gallu clywed yn lled dda, yn enwedig os bydd tawelwch. |
| (1, 0) 16 | ~ |
| (1, 0) 17 | Pan gyfyd y llen dyma ni'n dal Marged yn eistedd ar focs hir─ Bl. De─yn trin ei hewinedd, a James yn y cefn canol yn sbio trwy blygiad y llenni. |
| (1, 0) 18 | A barnu wrth y wên sydd ar ei wyneb, y mae'n mwynhau'r olygfa yn fawr iawn. |
| (1, 0) 19 | Yn sydyn, daw bwced ar hedfan o'r chwith i ganol y llwyfan, a Sam mewn "pyjamas" a "dressing gown." yn ei ddilyn i'r llawr. |
| (James) Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud? | |
| (Gwen) 'Alla'i ddim... 'rwy' i fod i fynd mewn nawr ─golygfa'r gân. | |
| (1, 0) 57 | Myned Gwen. Ch. |
| (James) Wel, dyma beth ofnadwy! | |
| (James) 'Ddysgodd e' mo'i ran erioed. | |
| (1, 0) 73 | Dyfod Sam. De. |
| (Sam) {Yn dal ei ddressing gown i fyny fel gwraig 'slawer dydd yn codi i phaish wrth fynd i'r môr.} | |
| (James) O paid â'm boddran i am hynny nawr. | |
| (1, 0) 78 | Mynd Sam De yn swta. |
| (1, 0) 79 | Clywir peth chwerthin a chwibanu o'r gynulleidfa. |
| (James) Beth ar wyneb daear sy'n bod nawr eto? | |
| (John) Cue! Cue! | |
| (1, 0) 85 | Marged yn rhedeg allan. Ch. |
| (James) {Gan droi'r tudalennau yn wyllt.} | |
| (James) Wn i ddim ble maen' hw! | |
| (1, 0) 88 | Dyfod Sam. De. |
| (Sam) Mae'r boi 'na am wybod shwd gyrten ŷch chi'n mo'yn, Mr. James. | |
| (Sam) Mae'r boi 'na am wybod shwd gyrten ŷch chi'n mo'yn, Mr. James. | |
| (1, 0) 90 | Dyfod Gwen. Ch. |
| (Gwen) Ydych chi am imi ganu'r tri phennill, Mr. James? | |
| (James) Peidiwch â chlebran... beth sy' wedi digwydd?... oes na neb yn promto? | |
| (1, 0) 93 | Clywir swn curo dwylo yn y pellter. |
| (1, 0) 94 | Dyfod Siân. Ch. yn wyllt ei thymer, a John yn ei dilyn. |
| (Siân) 'Does dim synnwyr yn y peth o gwbwl. | |
| (John) 'Dwy' ddim yn credu bod rhagor na dwy dudalen ar ôl... a'r gân, wrth gwrs. | |
| (1, 0) 113 | Dyfod Marged. Ch. |
| (James) Ble'r oeddet ti? | |
| (James) Marged, ewch i edrych amdano. | |
| (1, 0) 159 | Marged yn mynd. Ch. |
| (James) Fe gawn ni setlo'r mater hwn ar unwaith, nawr ag am byth... 'rŷch chi wedi sarnu'r ddrama... mae pob gair yn yr act yna'n bwysig... wedi treulio oriau i feddwl drosti a dyma'r tâl rwy'n gael. | |
| (Sam) Wel, os ŷch chi'n meddwl parhau gyda'n cwmni ni, Mr. James, 'rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i chi ysgrifennu Comedi─mae deunydd Comedi reit dda ynom ni. | |
| (1, 0) 179 | Dyfod Marged. Ch. |
| (Marged) Mae'n dweud wrthych |chi| am ddod iddi weld |e|, Mr. James. | |
| (James) A Gwen, paid anghofio newid. | |
| (1, 0) 198 | Myned James. De. |
| (Sam) Fe garwn i gael mynd mâs o'r pethach fflimsi hyn ta p'un. | |
| (Gwen) O, fe dyna'i llygaid hi mâs. | |
| (1, 0) 216 | Allan yn wyllt. Ch. |
| (Sam) Pam oedd eisiau iti son am Gwilym, nawr o bob amser? | |
| (Sam) Fe wnaf fy ngorau, Marged, ond cofia, mae gen' ti dipyn o gystadleuaeth rhwng Neli a Gwen... a Siân. | |
| (1, 0) 235 | Myned Sam. Ch. |
| (Siân) Fe gnoiff e' 'i dafod ryw ddiwrnod. | |
| (Marged) Ddeallaist ti erioed mohoni─parodi yw hi, John bach, ar y golygfeydd caru arferol. | |
| (1, 0) 249 | Dyfod Gwen. Ch. |
| (Siân) Wyt ti ddim wedi newid eto? | |
| (John) Dere nawr─falle y bydd yn help i ti ddod o hyd i Gwilym hefyd. | |
| (1, 0) 259 | Marged yn mynd allan. Ch. |
| (John) O Marged, wyt ti'n mynd i'r llwyfan? | |
| (Marged) 'Fydda 'i ddim yn ôl am sbel, John bach. | |
| (1, 0) 264 | Myned Marged. Ch. |
| (John) Wel dyna beth mawr! | |
| (Siân) {Mae wrthi ers amser yn trin ei hewinedd.} | |
| (1, 0) 271 | Dyfod Sam. Ch. |
| (Sam) Fan hyn ŷch chi o hyd, y tacle? | |
| (Sam) {Allan ar ôl Gwen.} | |
| (1, 0) 327 | Dyfod Marged. De. |
| (Marged) 'Dŷch chi ddim wedi dechrau'r drydedd act eto? | |
| (Marged) Mae'r dorf yn mynd yn anhywaith ag yn disgwyl. | |
| (1, 0) 330 | Dyfod Sam a'r Parchedig Artemus Price. Ch. |
| (Sam) Dyma fe fan hyn, Mr. Price. | |
| (Price) Fe aeth un o'r brodyr yn hirwyntog a minnau'n colli'r bws yn y fargen. | |
| (1, 0) 341 | Eisoes y mae James wedi [...] Price ac y mae'n ceisio cael gair i mewn bob hyn a hyn ynglŷn â'r "speech," ond does' dim gobaith ganddo. |
| (Price) 'Dedd yr un arall yn dod wedyn am ddwy awr. | |
| (Price) A gyda llaw, Mr. James, gadewch i mi eich llongyfarch ar iaith y ddrama—Cymraeg glân heb ddim maswedd yn unlle. | |
| (1, 0) 369 | Clywir Gwen yn canu "Ffarwel i Blwy' Llangower". |
| (Price) Ust! | |
| (Siân) Fe fynnodd y bitsh fach ddangos 'i hunan! | |
| (1, 0) 373 | Mynd Sian yn chwryn a John a Marged yn ei dilyn. Ch. |
| (James) Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price. | |
| (Price) Dowch rownd i'r llwyfan i wrando ar yr eneth yma—mae yn canu'n brydferth. | |
| (1, 0) 389 | Myned Price a James. De. |
| (1, 0) 390 | Dyfod Neli a Gwilym ymhen ychydig. Ch. |
| (Neli) Dyna beth od—rhaid 'u bod nhw heb gwpla'r ail act! | |
| (Neli) Na paid er mwyn popeth—fe fydd y gynddaredd wyllt ar y Capten os gwel 'e rywun ond aelod o'r cwmni yn agos i'r llwyfan. | |
| (1, 0) 398 | Gwilym yn ei chofleidio a'i chusanu. |
| (1, 0) 399 | Dyfod Sam. De. |
| (Sam) Hm... y tu hwnt i'r llenni y mae'r ddrama i fod, Neli. | |
| (Sam) Hm... y tu hwnt i'r llenni y mae'r ddrama i fod, Neli. | |
| (1, 0) 401 | Gwilym a Neli yn datgofleidio. |
| (Sam) Ble yn y byd wyt ti wedi bod? | |
| (Sam) Diflannwch i rywle. | |
| (1, 0) 407 | Myned Gwilym a Neli. Ch. |
| (1, 0) 408 | Mae'r gân wedi cwplâu. |
| (1, 0) 409 | Clywir curo dwylo a banllefau. |
| (1, 0) 410 | Dyfod Siân. De. |
| (Siân) Dyna beth dwl oedd iddi ganu fel 'na. | |
| (Siân) Dyna beth dwl oedd iddi ganu fel 'na. | |
| (1, 0) 412 | Dyfod Gwen. Ch. |
| (Sam) Llongyfarchiadau, Gwen—fe genaist yn ardderchog. | |
| (Sam) Llongyfarchiadau, Gwen—fe genaist yn ardderchog. | |
| (1, 0) 414 | Dyfod Price a James. De. |
| (Price) {Gan roi'i fraich am ei hysgwydd.} | |
| (James) Pam? | |
| (1, 0) 427 | Clywir Gwen yn dechrau canu "Merch y Melinydd". |
| (Sam) Fe ddaeth rhywun o'r cefn a dweud bod angen tipyn bach o ddu dan fy llygaid i. | |
| (James) Dere â'r blwch i fi o'r rŵm fach—'does him posib troi yno. | |
| (1, 0) 432 | Dyfod Marged. De. |
| (Marged) Mae'r dyn am dy help di gyda'r rhaff, Sam. | |
| (James) Aros i fi ddod 'nôl Sam cyn gwneud dim i dy wyneb. | |
| (1, 0) 438 | Myned James a Marged. De. |
| (Sam) Wyt ti'n gwybod pwy fu yma gynneu, Sian? | |
| (Siân) Yr hen gythraul fach! | |
| (1, 0) 447 | Mae'n symud yn anesmwyth... yn cymryd "compact" o'i bag ac yn powdro'i thrwyn a rhoi 'i gwallt yn daclus. |
| (1, 0) 448 | Erbyn hyn y mae'r canu wedi cwplâu. |
| (1, 0) 449 | Clywir cymeradwyaeth y dorf a daw John a Marged. De. |
| (John) Mae nhw'n hoffi rhywbeth fel 'na lawer yn well na'r ddrama 'i hunan. | |
| (John) Mae'n gallu bod yn eitha' hen sgram fach pan fynn hi. | |
| (1, 0) 456 | Dyfod Price a James. De. |
| (Marged) Ydy'r drydedd act ar ddechrau 'nawr, Mr. James? | |
| (James) John, cer i roi help llaw iddyn' hw. | |
| (1, 0) 460 | Myned John. De. |
| (Marged) Ydych chi 'n mynd i siarad 'te, Mr. Price? | |
| (Price) Wel nawr, pwy oedd y make-up man yma? | |
| (1, 0) 487 | Dyfod John. De. |
| (James) Enw MrGerallt Rhys sydd ar y rhaglen, ond fel y dywedodd Siân, fe fethodd â dod ar y funud ola'. | |
| (James) Rhannwch chi nhw fel 'rown i'n dweud a pheidiwch â sôn gair wrth neb. | |
| (1, 0) 560 | Dyfod Gwen. De. |
| (Gwen) Mae popeth yn barod i'r drydedd act nawr, Mr. James. | |
| (Price) Mae 'nghof i'n chware triciau dwl. | |
| (1, 0) 569 | Myned Price. Ch. |
| (Marged) Glywsoch chi shwd cheek! | |
| (James) Mlaen â chi i'r llwyfan. | |
| (1, 0) 577 | Myned Siân, Marged (De) a John, Ch. |
| (James) A Gwen, bydd di'n barod ar y chwith. | |
| (James) 'Dwy i ddim wedi pregethu wrthych chi ganwaith nad oes neb i ddod ar y llwyfan nes bo'r ddrama drosodd? | |
| (1, 0) 582 | Dyfod John Ch. dan chwerthin, a Sam yn ei ddilyn. |
| (1, 0) 583 | Mae dau gylch du am lygaid Sam. |
| (Sam) Beth sy'n dy gorddi di? | |
| (James) Dere iddi glanhau nhw ar unwaith cyn i neb dy weld di. | |
| (1, 0) 591 | Myned Sam a James. Ch. |
| (John) Trueni na chawsai fynd ar y llwyfan fel 'na. | |
| (John) Trueni na chawsai fynd ar y llwyfan fel 'na. | |
| (1, 0) 593 | Dyfod Neli. De. |
| (John) Helo! | |
| (Gwen) Ble wyt ti wedi bod? | |
| (1, 0) 602 | Mynd Neli dan wenu'n faleisus. Ch. |
| (Gwen) Fe gaiff Mr. James wybod 'i hanes hi. | |
| (Gwen) Fe gaiff Mr. James wybod 'i hanes hi. | |
| (1, 0) 604 | Dyfod Siân. De. |
| (Siân) Ble mae Sam? | |
| (Siân) Rŷm ni'n aros amdano. | |
| (1, 0) 607 | Dyfod James. Ch. |
| (James) Fan hyn 'rwyt ti, Siân? | |
| (James) Mae Sam ar y llwyfan nawr. | |
| (1, 0) 612 | Myned Siân. De. |
| (James) John, 'does gennyt ti ddim iddi wneud ar ddechrau'r act yma, cer i wneud gwaith Neli. | |
| (Gwen) Mr. James bach, 'rwy' wedi'ch clywed chi'n dweud hynna gannoedd o weithiau erbyn hyn. | |
| (1, 0) 629 | Dyfod John. De. |
| (John) Dowch ar unwaith, Mr. James—maen' hw am i chi roi pip ar y golau. | |
| (John) Dowch ar unwaith, Mr. James—maen' hw am i chi roi pip ar y golau. | |
| (1, 0) 631 | Mynd John a James. De. |
| (1, 0) 632 | Dyfod Gwilym ymhen ysbaid. Ch. |
| (Gwilym) Hylo Gwen! | |
| (Gwilym) Paid siarad dwli. | |
| (1, 0) 649 | Yn gafael ynddi a'i chusanu. |
| (1, 0) 650 | Ni chaiff fawr o drafferth. |
| (Gwen) Hmmmmmm!... ble wyt |ti| wedi bod! | |
| (Gwen) Hmmmmmm!... ble wyt |ti| wedi bod! | |
| (1, 0) 652 | Cofleidio a chusanu. |
| (1, 0) 653 | Dyfod Sian. De. |
| (Siân) Dyma beth yw golygfa hardd. | |
| (Siân) Dyma beth yw golygfa hardd. | |
| (1, 0) 655 | Datgofleidio. |
| (Siân) Maddeuwch i mi am aflonyddu arnoch chi. | |
| (Siân) Dyna beth rhyfedd... 'roedd Gwen yn gwneud 'i gorau i ddangos 'i hunan ar y llwyfan gynneu a dyma hi nawr heb yr un awydd ogwbwl. | |
| (1, 0) 670 | Dyfod John a dwyn Gwen ymaith. De. |
| (John) Dere 'mlaen, mae'n hen bryd i ni fynd i mewn! | |
| (Siân) Dewch... un cusan. | |
| (1, 0) 696 | Dyfod Neli. Ch. |
| (Neli) Mae'n bryd i ti fod ar y llwyfan, Siân. | |
| (Neli) Mae'n bryd i ti fod ar y llwyfan, Siân. | |
| (1, 0) 698 | Dyfod James. De. |
| (James) Siân! | |
| (James) Maen' hw'n aros amdanat. | |
| (1, 0) 702 | Sian, gan fynd. De. |
| (Siân) Wedi'r ddrama, Gwilym... cofiwch. | |
| (James) Meddyliwch am well esgus y tro nesa'—dyna'r ffordd allan. | |
| (1, 0) 708 | Myned Gwilym. Ch. |
| (Neli) Fe ddylasai fod cywilydd arnoch chi—siarad â gwr bonheddig fel petai e'n rhyw gorgi. | |
| (James) Trueni hefyd—mae deunydd da ynddi pe gellid 'i ffrwyno. | |
| (1, 0) 723 | Dyfod John. De. |
| (John) Ble mae Neli? | |
| (James) Cer ar unwaith a dwed wrthynt am beidio â gadael y cyrten lawr eto. | |
| (1, 0) 731 | Myned John. De. |
| (James) Dyna beth yw cawl. | |
| (James) Neli!... neb wrth law pan fo eisiau... | |
| (1, 0) 739 | John yn rhuthro i mewn o'r dde, a Sam dwmbwl dambal o'r chwith i ganol y llwyfan. |
| (1, 0) 740 | Y ddau yn gweiddi. |
| (John) Dewch 'mlan Capten—aros am y'ch entri chi maen' hw. | |
| (John) Dewch 'mlan Capten—aros am y'ch entri chi maen' hw. | |
| (1, 0) 742 | John yn cipio James ymaith. De. |
| (Sam) {Gan anwylo'i goes ar ei eistedd ar ganol y llwyfan.} | |
| (Sam) O nghoes fach i, 'rwy wedi 'i thorri hi, ydw reit i wala, a finne fodi fynd mewn nawr hefyd! | |
| (1, 0) 747 | LLEN CYFLYM |