| (0, 1) 1 | Golygfa 1. |
| (0, 1) 2 | Dau herwr. |
| (0, 1) 3 | Mewn dillad du. |
| (Ping) Lei. | |
| (Ping) Lei. | |
| (0, 1) 5 | Yn gwneud eu ffordd i fyny'r grisiau mewn bloc fflatiau. |
| (Ping) Lei. | |
| (Ping) Lei. | |
| (0, 1) 7 | Maent yn cyrraedd top y grisiau. |
| (Ping) Lei! | |
| (Lei) Dora gynnig arna fo. | |
| (0, 1) 29 | Ping yn eistedd ar y llawr. |
| (Ping) Dwi'n hanner marw. | |
| (Ping) Gwna di fo 'ta! | |
| (0, 1) 35 | Lei yn edrych drwy twll y clo. |
| (Ping) Mae'n llaw i'n crynu. | |
| (Lei) 'Di hwn ddim byd. | |
| (0, 1) 45 | Saib. |
| (Lei) Dwi'n cofio un noson odd'na storm. | |
| (Lei) Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl? | |
| (0, 1) 88 | Yn anfoddog, mae Ping yn edrych ar twll y clo i arolygu'r mecanwaith. |
| (Ping) Fedrai ddim. | |
| (Lei) Digon hir. | |
| (0, 1) 105 | Ping yn gweithio ar y clo gyda tŵls. |
| (Ping) Ti'n meddwl |ddylsa| ni fynd mewn? | |
| (Lei) 'Na fo 'ta. | |
| (0, 1) 141 | Ping yn rhoi ei sylw ar y clo. |
| (0, 1) 142 | Mae'n clicio. |
| (0, 1) 143 | Ping yn troi y bwlyn drws. |
| (0, 1) 144 | Mae'r drws yn agor. |
| (Lei) O'r diwedd. | |
| (Ping) Haws nag oedd o'n edrych. | |
| (0, 1) 147 | Lei yn cerdded trwy'r drws agored. |
| (0, 1) 148 | Mae'n edrych yn ôl at Ping. |
| (Lei) Ti'n dwad? | |
| (Ping) Addo wnawn ni'm cymryd mwy na' 'da ni angen. | |
| (0, 1) 185 | Saib. |
| (Lei) Dani'n gwastraffu amser. | |
| (Lei) Iawn? | |
| (0, 1) 192 | Ping yn ysgwyd ei ben. |
| (Lei) Ty'd 'laen, |Corwynt Bach|. | |
| (Lei) G'ad i ni ddangos be 'di be i'r cont 'ma. | |
| (0, 1) 195 | Lei yn mynd drwy'r drws. |
| (0, 1) 196 | Ping yn dilyn. |
| (0, 2) 197 | Golygfa 2. |
| (0, 2) 198 | Ar dop yr adeilad. |
| (0, 2) 199 | Mae dyn ifanc yn sefyll yn simsan ar ymyl y to. |
| (0, 2) 200 | Mae botel fodca yn ei law. |
| (Lei) |Shit|! | |
| (Lei) Bachgen o ryw fath. | |
| (0, 2) 207 | Ping yn edrych at gyfeiriad y bachgen. |
| (Ping) Be wnawn ni? | |
| (Ping) Neu fedra ni snecio heibio fel y |Teithiwr Hudol|. | |
| (0, 2) 213 | Mae nhw'n cuddiad yn y cysgod. |
| (0, 2) 214 | Mae'r bachgen yn canu yn isel. |
| (Lei) Dyna'r ffenest. | |
| (Ping) Merched gynta. | |
| (0, 2) 232 | Lei yn cerdded at y bachgen. |
| (0, 2) 233 | Ping yn dilyn. |
| (Lei) Iawn boi? | |
| (Lei) Iawn boi? | |
| (0, 2) 235 | Dydi'r bachgen ddim yn ymateb. |
| (Ping) Noswaith hyfryd. | |
| (Lei) 'Chydig yn hwyr i fod fyny famma, yn y twllwch, ar ben dy hun. | |
| (0, 2) 239 | Mae'r bachgen yn edrych ar Lei. |
| (Shujun) Pam 'da chi yma felly? | |
| (Shujun) Allai eistedd yma os dwisio. | |
| (0, 2) 249 | Lei a Ping yn edrych ar ei gilydd. |
| (Lei) Ti'n byw yma 'ta? | |
| (Shujun) Dwi'm yn stopio chi. | |
| (0, 2) 267 | Neb yn symud. |
| (Ping) Be ti'n yfed? | |
| (Ping) Be ti'n yfed? | |
| (0, 2) 269 | Mae'r bachgen yn dangos y botel. |
| (Ping) Fawr o hwyl yfed ar ben dy hun. | |
| (Ping) Na, diolch. | |
| (0, 2) 273 | Lei yn rhoi signal i Ping fod yn ddistaw. |
| (0, 2) 274 | Ping yn ei anwybyddu. |
| (Ping) Ti'n gwbo' be dwi'n feddwl? | |
| (Shujun) 'Sgyn ti'm clem. | |
| (0, 2) 291 | Ping yn agosàu. |
| (Ping) Eglura i mi 'ta. | |
| (Lei) Be ti'n trio - cynghanedd? | |
| (0, 2) 316 | Mae'r bachgen yn cymryd swig o'r botel. |
| (Shujun) Oes rywun erioed 'di dy siomi? | |
| (Ping) Torri 'nghalon. | |
| (0, 2) 337 | Mae'r bachgen yn estyn y botel fodca i Ping. |
| (Shujun) Be oedd y gosb? | |
| (Ping) Hogan fach odd hi, hogan delia'n byd. | |
| (0, 2) 347 | Ping yn yfed. |
| (Ping) Pwy sy'n creu dy broblem di? | |
| (Shujun) Efo bobl eraill. | |
| (0, 2) 356 | Lei yn torri ar draws. |
| (Lei) Torra pob cysylltiad, well i ti gael gwared ohona nhw. | |
| (Shujun) Dio'm mor syml a hynny. | |
| (0, 2) 360 | Mae'r bachgen ifanc yn dwyn y botel yn ôl ac yn yfed. |
| (Lei) Sblitia fyny efo hi. | |
| (Lei) Well ganddi fod yn feistres iddo fo na gwraig i mi. | |
| (0, 2) 371 | Mae'r bachgen yn gwthio'r potel i law Lei, sy'n cymryd swig. |
| (Shujun) Felly adawodd hi ti am arian? | |
| (Shujun) Mae pob problem yn deillio o awydd, chwant - 'dwi isio'. | |
| (0, 2) 384 | Maent yn pasio'r botel rhygthyn. |
| (0, 2) 385 | Mae'r bachgen yn cario 'mlaen. |
| (Shujun) Mae'r broblem yma, dymuno pethe, wedi bodoli ers byth bythoedd. | |
| (Lei) Oni'n meddwl. | |
| (0, 2) 416 | Mae'r bachgen yn mynd yn hapusach ac yn gynhyrfus. |
| (Shujun) Ocê. | |
| (Lei) O Dduw. | |
| (0, 2) 421 | Lei yn cymryd swig o'r botel a'n pasio fo i Ping. |
| (Shujun) Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist, iawn? | |
| (Shujun) Be ddylsa hi wneud? | |
| (0, 2) 454 | Ping yn meddwl. |
| (0, 2) 455 | Lei yn neidio mewn. |
| (Lei) Hawdd. | |
| (Lei) Syniad boncyrs gan ferched yn byw ganol nunlle. | |
| (0, 2) 502 | Lei yn rowlio ei lewys fyny. |
| (0, 2) 503 | Mae craith ar ei fraich. |
| (0, 2) 504 | Mae'r lliw yn binc golau. |
| (Lei) Wnaeth fy |ex| drio hynna. | |
| (Lei) Wrth gwrs ddim. | |
| (0, 2) 526 | Lei yn cymryd y botel. |
| (Lei) Mae nhw 'di clirio'r ffordd i'w gelynion - 'di helpu nhw allan! | |
| (Lei) Os dachi'n gofyn i mi, dial 'di'r unig ymateb call. | |
| (0, 2) 534 | Lei yn rhoi'r botel yn ôl i'r bachgen. |
| (0, 2) 535 | Distawrwydd. |
| (Shujun) Ocê. | |
| (Shujun) Felly ti'n cymryd dy fywyd er mwyn atal cosbedigaeth i rywun ti'n garu. | |
| (0, 2) 545 | Saib. |
| (0, 2) 546 | Maent yn yfed. |
| (Ping) Fedrai weld pam ti'n yfed ar ben dy hun, os mai dyma di'r math o banter ti'n roi allan | |
| (Ping) yn y pub. | |
| (0, 2) 549 | Maent yn yfed mwy. |
| (Ping) 'Ti bach yn ifanc i'r holl ofid a gwae 'ma dwyt? | |
| (Lei) Amser mynd adre dwi'n meddwl. | |
| (0, 2) 553 | Mae'r bachgen yn nesàu at yml y to. |
| (Shujun) Un cwestiwn olaf. | |
| (Shujun) Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite? | |
| (0, 2) 611 | Mae'r bachgen yn symud ei draed at ochr eithaf y to. |
| (Ping) Tyd o'r ymyl. | |
| (Shujun) Dwi'n casau'r … |bullshit| 'ma! | |
| (0, 2) 621 | Mae'r bachgen yn dechrau colli ei falans. |
| (Ping) Hei! | |
| (Ping) Hei! | |
| (0, 2) 623 | Ping yn ei achub, gwthio nôl. |
| (0, 2) 624 | Mae'r bachgen yn estyn am y botel fodca. |
| (0, 2) 625 | Mae'n wag. |
| (0, 2) 626 | Mae'n dechrau canu. |
| (Shujun) Chwilio a chwilio a methu ffindio prawf bywyd | |
| (Ping) Mae'r cân yna'n |classic|! | |
| (0, 2) 632 | Ping yn ymuno. |
| (0, 2) 633 | Lei yn hymian. |
| (Ping) Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm | |
| (Ping) Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm | |
| (0, 2) 637 | Ping yn canu yn uchel, ar daith emosiynol y gân. |
| (0, 2) 638 | Mae'r gân yn dod i ben, y moment yn pasio. |
| (0, 2) 639 | Lei yn gweld bod y bachgen wedi dechrau cysgu. |
| (Lei) Hei. | |
| (Lei) Hei. | |
| (0, 2) 641 | Dim ymateb gan y bachgen. |
| (0, 2) 642 | Lei yn codi'r botel wag. |
| (0, 2) 643 | Edyrch ar Ping. |
| (Lei) Odda ti'n bwriadu gwneud hynna? | |
| (Ping) Be? | |
| (0, 2) 646 | Lei yn pwyntio at y bachgen yn cysgu. |
| (Lei) Anfon o i'w drwmgwsg. | |
| (Lei) Finna' 'fyd. | |
| (0, 2) 655 | Mae'n cael gwared o'r botel. |
| (Lei) Reit, tyd 'laen. | |
| (Lei) Mi ddeutha i ti hyn, fydd gynno fo goblyn o gur pen yn bora. | |
| (0, 2) 665 | Ping yn cymryd un golwg olaf ar y bachgen yn cysgu. |
| (Ping) Bechod drosta fo. | |
| (Lei) Awê! | |
| (0, 2) 668 | Maent yn mynd i mewn drwy'r ffenest. |
| (0, 3) 669 | Golygfa 3. |
| (Lei) Lle mae'r blydi gola? | |
| (Lei) Lle mae'r blydi gola? | |
| (0, 3) 671 | Ping yn darganfod y swits. |
| (0, 3) 672 | Lei a Ping yn edmygu'r fflat. |
| (Ping) Waw. | |
| (Lei) Hei, dani'n edrych am y pres. | |
| (0, 3) 684 | Ping yn dal ei afael ar ornament. |
| (Ping) Be ti'n meddwl 'di hwn? | |
| (Ping) Mae'n |amazing|. | |
| (0, 3) 695 | Lei yn dwyn yr ornament oddi wrth Ping. |
| (Lei) Llygaid ar y pres. | |
| (Lei) Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn. | |
| (0, 3) 699 | Lei yn rhoi'r ornament yn ei boced tra bod nhw'n chwilota'r fflat. |
| (Ping) Faint 'da ni'n edrych am? | |
| (Ping) Alli di'm stwffio hynna gyd dan fatràs! | |
| (0, 3) 711 | Mae nhw'n chwilio. |
| (0, 3) 712 | Ping yn dylyfu gên. |
| (Lei) Dwi'n cadw ti fyny? | |
| (Lei) Cyn gynted dani'n ffindio'r cash cyn gynted gawn i gysgu. | |
| (0, 3) 718 | Mae nhw dal i chwilio. |
| (Ping) Lei, ti'n siwr bod gyn ti'r un iawn? | |
| (Lei) Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'. | |
| (0, 3) 743 | Maen nhw'n chwilio yn fwy ffyrnig. |
| (Ping) Wel fedrai'm gweld y pres de. | |
| (Lei) Wnai gario 'mlaen famma. | |
| (0, 3) 747 | Ping yn gadael. |
| (0, 3) 748 | Lei yn aros iddo ddiflannu, cymryd cyllell allan o'i boced. |
| (0, 3) 749 | Mae'n torri'r cyrten, gosod ar y llawr i ddefnyddio fel sach. |
| (0, 3) 750 | Mae'n pacio |ornaments| yn ofalus. |
| (Ping) {off} Lei! | |
| (Lei) Paid a gwaeddi, naci! | |
| (0, 3) 754 | Ping yn dychwelyd gyda llun wedi'w fframio ac amlen. |
| (Ping) Dwi newydd ffindio 'hein yn y stafell wely. | |
| (Ping) Dwi newydd ffindio 'hein yn y stafell wely. | |
| (0, 3) 756 | Ping yn gweld y gyllell yn llaw Lei, a'r sach yn llawn ornaments ag offer technegol. |
| (Ping) Be ti'n gwneud? | |
| (Lei) Cau dy drap a dora hand i mi wnei di? | |
| (0, 3) 773 | Lei yn pacio'r sach. |
| (Lei) Be sgyn ti'n fanna eniwe? | |
| (Lei) Ga'mi weld. | |
| (0, 3) 779 | Ping yn dangos y llun i Lei. |
| (Lei) |Shit|! | |
| (Lei) Dora fo i mi. | |
| (0, 3) 787 | Lei yn cymryd y llythyr. |
| (Lei) 'Annwyl Dad. | |
| (Ping) |Shit|! | |
| (0, 3) 793 | Mae'r bachgen yn ymddangos, simsan a llygaid coch. |
| (Shujun) Be sy'n mynd 'mlaen 'ma? | |
| (Shujun) Tria egluro hynna i'r heddlu. | |
| (0, 3) 814 | Mae'r bachgen yn deialu ar ei ffôn symudol. |
| (0, 3) 815 | Mae Lei yn codi'r gyllell at wddf y bachgen. |
| (Lei) Dora'r ffôn lawr. | |
| (Lei) Rwan! | |
| (0, 3) 818 | Ping yn estyn am y ffôn a'n llwyddo ei gymryd oddi wrth y bachgen. |
| (Shujun) Rhy hwyr. | |
| (Lei) Fyddi di'n difaru hynna. | |
| (0, 3) 822 | Lei yn dyrnu'r bachgen. |
| (0, 3) 823 | Mae'n disgyn i'r llawr. |
| (Lei) Nola'r rhaff o'r bag. | |
| (Lei) Yn y bag! | |
| (0, 3) 827 | Ping yn clymu'r bachgen i gadair gyda'r rhaff. |
| (Ping) Well i ni heglu hi cyn i'r heddlu gyrraedd. | |
| (Ping) Tisio aros i ffindio allan? | |
| (0, 3) 832 | Lei yn codi'r gyllell at wddf Ping. |
| (Lei) Arosa lle wyt ti. | |
| (Ping) A be yda ni isio yn union? | |
| (0, 3) 836 | Mae Lei yn slapio bochau'r bachgen. |
| (Ping) Be ti'n wneud? | |
| (Lei) Be mae'n edrych fel? | |
| (0, 3) 839 | Mae'r bachgen yn dod at ei hun. |
| (Lei) Ti dal isio galw'r heddlu? | |
| (Shujun) Dyna ydach chi. | |
| (0, 3) 846 | Lei yn rhoi clustan i'r bachgen. |
| (Lei) Tisio deud hynna eto? | |
| (Lei) Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na. | |
| (0, 3) 854 | Ping yn codi'r sach llawn ornaments. |
| (Ping) Beth am gymryd y petha 'ma a mynd. | |
| (Lei) Dim y pres. | |
| (0, 3) 863 | Lei yn dal yr amlen o flaen y bachgen. |
| (Lei) Ti'n gwbo be 'di hwn dwyt? | |
| (Lei) Ti'n gwbo be 'di hwn dwyt? | |
| (0, 3) 865 | Mae'r bachgen yn gweld mai ei lythyr o ydi o. |
| (Lei) 'Chydig yn |sentimental|, ti'm yn meddwl? | |
| (Shujun) Clown yn cogio bod yn frenin, dyna'r cwbwl wyt ti. | |
| (0, 3) 873 | Lei yn darllen y llythyr. |
| (Lei) Mae'n deimladwy iawn dydi? | |
| (Lei) Ma hynny'n ddewr ofnadwy. | |
| (0, 3) 887 | Lei yn cyfeirio at frawddeg yn y llythyr. |
| (Lei) Ble mae'r |hard drive| 'ma ti'n sôn am? | |
| (Lei) Dim i gyd, yn ôl bob golwg. | |
| (0, 3) 896 | Mae'n troi i'r bachgen. |
| (Lei) Be oedd dy fwriad, bygwth yr hen ddyn? | |
| (Lei) Ti dal yn fyw. | |
| (0, 3) 903 | Mae'r bachgen wedi'w gyweilyddio. |
| (Lei) Dora fo i ni. | |
| (Lei) Dora fo i ni. | |
| (0, 3) 905 | Mae'r bachgen yn ysgwyd ei ben. |
| (Lei) Dora'r hard drive i ni! | |
| (Ping) Ti'n golygu fedra ni...? | |
| (0, 3) 915 | Lei yn hollol. |
| (Ping) Fedra ni'm gwneud hynna, Lei. | |
| (Lei) Be'r uffar mae'n sôn am? | |
| (0, 3) 965 | Saib. |
| (Shujun) Roedd 'na ddynes yn y car. | |
| (Shujun) Doedd o'm isio torri ei chalon hi. | |
| (0, 3) 972 | Mae'r bachgen yn crio. |
| (Lei) O, digon ffeind. | |
| (Shujun) Dwi mor sori. | |
| (0, 3) 977 | Mae'r bachgen yn wylo. |
| (Ping) Ty'd laen, Lei. | |
| (Lei) Dani heb orffen eto. | |
| (0, 3) 982 | Lei yn dyrnu y bachgen yn ei stumog. |
| (Lei) Siarada! | |
| (Lei) Lle mae'r fideo? | |
| (0, 3) 985 | Mae Lei yn cymryd y gyllell allan. |
| (Ping) Paid! | |
| (Ping) Dwi'n meddwl, mewn amgylchiadau gwahanol, fysa ni'n ffrinidau. | |
| (0, 3) 995 | Mae'r bachgen yn edrych ar Ping. |
| (Ping) Ti a fi run fath. | |
| (Ping) Tisio gwneud i fyny amdano fo. | |
| (0, 3) 1000 | Mae'r bachgen yn nodio ei ben. |
| (Ping) Rho dy hyn yn sgidiau rywun arall. | |
| (Lei) Sbia ar y llun 'na. | |
| (0, 3) 1068 | Mae Ping yn gafael yn y llun ddaru o ddod o'r ystafell wely. |
| (Lei) Dwi'n haeddu gwyliau fel 'na hefyd dwi'n meddwl. | |
| (Lei) Meddylia be sa'n digwydd os fase'r teulu yma'n torri fyny. | |
| (0, 3) 1079 | Rhywgo'r llun yn ei hanner. |
| (Lei) Rhywun yn y teulu yn cael ei redeg drosodd gan gar? | |
| (Lei) Rhywun yn y teulu yn cael ei redeg drosodd gan gar? | |
| (0, 3) 1081 | Rhywgo'r ddau hanner i ddau ddarn arall. |
| (Lei) Neu rhywun yn lladd ei hunan? | |
| (Lei) Neu rhywun yn lladd ei hunan? | |
| (0, 3) 1083 | Rhwygo'r llun. |
| (Lei) Neu mynd i'r carchar? | |
| (Lei) Neu mynd i'r carchar? | |
| (0, 3) 1085 | Rhwygo'r llun. |
| (Lei) Neu cael ei ddyrnu i farwolaeth? | |
| (Lei) Neu cael ei ddyrnu i farwolaeth? | |
| (0, 3) 1087 | Rhwygo'r llun. |
| (Lei) Fase'r teulu yn ddarnau bach. | |
| (Lei) Ti'n cytuno? | |
| (0, 3) 1090 | Mae'n taflu darnau'r llun i'r awyr, maent yn disgyn fel eira. |
| (0, 3) 1091 | Mae Shujun yn poeni am ei fywyd, yn gwneud synnau. |
| (Lei) Teulu neis. | |
| (Lei) Be am tadau ffeind eraill, sydd ddim yn grand ond sy'n ffraeo pob eiliad o'r dydd am gyfiawnder, am fywyd gwell? | |
| (0, 3) 1097 | Dyrnu Jun yn ei stumog. |
| (Lei) Ti'n gwybod sut ddaru fy nhad i farw? | |
| (Lei) Ysgyfaint ddu, methu anadlu awyr glân, rhy hwyr beth bynnag. | |
| (0, 3) 1101 | Dyrnu Jun eto. |
| (Lei) 35 oed yn marw. | |
| (Lei) Dwi'n casàu bobl sy'n defnyddio penillion! | |
| (0, 3) 1111 | Dyrnu Jun eto. |
| (Lei) Geiriau mawr yn golygu dim. | |
| (Ping) Mae'n gweld trwy'r drwg. | |
| (0, 3) 1140 | Ping yn datod y rhaff. |
| (0, 3) 1141 | Mae'r bachgen yn codi o'r sedd. |
| (Shujun) Diolch. | |
| (Lei) Cymera hwn. | |
| (0, 3) 1147 | Lei yn rhoi'r gyllell i Ping. |
| (Lei) A cadwa lygad barcud arna fo. | |
| (Ping) Ti'm yn meddwl fedrith unrhyw un newid. | |
| (0, 3) 1152 | Yn sydyn, mae'r bachgen yn estyn am y gyllell a'n dwyn o oddi wrth Ping. |
| (0, 3) 1153 | Mae'n gwthio'r gyllell allan tuag at Ping a Lei. |
| (Shujun) Sefwch yn ôl! | |
| (Shujun) Sefwch yn ôl! | |
| (0, 3) 1155 | Mae Ping mewn sioc. |
| (Ping) Y bastard diegwyddor! | |
| (Shujun) Lladron diegwyddor. | |
| (0, 3) 1173 | Mae cnoc ar y drws. |
| (Dyn Heddlu) {off} Agorwch y drws! | |
| (Dyn Heddlu) Heddlu! | |
| (0, 3) 1176 | Dydyn nhw'm yn symud. |
| (Shujun) 'Os na fedar person ddianc ei ego, fydd o'n gaeth i'r byd dibwys yma'. | |
| (Shujun) Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru. | |
| (0, 3) 1182 | Mae Shujun yn gwthio'r gyllell i mewn i'w stumog. |
| (Ping) Na! | |
| (Ping) Na! | |
| (0, 3) 1184 | Mae'r bachgen yn disgyn i'r llawr. |
| (Dyn Heddlu) {off} Dani 'di cael |reports| bod rhywun wedi torri mewn. | |
| (Dyn Heddlu) Agorwch y drws neu fydden ni'n agor y drws i chi. | |
| (0, 3) 1187 | Ping yn penlinio wrth ymyl y bachgen. |
| (0, 3) 1188 | Mae'n edrych ar Lei. |
| (Ping) Be dani 'di gwneud? | |
| (Dyn Heddlu) Dani'n dwad mewn - tri, dau, un! | |
| (0, 3) 1195 | Diwedd. |