| (1, 0) 1 | Llwyfan ac uwch-lwyfan syml. |
| (1, 0) 2 | Miwsig, Synau a Goleuadau addas. |
| (1, 0) 3 | Nid oes angen nemor ddim dodrefn. |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Miwsig; Yna sŵn y môr am ychydig. |
| (Adroddwr 1) Taith hanner diwrnod i'r Gorllewin o Fôr Galilea. | |
| (Adroddwr 1) Dacw'r fwltur hir-ymarhous, hamddenol, distawach na'i gysgod; a'r jerboa bawen-felfed, llygoden y llwch. | |
| (1, 0) 14 | Sŵn gwynt y tu ôl. |
| (Adroddwr 2) Mae'r bryniau fel eboni ar ffwrnais yr awyr, a'r cysgodion araf yn cripian dros y llethrau llwm. | |
| (Adroddwr 1) Pentref Gath Heffer yn nhiriogaeth Sabulon, ym mrenhiniaeth derfysglyd Jeroboam yr Ail | |
| (1, 0) 20 | Sŵn y gwynt yn pellbau. |
| (Adroddwr 2) Mae chwiban yr awel yn toddi'n raddol i ddwndwr isel fel murmur lleisiau o'r gorffennol pell. | |
| (Adroddwr 2) Llais Jonah fab Amitai, yn ymweld â bro ei febyd... | |
| (1, 0) 26 | Miwsig ysgafn y tu ôl. |
| (1, 0) 27 | Pelydrau ar Jonah y tu ôl i len neu rwyd o sidan yng nghefn y llwyfan. |
| (Jonah) Ie, bro fy mebyd, cyn i greithiau Amser hagru ei lechweddau. | |
| (Jonah) Dringais i'w gopa ganwaith; nes i ddyddiau mebyd ddirwyn i ben, a dod yr amser i roi heibio bethau bachgenaidd... | |
| (1, 0) 38 | Diffodder y pelydryn—Golau i fyny ar y llwyfan. |
| (1, 0) 39 | Jonah |
| (Mam) Jonah, 'wyt ti'n breuddwydio eto? | |
| (Jonah) Dringais i'w gopa ganwaith; nes i ddyddiau mebyd ddirwyn i ben, a dod yr amser i roi heibio bethau bachgenaidd... | |
| (1, 0) 41 | Troi a throi uwchben y bryn, |
| (1, 0) 42 | Smotyn du ar gwmwl gwyn. |
| (1, 0) 43 | 'Wyt ti ddim wedi blino i fyny yma, 'rhen frân? |
| (1, 0) 44 | Mae'r bioden ar ei nyth, a'r durtur ar ei chlwyd. |
| (1, 0) 45 | Hedodd y barcud ers meityn ar ei ben i fachlud haul. |
| (1, 0) 46 | Pam na ei dithau ar ei ôl, 'rhen gigfran? |
| (1, 0) 47 | Dyna a wnawn i pe bai gennyf adenydd─hedfan ymhell dros ymyl y byd i weld yr haul ar waelod y môr. |
| (Mam) Jonah, 'wyt ti'n breuddwydio eto? | |
| (Nathan) Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom. | |
| (1, 0) 89 | Bref dafad. |
| (Jonah) A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi? | |
| (Nathan) Mi dria' inna 'i ddychryn o i fwrdd, | |
| (1, 0) 140 | Nathan yn mynd dan chwythu bygythion. |
| (Jonah) {Wrtho'i hun.} | |
| (Mam) Jonah, Jonah, paid â breuddwydio, paid â breuddwydio, paid â breuddwydio... | |
| (1, 0) 174 | Exit. |
| (1, 0) 175 | Miwsig ysgafn y tu ôl. |
| (1, 0) 176 | Tywyller y llwyfan. |
| (1, 0) 177 | Pelydryn ar Jonah y tu ôl i'r llen sidan. |
| (Jonah) {Yn ddyn.} | |
| (Jonah) Ac o dipyn i beth, daeth hyd yn oed hynafgwyr ceidwadol Gath Heffer i gymryd sylw ohonof... | |
| (1, 0) 186 | Diffodder y pelydryn; Goleuni ar Tobias a Sbadrach. |
| (Tobias) Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna? | |
| (Tobias) Mi gawn gyfle ardderchog i'w glywed o'n pregethu... | |
| (1, 0) 241 | Diffodder y goleuadau am ennyd. |
| (1, 0) 242 | Sŵn tyrfa. |
| (1, 0) 243 | Hwnnw'n distewi. |
| (1, 0) 244 | Jonab yn sefyll ar yr wwch-lwyfan. |
| (1, 0) 245 | Pentrefwyr oddi tano. |
| (Jonah) {Codi ei lais.} | |
| (I Gyd) Dwg ni'n ôl i fendith Duw... | |
| (1, 0) 271 | Diffodder golau ar y llwyfan. |
| (1, 0) 272 | Dwndwr y dyrfa'n pellhau. |
| (1, 0) 273 | Pelydryn ar Jonah y tu ôl i'r llen sidan). |
| (Jonah) Do, fe gafodd fy mhregeth gyntaf fwy o effaith nag a freuddwydiais i 'rioed. | |
| (Jonah) 'R oeddwn i'n eistedd yn fy 'stafell, 'r wy'n cofio, pan ddaeth cysgod ar draws y drws, a llais merch yn galw arnaf... | |
| (1, 0) 283 | Diffodder y pelydryn. |
| (1, 0) 284 | Tywyllwch am ennyd, yna goleuer y llwyfan a gwelir Jonab yn eistedd wrth fwrdd. |
| (1, 0) 285 | Mae wrthi'n darllen memrwn. |