| (1, 0) 1 | Ar y chwith, drws a lle tân; grisiau a dresser ar y dde; fenestr a drws yn y cefn. |
| (1, 0) 2 | Saif bwrdd bychan dan y ffenestr a bwrdd mawr tua'r canol. |
| (1, 0) 3 | Gwelir sciw ar yr aelwyd, cadeiriau, etc. |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Ymddengys MARTHA ar y chwith, yn dwyn dysglaid o ffrois a dau napcyn gwyn. |
| (1, 0) 6 | Gesyd ddwy neu dair o'r ffrois ym mhob un o'r ddau napcyn gan eu clymu yn ddestlus. |
| (1, 0) 7 | Yna, cuddia'r gweddill yng ngwpwrdd isa'r dresser, a'r ddau napcyn mewn parseli ger 'y fenestr. |
| (1, 0) 8 | Y mae MARTHA yn bump a deugain oed, eithr ymddengys yn hŷn. |
| (1, 0) 9 | Gwisg ŵn wlanen sylweddol o ddull henaidd a ffedog wlanen |check| du a gwyn. |
| (1, 0) 10 | ~ |
| (1, 0) 11 | Yn fuan daw ELLEN i mewn yn gynefin drwy ddrws y cefn. |
| (1, 0) 12 | Gwisgir hi yn wychach. |
| (Martha) {Yn codi ei phen.} | |
| (Ellen) Dyma fi'n mynd nawr; fe fydda-i 'nol cyn hir. | |
| (1, 0) 158 | A ELLEN allan, a chyn gynted ag y ceuir y drws, disgyn WILLIAM yn drwsgl yn nhraed ei 'sanau. |
| (1, 0) 159 | Gwelir eì fod yn llewys ei grys, ac heb wasgod. |
| (1, 0) 160 | Saif ar y gris isaf gan ysbio oddi amgylch y gegin. |
| (William) {Gan esgus sibrwd.} | |
| (Martha) Ma nhw lawr 'ma. | |
| (1, 0) 210 | Daw MIRIAM, tua 20 oed, i lawr, heb orffen gwisgo, a'i gwallt ar hyd ei chefn. |
| (William) Nawr, dyna bapur aelotath morwn Mrs. Morgan. | |
| (William) Fe gymrat i phen hi tsa hynny o ryw ddipan i ti. | |
| (1, 0) 243 | Ymddengys JOHN, tua 22, a chwilia am ei esgidiau yn agos i'r dresser. |
| (John) Ble ma'n scitsha i? | |
| (John) Ble ma'n scitsha i? | |
| (1, 0) 245 | Tarewir JOHN elo gan syndod pan wêl ei fam. |
| (Martha) Fe'u helas nhw sha'r crydd. | |
| (William) Wyt ti'n wilia'n gwmws fel tsa ti ddim yn folon i weld pilyn decha am dy fam. | |
| (1, 0) 257 | WILLIAM mewn helbul gyda botwm llawes ei grys. |
| (John) Wetas-i ddim nag on i'n folon. | |
| (William) 'Dych chi'r plant ariod wedi rhoi llawar o gyfla iddi─Beth andras sy ar y bwtwn 'ma─Martha! | |
| (1, 0) 260 | Rhed MARTHA i'w gynorthwyo. |
| (John) {Yn chwerthin.} | |
| (William) Ia, ond nid wrth wishgo'm dillad Sul acha noswath waith y ceso i'r tai 'na cofia. | |
| (1, 0) 295 | Daw MARTHA â'r got a'r wasgod iddo. |
| (William) Na, 'dwy-i ddim yn mynd i wishgo rheina. | |
| (Martha) Dim ond─dim ond am y mod i'n gofyn i chi─dyna i gyd. | |
| (1, 0) 303 | WILLIAM mewn penbleth, yn peiruso, ac yna yn eu gwisgo ym araf. |
| (William) Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno. | |
| (William) Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno. | |
| (1, 0) 305 | Ymeifl MARTHA mewn bwndel o ddillad mân a phapwr llwyd oddiar y ffenestr. |
| (Martha) Miriam, 'rwy am i ti fynd â rhain at Mrs. Pwal. | |
| (Martha) Newid-a. | |
| (1, 0) 334 | A MIRIAM allan dipyn ym anfodlon. |
| (1, 0) 335 | Cyfyd MARTHA fasgedaid o ddillad glân, coleri, crysau, etc., o dan y bwrdd bach. |
| (Martha) Titha, John, wy-i am i ti fynd â rhain i'r post. | |
| (William) Os aiff rhywun i'r nefodd, Martha, fe ewch chi, ond os na fydd 'na fashîn gwinio, twbin golchi, a phar o heyrn smwddo, fyddwch chi ddim wrth ych bodd. | |
| (1, 0) 349 | Gesyd MARTHA y dillad mewn bocs cardboard a chyfyd JOHN yr ail napcyn ffrois. |
| (John) Beth sy man hyn? | |
| (Martha) Nag-yw, ma-fa yn y got 'na, y bocad frest 'r ochor with. | |
| (1, 0) 373 | WILLIAM yn dod o hyd i'r papur a MARTHA yn craffu arno o'i gorun i'w draed. |
| (William) {Â'r papur yn ei law.} | |
| (William) Fe ddylswn fod, 'rwy wedi bod o dan y driniath am rai blynydda nawr. | |
| (1, 0) 384 | Ymeifl MARTHA mewn hen shôl Paisley sydd yn y fasged o dan y bwrdd a theifl hi dros eî gwar. |
| (Martha) Otych, ond falla na cheso-i ddim gafal arnoch chi miwn pryd. | |
| (William) Hy!─fydd yn bwnc i ti gâl gafal ar 'i thepyg hi! | |
| (1, 0) 407 | Daw MIRIAM i mewn. |
| (Miriam) O mam, beth sy'n bod heno? | |
| (Martha) Fe gretan ych bod chi wedi bod mewn ryw anglodd. | |
| (1, 0) 426 | WILLIAM yn mynd. |
| (1, 0) 427 | Cydia JOHN yn ei barsel a saif gan edrych ar ei fam, yr hon sydd yn cefnu arno o flaen y tân. |
| (1, 0) 428 | O'r diwedd, try hi ei phen. |
| (John) {Yn gellweirus.} | |
| (John) Ma 'na rwpath yn bod 'ma heno! | |
| (1, 0) 432 | Gwena MARTHA arno gan amneidio âi phen. |
| (John) Beth yw-a? | |
| (John) Fydda i ddim yn hir. | |
| (1, 0) 440 | Cyn gynted ag y diflawna JOHN, gesyd MARTHA y ffrois ar y pentan, a liain gwyn ar y bwrdd mawr. |
| (1, 0) 441 | Yn union, rhuthra WILLIAM i mewn. |
| (William) {O'i gof.} | |
| (William) Penblwydd pwy yw-a? | |
| (1, 0) 465 | Estyn MARTHA ei llaw gan ddangos eì modrwy. |
| (Martha) Penblwydd hon, William. | |
| (Martha) Bum mlynadd ar ucian i heddy fe ddodsoch y fotrw 'na ar ym mys i. | |
| (1, 0) 468 | Syll WILLIAM âr y fodrwy ac yna i'w hwyneb hi. |
| (William) {Braidd yn gloff.} | |
| (William) A dyma'n─dyma'n |silver wedding| ni, iefa? | |
| (1, 0) 471 | Ac yn awr, am foment, ymgaleda wyneb MARTHA rhyw ychydig. |
| (Martha) Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc. | |
| (Martha) Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc. | |
| (1, 0) 473 | Erbyn hyn, y mae WILIAM â'i olygon ar ysmotyn ar y llawr. |
| (William) {Wedi colli ei lais arferol, rywfodd.} | |
| (Martha) Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi. | |
| (1, 0) 485 | Cydia WILLIAM yn eì llaw yn dyner gan edrych ar y fodrwy. |
| (William) Pum mlynadd ar ucian─{yn codi ei ben}─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl. | |
| (William) 'Rwy'n ych gweld chi nawr; dress wlanan odd am danoch-chi, patrwn mân coch a du─ | |
| (1, 0) 493 | Egyr MARTHA ei shôl ac adnebydd WILLIAM y ddress. |
| (William) A dyna hi! | |
| (Martha) Na William, 'dos dim raid i'n bath ni i brynu presants i'n gilydd. | |
| (1, 0) 509 | Agorir y drŵs a daw MIRIAM a JOHN i mewn gan gludo basged rhyngddynt. |
| (1, 0) 510 | Cofleidia MIRIAM ei mam gan eu chusanu. |
| (Miriam) Mam fach, pam na fysach chi'n gwed rwpath? | |
| (Martha) Os, John, paid roi cusan i fi nawr─heno─cyn 'rai di i'r gwely. | |
| (1, 0) 516 | Ymddengys ELLEN, a saif yn sydyn ar y trothwy gan edrych ar ei chwaer. |
| (William) {Wrth weled ELLEN.} | |
| (Miriam) Welwch-chi, mam, beth sy gen-i man hyn? | |
| (1, 0) 538 | Cyfyd MARTHA ei dwy law mewn boddhad. |
| (Ellen) On i'n meddwl, falla y licsat-ti ifad tê o rhain heno. | |
| (Ellen) Dyma fe. | |
| (1, 0) 546 | Cymer MIRIAM flodau o'r fasged gan eu trefnu ar y bwrdd. |
| (1, 0) 547 | Y mae MARTHA yn sbïo i'r fasged. |
| (Ellen) Beth wyt-ti'n whilo? | |
| (Ellen) Fysa'n well gen-ti gâl y cŵn? | |
| (1, 0) 552 | Edrych MARTHA yn anghrediniol ar Ellen ac yna ar y llestri. |
| (Martha) Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi! | |
| (Martha) Ma 'na grac yn y ddolan. | |
| (1, 0) 561 | Cymer MARTHA y tebot oddiwrtho gan fanylu ar y ddolen, yna try yn anfodlon at ei chwaer. |
| (Martha) 'Rwyt ti wedi 'i gwiro fa! | |
| (Miriam) 'Rwy'n eilio'r cynyciad. | |
| (1, 0) 570 | JOHN ym dilyn MIRIAM allan. |
| (William) Beth! ych mam i ishta lawr, dim byth! | |
| (Martha) ─miwn cwtyn glas. | |
| (1, 0) 583 | Daw JOHN i'r golwg â dwy jwg. |
| (John) Yn mh'un o rhain ma'r llath |right|? | |
| (Ellen) Na, rho gyllath arall i fi. | |
| (1, 0) 593 | Ond y mae'r dorth gan MARTHA erbyn hyn. |
| (1, 0) 594 | Arllwys WILLIAM ddŵr ŷr tebot. |
| (William) Gadewch iddi; mae wedi torri'r |record|. | |
| (William) la, fe ishtedda inna man hyn, Martha man'na, John a Miriam fan'na. | |
| (1, 0) 604 | ELLEN yn arllwys tê a phawb yn eistedd ond MARTHA, yr hon sydd yn taflu llygad dros y bwrdd. |
| (William) Os 'na rwpath yn isha? | |
| (Martha) Os. | |
| (1, 0) 607 | A MARTHA yn ol at y fasged a daw â dau gwpan arall gan eu gosod yr ochr arall i'r bwrdd. |
| (William) Ag i bwy ma rheina? | |
| (Martha) Synnwn-i fawr na ddath mam â hi. | |
| (1, 0) 619 | Y lleill yn anesmwytho gan edrych ar ei gilydd. |
| (William) Wel, gadewch i ni ddechra. | |
| (William) Ellen, fynnwch-chi ffroisan? | |
| (1, 0) 623 | Gesyd MIRIAM ei llaw ar ei fraich. |
| (Miriam) Nhad! | |
| (William) O ia, ia, fe anghofias. | |
| (1, 0) 628 | Plyg ei ben, a gwna'r lleill yr un fath. |
| (1, 0) 629 | Y mae MARTHA yn sefyll o hyd, ag un llaw ar y bwrdd. |
| (1, 0) 630 | Rhywfodd, yn ddamweiniol efallai, gesyd WILLIAM eu law ar es llaw hy wrth ofyn bendith. |
| (William) Diolch i Ti am Dy drugaredda, ond y drugaradd fwya i gyd, diolch i Ti─diolch i Ti─am Martha. | |
| (William) Diolch i Ti am Dy drugaredda, ond y drugaradd fwya i gyd, diolch i Ti─diolch i Ti─am Martha. | |
| (1, 0) 632 | LLEN |