| (1, 0) 1 | GOLYGFA. |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | Cegin mewn ffermdy bychan. |
| (1, 0) 4 | Gyferbyn â'r edrychwyr saif y lle tân. |
| (1, 0) 5 | Ar y chwith mae drws yn cau ar y grisiau sy'n arwain i'r llofft, a drws arall ar y dde yn agor i'r buarth. |
| (1, 0) 6 | Trefner hen soffa lwydaidd ar hyd yr ochr chwith i garreg yr aelwyd â'i chefn at ddrws y llofft, a chadair freichiau yr ochr arall wrth y pentan â'i chefn at ddrws y buarth. |
| (1, 0) 7 | Saif y bwrdd rhwng y gadair freichiau a drws y buarth, a gofaler fod carreg yr aelwyd yn weladwy i'r edrychwyr. |
| (1, 0) 8 | Dodrefner yn y dull mwyaf syml a chyffredin heb ddim gwychter. |
| (1, 0) 9 | Croger almanac uwchben y lle tân. |
| (1, 0) 10 | Pan y cyfyd y llen, gwelir ELIN HUWS mewn cap a shôl yn eistedd yn y gadair freichiau ac yn syllu yn synfyfyriol i'r tân. |
| (1, 0) 11 | Mae ELIN tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd, a sieryd mewn llais go gwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd. |
| (1, 0) 12 | Gwelir ei merch JANE yn smwddio ar y bwrdd ac yn mynd at y tân i newid yr haearn yn awr ac eilwaith. |
| (1, 0) 13 | Mae JANE oddeutu 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur. |
| (1, 0) 14 | Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur. |
| (Jane) Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia. | |
| (Elin) Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn. | |
| (1, 0) 44 | Distawrwydd. |
| (Elin) 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane. | |
| (Jane) Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid. | |
| (1, 0) 64 | Daw'r Tad i mewn gyda rhaw a bwcedaid o datws: gesyd hwy yn y gongl y tu ol i'r soffa, ac yna daw at y tân i ymdwymo. |
| (1, 0) 65 | Mae tua 70 mlynedd oed, yn ŵr penderfynol, ac i bob golwg yn stoicaidd ei natur. |
| (Tad) {Dan ymdwymo.} | |
| (Tad) Bolltia fo fel arfar. | |
| (1, 0) 105 | Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam. |
| (1, 0) 106 | Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid. |
| (1, 0) 107 | Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen. |
| (Tad) "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd." | |
| (Tad) "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon." | |
| (1, 0) 111 | Clywir curo gwan ar y drws. |
| (Elin) 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo. | |
| (Elin) Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan. | |
| (1, 0) 115 | Curir eilwaith dipyn yn drymach. |
| (Tad) Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory. | |
| (Tad) Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory. | |
| (1, 0) 117 | Tyn JANE y follt ac egyr y drws. |
| (Jane) Pwy sydd yna? | |
| (Jane) Pwy sydd yna? | |
| (1, 0) 119 | DIC yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded. |
| (1, 0) 120 | Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm. |
| (Dic) Jane! | |
| (Tad) Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely. | |
| (1, 0) 143 | Goleua JANE y gannwyll ac â'r tad at y cloc sy ar y dresal i'w weindio. |
| (Elin) Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd. | |
| (Elin) Tyrd at y tân, 'machgen i. | |
| (1, 0) 152 | A Dic ar ei liniau o flaen y tân wrth liniau ei fam, a gwelir hi'n teimlo'i ddwylo. |