| (1, 0) 1 | DILYS yn dod i mewn. |
| (Mrs Lloyd) 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach. | |
| (Mrs Lloyd) Mae e'n garedig iawn. | |
| (1, 0) 17 | DILYS yn tanio sigaret. |
| (Mrs Lloyd) Paid a smocio, wir, Dilys. | |
| (Mrs Lloyd) Galw Letitia i ddod â glo ar y tân wir. | |
| (1, 0) 46 | LETITIA yn dod â glo. |
| (Mrs Lloyd) Dyma chi ar y gair Letitia.. | |
| (Mrs Lloyd) Mae hi wedi oeri a... | |
| (1, 0) 49 | LETITIA yn sarnu glo â'r rhaw gyda swn mawr. |
| (Dilys) O dyna fwstwr. | |
| (Dilys) Feddyliodd hi erioed am agor ei phwrs, er cymaint sydd ynddo. | |
| (1, 0) 81 | LETITIA yn chwerthin yn iachus. |
| (Dilys) Byddwch ddistaw, Letitia. | |
| (Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys. | |
| (1, 0) 85 | Cloch y drws yn canu. |
| (Dilys) Dyna rywun wedi dod. | |
| (Mrs Lloyd) Mae e'n dod â rhyw waith iddi bob dydd, fynychaf. | |
| (1, 0) 96 | Mae siarad mawr tu allan. |
| (1, 0) 97 | Yna clywir LETITIA. |
| (Letitia) {Y tu allan.} | |
| (Letitia) Mae hi'n pallu dweud ei henw, ac yn pallu aros allan. | |
| (1, 0) 104 | Modryb TABITHA yn dod i mewn. |
| (Tabitha) O, dyma hi! | |
| (Tabitha) 'Dwy byth yn caru achwyn, fel y gwyddoch. | |
| (1, 0) 129 | DILYS yn dychwelyd. |
| (Tabitha) Dewch ymlaen, Dilys fach. | |
| (Letitia) DILYS: Cer'wch. | |
| (1, 0) 141 | LETITIA yn mynd gyda chryn fwstwr. |
| (Tabitha) Gwyddoch mai chi, Dilys, yw fy ffafret i erioed. | |
| (Tabitha) Bum bron â phrynu sypyn mawr o grapes hyfryd i chi, ond, dyna fe, aent yn ofer, os yw'r Athro'n dod â rhai, hefyd. | |
| (1, 0) 159 | Yn mynd at y bwrdd ac yn helpu ei hunan o'r ffrwythau. |
| (Mrs Lloyd) Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn. | |
| (Dilys) Dyma Jane yn dod. | |
| (1, 0) 187 | JANE yn dod i mewn. |
| (Tabitha) Helo, Jane, sut y'ch chi? | |
| (Jane) Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi! | |
| (1, 0) 247 | JANE yn mynd. |
| (Dilys) 'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn. | |
| (Dilys) O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl. | |
| (1, 0) 306 | DILYS yn mynd. |
| (Tabitha) 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd. | |
| (Tabitha) 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd. | |
| (1, 0) 308 | Ymhen eiliad daw JANE i mewn. |
| (Jane) Mae te'n barod. | |
| (Jane) A beth yw dy reswm neilltuol di heno, Dilys? | |
| (1, 0) 342 | Distawrwydd am ennyd. |
| (Tabitha) Mi ddweda i wrthych chi, Jane. | |
| (Dilys) Dall mam ddim mynd mor gyflym. | |
| (1, 0) 386 | Hwy yn mynd, a JANE yn canu'r gloch. |
| (1, 0) 387 | LETITIA'n dod i mewn. |
| (Letitia) Chi ganodd y gloch, Miss Lloyd? | |
| (Letitia) Mi âf i at fy ngwaith. | |
| (1, 0) 446 | Yn mynd. |
| (1, 0) 447 | Ymhen eiliad clywir y ffôn yn galw. |
| (1, 0) 448 | Rhuthra DILYS i mewn a daw LETITIA yn wyllt wrth ei sawdl. |
| (Dilys) {Yn siarad drwy'r ffôn.} | |
| (Dilys) Chewch chi ddim aros yma ar unrhyw gyfrif. | |
| (1, 0) 474 | TABITHA a MRS LLOYD yn dod i mewn—TABITHA ar hanner bwyta teisen. |
| (Tabitha) Be sy'n bod? | |
| (Letitia) Sut oech chi'n gwybod? | |
| (1, 0) 498 | DILYS a TABITHA'n chwerthin gyda dirmyg. |
| (Dilys) A phwy yw'r gwr lwcus? | |
| (Jane) Be sy'n bod, dwedwch? | |
| (1, 0) 514 | DILYS a TABITHA'n siarad ar draws ei gilydd. |
| (Dilys) Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i. | |
| (Jane) Efallai y dylwn fod wedi dweud wrthych chi, 'mam, o'r blaen, mae y fi yw John Gray. | |
| (1, 0) 541 | Pawb yn dangos syndod. |
| (Jane) Ond yr o'wn yn gallu 'sgrifennu'n fwy rhydd, a chael mwy o lonydd pan nad oedd neb yn gwybod... | |
| (Mrs Lloyd) Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau." | |
| (1, 0) 565 | Cloch y drws yn canu mewn modd arbennig. |
| (1, 0) 566 | LETITIA yn mynd i'w ateb. |