| (1, 0) 1 | Pan gyfyd y llen, y mae Amos wrthi'n twtio'r ystafell. |
| (1, 0) 2 | Yn sydyn, saif yn llonydd fel petai'n myfyrio: yna mae'n mynd yn araf at y ddesg, ac ar ôl petruso'n ofnus am eiliad, mae'n eistedd yn y gadair y tu ôl iddi. |
| (1, 0) 3 | Cymer sigâr o'r bocs a'i rhoi rhwng ei wefusau, ond nid yw'n ei thanio: yna rhydd sbectol Botha ar ei drwyn ac eistedd yn ôl yn y gadair fel petai'n dychmygu am funud ei fod yn ddyn o awdurdod. |
| (1, 0) 4 | Cymer y teliffôn, a'i godi i'w glust a meimio siarad yn bwysig iddo. |
| (1, 0) 5 | Gwna hyn oll yn hollol ddifrifol, heb unrhyw elfen o ffars o gwbl. |
| (1, 0) 6 | ~ |
| (1, 0) 7 | Daw sŵn traed o'r tu allan: rhydd Amos y teliffôn i lawr, y sigâr yn ôl yn y bocs, a'r sbectol ar y ddesg. |
| (1, 0) 8 | Yna, rhed yn ôl i dwtio'r ystafell. |
| (1, 0) 9 | Mae wrthi'n brysur pan ddaw Botha i mewn. |
| (Amos) P'nawn da, Syr. | |
| (Botha) P'nawn da, Amos. | |
| (1, 0) 12 | Saib am eiliad. |
| (Amos) Chi'n teimlo'n well, Syr? | |
| (Botha) Mi ofala' i na chei di ddim cam. | |
| (1, 0) 89 | Saib ennyd. |
| (Amos) {Yn sydyn.} | |
| (Botha) Mae gen' i waith i'w wneud. | |
| (1, 0) 107 | Amos yn mynd allan. |
| (1, 0) 108 | Botha yn tynnu ei law yn flinedig ar draws ei dalcen: yna cymer ei sbectol oddi ar y ddesg: rhydd sigâr rhwng ei wefusau a'i thanio. |
| (1, 0) 109 | Mynd ati wedyn i edrych drwy'r papurau sydd ar y ddesg o'i flaen. |
| (1, 0) 110 | Mae wrthi'n sgrifennu pan ymddengys Helga yn y ffenestr ffrengig â thusw o flodau ar ei braich. |
| (Helga) 'Nhad! | |
| (Botha) Rhaid iti ddod â rhai yma bod dydd o hyn ymlaen. | |
| (1, 0) 163 | Saib. |
| (Helga) 'Nhad, 'rwy'n siŵr eich bod mor hoff o'r ardd ag yr oedd mam erioed. | |
| (Botha) Anghenion y wlad o flaen f'anghenion i. | |
| (1, 0) 180 | Cymer Botha ddogfen oddi ar y ddesg, a'i hastudio. |
| (Helga) 'Gaf i eich atgoffa chi o rywbeth, 'nhad? | |
| (Botha) 'Rwy' i'n barod i farw drosti os bydd rhaid. | |
| (1, 0) 220 | Mae cloch y teliffôn yn canu. |
| (1, 0) 221 | Botha yn ei godi. |
| (Botha) Botha... Pwy?... O, Malán... Be'sy'nbod?... | |
| (Botha) O'r gora', Malán, gadewch imi wybod sut y bydd petha. | |
| (1, 0) 243 | Botha yn rhoi'r teliffôn i lawr. |
| (Helga) Be' sy'n bod? | |
| (Botha) Fe ddaw yma cyn bo hir, mae'n debyg. | |
| (1, 0) 259 | Daw Amos i'r drws. |
| (Amos) Dr. Hoffman, Syr. | |
| (Amos) Dr. Hoffman, Syr. | |
| (1, 0) 261 | Daw Hoffman i mewn braidd yn bryderus. |
| (Hoffman) Botha, 'glywaist ti am y pwll? | |
| (Helga) Eisteddwch. | |
| (1, 0) 277 | Hoffman yn eistedd. |
| (Hoffman) Diolch... | |
| (Hoffman) Fe fydd hyn yn golled fawr i'r Cwmni, Botha? | |
| (1, 0) 280 | Helga yn mynd at y cabinet a thywallt gwin i ddau wydr. |
| (Botha) Dim i boeni yn ei gylch, Hoffman. | |
| (Hoffman) Cofia fod gen' i siâr ynddo fo! | |
| (1, 0) 286 | Daw Helga ymlaen. |
| (Helga) Llymaid o win, Dr. Hoffman. | |
| (Hoffman) Diolch yn fawr, | |
| (1, 0) 293 | Hoffman yn cymryd y gwydr. |
| (1, 0) 294 | Rhydd Helga y gwydr arall ar ddesg ei thad. |
| (Botha) {Yn gellweirus.} | |
| (Helga) 'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo! | |
| (1, 0) 320 | Botha yn chwerthin. |
| (Hoffman) Mi wn i, Helga. | |
| (Botha) Ond ni oddefir unrhyw ymyrryd â'r egwyddor fawr sy'n sylfaen iddi: egwyddor sy'n hanfodol i ddiogelwch ein gwlad a ffyniant ein cenedl." | |
| (1, 0) 449 | Rhydd Botha y ddogfen ar y ddesg: mae'n gwybod y gweddill o'r araith ar ei gof. |
| (1, 0) 450 | Daw ymlaen at ymyl y llwyfan ac edrych allan i'r gynulleidfa. |
| (1, 0) 451 | Daw Amos i mewn, yn cario gwydriad o lefrith ar hambwrdd, ond saif yn gwrtais wrth y drws tra bo Botha yn llefaru. |
| (Botha) "Foneddigion: | |
| (Botha) Mae llygaid y byd arnom, Foneddigion: fe fyddwn yn esiampl iddo o genedl ranedig, gytûn." | |
| (1, 0) 472 | Mae Botha yn troi at Hoffman. |
| (1, 0) 473 | Daw Amos ymlaen a rhoi'r hambwrdd ar y ddesg, ac yna exit. |
| (Botha) Wel, Hoffman? | |
| (Helga) 'Dwy'i ddim yn eu gweld yn ildio heb frwydr, 'nhad. | |
| (1, 0) 526 | Helga yn mynd at y ffenestr. |
| (Botha) Nac wyt ti? | |
| (Botha) Mae arna' i ei heisiau, Duw a ŵyr: mae ar y wlad ei heisiau. | |
| (1, 0) 611 | Ymddengys Amos yn y drws. |
| (Amos) Mr. Karl Hendricks! | |
| (Amos) Mr. Karl Hendricks! | |
| (1, 0) 613 | Exit Amos. |
| (1, 0) 614 | Daw Karl i mewn yn edrych braidd yn flinedig. |
| (1, 0) 615 | Mae ei ddillad yn lleidiog. |
| (Helga) {Yn gythryblus.} | |
| (Karl) 'Rwy'n fodlon. | |
| (1, 0) 755 | Daw Helga i mewn. |
| (Helga) Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl. | |
| (Karl) Diolch ichi eto. | |
| (1, 0) 770 | Karl yn edrych ar Helga am ennyd, yna exit. |
| (Botha) {Eistedd yn ôl yn flinedig yn ei gadair.} | |
| (Helga) A'i ddal yno drwy rym a thrais. | |
| (1, 0) 806 | Mae Botha yn codi. |
| (Botha) {Yn ddistaw.} | |
| (Botha) 'Rwy' i wedi blino... | |
| (1, 0) 871 | Botha yn chwilio ar ei ddesg am ei sbectol. |
| (1, 0) 872 | Mae'n dod o hyd i un o bamffledi "Salvadór." |
| (1, 0) 873 | Edrych arno am eiliad. |
| (Botha) Edrych, dyma un arall ohonyn' nhw. | |
| (Botha) Mi rown i unrhyw beth i gael gafael ynddo fo! | |
| (1, 0) 885 | Daw Amos i mewn. |
| (Amos) Esgusodwch fi, Syr. | |
| (Amos) Esgusodwch fi, Syr. | |
| (1, 0) 887 | Amos yn mynd at y ddesg. |
| (1, 0) 888 | Botha yn edrych yn graff a drwgdybus arno. |
| (Amos) Chi ddim wedi yfed y llefrith, Syr. | |
| (Botha) Tyrd yma. | |
| (1, 0) 892 | Amos yn mynd yn nes ato. |
| (Amos) Syr? | |
| (Botha) Beth a wyddost ti am hwn? | |
| (1, 0) 895 | Botha yn dangos y pamffled iddo. |
| (Amos) Syr? | |
| (Botha) Cei fynd rŵan. | |
| (1, 0) 934 | Amos yn gafael yn yr hambwrdd a'r gwydriad llefrith, a mynd at y drws. |
| (Helga) Amos, aros am funud. | |
| (Helga) Amos, aros am funud. | |
| (1, 0) 936 | Amos yn troi. |
| (Amos) Ia, Miss Helga? | |
| (Amos) Diolch yn fawr ichi. | |
| (1, 0) 951 | Exit Amos. |
| (Helga) 'Dydych chi ddim yn ddig gobeithio? | |
| (Botha) 'Wyt ti'n deall beth wy'n ei feddwl? | |
| (1, 0) 959 | Mae Helga yn edrych ar ei thad heb ei ateb. |
| (1, 0) 960 | Daw'r llen i lawr yn araf. |
| (1, 0) 961 | ~ |
| (1, 0) 962 | Diwedd Act I. |