| (1, 0) 1 | Ystafell gysurus mewn Hotel â French window yn wynebu'r edrychwyr yn agor i'r balconi, a drws ar y dde. |
| (1, 0) 2 | SYR TOMOS ar y balconi yn weledig i'r edrychwyry mae'n annerch yr etholwyr y tuallan ac yn diolch iddynt am ethol HARRI MEREDITH. |
| (1, 0) 3 | Y SYR yw'r hen aelod a fu dros y rhanbarth am chwarter canrif, ond sydd erbyn hyn wedi ymddiswyddo. |
| (1, 0) 4 | Y mae bywyd wedi ei galedu, ond edrychir ar MEREDITH fel un â digon o dalent ganddo i adael ei farc ar y wlad ond iddo chware ei gardiau'n ddeheuig. |
| (1, 0) 5 | Yn gwrando wrth y ffenestr y mae OLIFER, aelod Seneddol Cymreig sy'n ffefryn mewn cylchoedd politicaidd, a'i wraig KITTY; NAN, gwraig MEREDITH, yn llawn uchelgais. |
| (1, 0) 6 | Hefyd MR JONES-ROBERTS, gŵr mawr yn yr etholaeth, ond, fel y greadigaeth faterol (os gwir y dybiaeth), wedi codi o ddim; a MRS JONES-ROBERTS, ei wraig, o'r un dim. |
| (1, 0) 7 | Y mae'r ddau wedi anghofio'r shop y gwnaethant eu harian ynddi, o leiaf nid yw ond atgof poenus, ond erys y shop o hyd yng nghof eu gelynion, ac nid yw eu cyfeillion chwaith yn anghofus ohoni. |
| (1, 0) 8 | Wrth odre'r cwmni gwelir MABLI (oddeutu pymtheg oed), a MYRDDIN HUWS yn ysgrifennu wrth fwrdd ar ochr chwith yr ystafell─gŵr sydd â'i law a'i ddylanwad yn drwm ar y Wasg a'r blaid y perthyn iddi. |
| (Syr Tomos) Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? | |
| (Syr Tomos) Am y tro diweddaf, |three cheers| iddo ac hir oes i wasnaethu 'i genedl. | |
| (1, 0) 11 | Ar ôl y banllefain y tuallan a'r tufewn daw'r cwmni i'r ystafell. |
| (1, 0) 12 | Eistedd OLIFER wrth yr un bwrdd a MYRDDIN a deil y ddau i ysgrifennu, ac â NAN a MABLI a KITTY allan. |
| (Mr Jones-Roberts) {Staccato yn ei ddull o siarad a defnydd mynych o'r spectol aur i gyfleu ei feddwl.} | |
| (Mrs Jones-Roberts) Peidiwch ag anghofio'r |Hazels|─|not later than ten|! | |
| (1, 0) 110 | Y ddau yn mynd, a'r SYR yn curo'r awyr â'i gadach poced yn enbyd.} |
| (Myrddin) Be sy'n bod? | |
| (Syr Tomos) |Wrong| eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael. | |
| (1, 0) 159 | MRS. OLIFER yn mynd. |
| (Myrddin) Rwan Meredith─sylwn ni ddim ar goegni Syr Tomos, ond yn sicr i chi y mae llawer gwir yn well o'i gelu ac mi welwch hynny'n fuan ym myd politics. | |
| (Harri) Diolch i chithau, Myrddin, am bob help yn yr etholiad, ond cofiwch nad wy'n rhwymo fy hun wrth neb─Syr Tomos na'r Wasg na'r Weinyddiaeth. | |
| (1, 0) 224 | Exit y ddau. |
| (Syr Tomos) Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd. | |
| (Syr Tomos) Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn. | |
| (1, 0) 233 | A allan i'r balconi a daw MABLI i mewn gyda choronbleth o flodeu. |
| (Mabli) Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen. | |
| (Syr Tomos) Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai. | |
| (1, 0) 301 | Daw JANET MEREDITH i mewn â golwg wladaidd arni, tua thrigain a phump oed ond yn gadarn. |
| (Janet) Wel, Harri, mi gest d'ethol yn anrhydeddus. | |
| (Nan) Raid i chwi ddim ofni hynny, a gwell cyngor iddo heddiw fasa'i annog i gyd-dynnu yn yr un harnis ag eraill. | |
| (1, 0) 312 | Daw MABLI i mewn a chwery gyda'r blodeu. |
| (Harri) {Yn dda ei dymer.} | |
| (Harri) Am awr gyfa y mae pawb wedi bod wrthi yn stwffio cynghorion i lawr fy ngwddw─rhowch chware teg i greadur gwael. | |
| (1, 0) 316 | MABLI o'r tu ôl iddo'n gosod y goronbleth eto ar ei ben.} |