| (1, 0) 1 | GOLYGFA─"Drawing room" tŷ MR. a MRS. WALTER MORGAN. |
| (1, 0) 2 | Gan mai pobl wedi reteirio o fusnes laeth yn Llundain ydynt a chan mai uchelgais MRS. MORGAN ydyw bod yn rhywun ym mywyd cymdeithasol y pentref a'r ardal, "drawing room" yw'r enw iawn ar yr ystafell. |
| (1, 0) 3 | Y mae ffenestr ffrensh fawr yn y cefn yn agor i'r lawnt a'r ardd a dyna'r unig ffenestr y mae'n rhaid wrthi at amcanion y chwarae. |
| (1, 0) 4 | Un drws sydd i'r ystafell ac y mae hwnnw ar y chwith. |
| (Walter) O'r andras! | |
| (1, 0) 6 | ~ |
| (1, 0) 7 | Prynhawn braf yng nghanol yr haf yw hi a thywynna'r haul y tu allan i'r ffenestr ffrensh. |
| (1, 0) 8 | ~ |
| (1, 0) 9 | Ychydig o ddodrefn sydd yn yr ystafell fel y gweddai i "drawing room" fodern. |
| (1, 0) 10 | Y mae "'settee" ar y chwith rhwng y ffenestr ffrensh a'r drws ac y mae desg fechan neu "bureau" ar y dde. |
| (1, 0) 11 | Yma a thraw ceir tua phedair o gadeiriau ac y mae un gadair freichiau, partner y "'settee," ar y dde i'r ffenestr. |
| (1, 0) 12 | Yn y canol y mae "pouf" a symudir o le i le fel y bo'i angen. |
| (1, 0) 13 | ~ |
| (1, 0) 14 | Pan gyfyd y llen gwelir rhan o WALTER, dyn tua 55 oed, yn cysgu ar y "'settee," a'i draed |
| (1, 0) 15 | (heb esgidiau amdanynt) ar y "pouf". |
| (1, 0) 16 | Mae'r rhan anweledig, y rhan uchaf, o dan bapur newydd. |
| (1, 0) 17 | Gwelir hwnnw yn codi ac yn disgyn ychydig fel yr anadla. |
| (1, 0) 18 | ~ |
| (1, 0) 19 | Daw GEINOR i mewn drwy'r drws,─merch ifanc, tua'r ugain oed, yn llawn bywyd. |
| (1, 0) 20 | Edrych o gwmpas am eiliad neu ddwy ac yna â ymlaen yn ddistaw a chogleisio un o draed WALTER. |
| (1, 0) 21 | Nid yw ef yn dihuno ond rhwbia wadn y droed honno yn erbyn cefn y llall ac ymdawela eilwaith. |
| (1, 0) 22 | Gwna GEINOR yr un peth eto a'r tro hn gwelir cyffro dan y papur a daw ei wyneb i'r amlwg. |
| (Walter) O'r andras! | |
| (Walter) {Yn dal y tintac i fyny.} | |
| (1, 0) 123 | Daw MRS. MORGAN i mewn yn sydyn drwy'r drws. |
| (1, 0) 124 | Benyw ganol oed wedi cadw'n dda ac yn gwisgo'n dda yw hi. |
| (1, 0) 125 | Sieryd yn ddistaw ond gan ddisgwyl gwrandawiad ac wedi hen arfer â chael ufudd-dod.} |
| (1, 0) 126 | MRS. |
| (Mrs. Morgan) Walter! | |
| (Mrs. Morgan) Rydw i am siarad â'th ewyrth, ond paid â mynd ymhell. | |
| (1, 0) 152 | Â Ganon drwy'r ffenestr ffrensh. |
| (1, 0) 153 | Eistedd WALTER ar y dde gan baratoi i wisgo'i esgid. |
| (Mrs. Morgan) Walter, a fuoch chi yn Nhre-cyll, neithiwr? | |
| (Mrs. Morgan) Walter, a fuoch chi yn Nhre-cyll, neithiwr? | |
| (1, 0) 155 | Syrth yr esgid i'r llawr o'i ddwylo. |
| (1, 0) 156 | Caiff ei syfrdanu. |
| (1, 0) 157 | Metha ddweud dim am ennyd, ond daw rhyw sŵn o'i wddf. |
| (Walter) Fi! | |
| (Walter) Gofyn iddi─dyma hi'n dod. | |
| (1, 0) 326 | Daw MRS. MORGAN î mewn a MISS JANE OLIVER a MR. DEMETRIUS JONES yn eî dilyn. |
| (1, 0) 327 | Mae JANE yn hollol wahanol w chwaer o ran corff ac ysbryd. |
| (1, 0) 328 | Corff hytrach yn eiddil sydd ganddi ond y mae ei hwyneb wedi cadw yn syndod o ifanc. |
| (1, 0) 329 | Digon hawdd deall paham y mae GEINOR yn hoff ohoni. |
| (1, 0) 330 | Dyn tua hanner cant oed yw DEMETRIUS JONES. |
| (1, 0) 331 | Mae yn arbennig o ofalus yng nghylch ei wisg a'i osgo.] |
| (Mrs. Morgan) {Wrth ddod î mewn.} | |
| (Mrs. Morgan) Rwy'n falch nad aethoch chi cyn iddo ddod, Mr. Jones. | |
| (1, 0) 371 | Daw CARNOLYN R. REES i mewn drwy'r ffenestr ffrensh. |
| (1, 0) 372 | Dyn tua hanner cant oed ydyw wedi gwisgo fel Americanwr. |
| (1, 0) 373 | Hynodion ei olwg a'i wisg ydynt─dant aur, spectol gorn fawr, esgidiau swêd, het Panama, a dillad goleuach eu lliw na'r rhai a welir yn gyffredinol yng Nghymru. |
| (1, 0) 374 | Y mae'n siarad Gymraeg llithrig, eithr gyda rhyw gymaint o acen a goslef yr Americanwr. |
| (1, 0) 375 | Y mae morthwyl y "'geologist" yn ei law.} |