| (1, 0) 1 | ADEG: Y presennol, prynhawnddydd haf. |
| (1, 0) 2 | ~ |
| (1, 0) 3 | LLE: Siop y Barbwr yn Llawybryn. |
| (1, 0) 4 | ~ |
| (1, 0) 5 | Y mae ISAAC LEWIS, y barbwr, yn cyweirio glawlen ac mewn tipyn o helbul gyda'r gorchwyl. |
| (1, 0) 6 | Gŵr tua thrigain oed ydyw ISAAC, cymharol dal, teneu, yn magu dwy locsen gochlyd, ei wallt yn britho ac yn tueddu i ddiflannu yng nghwmpas ei gorun. |
| (1, 0) 7 | ~ |
| (1, 0) 8 | Saif y siop ar sgwâr y pentre, a thrwy ei ffenestr lydan, gwelir esgyn-faen neu garregfarch. |
| (1, 0) 9 | Dyma areithfa gwleidyddwyr y pentref ers oesau, os nad eu pulpud hefyd. |
| (1, 0) 10 | Yn wir, honnri gan rai i Hywel Harris, ac hyd yn oed Whitefield bregethu oddiarni yng nghyffroad mawr y ddeunawfed ganrif, er nad oes sicrwydd diymwad o hynwy. |
| (1, 0) 11 | ~ |
| (1, 0) 12 | Parthed yr ystafell; cadair eillio yn agos i'r ffenestr, ac offer arferol barbwr ar fwrdd gerllaw; meinciau oddiamgylch, ac addurnir y muriau â gwahanol almanaciau, hysbysebau ynglŷn â ffeiriau, bwydydd a meddyginiaethau gwartheg, defaid, moch a cheffylau. |
| (1, 0) 13 | Drws y siop yn y cefn ar y dde, ac un arall yn arwain i gorff y tŷ. |
| (1, 0) 14 | ~ |
| (1, 0) 15 | Yn union, ymddengys NATHANIEL MORGAN o'r tu allan. |
| (1, 0) 16 | Cymro byr, gwydn, a chryn led yn ei ysgwyddau ydyw NATHANIEL, tua hanner camt oed; ei ymadrodd yn gyflym, a'i symudiadau, fel rheol, ym chwim. |
| (1, 0) 17 | Eithr cerdd yn awr braidd ym llesg, a golwg ofidus ar ei wynepryd. |
| (Isaac) A shwt ych-chi heddy, Nathanial? | |
| (Isaac) O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro. | |
| (1, 0) 79 | NATHANIEL yn gollwng ei adenydd elo. |
| (Nathaniel) Ffolinab o'r mwya ôdd i chi f'enwi i ar gyfar lecshwn, Isaac. | |
| (Isaac) Dewch miwn. | |
| (1, 0) 105 | Y FICER yn dod i mewn, a rhôl hir o bapurau dan ei gesail. |
| (1, 0) 106 | Cardi cadarn iua'r canol oed ydyw'r FICER. |
| (1, 0) 107 | Cenfydd NATHANIEL. |
| (Ficer) A─, shwd ych-chi heddy, Mr. Morgan? | |
| (Ficer) O─enw pwy? | |
| (1, 0) 134 | Ysguba ISAAC ei fraich yn fawreddog i gyfeiriad NATHANIEL, yr hwn sydd wedi bod yn ddigon call i beidio lluddias dim ar waith da yr eilliwr drwy yngan gair. |
| (Isaac) Nathanial Morgan, |Esq|. | |
| (Isaac a Nathaniel) Pnawn da. | |
| (1, 0) 197 | Erys ISAAC a NATHANIEL yn llowydd am dipyn. |
| (1, 0) 198 | Saif ISAAC ar ganol y llawr, gan ledu es goesau yn falch a meistrolgar, a'i fodiau dan ey geseiliau. |
| (Isaac) {Yn rhodresgar.} | |
| (Nathaniel) Fe arhoswn nes bo ni'n gweld beth yw teimlad gwŷr yr Eclws: os byddan-nhw'n depyg o ochri gita ni, wel, fe gewn weld. | |
| (1, 0) 255 | Dychwel ISAAC, ac yn union daw TOMOS JONES, RHYS PRITCHARD, a DAFYDD PETERS i mewn. |
| (1, 0) 256 | Ar ol cyfarch gwell, eisieddant ar y meinciau. |
| (1, 0) 257 | Gŵr tal, henaidd, sobr ei wedd ydyw PRITCHARD. |
| (1, 0) 258 | Y mae PETERS yn iau,─tua deugain oed─yn fwy trwsiadus a bywiog. |
| (1, 0) 259 | TOMOS JONES yn dew, ychydig yn hŷn na PHETERS; ac yn afler a diog ei olwg.) |
| (Nathaniel) Wel, ma'r un man i ni ddechra; 'dos 'na ddim amsar i golli. | |
| (Nathaniel) O ia, fuas-i bron ag anghofio: fe geso-i lythyr y bora 'ma odd'wrth Riannon, yn gofyn i fi bito argraffu'r |address| cyn y delsa hi sha thre, a fe fydd yma fory. | |
| (1, 0) 341 | Ymddengys ISAAC yn anfodlon. |
| (Tomos) Fe fydd Miss Morgan yn help mawr i ni. | |
| (Isaac) Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod. | |
| (1, 0) 379 | Tua'r fan yma, neu yn gynt os mynnir, gellir caniatâu i Isaac i ddechreu shafo Nathaniel. |
| (1, 0) 380 | Os cedwir y gorchwyl o fewn terfynau rhesymol, gall fod yn achlysur llawer o ddifyrrwch diniwed. |
| (Nathaniel) Dim byth! | |
| (Nathaniel) 'Rwy wedi sharso Riannon─ | |
| (1, 0) 383 | Ymddengys merch ieuanc tua 22 oed wrth ddrws y siop. |
| (1, 0) 384 | Cofier mai dynes ieuanc ydyw RHIANNON, yn credu'n ffyddiog 'y gellid gwella ac aildrefnu'r byd yn rhwydd mewn rhyw wythnos neu lai. |
| (Rhiannon) A beth 'nâth Riannon druan nawr? | |
| (Isaac) Rwy'n ymddiswyddo! | |
| (1, 0) 442 | Clywir llais dwfn yn gofyn y tu allan, "Otych-chi wedi hoci y rasar, Isaac?" |
| (Isaac) Otw, Mr. Bifan, dewch miwn. | |
| (Isaac) Otw, Mr. Bifan, dewch miwn. | |
| (1, 0) 444 | Ymddengys SIENCYN BIFAN, gŵr tal, corffol, hanner cant, llewyrchus a neilltuol o iach yr olwg. |
| (1, 0) 445 | Gwelir ei fod yn dalp o hynawsedd a rhadlonrwydd pan y cerdd i mewn yn hamddenol â'i ddwylo yn llogelli ei lodrau. |
| (1, 0) 446 | Saif yn syn pan wêl y cwmpeini. |
| (Siencyn) Wel, wel {yn chwerthin yn iachus} dyma fi yng nghanol gwersyll y gelyn. | |
| (Siencyn) Shwt ych-chi, Nathanial? | |
| (1, 0) 450 | Dilynir SIENCYN gan eì fab, yr M.O.H., gŵr ieuanc tua 27. |
| (1, 0) 451 | Sylwer ei fod ef a RHIANNON yn llawen iawn o weld ei gilydd. |
| (1, 0) 452 | Ymgomiant yn fywiog, er drwy sisial, heb dynnu sylw y lleill. |
| (Nathaniel) {Yn sychlyd.} | |
| (Siencyn) Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi. | |
| (1, 0) 461 | Yn ystod y sgwrs ganlynol gyda SIENCYN mae NATHANIEL yn para i neidio i fyny ac i lawr yn ei gadair.} |
| (Nathaniel) Dim gopath, iefa? | |
| (Siencyn) Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws. | |
| (1, 0) 525 | NATHANIEL a'i bwyllgor yn chwerthin. |
| (Nathaniel) Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld! | |
| (Siencyn) Am wn-i na chaf-fi nhw i gyd, wâth ych-chi wedi bod mor afresymol ynglŷn â'r Datgysylltiad a'r Dadwaddoliad. | |
| (1, 0) 528 | NATHANIEL a'i bwyllgor yn crechwenu a chwerthin. |
| (1, 0) 529 | Clywir sŵn cloch criwr y tu allan. |
| (1, 0) 530 | Pawb yn distewi ac yn talu sylw. |
| (Criwr) {Yn uchel.} | |
| (Siencyn) Fe fydd ych hanas chi'n destun drewllyd ar bob aelwyd yn y plwyf, a fe'ch cospir chi'n dragwyddol am fargan yr hen fuwch ddu! | |
| (1, 0) 541 | LLEN |