| (1, 0) 1 | Llwyfan. |
| (1, 0) 2 | Stafell fyw mewn tŷ cymharol fychan heb fod yn hynod o fodern gyda ffenest a drws, soffa, cadeiriau a pouffe. |
| (1, 0) 3 | O flaen y soffa mae bwrdd coffi ac arno lun. |
| (1, 0) 4 | Mae silffoedd gyda llyfrau a gemau bwrdd arnyn nhw tua'r cefn a theledu ar lawr. |
| (1, 0) 5 | Mae hi'n bwrw glaw yn drwm y tu allan. |
| (1, 0) 6 | ~ |
| (1, 0) 7 | Daw Lisa i fewn mewn du yn ceisio rhoi trefn arni'i hun. |
| (1, 0) 8 | O ddipyn i beth mae hi'n sylwi ar lun ar y bwrdd coffi ac yn ei godi, yn gwenu ac yna'n eistedd i edrych arno'n iawn. |
| (1, 0) 9 | ~ |
| (1, 0) 10 | SAIB HIR. |
| (1, 0) 11 | ~ |
| (1, 0) 12 | Daw'r teledu ymlaen. |
| (1, 0) 13 | Arni mae hi'n noson tân gwyllt, gwelwn goelcerth, sparklers, sosejys rhad ymysg pobol yn cael hwyl ac yn y blaen. |
| (1, 0) 14 | Mae popeth wedi ei ffilmio o berspectif unigol ac yn edrych fel fideo wedi ei dynnu ar ffôn rhywun. |
| (1, 0) 15 | ~ |
| (1, 0) 16 | Cnoc ysgafn ar y drws. |
| (1, 0) 17 | Lisa'n stwffio'r llun rhwng y glustog a'r fraich ac yn codi. |
| (1, 0) 18 | Aiff at y ffenest. |
| (Lisa) Ia? | |
| (Lisa) Ia? | |
| (1, 0) 20 | Daw Aaron i fewn, yntau mewn du a chau'r drws ar ei ôl. |
| (Aaron) Hei. | |
| (Lisa) Hei. | |
| (1, 0) 23 | SAIB HIR |
| (Aaron) Ges di'r blaen ar y gweddill ohona ni braidd. | |
| (Aaron) Ddim digon o oria mewn wsos. | |
| (1, 0) 36 | SAIB |
| (Lisa) Ddois di fyny'n iawn? | |
| (Aaron) Do, do, fawr ddim traffig, lori tua Ganllwyd ond o'n i 'di dechra'n ddigon buan. | |
| (1, 0) 39 | SAIB |
| (Aaron) Sa ti 'di sôn swni 'di cynnig lifft. | |
| (Lisa) Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di. | |
| (1, 0) 42 | SAIB |
| (Aaron) Ddoth na griw da do. | |
| (Lisa) Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng. | |
| (1, 0) 49 | SAIB |
| (Aaron) Siŵr fod o'n gysur, i'r teulu lly, i weld cymaint. | |
| (Lisa) Wn i. | |
| (1, 0) 54 | SAIB HIR |
| (Aaron) Biti am y tywydd. | |
| (Lisa) Ia. | |
| (1, 0) 57 | SAIB. |
| (1, 0) 58 | ~ |
| (1, 0) 59 | Daw Arwel drwy'r drws yn diferu, nid yw'n sylwi ar y ddau arall. |
| (Arwel) Ffyc mi am dywydd. | |
| (Arwel) Fyddai'm yn cysgu efo fo, sa hynny'n od basa, ond mae o gen i o hyd. | |
| (1, 0) 81 | SAIB |
| (Arwel) Mewn cwpwrdd lly, sentimental de, gin pawb gwpwrdd felly does. | |
| (Arwel) Da 'di letrig ffeiar. | |
| (1, 0) 101 | Cnoc ar y drws. |
| (1, 0) 102 | Daw Megan a Ywain i mewn. |
| (Arwel) Yws. | |
| (Arwel) Yws. | |
| (1, 0) 104 | Y ddau yn cofleidio. |
| (Arwel) Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla... | |
| (Arwel) A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij. | |
| (1, 0) 124 | Pawb yn oedi. |
| (Aaron) O, wel, dwnim. | |
| (Ywain) Un sesh eto de. | |
| (1, 0) 151 | SAIB |
| (Aaron) Fedra i aros hefyd, masiwr, am sbel. | |
| (Aaron) Fydd rhaid mi ffonio i sôn. | |
| (1, 0) 155 | Megan yn tecstio. |
| (Megan) Dwi'm am yfed ond mi wna'i aros am chydig. | |
| (Aaron) Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio. | |
| (1, 0) 162 | Aaron yn gadael, aiff Arwel ar ei ôl o tra bod Ywain yn closio at y tân trydan. |
| (Megan) Brifysgol? | |
| (Ywain) Cefndar, a nabod o eniwe lly, odda ni'n yr un criw yn r'ysgol hefyd, ond adewish i yn sicstîn, nath o ddal ati. | |
| (1, 0) 173 | SAIB FER |
| (Ywain) O'dd 'i fam o mor falch pan a'th o i coleg, cynta o'r teulu. | |
| (Megan) O, god, y, rhyw fardd dwi'n meddwl. | |
| (1, 0) 182 | Daw Arwel yn ôl gyda gwydrau a chwpanau o bob siâp a maint. |
| (Arwel) Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic. | |
| (Arwel) A chitha fyd. | |
| (1, 0) 185 | Arwel yn tollti iddo'i hun. |
| (1, 0) 186 | Ywain yn estyn am y botel, yna'n ei chynnig i Lisa. |
| (Ywain) Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc? | |
| (Megan) A na, dwi'n iawn. | |
| (1, 0) 199 | SAIB |
| (Arwel) Think, don't drink and drive. | |
| (Lisa) Posh/ | |
| (1, 0) 206 | Daw Aaron i mewn. |
| (Aaron) /Sori, oddi'n anodd ca'l signal hyd yn oed ar ben y bont. | |
| (Arwel) Da iawn, reit. | |
| (1, 0) 211 | Pawb sydd efo gwydr yn ei godi. |
| (Ywain) Be dduda ni? | |
| (Pawb) Er cof. | |
| (1, 0) 215 | SAIB |
| (Lisa) Be nawn ni wan? | |
| (Lisa) Be nawn ni wan? | |
| (1, 0) 217 | Amser yn pasio, y golau'n pylu am ennyd. |
| (1, 0) 218 | Erbyn hyn mae pawb yn eistedd ac mae hi wedi tywyllu ychydig. |
| (1, 0) 219 | Pawb sydd wedi bod yn yfed wedi dechrau meddwi. |
| (Ywain) O'dd o'n wahanol doedd. | |
| (Ywain) Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam. | |
| (1, 0) 233 | SAIB FER. |
| (Lisa) Doni'm yn weld o'n od fatha chi. | |
| (Arwel) Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di. | |
| (1, 0) 241 | SAIB |
| (Ywain) O'dd o bach yn od. | |
| (Arwel) Cradur. | |
| (1, 0) 248 | SAIB FER |
| (Aaron) Doni'm yn gwbod fod o/ | |
| (Arwel) Ia, wel. | |
| (1, 0) 252 | SAIB |
| (Lisa) Sut... | |
| (Lisa) Sut nath o? | |
| (1, 0) 255 | SAIB |
| (Lisa) Sut ddigwyddodd o? | |
| (Lisa) Sut ddigwyddodd o? | |
| (1, 0) 257 | SAIB |
| (Ywain) Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na. | |
| (Lisa) Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw? | |
| (1, 0) 260 | SAIB HIR |
| (Lisa) Sori. | |
| (Arwel) Megan? | |
| (1, 0) 267 | Megan yn oedi ac yna'n nodio. |
| (Arwel) Reit, wel. | |
| (Arwel) Crogi nath o. | |
| (1, 0) 272 | SAIB HIR |
| (1, 0) 273 | ~ |
| (1, 0) 274 | Wrth i Arwel siarad bydd y teledu yn chwarae fideo arall. |
| (1, 0) 275 | Yn dechrau gyda rhywun yn cerdded mynydd ar ôl rhywun arall. |
| (1, 0) 276 | Yna'n newid i ffôn yn canu. |
| (Aaron) Shit. | |
| (Arwel) Oni'n gwbod be o'dd. | |
| (1, 0) 284 | SAIB FER. |
| (1, 0) 285 | ~ |
| (1, 0) 286 | Y fideo yn troi i recordiad o bersbectif rhywun yn rhedeg, popeth yn aneglur, gwelir y llawr yn fwy na dim. |
| (Arwel) Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi. | |
| (Arwel) Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi. | |
| (1, 0) 288 | SAIB |
| (Lisa) Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio. | |
| (Ywain) Tŷ gwair o'dd o medda chdi. | |
| (1, 0) 293 | Tŷ gwair ar y teledu, y llun yn simsanu. |
| (1, 0) 294 | Torri eto i'r rhedeg. |
| (1, 0) 295 | Yna i saethiadau o fwced ar ei hochr o wahanol onglau. |
| (Arwel) Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly. | |
| (Arwel) Nes i dorri fo lawr a llacio'r rhaff a trio'r pethma, y CPR, ond dwi ond di weld o ar teledu ac oddi wynab o'n ddu ac o'dd o di chwdu a... | |
| (1, 0) 305 | Er bod Arwel wedi bod yn ceisio dal rhag crio mae o'n gwneud hynny. |
| (1, 0) 306 | Y fideo yn dangos dwylo a golau glas ambiwlans yn golchi drostyn nhw. |
| (1, 0) 307 | Pawb arall yn eistedd mewn tawelwch. |
| (Arwel) Ddoth 'na ambiwlans, dwni'm pwy o'dd 'di gofyn am dani os na fi ta... a mi drio nhw ond o'dd o'n oer. | |
| (Arwel) O'dd o'n ffycin oer. | |
| (1, 0) 310 | Y fideo yn dangos cysgod corff yn crogi. |
| (1, 0) 311 | Amser yn pasio. |
| (Megan) Doni'm yn gwbod fod o. | |
| (Ywain) Na fina chwaith rili. | |
| (1, 0) 314 | SAIB |
| (Arwel) Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic. | |
| (Ywain) Ia ond, nes i 'rioed... | |
| (1, 0) 320 | SAIB |
| (Lisa) Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo... | |
| (Lisa) Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo... | |
| (1, 0) 322 | SAIB |
| (Aaron) Be ddudodd o? | |
| (Aaron) Be ddudodd o? | |
| (1, 0) 324 | SAIB |
| (Lisa) Dwnim, ddim byd mawr... jesd holi sut o'dd petha'n mynd. | |
| (Arwel) Mai'n anodd iawn peidio. | |
| (1, 0) 333 | SAIB |
| (Megan) Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf? | |
| (Ywain) Yr OmniSaver ma'n feddwl. | |
| (1, 0) 343 | Lisa'n chwerthin. |
| (Arwel) Be? | |
| (Arwel) Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw. | |
| (1, 0) 348 | Lisa'n chwerthin eto. |
| (Arwel) A ma'n bwysig cadw'r petha ma. | |
| (Ywain) 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar. | |
| (1, 0) 361 | Lisa'n chwerthin eto. |
| (Arwel) O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... / | |
| (Arwel) Ma'n ddigon agos. | |
| (1, 0) 386 | Pawb heblaw am Ywain yn dechrau chwerthin. |
| (Ywain) Nacdi! | |
| (Ywain) Achos na ffycin pacis 'dy nhw! | |
| (1, 0) 393 | SAIB HIR |
| (Lisa) Be? | |
| (Ywain) /Dwi'n mynd am ffag. | |
| (1, 0) 411 | Ywain yn gadael. |
| (1, 0) 412 | ~ |
| (1, 0) 413 | SAIB. |
| (Arwel) A'i ar ei ôl o. | |
| (Arwel) A'i ar ei ôl o. | |
| (1, 0) 415 | Arwel yn gadael. |
| (Aaron) Waw. | |
| (Megan) Eniwe dwi am fynd i siop Jini Bach Penclawdd ne be bynnag 'di enw hi. | |
| (1, 0) 434 | Megan yn gadael. |
| (Lisa) Sa well taswn i heb aros. | |
| (Aaron) Sa'n shit tasa ni heb, ac ydi'r ni a nhw ma'n helpu? | |
| (1, 0) 437 | SAIB FER |
| (Aaron) Dwi'n gwbod na fi a nhw di dy default di. | |
| (Aaron) Jesd yma o ran parch ma pawb, yn ffyicn hics a nazis a be bynnag da ni. | |
| (1, 0) 441 | SAIB HIR |
| (Lisa) Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu. | |
| (Aaron) Mi fasa... | |
| (1, 0) 453 | SAIB |
| (Aaron) Dio'm 'di hitio fi sti. | |
| (Lisa) Dyna nath y drwg. | |
| (1, 0) 460 | SAIB |
| (Aaron) Nes i 'rioed feddwl lot am lle gath o'i fagu, dodd o'm yn trafod y lle. | |
| (Aaron) Ia, sa hynna'n braf basa deud gwir. | |
| (1, 0) 467 | Daw Megan i mewn gyda potel win coch yn ei llaw. |
| (Megan) Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn. | |
| (Megan) Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn. | |
| (1, 0) 469 | Daw Arwel ac Ywain i mewn. |
| (Arwel) Ma' gin Ywain wbath i ddeud. | |
| (Ywain) Es i i hwylia a ma'i 'di bod yn gont o wsos. | |
| (1, 0) 473 | SAIB FER |
| (Aaron) Ma'i 'di bod yn wsos anodd. | |
| (Aaron) Ma'i 'di bod yn wsos anodd. | |
| (1, 0) 475 | SAIB |
| (Lisa) Do. | |
| (Aaron) Ma'n naturiol siŵr. | |
| (1, 0) 480 | Ywain yn yfed mwy o'r wisgi. |
| (Arwel) Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn. | |
| (Arwel) Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn. | |
| (1, 0) 482 | (Y teledu'n tanio eto, plant yn chwarae arni, pêl droed, dringo coed ac yn y blaen ac yna'n codi argae cerrig mewn afon. |
| (1, 0) 483 | Siot o'r dŵr yn llifo a haul arno, beics yn mynd ar iard. |
| (Ywain) Na, dio ddim yn iawn. | |
| (Ywain) Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i... | |
| (1, 0) 493 | SAIB |
| (Arwel) Yws/ | |
| (Ywain) /Dwi'm 'di gorffan eto. | |
| (1, 0) 496 | Y fideo'n newid─nosweithiau allan, cwrw, strydoedd gwlyb o dan olau lampau, cebabs ar bafin. |
| (Ywain) O'n i'n disgwl y basa petha'n newid chydig wrth i fi adal ysgol ond odda ni'n dal i fynd i dai'n gilydd a wedyn mynd allan a ballu ac yn ca'l laff. | |
| (Lisa) 'Di hynna'm yn deg. | |
| (1, 0) 510 | Y fideo'n dangos rhywun yn pwyso ar giât mewn glaw yn edrych ar gaeau. |
| (Ywain) Dwni'm, ond da chi di ca'l ych pregethu do. | |
| (Ywain) Ond sti be, ma'r cerrig na'n yr afon ers dros ddeg mlynadd a chydig ar y diawl o ddŵr ma nhw'n sdopio rhag mynd i'r môr. | |
| (1, 0) 522 | Dŵr yr afon eto ar y sgrin. |
| (Megan) Owain. | |
| (Ywain) Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg. | |
| (1, 0) 527 | Ywain yn crio. |
| (1, 0) 528 | Arwel yn gafael am danno. |
| (1, 0) 529 | Pawb yn troi at ei diodydd, Megan yn agor y botel win ac yn yfed. |
| (1, 0) 530 | O ddipyn i beth daw Ywain ato'i hun. |
| (Ywain) Sori bois. | |
| (Arwel) Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach? | |
| (1, 0) 534 | Lisa yn edrych ar y silffoedd. |
| (Lisa) Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath? | |
| (Megan) Hangman? | |
| (1, 0) 540 | SAIB |
| (Ywain) Ffycin hel. | |
| (Megan) Shit, sori nes i'm meddwl, oni, ffyc. | |
| (1, 0) 543 | SAIB |
| (Lisa) Snakes and ladders. | |
| (Lisa) Dria ni. | |
| (1, 0) 550 | Lisa'n gosod y gêm, pawb yn eistedd o'i chwmpas hi ac yn dechrau chwarae. |
| (Lisa) Fydda'n gas ganddo fo fonopoli bydda. | |
| (Megan) Fydda ni'n siarad dipyn am betha fel'na, rhaglenni felly lly. | |
| (1, 0) 564 | SAIB |
| (Aaron) Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd. | |
| (Aaron) Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd. | |
| (1, 0) 566 | SAIB |
| (Lisa) Shit, neidar eto. | |
| (Ywain) Fatha' rhan fwya o betha. | |
| (1, 0) 571 | Pawb yn chwarae mewn tawelwch. |
| (Megan) Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio. | |
| (Arwel) Fel'na ma'i gneud hi! | |
| (1, 0) 574 | Amser yn mynd heibio. |
| (1, 0) 575 | Bellach mae'r gêm bron wedi'i hanghofio, pawb wedi meddwi. |
| (Ywain) Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o. | |
| (Ywain) So ma' 'na lond gwlad o Ryshans yn y gofod 'na, 'di marw, ne 'di ca'l 'u lladd wrth landio a dosna'm sôn o gwbwl am danyn nhw. | |
| (1, 0) 610 | SAIB |
| (Aaron) Fedrai goelio hynna deud gwir. | |
| (Ywain) Mae o'n fwy rich. | |
| (1, 0) 623 | Pawb yn chwerthin. |
| (Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo. | |
| (Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo. | |
| (1, 0) 625 | SAIB |
| (Ywain) Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd. | |
| (Aaron) Wel, di hynny'm yn/ | |
| (1, 0) 633 | Mae'r teledu yn fflachio'n mlaen am eiliad, ac yn dangos llafn rasel. |
| (Lisa) /mi driodd o o'r blaen. | |
| (Aaron) Doni'm yn gwbod. | |
| (1, 0) 639 | Ar y teledu bydd golygfeydd o fywyd coleg yn chwarae. |
| (Lisa) O'dd o cyn i chdi ddod ar y sin. | |
| (Lisa) Un peth fedra ni gytuno arno fo. | |
| (1, 0) 657 | SAIB |
| (1, 0) 658 | ~ |
| (1, 0) 659 | Teledu'n dangos y rasel eto, yna dŵr yn rhedeg mewn sinc a gwaed ynddo fo. |
| (1, 0) 660 | Mae'r golau'n pylu a golau goch y tân trydan yn llenwi'r stafell. |
| (Lisa) Ond fuodd na bwl lle o'dd o'n hyd'n oed gwaeth... a... | |
| (Lisa) Ma' toriada bach yn gwaedu lot. | |
| (1, 0) 683 | SAIB FER |
| (Lisa) Doni'm yn gwbod be'i neud. | |
| (Lisa) Ond di helpu ddim yn ddigon nacdi, weithia. | |
| (1, 0) 693 | SAIB HIR |
| (Lisa) Faint o gloch di? | |
| (Arwel) Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc. | |
| (1, 0) 697 | Lisa'n gadael. |
| (1, 0) 698 | Mae Megan wedi cysgu ac Ywain wedi dechrau pen-dwmpian. |
| (Arwel) Deud hanas wrtha fi am dano fo. | |
| (Aaron) Odd hynny'n reit ffyni mewn ffordd. | |
| (1, 0) 704 | SAIB |
| (Arwel) Sut odda chdi'n nabod o ta? | |
| (Arwel) Dwi di anghofio'n mhoint wan. | |
| (1, 0) 748 | SAIB FER |
| (Arwel) O nace, y point o'dd, bod y boi ma 'di arfar ei hun gymaint nes fod o 'di mynd yn ormod o fo'i hun, tha sa fo'n jam 'di berwi gormod lly. | |
| (Arwel) Dwi'm isio bod fel'na sti. | |
| (1, 0) 751 | SAIB FER |
| (Arwel) Ond da ni'n hapus, ma hi'n gneud y peth athrawon 'ma wan. | |
| (Arwel) Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy. | |
| (1, 0) 758 | SAIB |
| (Arwel) Sori, dwi'n gwbod bo ni'n deud rhyw betha sydd ddim yn iawn. | |
| (Arwel) A dwi'n gwbod fod o'n nob sy'n deud petha gwirion ond mae o'n foi iawn hefyd a ma posib bod y ddau beth. | |
| (1, 0) 789 | SAIB |
| (Arwel) Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu. | |
| (Aaron) Ffyc it. | |
| (1, 0) 793 | SAIB FER |
| (Aaron) Pam fod o 'di goro gneud hynna Arwel? | |
| (Arwel) Dwi'n meddwl hynna lot fy hun. | |
| (1, 0) 797 | Daw Lisa'n ôl. |
| (Lisa) Bob dim yn iawn 'ma? | |
| (Aaron) Ydi. | |
| (1, 0) 801 | Arwel yn estyn ei got ac yn ei defnyddio fel blanced. |
| (1, 0) 802 | Lisa'n yfed ac yn swatio. |
| (1, 0) 803 | Pawb yn cysgu heblaw am Aaron sy'n pendwmpian. |
| (1, 0) 804 | ~ |
| (1, 0) 805 | Y golau'n isel. |
| (1, 0) 806 | Y teledu'n cynnau eto, llun annelwig o wely arni, yna o fwrdd mewn fflat gyda thiwlips arno fo, rhywun yn gosod plât gyda tost arni ar y bwrdd. |
| (1, 0) 807 | Aaron yn dod ato'i hun yn sydyn ac yn dod o hyd i'r llun wrth balfalu o'i gwmpas. |
| (Aaron) Shit. | |
| (Aaron) Wel dwi yn, a mi o'n i cynt, a wedyn do'n i ddim, a dyna sy'n normal, dyna sut ma' pobol fod. | |
| (1, 0) 814 | Ffilm o ffrae ar y teledu, drysau'n cau'n sydyn, rywun yn cerdded yn gyflym oddi wrth person arall yn Ikea. |
| (Aaron) Os na rhywun heblaw fi yn y stafall 'ma yn gwbod sut odda chdi go iawn? | |
| (Aaron) Dwi'n gwbod na fi o'dd yn wan masiwr. | |
| (1, 0) 822 | Mae'r drysau'n agor. |
| (1, 0) 823 | Ffôn yn canu mewn gwahanol sefyllfaoedd. |
| (Aaron) Dwi'm yn gwbod pam nes i'm atab. | |
| (Aaron) Ond dwi'n dy ffycin fethu di fyd. | |
| (1, 0) 839 | Dau yn eistedd wrth y bwrdd hefo'r tost. |
| (1, 0) 840 | Mae Megan yn deffro. |
| (Megan) Pwy sy na? | |
| (Aaron) Falla bo hi'n haws siarad efo chdi na neb ohonna ni, dwi'n gwbod fod o heb grybwyll fi wrth y Deliverance Twins yn fana felly ma gin ti hynna. | |
| (1, 0) 868 | SAIB |
| (Megan) Pam ni de? | |
| (Megan) Feddyliodd o am dana ni ti'n meddwl? | |
| (1, 0) 873 | Amser yn pasio. |
| (1, 0) 874 | Bellach mae hi'n fore ac mae pawb yn dioddef. |
| (1, 0) 875 | Ywain yn dal i gysgu, Arwel yn tacluso. |
| (Lisa) Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel? | |
| (Arwel) Dyma ni. | |
| (1, 0) 896 | Mae o'n ei agor o, a phawb yn sbio. |
| (1, 0) 897 | Mae pawb o flaen y soffa. |
| (Lisa) Ni 'di... | |
| (Aaron) Naddo... | |
| (1, 0) 902 | Mae pawb yn gadael fesul un yn araf deg. |
| (1, 0) 903 | Wedi i Arwel gau'r drws caiff y lluniau a'r fideos sydd wedi cael eu chwarae ar y teledu eu taflunio dros y llwyfan, gyda phob dim ar draws ei gilydd i gyd. |
| (1, 0) 904 | Y llun yn dirywio a dechrau neidio, yn aros ar y corff yn hongian a coeden lle fedrwch chi weld y môr yna'n diffodd. |
| (1, 0) 905 | ~ |
| (1, 0) 906 | Tywyllwch. |