| (Walter) O'r andras! | |
| (Geinor) A fydd Modryb Jane yn dod hefyd? | |
| (1, 0) 336 | Wel, yr wyf am i chwi ddod eich dwy. |
| (Geinor) A ydych chi am fynd, modryb? | |
| (Jane) Fe-hoffwn i fynd i'r Eisteddfod unwaith─chefais i ddim cyfle erioed o'r blaen. | |
| (1, 0) 339 | Diwrnod mawr y cadeirio yw dydd Iau; dyna paham yr wyf am fynd y diwrnod hwnnw. |
| (Mrs. Morgan) Fe fydd yn "education" i ti, Geinor, i weld cadeirio'r bardd. | |
| (Mrs. Morgan) Dylit fod yn ddiolchgar iawn am y cyfle. | |
| (1, 0) 342 | Dyna'r peth wedi setlo, ynte. |
| (1, 0) 343 | Rhaid i ni gychwyn yn weddol fore─tua naw yr oeddwn i'n ei feddwl. |
| (1, 0) 344 | Byddwn ychydig yn dynn yn y car bach yn dri, ond rhaid i ni wneud y gorau. |
| (Mrs. Morgan) O, rwy'n siŵr y bydd popeth yn iawn, Mr. Jones ac yr wyf yn gwybod eich bod yn ddreifer gofalus dros ben. | |
| (Mrs. Morgan) O, rwy'n siŵr y bydd popeth yn iawn, Mr. Jones ac yr wyf yn gwybod eich bod yn ddreifer gofalus dros ben. | |
| (1, 0) 346 | Wel, mae'n rhaid i mi beidio ag aros. |
| (1, 0) 347 | Rwyf ar hanner ysgrifennu cwpwl o benillion bach i'r "Hysbysydd." |
| (Mrs. Morgan) A oes yn rhaid i chi fynd? | |
| (Mrs. Morgan) Mae |yn| ddiddorol ei glywed yn siarad am ei fywyd yno ac y mae cymaint o "vitality" ynddo. | |
| (1, 0) 355 | Roeddwn wedi clywed ei fod yma, a hoffwn yn fawr iawn gwrdd ag ef. |
| (Mrs. Morgan) Fe all fod yn gaffaeliad mawr i'r pentre yma─dyn mor ariannog. | |
| (Geinor) Wrth ei glywed yn siarad gellwch feddwl ei fod yn adnabod gangsters Chicago i gyd. | |
| (1, 0) 361 | "Dear me," mae'n rhaid i mi ddod i'w adnabod. |
| (1, 0) 362 | Faint o amser mae e'n fwriadu aros yn yr ardal? |
| (Mrs. Morgan) Dydy e ddim yn siŵr. | |
| (Rees) Mae'n rhyfedd faint o wahaniaeth a wna pum mlynedd ar hugain. | |
| (1, 0) 390 | Rwyf innau yn falch iawn o'r cyfle i'ch cyfarfod chi. |
| (1, 0) 391 | Roeddwn wedi clywed sôn amdanoch ar hyd y pentre; fedr dyn sydd wedi gwneud ffortiwn yn America ddim bod yn anadnabyddus yn hir mewn lle bach fel hwn. |
| (Mrs. Morgan) Mae Mr. Jones, yn garedig iawn, yn rhoi llawer lifft i'r merched yma {cyfeiria at GEINOR a JANE] yn ei gar. | |
| (Rees) A oes yna ddim gorsedd neu ryw "syndicate" neu'i gilydd yn perthyn i'r Eisteddfod? | |
| (1, 0) 397 | Oes, siwr! |
| (1, 0) 398 | Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. |
| (1, 0) 399 | Rwy'n aelod ohoni. |
| (Rees) Dyma fy mhrynhawn lwcus i! | |
| (Rees) Faint mae'n gostio? | |
| (1, 0) 404 | Mae'n rhaid pasio arholiadau... |
| (Rees) Fe fu dyn o Chicago draw yma rai blynydde nôl ac fe'i gwnawd e'n aelod ac yr wyf yn siŵr na phasiodd e "exam" o unrhyw fath ond mewn gwybodaeth am sut i werthu "shares" di-werth. | |
| (Rees) Na, na, mae'n rhaid bod yna ryw ffordd heblaw pasio "exam." | |
| (1, 0) 409 | Mae rhai pobl yn cael eu hethol yn Aelodau. |
| (Rees) Dyna rywbeth nawr. | |
| (Rees) Wel, faint mae hynny'n gostio? | |
| (1, 0) 412 | Dydy e'n costio dim... |