| (Mrs Harris-Jones) {Yn gollwng ei gafael ar ysgwydd ei mab gyda hwrdd bach fel pe bai hi'n cychwyn olwyn i lawr y rhiw.} | |
| (Ifan) Adrodd y pennill eto. | |
| (1, 0) 92 | Ie, dere ngwas i. |
| (1, 0) 93 | Paid ti a digalonni. |
| (Mrs Harris-Jones) Digalonni! | |
| (1, 0) 112 | Nawr, nawr, Ifan, machgen i... |
| (Mrs Harris-Jones) Pe baech chi'n hanner dyn, mi fysech yn i droi e allan o'r ty am siarad fel yna a chi. | |
| (Mrs Harris-Jones) Pe baech chi'n hanner dyn, mi fysech yn i droi e allan o'r ty am siarad fel yna a chi. | |
| (1, 0) 114 | Wel... y... wel... ych mab chi yw e'n iawn, ynte? |
| (1, 0) 115 | Wrth gwrs, 'dwy ddim am ddangos amharch... |
| (Ifan) Ha! Ha! He! | |
| (Mrs Harris-Jones) Mae eisiau'ch help chi arna i. | |
| (1, 0) 128 | All right, Deborah, all right. |
| (Mrs Harris-Jones) Nawr Bertie, dewch i weud eich "pisyn" eto. | |
| (1, 0) 163 | Eistedd lawr, Ifan, eistedd lawr. |
| (1, 0) 164 | Mae gen i eisiau siarad a thi. |
| (1, 0) 165 | Ddaw hi ddim nol am spel. |
| (Ifan) {Yn gwenu'n drist.} | |
| (Ifan) Mae heisiau nhw'n dost. | |
| (1, 0) 169 | Rwyt ti'n poeni braidd gormod ar dy fam, Ifan. |
| (Ifan) {Yn llwytho'i bib yntau.} | |
| (Ifan) Dechreuad da. | |
| (1, 0) 172 | Rwyt ti'n poeni braidd mwy na sydd eisiau, Ifan. |
| (1, 0) 173 | Treia'r baco yma sy gen i... |
| (1, 0) 174 | Braidd mwy na sydd eisiau. |
| (1, 0) 175 | Wrth gwrs, rwy'n dy edmygu di am wneud hynny, mewn ffordd o siarad. |
| (1, 0) 176 | Mi fuasai'n dda iawn gen i fod yn berchen ar y gallu, ond dyna fe. |
| (1, 0) 177 | Ches i ddim o'r dalent. |
| (1, 0) 178 | Ond wedi'r cwbwl, dy fam di yw hi... |
| (Ifan) "That dear old mother of mine". | |
| (Ifan) Mi adawes i gartre pan own i'n un-ar-bymtheg oed, ac o ran Mam fuodd fawr o awydd arna i ddwad nol byth wedyn. | |
| (1, 0) 183 | Dy dad, Ifan? |
| (1, 0) 184 | Dy hen lys-dad! |
| (1, 0) 185 | Rwyt ti'n bartners a fi, ifan! |
| (1, 0) 186 | Paid ti ag anghofio hynny. |
| (Ifan) Ry'm ni'n i tharo hi'n go lew, mae'n rhaid dweud. | |
| (1, 0) 189 | Dy hen lys-dad, Ifan! |
| (1, 0) 190 | Paid ti ag anghofio dy hen lys-ddad! |
| (Ifan) {Yn hanner ei watwar.} | |
| (Ifan) Da ware, Napoleon l | |
| (1, 0) 194 | Rhyw greadur anfodddog wyt ti, Ifan. |
| (1, 0) 195 | Dyna beth rhyfedd yw'r natur ddynol. |
| (1, 0) 196 | Rwy'n meddwl llawer am y natur ddynol. |
| (1, 0) 197 | Dyna ti. |
| (1, 0) 198 | Mae genti ryw allu rhyfedd i droi pawb a phopeth oddeutu i ti yn dan gwyllt. |
| (1, 0) 199 | Dyna finne wedyn, weldi, yn i hela hi yn y blaen {yn dechreu "canu grwndi"} yn smo-co mhib, yn dawel fach, yn enjoyo... dim byth yn cynhyrfu neb... yn en-joyo... |
| (Ifan) Rwy wedi blino ar bethau, Nap. | |
| (Ifan) Pryd mae'r seremoni yma i ddigwydd, a be ma nhw'n mynd I wneud? | |
| (1, 0) 203 | Mi fyddant yn dadorchuddio'r cof-golofn i dy dad - coffa da am dano... am hanner awr wedí dau, a mi fydd te i'r plant... |
| (Ifan) Rwy'n gwybod hynny. | |
| (Ifan) Rwy wedi clywed hynny nawr rhyw gant o weithiau... | |
| (1, 0) 206 | Wel, ti ofynnodd, Ifan. |
| (Ifan) Pam na allan' nhw adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd? | |
| (Ifan) Pam na allan' nhw adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd? | |
| (1, 0) 208 | Fyddai hynny ddim yn deg a dyn mawr... i adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd. |
| (1, 0) 209 | 'Dyn nhw byth yn gneud hynny a dynion mawr. |
| (1, 0) 211 | Mi ga i orwedd yn dawel yn 'y medd, pan af i oddiyma... yn dewel fach. |
| (1, 0) 212 | 'Roedd dy dad yn ddyn mawr, Ifan. |
| (Ifan) {Yn chwerw.} | |
| (Ifan) Mae e'n ddywediad mor arswydus o wreiddiol! | |
| (1, 0) 217 | Wel, ti ofynnodd y cwestiwn, Ifan. |
| (Ifan) Ofynnes i ddim a oedd 'y nhad yn ddyn mawr. | |
| (Ifan) Fel pe na bai enaid na phersonoliaeth gennyf i fy hun, a fel pe gallwn i lusgo oes allan yn marchogaeth ar gysgod 'y nhad, | |
| (1, 0) 227 | Rhaid i ti beidio a chymryd pethe fel yna... |
| (Ifan) Wythnos ddwetha mi gwrdded ag un o'r |slugs| hyn. | |
| (Ifan) Roedd Mam yn gweld chwith wrth gwrs. | |
| (1, 0) 233 | Wel, mi ddwedaist lawer o wir wrtho... fel rwy i'n cofio dy dad, beth bynnag. |
| (1, 0) 234 | Ond 'dwy ddim yn deall pam rwyt ti'n cymryd pethe yn y wedd yna, Ifan. |
| (1, 0) 235 | Cofia di, dim pob teulu all godi monument yn y ty... |
| (Ifan) Dych chi ddim yn gweld ein bod ni i gyd yn byw mewn museum? | |
| (Ifan) Dych chi ddim yn gweld ein bod ni i gyd yn byw mewn museum? | |
| (1, 0) 237 | Museum? |
| (Ifan) le, museum. Dy' ni ddim ond ceidwaid mewn museum, a'r relics oddeutu ì ni er mwyn yr ymwelwyr. | |
| (Ifan) Y sofa lle gorweddai'r anfarwol Ifan Harris yw hi! | |
| (1, 0) 248 | Ie, wel, edrych di mor lwcus wyf fi fod dy dad yn ddyn mawr. |
| (1, 0) 249 | Dyna'r gadair a'r sofa fwyaf cysurus yn y wlad... |
| (Ifan) Ond nid chi pia' nhw. | |
| (Ifan) Dyna lle gorweddodd 'y Nhad... | |
| (1, 0) 254 | Paid nawr, wir, Ifan. |
| (1, 0) 255 | Rwyt ti'n ngneud i'n nervous... |
| (Ifan) Ond does dim eisiau mynd at y dodrefn. | |
| (Ifan) 'Dwy i ddim yn bod fy hun... | |
| (1, 0) 263 | O wyt, Ifan, wyt. |
| (1, 0) 264 | Rwyt ti'n bod, ac yn cadw tipyn o dwrw... |
| (Ifan) Wel, 'dych |chi| ddim beth bynnag. | |
| (Ifan) Wel, 'dych |chi| ddim beth bynnag. | |
| (1, 0) 266 | Wel, rown i dan yr argraff mod i... |
| (Ifan) Ydych chi'n cael eich adnabod fel "Mr Jones, Allt-wen"? | |
| (1, 0) 272 | Rwyt tî'n ymylu, Ifan, at fod yn llym. |
| (1, 0) 273 | Dipyn bach yn gas oedd beth ddwedest ti nawr. |
| (Ifan) Pwy gas? | |
| (1, 0) 278 | Ie, wel. |
| (1, 0) 279 | Mae rhyw wirionedd yn hynna. |
| (1, 0) 280 | 'Rwyt ti'n rhoi dy hun yn yr un cyflwr. |
| (1, 0) 281 | Mae hynny'n rhyw gysur. |
| (Ifan) Yr un cyflwr yn hollol! | |
| (Ifan) 'Doedd e ddim yn anfarwol, mae'n debyg. | |
| (1, 0) 287 | Wel, fyddai hynny ddim yn good for trade, weldi, i ddyn oedd yn gwneud coffine. |
| (Ifan) Napoleon! | |
| (1, 0) 292 | Wel Ifan, roedd dy dad... mae'n rhaid cyfaddef... yn ddyn mawr... |
| (1, 0) 293 | O'r goreu, o'r goreu, Ifan, 'does dim eisie i ti wylltu! |
| (Ifan) Ie, mlaen a chwì! | |
| (Ifan) Ie, mlaen a chwì! | |
| (1, 0) 295 | O leia, mae pawb yn dweud hynny ers rhyw ugain mlynedd mwy neu lai. |
| (Ifan) O ie, dyna beth arall oeddwn i am ofyn... | |
| (Ifan) Faint o'r bobol yma sy'n cadw'r holl swn yn awr oedd yn cydnabod mawredd 'y Nhad pan oedd e byw? | |
| (1, 0) 298 | Wel, rhaid i ti gofío fod llawer ohonyn nhw'n ifanc iawn bryd hynny. |
| (Ifan) Ond y teip, rwy'n feddwl. | |
| (1, 0) 304 | Pobol y marwnadau? |
| (1, 0) 305 | Beth wyt tí'n feddwl wrth hynna, nawr? |
| (Ifan) Wel, pobol o deip Gwilym Reynolds, sy'n dadorchuddio'r |bust| yma, a Walter Bevan, Llywydd Urdd y Dinasyddion bychain, a Rice Roberts, a Mrs Eurallt Morris, sy wedi gwasanaethu ar gymaint o bwyllgorau fel na phrynith hi ddim "pork chops" i ginio heb i'r mwyafrif o'r plant godi dwylo o blaid y peth. | |
| (Ifan) 'Rych chi'n gwybod pwy wy'n feddwl... boys y Pwyllgorau a hen wlad y menyg gwynion. | |
| (1, 0) 308 | Wel, os rwy'n dy ddeall di, 'roedd dy dad ddim yn rhyw wr mawr ìawn gyda'r teip yna. |
| (Ifan) A mam? Beth am mam? | |
| (1, 0) 311 | Wel, wrth gwrs... mor bell ag oedd y teulu yn y cwestiwn, do'wn i ddim mewn sefyllfa bryd hynny... |
| (Ifan) Y peth wyf fi am wybod yw... a oedd Mam yn ystyried 'y Nhad yn ddyn mawr pan oedd e yma? | |
| (Ifan) Y peth wyf fi am wybod yw... a oedd Mam yn ystyried 'y Nhad yn ddyn mawr pan oedd e yma? | |
| (1, 0) 313 | Ddim yn hollol, Ifan... neu, a bod yn onest... 'dwy ddim yn meddwl y buasai hi wedi mhriodi i. |
| (1, 0) 314 | Ifan, pe bai rhywun wedi dweud wrthw i pan oedd dy dad yn ein plith ni, y buaswn i'n ail wr i wraig Ifan Harrís mi fuaswn wedi dychrynu! |
| (Ifan) Pam? | |
| (Ifan) Oedd ofn 'y Nhad arnoch chi? | |
| (1, 0) 317 | O cofia di, roedd dy dad a finnau'n í tharo hi'n burion pan fyddai digwydd i ni gyfarfod. |
| (1, 0) 318 | Mi welais i e'n garedig iawn i fi, mae'n rhaid dweyd, ond dra bitsi! |
| (1, 0) 319 | 'Doedd e ddim dyn a fyse'n dy demtio di i fynd yn ail wr iddo ar fyr rybudd!... |
| (1, 0) 320 | Enaid aflonydd. |
| (1, 0) 321 | Enaid aflonydd! |
| (1, 0) 322 | Yn cynhyrfu pawb oddeutu iddo. |
| (1, 0) 323 | Fuodd dim dyn a mwy o elynion mewn un man ar y ddaear. |
| (Ifan) {Gyda diddordeb.} | |
| (Ifan) Naddo? | |
| (1, 0) 326 | Na ffrindie. |
| (1, 0) 327 | 'Roedd pob un yn elyn neu yn ffrind iddo. |
| (Ifan) Ond 'rych chi'n gadael y pwynt. | |
| (Ifan) Pryd dechreuodd Mam edrych arno fel dyn mawr? | |
| (1, 0) 330 | Wel, a bod yn onest... dim amharch cofia... does geni ddim cof i mi feddwl hynny'n hunan pan oedd e yma. |
| (1, 0) 331 | Dim fel byddi di'n meddwl am ddyn mawr. |
| (1, 0) 332 | Ifan Harris. |
| (1, 0) 333 | Wel, Ifan Harris oedd e. |
| (1, 0) 334 | Dim rhyw ffys felny yn i gylch e gyda neb. |
| (1, 0) 335 | A hefyd roedd e'n adnabyddus drwy Gymru gyfan. |
| (1, 0) 336 | Ond 'doedd neb ohono ni oedd yn i nabod e, allet ti weyd, yn son am dano fel dyn mawr. |
| (1, 0) 337 | 'Roedd e'n un ohono ni. |
| (1, 0) 338 | Ond diast, erbyn meddwl, roedd e'n wahanol i bob un arall rywsut! |
| (Ifan) Ym mha ffordd? | |
| (Ifan) Ym mha ffordd? | |
| (1, 0) 340 | Roedd dy dad... dim amharch, cofia! |
| (Ifan) {Yn ddiamynedd.} | |
| (Ifan) Mlaen a chi! | |
| (1, 0) 344 | 'Roedd dy dad yn ddyn... wel, ddweda i ddim i fod e'n ddyn cas. |
| (1, 0) 345 | Ond 'doedd e ddim yn ddyn oedd llawer o fobol yn ei hoffi. |
| (1, 0) 346 | Roedd gydag e ryw fforddd o gynhyrfu pobol. |
| (1, 0) 347 | Dyn disymwth, Ifan. |
| (1, 0) 348 | Roedd e'n hela'r lle'n wenfflam weithie. |
| (1, 0) 349 | O'r arswyd! |
| (1, 0) 350 | Roedd e'n ddyn ddychrynllyd pan cynhyrfe fe! |
| (1, 0) 353 | Pe bai dy dad yn gwneud tro caredig a thi mi gofiet hynny dy holl fywyd... |
| (1, 0) 355 | Ond rwy'n cofio pan ddechreuodd dy fam edrych arno fel dyn mawr. |
| (Ifan) {Gyda diddordeb.} | |
| (Ifan) Ydych chi? | |
| (1, 0) 358 | Ydw. |
| (1, 0) 359 | Wrth gwrs, 'roedd hynny flynyddau wedi iddo fynd i America i sefydlu'r wladwriaeth newydd hynny oedd e'n son cymaint am dano. |
| (1, 0) 360 | Ar y cynta, weldi, 'doedd gyda hi gynnig i'r peth. |
| (1, 0) 361 | 'Down i ddim wedi priodi pryd hynny. |
| (1, 0) 362 | Rwy'n cofio iddi ffyrnigo'n enbyd pan ddaeth rhyw damed allan mewn papur... rhywbeth ynghylch "Syniadau Ifan Harris ar Foesoldeb". |
| (1, 0) 364 | Wrth gwrs, paid a son gair wrth... mm... mm... mm |
| (Ifan) Fel y banc, Nap. | |
| (Ifan) Go on! | |
| (1, 0) 367 | O! |
| (1, 0) 368 | Ffyrnigo'n enbyd! |
| (1, 0) 369 | Ond o dipyn i beth, 'achan, wrth bod hwn a'r llall yn dwad i son am Ifan Harris, fod Ifan Harris yn ddyn mawr, a bod e o flaen i oes, a rhywbeth felny... wel, dwn i ddim,... fe ddechreuodd newid rywsut. |
| (1, 0) 370 | Down i ddim yn i deall hi'n iawn... |
| (Ifan) Rw i'n deall yn burion... | |
| (Ifan) Rhaid i bod hi'n fwy cysurus arnoch chi cyn i'r idea yma wawrio ar Mam. | |
| (1, 0) 373 | Wel Ifan, 'does gen i ddim lle i achwyn. |
| (1, 0) 374 | Roeddwn i'n gwybod o'r dechreu mai Number Two fyddwn i... ond... |
| (1, 0) 376 | Rhaid cyfaddef, mi es i'n dipyn bach mwy o Number Two nag own i wedi fargeinio am dano. |
| (Ifan) Wel, Mussolini! | |
| (Bertie) Well gen i. | |
| (1, 0) 410 | Man-a-man i ti wneud, Ifan. |
| (1, 0) 411 | Fe wyddost tí lawer mwy am adrodd na'i fam. |
| (Bertie) Ie, gwna, Ifan! | |
| (Bertie) Oh! Gwna. | |
| (1, 0) 442 | Man-a-nman i ti wneud. |
| (Ifan) {Yn llonni yn ddisymwth.} | |
| (Ifan) A feiddiai un ohonyn nhw? | |
| (1, 0) 499 | Ie, wel, mae yna bwynt fan yna... |
| (Mrs Harris-Jones) All right, David Henry, rhyngwyf i ac Evan mae'r discussion yn awr. | |
| (Ifan) Naroleon? | |
| (1, 0) 526 | Fi!? |
| (Mrs Harris-Jones) Ie chwi, David Henry. | |
| (Mrs Harris-Jones) 'Dych chi ddim yn mynd i wrthod cymaint a hynna. | |
| (1, 0) 529 | Ond y Mawredd! |
| (1, 0) 530 | Wnes i ddim Speech erioed yn y mywyd! |
| (Mrs Harris-Jones) All right, David Henry, fe ga i siarad a chi yn nes ymlaen. | |
| (Mrs Harris-Jones) All right, David Henry, fe ga i siarad a chi yn nes ymlaen. | |
| (1, 0) 532 | Ie, nage! |
| (1, 0) 533 | Mae'n rhaid i fi gael gwybod nawr. |
| (1, 0) 534 | O'r trugeredd! |
| (1, 0) 535 | Alla i byth a gneud speech. |
| (1, 0) 537 | Gneud Speech! |
| (1, 0) 538 | Gneud speech! |
| (1, 0) 539 | Gneud speech! |
| (Mrs Harris-Jones) Wel dyna fe, Evan, os gwnewch chi, mae David Henry yn addo gneyd. | |
| (1, 0) 544 | Gneud speech! |
| (1, 0) 545 | Fi? |
| (Ifan) {Yn ddifrifol.} | |
| (1, 0) 572 | Gneud speech! |
| (Ifan) Roeddech chi'n son gynne am barch. | |
| (Mrs Harris-Jones) Wel pam na ddywedsech chi fel yna ar unwaith? | |
| (1, 0) 593 | Does dim eisie i |fi| wneud speech, oes e? |
| (Bertie) Ie, gwnewch, tada. | |
| (Mrs Harris-Jones) Na chewch! Fe wna i araith iddo fe. | |
| (1, 0) 618 | Deborah! |
| (1, 0) 619 | Rwy'n begian arnoch chi... |
| (1, 0) 621 | O! Ifan, bachgen, cyffra! |
| (1, 0) 622 | Mae peth fel hyn yn arswydus. |
| (1, 0) 623 | Gneud speech! |
| (1, 0) 624 | O! |
| (Ifan) {A'i feddyliau ei hun.} | |
| (Ifan) Fe wna i araith i chi! | |
| (1, 0) 630 | Nid gneud yr araith yw'r pwynt. |
| (1, 0) 631 | I thraddodi ni ydi'r peth mawr. |
| (1, 0) 632 | O dier, dier! |