| (1, 1) 18 | Hei, dere mlân, Dic. |
| (1, 1) 19 | I bwy wyt ti'n gweithio te? |
| (1, 1) 20 | Ma hi'n bryd bwyd. |
| (1, 1) 21 | Teilwng i'r gweithwr ei fwyd. |
| (1, 1) 22 | Dere o'na, Bob; gad y bocs 'na i fod nawr. |
| (Bob) {O'r twnnel uchaf.} | |
| (Bob) Amen. | |
| (1, 1) 46 | Duw' cato pawb, Dic, rwyt ti wrth dy fodd yn twyllo'r plant 'ma. |
| (1, 1) 47 | Be well ma neb o ofyn bendith, leicwn i wbod? |
| (1, 1) 48 | Nid bod gwahaniaeth gen i, wada di bant. |
| (1, 1) 49 | Ond mi fydde'n well iti adel y crwtyn 'na i roi ei fwyd yn ei grombil na throi am bwytu i ofyn bendith. |
| (1, 1) 50 | Dwy i na Idwal byth yn gofyn bendith, a dŷm ni ddim wedi trengi yto, e Id? |
| (Dic) Does dim llawer o wahaniaeth gen i beth ych chwi'ch dou yn gredu, ond mi all mwy o flas fod ar fara menyn dim ond gweud thenciw amdano fe, ond gall e, Bob? | |
| (1, 1) 70 | Ei? |
| (1, 1) 71 | O do, was; do, do; os wyt ti am wybod; 10 to 1, 'machan i. |
| (1, 1) 72 | A mae gen i geffyl heddi 'ed; snip 20 to 1. |
| (1, 1) 75 | Be sy gen ti bore 'ma? |
| (1, 1) 76 | Sandwitsh wy, myn diawl i. |
| (1, 1) 77 | He, he, he, fyti di mo rheina i gyd. |
| (1, 1) 78 | Gad weld... |
| (Bob) I fi rhoth mam nhw, nid i ti. | |
| (1, 1) 82 | Cer i grafu. |
| (1, 1) 84 | He, he, he. |
| (1, 1) 85 | DIC |
| (1, 1) 87 | Gad y ffŵl i fod. |
| (1, 1) 88 | Mae e mor ddigywilydd â mochyn. |
| (1, 1) 89 | Weldi, mae gen i afal iti. |
| (1, 1) 91 | A fyti di un,Id? |
| (1, 1) 93 | Cymer. |
| (Bob) Thenciw. | |
| (1, 1) 99 | Ie, falle; ond does dim weldi. |
| (1, 1) 100 | Gwrando Id, beth well wyt ti o foddrach am lywodraeth ac oriau gwaith! |
| (1, 1) 101 | Oes swllt gyda thi? |
| (1, 1) 102 | Rho fe i fi i roi ar Lucky Jim. |
| (1, 1) 103 | Sure snip, 20 to 1. |
| (Dic) Os yw'r gêm yna'n talu cystal i ti, pam wyt ti mor ddwl â dod lawr fan hyn? | |
| (1, 1) 111 | Dyma gyfle dy fywyd iti. |
| (1, 1) 112 | Ceffyl first class! |
| (1, 1) 114 | "This gallop goes to show that Lucky Jim is now back on his best." |
| (1, 1) 115 | Gordon Doni sy ar ei gefen e hefyd. |
| (1, 1) 116 | "He went right away and finished ten lengths in front of Opojac." |
| (1, 1) 117 | A dyna i ti frid, 'machan i. |
| (1, 1) 118 | Pedigri! |
| (1, 1) 119 | Does dim ceffyl gwell nag e leni. |
| (1, 1) 120 | A mi ges i'r tip o'r reit fan, mei boi. |
| (1, 1) 121 | Good Luck oedd ei fam e, a Jim Crow oedd ei dad. |
| (1, 1) 122 | Roedd Lucky Star a Starlight yn perthyn iddo ar un ochr, a My Jim a Croc Crow yn ei waed e ar yr ochr arall. |
| (1, 1) 123 | Oes swllt gyda... |
| (1, 1) 124 | Bah!! |
| (Bob) Beth wyt ti'n wneud? | |
| (Idwal) Ie. Dyna fe. | |
| (1, 1) 146 | Dyna ffŵl wyt ti'n cabarddylu dy ben gyda hen ddwli felna. |
| (Idwal) O ca dy sŵn. | |
| (Dic) Hwde {estyn gylffyn o fara cyrens iddo}, cymer y bara cyrens ma, alla i ddim ei gwpla fe. | |
| (1, 1) 175 | Be gythraul sy'n bod arnat ti? |
| (1, 1) 176 | Fe allai dyn feddwl mai ti sy'n 'y nhalu i. |
| (1, 1) 178 | Rwy'n gwneud digon am yr arian rwy'n gael, myn asen i. |
| (1, 1) 179 | Be well mae neb o chwysu'i enaid maes. |
| (1, 1) 180 | Nhw {gan bwyntio at y twnnel ar y chwith uchaf } fydd yn cael y proffits i gyd, ac wfft faint o waith mae nhw'n wneud. |
| (1, 1) 181 | Mae Dai yn gwybod digon o bolitics heb weirles na dim i ddeall cymaint â hynny, ta beth. |
| (1, 1) 182 | Mi ddes i maes o'r ffas na bum munud o'ch blaen chi, a nawr rwy'n cael sbel fach, tra bo chi'ch tri'n cwpla. |
| (1, 1) 183 | A falle bydd 'y ngharre i wedi torri, neu rywbeth, pan fyddwch chi'n mynd nôl—a mi ga innau'r minimwm dydd Gwener. |
| (1, 1) 184 | Faint mwy gei di, a faint mwy geith Id, ar ôl iddo gabarddylu ei ben? |
| (Idwal) Roedd hynna yn ôl reit nôl yn 1919, ond fe gei di dy ddal mor wir â'th fod ti'n fyw. | |
| (Bob) A mi ga innau'r hewl wedyn... | |
| (1, 1) 187 | 'Y nal! |
| (1, 1) 188 | Gyda phwy? |
| (1, 1) 189 | Pwy sy'n mynd i'n nal i? |
| (1, 1) 190 | Pwy sy'n mynd i wybod mod i wedi cael pum munud fach cyn brecwast? |
| (1, 1) 192 | Un peth leiciwn i nawr fyddai pinshed fach o faco. |
| (1, 1) 194 | Oes pinshed fach gen ti, Dic? |
| (Dic) Oes thenciw. | |
| (1, 1) 198 | Wel der â blewyn te! |
| (Dic) O dyna gân arall nawr. | |
| (Dic) Pryd prynaist ti faco ddiwetha, Dai? | |
| (1, 1) 202 | Y diawl, yn gwneud sport ar'y mhen i! |
| (1, 1) 204 | Mi leiciwn i gael mwgyn bach o hon nawr. |
| (Dic) Ti yw'r diawl. | |
| (Dic) Dyna! | |
| (1, 1) 211 | O reit, o reit, rwyt ti'n barticlar iawn. |
| (1, 1) 212 | Doedd dim drwg yn hynna,—anghofio'i bod hi yn y boced ' ma wnes i. |
| (1, 1) 213 | A rwyt ti wedi dod â gwaed i 'ngheg i. |
| (Bob) Anghofio tynnu dy bib o dy boced; ac anghofio rhoi baco i mewn. | |
| (1, 1) 219 | O ca dy lol. |
| (Dic) Bob, faint o fwc sy'n dy dram di bore 'ma. | |
| (Dic) Petawn i'n ffeierman f'hunan, fydde gen i ddim byd i'w wneud ond gwneud hebddot ti, Dai. | |
| (1, 1) 227 | Petai ti'n ffeierman mai fyddai raid i fi gael rhyw ffordd arall falle. |
| (1, 1) 228 | Ond mae Ianto Lloyd yn olreit. |
| (1, 1) 230 | Peint bach yn y "Lion." |
| (1, 1) 231 | Myn asen i bois rych chi'n dwp. |
| (Bob) Ond beth 'se Morgan Lewis y manager yn dod lawr? | |
| (Bob) Be ddigwyddai inni wedyn? | |
| (1, 1) 234 | Morgan Lewis! |
| (1, 1) 235 | Yr hen gi. |
| (1, 1) 236 | Does gydag e ddim byd i weud. |
| (1, 1) 237 | Os dwed e rywbeth mi ro i ei hanes iddo fe, reit inyff. |
| (1, 1) 238 | Mae ei enw e'n drewi trwy Cwm Glo i gyd. |
| (Idwal) Ca dy geg Dai Dafis! | |
| (Idwal) Ca di dy geg am Morgan Lewis, | |
| (1, 1) 242 | O, rwyt ti'n teimlo, wyt ti? |
| (1, 1) 243 | Pam wyt ti'n teimlo te? |
| (1, 1) 244 | Pwy eisiau iti deimlo sy? |
| (Dic) Mae rheswm ar bopeth. | |
| (Dic) Mae'n well i chi ofalu neu fe gewch chi'ch hunan mewn twll y gŵr drwg maes o law. | |
| (1, 1) 249 | O'r sant, sut ag wyt ti. |
| (1, 1) 250 | Does dim raid iti fecso amdana i, mi alla i brofi popeth wy i'n weud. |
| (Idwal) Dai, os na ofeli di, mi ro i fonclust iti nawr, a bod yn falch o wneud un tro da am heddi ta beth. | |
| (Idwal) Dai, os na ofeli di, mi ro i fonclust iti nawr, a bod yn falch o wneud un tro da am heddi ta beth. | |
| (1, 1) 252 | Mi neiset ti Foi Sgowt go dda, siwr o fod. |
| (1, 1) 253 | Dyna pam mae Bet Lewis yn dy leicio di fallai. |
| (1, 1) 254 | Ar y fencoes i Id, mae gen ti cheek yr Hen Foi i hongian am bwytu tŷ'r Manager ac esgus caru ei chwaer. |
| (1, 1) 256 | Fallai bod hi rywbeth yn debyg i Moc ei brawd. |
| (Dic) Er mwyn y Nefoedd, dal dy dafod, Dai. | |
| (Idwal) {Gyfyd at ei waith wedi cael cas ar siarad DAI.} | |
| (1, 1) 261 | Stic di at Bet, mei boi. |
| (1, 1) 262 | Duw ŵyr be gei di gyda'r hen Foc—ond dwy i ddim yn credu cei di Bet gydag e'n glou iawn. |
| (1, 1) 263 | Fallai fod cwestiynau ar bethau felna yn yr ecsam. |
| (1, 1) 264 | He, he, he. |
| (Idwal) {yn troi yn ôl eto} | |
| (1, 1) 281 | Diaist i mae Idwal yn meddwl tipyn o Bet. |
| (1, 1) 282 | Mi ges i beth o'i ofan e nawr. |
| (Bob) Mi ddylet ti fod wedi rhoi un iddo, reit ym môn ei glust a left-hook yn ei chops e. | |
| (Dic) Ddylet ti ddim siarad felna o flaen y bois 'ma. | |
| (1, 1) 291 | Arnyn nhw mae'r bai, nhw ddechreuodd. |
| (1, 1) 292 | A mae Bob yn gwybod cymaint â finnau llawn. |
| (Dic) Mae gen ti ferch fach dy hunan cofia. | |
| (Dic) Druan fach o Mrs. Davies! | |
| (1, 1) 296 | Does dim eisiau iti foddrach amdanyn nhw. |
| (1, 1) 297 | Does neb wedi rhoi hawl iti i fesan yn 'y musnes i, oes e, er dy fod ti'n esgus bod mor dduwiol ac yn gweddïo rownd abowt. |
| (Dic) Nagoes, nagoes. | |
| (Dic) Ond druain bach ddweda i, yn dy ofal di. | |
| (1, 1) 300 | Pait di â becso dim amdanyn nhw. |
| (1, 1) 301 | Maen nhw'n cael amser go dda. |
| (1, 1) 302 | Ca di dy geg amdanyn nhw. |
| (Dic) A dyw Mrs. Davies ddim yn gryf iawn, ond nagyw hi? | |
| (Dic) A dyw Mrs. Davies ddim yn gryf iawn, ond nagyw hi? | |
| (1, 1) 304 | Mae'r hen groten yn burion, does dim eisiau iti ffysan lot amdani hi. |
| (1, 1) 305 | Mae lot o anal ynddi hi eto. |
| (Dic) A Marged fach, der weld, pedair ar ddeg yw hi nawr? | |
| (Dic) A Marged fach, der weld, pedair ar ddeg yw hi nawr? | |
| (1, 1) 307 | Nage, pymtheg. |
| (Dic) Mae'n ddrwg gen i amdani hi. | |
| (Dic) Mae'n ddrwg gen i amdani hi. | |
| (1, 1) 309 | Mae hi'n dda ddigon. |
| (1, 1) 310 | Tra geill yr hen fenyw, cheith dim un gwyntyn croes ddrysu blewyn o'i gwallt hi. |
| (1, 1) 311 | A mae'r cythraul bach yn gwybod sut mae troi ei mam am ei bys bach. |
| (1, 1) 312 | Mae Bet Lewis, whâr y manager, yn estyn rhywbeth iddyn nhw bob dydd 'ed. |
| (1, 1) 313 | Diawst i, mae hi'n dod yn hen groten fach lân, hefyd, my boi. |
| (Dic) Edrych ar ei hôl hi, er mwyn Duw, os nad oes gen ti ddim byd arall i fod yn falch ohono. | |
| (Dic) {Y mae yn symud ymaith.} | |
| (1, 1) 322 | Ym mhle wyt ti'n pregethu dy' Sul? |
| (1, 1) 323 | Mae'n well iti fynd lawr ar dy liniau nawr i gadw cwrdd diwygiad. |
| (1, 1) 324 | Weldi, 'ma emyn newydd iti, newydd sbon: |
| (1, 1) 325 | ~ |
| (1, 1) 326 | "Aeth croten fach ifanc o'r Rhyl..." |
| (1, 1) 328 | Ma'r hen Ianto Lloyd yn dod. |
| (1, 1) 330 | Nage, myn yffern i, Morgan Lewis, y manager... |
| (Lewis) Bore da, Dai. | |
| (1, 1) 333 | Bore da, syr. |
| (1, 1) 334 | Mae hi'n fore ffein. |
| (Lewis) Sut mae pethau'n mynd? | |
| (Lewis) Sut mae pethau'n mynd? | |
| (1, 1) 336 | Gweddol. |
| (1, 1) 337 | Talcen go galed. |
| (Lewis) Ie, fel arfer, mae'n debyg. | |
| (Lewis) Pam wyt ti'n colli cymaint o amser nawr yn ddiweddar? | |
| (1, 1) 341 | Dyw'r wraig yco ddim hanner iach, syr. |
| (Lewis) Dai bach, wyt ti wedi anghofio eich bod chwi'n byw o fewn ergyd carreg i'n tŷ ni? | |
| (1, 1) 354 | Dyma beth yw lwc y diawl, a does dim cocso arno fe. |
| (1, 1) 356 | A mae golwg shêp ar hon hefyd... |
| (1, 1) 357 | Yr hen grwt bach y cythraul 'na. |
| (1, 1) 358 | Damo, damo, damo... |
| (1, 1) 372 | Reit. |
| (1, 1) 374 | Beth sy'n bod, syr, dyma f... |
| (Lewis) {yn torri ar ei draws} | |
| (1, 1) 378 | Oes e? O...? |
| (Lewis) Ac y mae lot o slag yn hon. | |
| (1, 1) 389 | Y crwtyn na, syr. |
| (1, 1) 390 | Bob... Bob, dere ma. |
| (Lewis) Rwy i'n dy dalu di am ddysgu'r crwtyn na'n iawn. | |
| (Lewis) Sawl tram wyt ti wedi'i lanw heddi? | |
| (1, 1) 393 | Hon yw'r gynta bore ma... |
| (1, 1) 394 | Ond rwy i wedi bod yn disgwyl yr halier os amser nawr, syr. |
| (Bob) {yn dod i'r golwg} | |
| (Bob) {Cilwg oddi wrth DAI.} | |
| (1, 1) 406 | Crwtyn eiddil yw e, a dyw e ddim yn credu mewn gweithio'n rhy galed. |
| (Lewis) Bydd ddistaw. | |
| (Lewis) Glywaist ti Dai, casgla dy dŵls. | |
| (1, 1) 433 | O, fel na, iefe. |
| (1, 1) 434 | Rwy'n eitha bodlon mynd. |
| (1, 1) 435 | He, he, he. |
| (1, 1) 436 | Pwy sens sy mewn gweithio'n enaid maes fan hyn i chi gael y pres. |
| (1, 1) 437 | Rwy i'n hen barod... |
| (Dic) Rhowch un cyfle arall iddo fe, Mr. Lewis. | |
| (Lewis) Na, alla i ddim rhoi cynnig arall iddo fe. | |
| (1, 1) 442 | Does dim eisiau i ti, Dic, fegian trosto i. |
| (1, 1) 443 | He, he, he, bachan pert yw e i ddannod ceffylau a chwrw i fi. |
| (1, 1) 444 | Mae ceffylau a chwrw yn respectabl wrth rai o'r pethau mae fe'n eu henjoio. |
| (1, 1) 445 | Mae gwinoedd a... |
| (Lewis) O'r gorau, cer nawr cyn digwydd gwaeth iti. | |
| (Lewis) Galw am dy gardiau yn yr offis. | |
| (1, 1) 448 | Gobeithio y daw'r un lwc i chwithau bob enaid! |
| (1, 1) 449 | A mi ddaw, o daw, daw. |
| (1, 1) 450 | Mi fydd y cwmni ma wedi cael y gorau maes ohonoch chwi cyn hir... a mi fyddwch chwi'n cael eich tipio maes i ben y tip yna—rhy hen a rhy stiff i blygu. |
| (Lewis) A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti am fynd? | |
| (Lewis) Nawr te! | |
| (1, 1) 453 | Do, do, mei boi. |
| (1, 1) 454 | A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti a Dic? |
| (1, 1) 455 | Mae digon o fois ifainc ar yr hewl nawr i lanw'ch llechwi.... |
| (1, 1) 456 | Mi fydd Idwal yn fanager ryw ddiwrnod falle—os caiff e chwarae teg. |
| (1, 1) 457 | He, he, he. |
| (1, 1) 459 | Reit mei bois {wrth fynd i'r twnnel ar y chwith.} |
| (1, 1) 460 | A gwnewch fel mynnoch chwi â'ch job! |
| (1, 1) 461 | Piclwch hi! |