| (1, 0) 13 | O di..aa..wch! |
| (Malachi) Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus. | |
| (Malachi) Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd. | |
| (1, 0) 26 | Torred hi. |
| (Malachi) Testun diolch sydd gennym, Dafydd. | |
| (1, 0) 31 | Buckingham Palas! |
| (Malachi) Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond sgubor, a diolch am gymaint a | |
| (Malachi) hynny. | |
| (1, 0) 34 | Malachi! |
| (1, 0) 35 | Os rhywbeth ar y menu y bore 'ma? |
| (1, 0) 36 | Cig moch? |
| (Malachi) Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, 'machgen i. | |
| (Malachi) Dysg i bwyso ar Ragluniaeth. | |
| (1, 0) 41 | Pam? |
| (1, 0) 42 | O... o... os rhywbeth mewn golwg gyda chi? |
| (Malachi) O, na, na, na, Dafydd. | |
| (Malachi) Sôn amdana i rw' i nawr. | |
| (1, 0) 48 | Dyna'r ffaith. |
| (Malachi) Na, Dafydd. | |
| (Malachi) Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn. | |
| (1, 0) 52 | Go fore yw hi i bregeth, Malachi. |
| (Malachi) 'Roedd crefydd yn y teulu. | |
| (Malachi) Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd. | |
| (1, 0) 55 | O, shwt? |
| (Malachi) Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls. | |
| (Malachi) Gyda llaw, beth oedd dy rhieni di, Dafydd? | |
| (1, 0) 59 | Y, wel. |
| (1, 0) 60 | Ma' nhw … ma' nhw wedi marw ych dou. |
| (Malachi) Ma'n rhai inne hefyd. | |
| (Malachi) Ma'n rhai inne hefyd. | |
| (1, 0) 62 | Wel … a … mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd. |
| (Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei? | |
| (Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei? | |
| (1, 0) 64 | O'n … wel o'n, mewn ffordd o siarad. |
| (Malachi) Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus 'dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw. | |
| (Malachi) Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus? | |
| (1, 0) 69 | Wn 'im. |
| (1, 0) 70 | Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus. |
| (Malachi) Be ti'n feddwl wrth hynny? | |
| (Malachi) Be ti'n feddwl wrth hynny? | |
| (1, 0) 72 | Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl. |
| (Malachi) Câl digon ar fod yn respectabl? | |
| (Malachi) Be nest ti, meddwi? | |
| (1, 0) 75 | Nage. |
| (Malachi) Ladratest ti rywbeth? | |
| (Malachi) Ladratest ti rywbeth? | |
| (1, 0) 77 | Naddo. |
| (Malachi) Beth te? | |
| (Malachi) Beth te? | |
| (1, 0) 79 | Dim. |
| (1, 0) 80 | Ca'l digon ar fod yn respectabl. |
| (1, 0) 81 | Dyna'r cwbwl. |
| (Malachi) Doet ti ddim yn leico dy waith gw'lei. | |
| (Malachi) Doet ti ddim yn leico dy waith gw'lei. | |
| (1, 0) 83 | Nag own. |
| (Malachi) 'Rown i'n meddwl. | |
| (Malachi) 'Rown i'n meddwl. | |
| (1, 0) 85 | Ie, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i? |
| (Malachi) Na wn i. | |
| (Malachi) Na wn i. | |
| (1, 0) 87 | Bod yn respectabl. |
| (Malachi) Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd. | |
| (Malachi) Beth oet ti – clerc? | |
| (1, 0) 90 | Nage. |
| (1, 0) 91 | Mwy respectabl na hynny. |
| (Malachi) Bancer? | |
| (Malachi) Bancer? | |
| (1, 0) 93 | Nage. |
| (Malachi) Na. | |
| (1, 0) 98 | Na. |
| (Malachi) Wel mâs â hi. | |
| (Malachi) Wel mâs â hi. | |
| (1, 0) 100 | Pregethwr! |
| (Malachi) Pregethwr! | |
| (Malachi) Pregethwr! | |
| (1, 0) 102 | Bugel Methodist. |
| (Malachi) Bugel Methodist! | |
| (Malachi) Paid a thwyllo hen ŵr! | |
| (1, 0) 109 | 'Dwy ddim yn ych twyllo chi. |
| (1, 0) 110 | 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl. |
| (Malachi) Wythnos yn ôl? | |
| (Malachi) Wythnos yn ôl? | |
| (1, 0) 112 | Wythos yn ôl. |
| (Malachi) Dim erioed! | |
| (Malachi) Dim erioed! | |
| (1, 0) 114 | O'wn wir. |
| (Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ôl 'na? | |
| (Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ôl 'na? | |
| (1, 0) 116 | 'Dwy ddim am fynd yn ôl. |
| (Malachi) Dafydd, fy mab. | |
| (Malachi) Pan na fyset ti'n 'i phriodi hi? | |
| (1, 0) 123 | Eh! |
| (1, 0) 124 | Be' … be' chi'n feddwl? |
| (Malachi) Pam na fyset ti'n 'i phriodi hi, Dafydd. | |
| (Malachi) Ddylet ti ddim o'i gadel hi. | |
| (1, 0) 128 | Na. |
| (1, 0) 129 | 'Rych chi'n hollol mâs o'ch lle. |
| (Malachi) Odw i? | |
| (Malachi) Odw i? | |
| (1, 0) 131 | Odych. |
| (1, 0) 132 | 'Drychwch 'ma, leicech chi ddim bod yn bregethwr, leicech chi? |
| (Malachi) Pam na leicwn i, Dafydd? | |
| (Malachi) Pwy ond yr Hen Falachi? | |
| (1, 0) 149 | Ie, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni. |
| (Malachi) {Heb gymryd sylw, ond yn gostwng ei lais o'r hwyl.} | |
| (Malachi) Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd! | |
| (1, 0) 166 | Gyfaill, mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi. |
| (1, 0) 167 | Mi flines i arni. |
| (Malachi) Blino ar beth? | |
| (Malachi) Blino ar beth? | |
| (1, 0) 169 | Blino ar fyw'n respectabl … respectabl …respectabl! |
| (1, 0) 170 | Dydd a nos. |
| (1, 0) 171 | Un wythnos ar ôl y llall. |
| (1, 0) 172 | Y swydd fwya respectabl yn y wlad … fwya respectabl dan haul. |
| (1, 0) 173 | Dyna sy'n damio'n gwlad ni. |
| (1, 0) 174 | Nid culni. |
| (1, 0) 175 | Nid anghydffurfiaeth. |
| (1, 0) 176 | Mae 'na dân mewn anghydffurfiaeth. |
| (1, 0) 177 | Does dim mewn respectability. |
| (1, 0) 178 | Mae capeli'r ganrif hon yn farw gelain. |
| (Malachi) Yn farw gelain? | |
| (Malachi) Beth ddigwyddodd? | |
| (1, 0) 181 | Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint – a ma' gwaith neyd hynny y dyddie hyn. |
| (Malachi) O be' wnest ti i'w dihuno? | |
| (Malachi) O be' wnest ti i'w dihuno? | |
| (1, 0) 183 | O llawer o bethe. |
| (1, 0) 184 | Ma' dyn yn mynd yn rebel gyda amser. |
| (Malachi) A beth o'n nhw'n gweud te? | |
| (Malachi) A beth o'n nhw'n gweud te? | |
| (1, 0) 186 | Dim. |
| (1, 0) 187 | Dim yw dim. |