| (1, 0) 11 | O di─aa─wch! |
| (Malachi) Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus. | |
| (Malachi) Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd. | |
| (1, 0) 22 | Torred hi. |
| (Malachi) Testun diolch sydd gennym, Dafydd. | |
| (1, 0) 27 | Buckingham Palas! |
| (Malachi) Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond bwthyn cyffredin y gwerinwr. | |
| (Malachi) Ond diolch am gymaint a hynny. | |
| (1, 0) 31 | le, ond nid ni sydd berchen y bwthyn neu beth bynnag yw e. |
| (Malachi) Goreu'n y byd, Dafydd, goreu'n y byd. | |
| (Malachi) 'Rwy'n sicr y buasai'r bobol sy'n perchenogi'r lle dinôd yma yn falch iawn i wybod eu bod wedi cyfrannu bendithion yn ddiarwybod. | |
| (1, 0) 34 | Ie. |
| (1, 0) 35 | Fe hyderwn 'u bod nhw wedi cadw'r ci yn sownd. |
| (Malachi) Fe hyderwn hynny, Dafydd. | |
| (Malachi) Mae llawer i ddyn wedi troi angel yn ddiarwybod o'r tŷ am i fod e wedi anghofio clymu'r ci. | |
| (1, 0) 39 | Malachi! |
| (1, 0) 40 | Os rhywbeth ar y |menu| y bore 'ma? |
| (1, 0) 41 | Os dim digwydd fod scadenyn coch rywle yn yr awyrgylch? |
| (Malachi) Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, machgen i. | |
| (Malachi) Wyddost ti ddim pa fendithion ddaw y diwrnod newydd hwn eto. | |
| (1, 0) 47 | Wel, gobeitho y don' nhw'n glou. |
| (1, 0) 48 | Wela i ddim ohonyn' nhw'n glawio hyd yn hyn. |
| (Malachi) Diffyg gweledigaeth, 'y machgen i; diffyg gweledigaeth. | |
| (Malachi) Diffyg gweledigaeth, 'y machgen i; diffyg gweledigaeth. | |
| (1, 0) 50 | Odych chi'n gweld rhywbeth te? |
| (Malachi) Llygad ffydd, Dafydd; llygad ffydd. | |
| (Malachi) Mae yna fferm gerllaw, ond oes e, Dafydd? | |
| (1, 0) 54 | Wel? |
| (Malachi) Pwy ŵyr nad yw hi wedi insiwro yn lled drwm, Dafydd. | |
| (Malachi) Does dim i buro cymdeithas fel tân, Dafydd. | |
| (1, 0) 59 | Pam─o─os rhywbeth mewn golwg gyda chi? |
| (Malachi) O, na, na, na, Dafydd. | |
| (Malachi) Son am dana ì 'rw' i nawr. | |
| (1, 0) 65 | Dyna'r ffaith. |
| (Malachi) Na, Dafydd. | |
| (Malachi) Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn. | |
| (1, 0) 69 | Go fore yw hi i bregeth, Malachi. |
| (Malachi) 'Roedd crefydd yn y teulu. | |
| (Malachi) Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd. | |
| (1, 0) 72 | O, shwt? |
| (Malachi) Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls. | |
| (Malachi) Dyna dynnodd sylw'r polisman, Dafydd. | |
| (1, 0) 75 | 'Ro'dd tipyn bach mwy o grefydd nag o gallineb yn perthyn i'ch tad, Malachi. |
| (Malachi) Oedd, falle i fod e. | |
| (Malachi) Rhyfedd meddwl fod fy nhad wedi cael ei ddal am beth mor fach a dwyn ffowls. | |
| (1, 0) 80 | Fuoch chi'n dwyn ffowls eriod, Malachi? |
| (Malachi) Do, Dafydd, do droeon. | |
| (Malachi) Mam, 'run fath wedyn. | |
| (1, 0) 86 | Dioddefodd hi oherwydd 'i chrefydd? |
| (Malachi) 'Roedd hi'n dal cysylltiad agos â'r achos, Dafydd. | |
| (Malachi) Roedd hi'n casglu mewn hen gapel bach yn agos i gartre, ac felly, mewn ffordd o siarad, dipyn o flaen ei hoes. | |
| (1, 0) 89 | 'Rodd hi dipyn fwy ar y metals na'ch tad, te? |
| (Malachi) Wel, oedd, mewn ffordd o siarad, er, mor bell ag yr 'w i'n cofio, roeddem ni fel teulu yn byw yn weddol foethus pan oedd mam yn casglu yn yr hen gapel bach. | |
| (Malachi) Gyda llaw, beth oedd dy rieni di, Dafydd? | |
| (1, 0) 93 | Y─wel. |
| (1, 0) 94 | Ma' nhw─ma' nhw wedi marw ych dou. |
| (Malachi) Ma'n rhai inne hefyd. | |
| (Malachi) Ma'n rhai inne hefyd. | |
| (1, 0) 96 | Wel─a─mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd. |
| (Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei? | |
| (Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei? | |
| (1, 0) 98 | O'n─wel o'n, mewn ffordd o siarad. |
| (Malachi) Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw. | |
| (Malachi) Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus? | |
| (1, 0) 104 | Wn 'im. |
| (1, 0) 105 | Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus. |
| (Malachi) Be' ti'n feddwl wrth hynny? | |
| (Malachi) Be' ti'n feddwl wrth hynny? | |
| (1, 0) 107 | Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl. |
| (Malachi) Câl digon ar fod yn respectabl? | |
| (Malachi) Be nest ti, meddwi? | |
| (1, 0) 110 | Nage. |
| (Malachi) Ladratest ti rywbeth? | |
| (Malachi) Ladratest ti rywbeth? | |
| (1, 0) 112 | Naddo. |
| (Malachi) Beth te? | |
| (Malachi) Beth te? | |
| (1, 0) 114 | Dim. |
| (1, 0) 115 | Laru ar fod yn respectabl. |
| (1, 0) 116 | Dyna'r cwbwl. |
| (Malachi) Ie, ond beth wyt ti'n neyd fan hyn, heb geinog ar dy elw? | |
| (Malachi) Ie, ond beth wyt ti'n neyd fan hyn, heb geinog ar dy elw? | |
| (1, 0) 118 | 'Rwy' wedi gweyd. |
| (1, 0) 119 | Mi ges ddigon ar fod yn respectabl, a mi gliries mâs. |
| (Malachi) 'Doet ti ddim yn deico dy waith, gw'lei. | |
| (Malachi) 'Doet ti ddim yn deico dy waith, gw'lei. | |
| (1, 0) 121 | Nag own. |
| (Malachi) 'Rown i'n meddwl. | |
| (Malachi) 'Rown i'n meddwl. | |
| (1, 0) 123 | le, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i? |
| (Malachi) Na wn i. | |
| (Malachi) Na wn i. | |
| (1, 0) 125 | Bod yn respectabl. |
| (Malachi) Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd. | |
| (Malachi) Beth oet ti─clerc? | |
| (1, 0) 128 | Nage. |
| (1, 0) 129 | Mwy respectabl na hynny. |
| (Malachi) Bancer? | |
| (Malachi) Bancer? | |
| (1, 0) 131 | Nage. |
| (Malachi) Na. | |
| (Malachi) 'Doet ti ddim twrne? | |
| (1, 0) 135 | Cyfreithiwr? |
| (1, 0) 136 | Nage. |
| (Malachi) Na, 'dos dim digon o'r diawl yndo ti i fod yn dwrne. | |
| (1, 0) 140 | Na. |
| (Malachi) Wel mâs â hi. | |
| (Malachi) Wel mâs â hi. | |
| (1, 0) 142 | Pregethwr. |
| (Malachi) Beth? | |
| (Malachi) Beth? | |
| (1, 0) 146 | Bugel Methodist. |
| (Malachi) Bugel Methodist! | |
| (Malachi) Paid a thwyllo hen ŵr! | |
| (1, 0) 153 | 'Dwy ddim yn ych twyllo chi. |
| (1, 0) 154 | 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl. |
| (Malachi) Wythnos yn ôl? | |
| (Malachi) Wythnos yn ôl? | |
| (1, 0) 157 | Wythnos yn ôl. |
| (Malachi) Dim erioed! | |
| (Malachi) Dim erioed! | |
| (1, 0) 159 | O'wn wir. |
| (Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ol 'na? | |
| (Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ol 'na? | |
| (1, 0) 161 | 'Dwy ddim am fynd yn ol. |
| (Malachi) Dafydd, fy mab. | |
| (Malachi) Pam na fyset ti'n i phriodi hi? | |
| (1, 0) 168 | Eh? |
| (1, 0) 169 | Be'─be' chi'n feddwl? |
| (Malachi) Pam na fyset ti'n i phriodi hi, Dafydd; pam na fyset ti'n i phriodi hi? | |
| (Malachi) Ddylet ti ddim o'i gadel hi. | |
| (1, 0) 173 | Be' chi'n dreio weyd? |
| (1, 0) 174 | O, 'rych chi'n meddwl mod i wedi dod â rhyw ferch i drwbwl. |
| (Malachi) Odw i ddim yn iawn, Dafydd? | |
| (Malachi) Odw i ddim yn iawn? | |
| (1, 0) 177 | Nag ych. |
| (1, 0) 178 | Rych chi'n hollol mâs o'ch lle. |
| (Malachi) Dafydd, Dafydd, paid a thwyllo hen ŵr. | |
| (Malachi) Dafydd, Dafydd, paid a thwyllo hen ŵr. | |
| (1, 0) 180 | 'Dwy'n twyllo dim ohonoch chi. |
| (1, 0) 181 | Mi wedwn i wrthoch chi ar unwaith 'se chi'n iawn. |
| (Malachi) 'Nawr, Dafydd; 'nawr, 'nawr. | |
| (Malachi) 'Nawr, Dafydd; 'nawr, 'nawr. | |
| (1, 0) 183 | 'Rwy'n gweyd yr union wir wrthoch chi. |
| (1, 0) 184 | Os nad ych chi'n 'y nghredu i, peidiwch... |
| (1, 0) 185 | 'Drychwch 'ma, leicech |chi| ddim bod yn bregethwr, leicech chi? |
| (1, 0) 186 | Meddyliwch chi 'se chi yn fy lle i. |
| (Malachi) Pam na leicwn i, Dafydd? | |
| (Malachi) Pam na leicwn i? | |
| (1, 0) 189 | Wel─wn i ddim. |
| (1, 0) 190 | Meddwl 'rown i. |
| (Malachi) O. | |
| (Malachi) Fe wela i yr hen saint yn eu hwylio hi drwy ddrycin y gaeaf i glywed yr hen Falachi Jones yn traethu'r genadwri. | |
| (1, 0) 206 | le, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni. |
| (Malachi) {Heb gymryd sylw, ond yn gostwng ei lais o'r hwyl.} | |
| (Malachi) Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd! | |
| (1, 0) 229 | O ie, yr hen ffrind. |
| (1, 0) 230 | Rych chi fel pob un o'r tuallan yn i gweld hi'n bert iawn. |
| (1, 0) 231 | Ma' digon hawdd i chi sefyll fanna a chanu "Palmwydd clyd." |
| (1, 0) 232 | Ond fe gawsech lawer i neyd heblaw hynna. |
| (Malachi) Wel? | |
| (Malachi) O, Malachi Jones yw'r dyn─ | |
| (1, 0) 238 | Ie, ie; mae hynna'n swno'n iawn. |
| (1, 0) 239 | Ond mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi. |
| (1, 0) 240 | Mi flines i arni. |
| (Malachi) Blino ar beth? | |
| (Malachi) Blino ar beth? | |
| (1, 0) 242 | Blino ar fyw'n respectabl─respectabl─respectabl! |
| (1, 0) 243 | Ddydd a nos. |
| (1, 0) 244 | Un wythnos ar ôl y llall. |
| (1, 0) 245 | Y swydd fwya respectabl yn y wlad, fwya respectabl dan haul. |
| (1, 0) 246 | Dyna sy'n damio'n gwlad ni. |
| (1, 0) 247 | Nid culni. |
| (1, 0) 248 | Nid Piwritanieth. |
| (1, 0) 249 | Mae tân mewn Piwritanieth. |
| (1, 0) 250 | 'Does dim mewn |respectability|. |
| (1, 0) 251 | Mae Cymry'r ganrif hon yn byw mewn |frock-coat|, gorff ac enaid. |
| (Malachi) 'Nawr, mi fyswn i yn yng elfen mewn |frock-coat|. | |
| (Malachi) 'Nawr, mi fyswn i yn yng elfen mewn |frock-coat|. | |
| (1, 0) 253 | Wisges i ddim un eriod─o leia, ddim am 'y nghorff─nac am y'n ened chwaith. |
| (1, 0) 254 | Rwy'n credu y byswn i wedi gneyd llawer o waith mewn cylch lle rôdd yna ddigon o ryddid a neb yn boddro dim shwt own i'n byw. |
| (1, 0) 255 | Ond, fel bugel, down i ddim yn llwyddiant. |
| (1, 0) 256 | Rown i'n gneyd popeth yn wahanol i bob pregethwr arall. |
| (1, 0) 257 | Down i ddim yn hoff o gwmni pregethwyr, i ddechre. |
| (1, 0) 258 | Rown i'n câl digon arnyn' nhw. |
| (1, 0) 259 | Doen nhw ddim a'u llaw ar byls y bobol rywsut. |
| (1, 0) 260 | 'Dwy ddim yn i beio nhw chwaith. |
| (1, 0) 261 | Mi ffeules i'n hunan. |
| (Malachi) Beth ddigwyddodd? | |
| (Malachi) Beth ddigwyddodd? | |
| (1, 0) 263 | O, mi âth popeth go whith. |
| (1, 0) 264 | Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rodd gormod o Ebrill yndw i. |
| (1, 0) 265 | 'Rown i'n rhoi gormod o |shocks| i'r saint─a ma gwaith neyd hynny y dyddie hyn. |
| (Malachi) Shocks i'r saint! | |
| (Malachi) Dere gâl i clywed nhw. | |
| (1, 0) 269 | O, cofiwch chi, 'dwy ddim am ddweyd mod i'n iawn lawer tro. |
| (1, 0) 270 | Rown i'n ddigon gonest yn y dechre. |
| (1, 0) 271 | Rown i am gêl gafel yn nynolieth pobol. |
| (1, 0) 272 | A mi gês i afel yndo fe lawer tro. |
| (1, 0) 273 | Ond dim y teip mae pobol respectabl yn hoffi. |
| (1, 0) 274 | Rodd gen i ormod o gydymdeimlad â'r dyn off y metals. |
| (1, 0) 275 | Rown i'n i hoffi e am i |fod| e off y metals; am nad oedd e'n respectabl. |
| (1, 0) 276 | Lliw, a sport, a bywyd, a rhamant, a ienctid! |
| (1, 0) 277 | 'Rodd gâs gen i furie moelion y capel. |
| (1, 0) 278 | Mi addolwn yn well mewn eglws Gatholig brydferth. |
| (Malachi) Ond be' nest ti i boeni'r saint? | |
| (Malachi) Ond be' nest ti i boeni'r saint? | |
| (1, 0) 280 | O, llawer o bethe. |
| (1, 0) 281 | Ma' dyn yn mynd yn rebel gydag amser. |
| (1, 0) 282 | Dyma engraifft... |
| (1, 0) 283 | Rodd un o'm ffrindie i─un o'r rhai off y metals─yn cynnal dawns nos Sul yn rhywle. |
| (1, 0) 284 | Mi'n heriodd i ddod yna ar ôl cwrdd. |
| (1, 0) 285 | Mi es gam ymhellach: mi cyhoeddes hi yn y Seiat. |
| (Malachi) Beth am y─beth yw hwnna─dim y seiat─y Cwrdd Misol? | |
| (Malachi) Beth am y─beth yw hwnna─dim y seiat─y Cwrdd Misol? | |
| (1, 0) 287 | Dyna chi'n gofyn cwestiwn 'nawr na fedra i byth ateb. |
| (1, 0) 288 | Pan fydd rhyfeddode mawr y byd yn câl i croniclo mi fydd hwnna ar lawr. |
| (Malachi) Wedson nhw ddim un gair? | |
| (Malachi) Wedson nhw ddim un gair? | |
| (1, 0) 290 | Mi synnech chi mor ychydig. |
| (1, 0) 291 | Mae'n anodd rhoi gwir |shock| i sgerbwd anghydffurfieth. |
| (1, 0) 292 | 'Rown i wedi gorffen bod yn respectabl ers tro, a 'doedd dim a wnawn i yn 'i synnu nhw─os na wnawn i rywbeth fel dyn arall. |
| (1, 0) 293 | 'Rown i mron bod yn respectabl o |unconventional|. |