| (Tom) Hen bethau di-ddim. | |
| (Tom) Agora'r cythraul! | |
| (1, 0) 22 | A be' dech chi'n trio gwneud rŵan 'te? |
| (Tom) Does dim posib agor y bocs pils yma. | |
| (Tom) Does dim posib agor y bocs pils yma. | |
| (1, 0) 24 | Dewch â fe yma. |
| (Tom) {Gan roi'r bocs i Dafydd.} | |
| (1, 0) 28 | Dyna chi. |
| (Tom) Sut yn y byd... | |
| (Tom) Sut yn y byd... | |
| (1, 0) 30 | Beth yw rhain 'te? |
| (Tom) {Gan geisio cael y bocs pils yn ôl.} | |
| (1, 0) 34 | Androm ─ yr ateb cyflawn i ddôs o annwyd. |
| (1, 0) 35 | Un pilsen bob chwarter awr. |
| (1, 0) 36 | Bob chwarter awr? |
| (Tom) Ie. | |
| (Tom) Ie. | |
| (1, 0) 38 | Glywais i erioed sôn am rhain o'r blaen. |
| (Tom) Maen nhw'n rhai newydd. | |
| (Tom) Gwella annwyd mewn chwinciad. | |
| (1, 0) 41 | Dech chi erioed yn credu hynny? |
| (Tom) Pwy a ŵyr ─ falle gwna nhw rhyw les. | |
| (1, 0) 44 | Reit... |
| (1, 0) 45 | Wel, gwell i chi rhoi hwn ar y rhestr eto 'te. |
| (1, 0) 47 | Efallai mai rhwng yr 'inhaler' a'r pils gwyrdd fyddai orau. |
| (Tom) Paid ti â gwawdio, fy machgen i. | |
| (Tom) Paid ti â gwawdio, fy machgen i. | |
| (1, 0) 49 | Wel... |
| (1, 0) 50 | Does dim syndod eich bod chi'n sâl ─ stwffio'r holl gowdel yma i lawr eich stumog. |
| (Tom) Paid â barnu pethau nad wyt ti'n deall. | |
| (Tom) Paid â barnu pethau nad wyt ti'n deall. | |
| (1, 0) 52 | O ie, dech chi'n honni eich bod chi'n deall y pethau yma 'te? |
| (Tom) Wrth gwrs. | |
| (Tom) Rhain yw'r unig beth sy' rhwngdda i a'r fynwent. | |
| (1, 0) 55 | Peidiwch â gadael i Ann glywed chi'n siarad fel na, neu chewch chi byth fynd i'r gêm rygbi ddydd Sadwrn. |
| (Tom) Rydw i'n mynd i'r gêm ─ a dyna ben ar y peth! | |
| (1, 0) 60 | Dw i ddim yn credu fod Ann yn rhyw fodlon iawn. |
| (Tom) Does dim gwahaniaeth gen i os yw hi'n fodlon ai peidio! | |
| (Tom) Mae Ieuan Lloyd yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn, ac mae'n rhaid i mi fod yno. | |
| (1, 0) 63 | Gawn ni weld erbyn hynny. |
| (Tom) Hwn fydd yr achlysur pwysicaf yn hanes y clwb ─ yr aelod cyntaf i chwarae dros ei wlad. | |
| (Tom) Hwn fydd yr achlysur pwysicaf yn hanes y clwb ─ yr aelod cyntaf i chwarae dros ei wlad. | |
| (1, 0) 65 | Dech chi wedi esbonio hynny wrth Ann? |
| (Tom) Wrth gwrs, ond dyw'r ferch yna sy' gen i yn deall dim. | |
| (Tom) Wrth gwrs, ond dyw'r ferch yna sy' gen i yn deall dim. | |
| (1, 0) 67 | Mae'n deall chi'n go lew. |
| (1, 0) 70 | Dech chi'n iawn? |
| (Tom) Ydw, a phaid ag edrych arna i fel 'na ─ dw i ddim mor sâl â hynny. | |
| (Tom) Ydw, a phaid ag edrych arna i fel 'na ─ dw i ddim mor sâl â hynny. | |
| (1, 0) 72 | Gawn i weld beth ddywed y doctor. |
| (1, 0) 73 | Mi fydd yma yn y funud. |
| (Tom) Dafydd? | |
| (1, 0) 76 | Ie? |
| (Tom) Fase'n bosib i mi gael cwpanaid o de? | |
| (Tom) Fase'n bosib i mi gael cwpanaid o de? | |
| (1, 0) 78 | Siŵr o fod. |
| (Tom) Mi faswn i'n ddiolchgar iawn. | |
| (Tom) Mi faswn i'n ddiolchgar iawn. | |
| (1, 0) 80 | Reit. |
| (Tom) Mi fydde cael bisged siocled yn neis iawn hefyd. | |
| (1, 0) 83 | Beth? |
| (Tom) |Chocolate Biscuit|. | |
| (Tom) Ma' nhw yn y cwpwrdd. | |
| (1, 0) 86 | Does dim yna. |
| (Tom) O... | |
| (1, 0) 91 | Reit. |
| (1, 0) 92 | Rhywbeth arall? |
| (Tom) Na. | |
| (Tom) Na. | |
| (1, 0) 94 | Iawn. |
| (1, 0) 95 | Mi fydda i 'nôl yn y funud. |
| (Megan) {Oddi allan.} | |
| (Megan) Bore da Dafydd. | |
| (1, 0) 104 | Bore da, Mrs Puw. |
| (Tom) Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir. | |
| (1, 0) 180 | Reit. |
| (1, 0) 181 | Eisteddwch lan! |
| (Tom) {Gweld y mygiaid o de.} | |
| (Tom) Oes 'na brinder cwpanau? | |
| (1, 0) 185 | Yfwch eich te a pheidiwch â chwyno. |
| (Tom) Mi fydda i bob amser yn licio yfed te mewn cwpan. | |
| (Tom) Mi fydda i bob amser yn licio yfed te mewn cwpan. | |
| (1, 0) 187 | Mae'r myg yna'n ddigon da i chi. |
| (Ann) {Yn gweld y paced bisgedi.} | |
| (Tom) Lle ges ti rhain Dafydd? | |
| (1, 0) 194 | Beth... |
| (1, 0) 195 | Y bisgedi 'na? |
| (1, 0) 196 | Wel... |
| (Tom) Digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd, ynte Dafydd? | |
| (Tom) Digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd, ynte Dafydd? | |
| (1, 0) 198 | Y... |
| (1, 0) 199 | O ie, dyna chi ─ digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd. |
| (Tom) Meddwl y byddai dy hen Dad yn hoffi un. | |
| (Tom) Meddwl y byddai dy hen Dad yn hoffi un. | |
| (1, 0) 201 | Ie, yn hollol. |
| (Ann) Wel, gwell i mi fynd â nhw yn ôl cyn i chi fwyta'r paced i gyd. | |
| (1, 0) 218 | Beth yw hon 'te? |
| (Tom) Megan ddaeth â hi. | |
| (Megan) Hanna Morris wedi ei gymysgu yn arbennig. | |
| (1, 0) 223 | Be sydd ynddo fe? |
| (Tom) Duw a ŵyr! | |
| (1, 0) 227 | Dech chi'n mynd i ddefnyddio fe 'te? |
| (Tom) Wel... | |
| (Megan) Defnyddia di hwnna, a bydd y peswch yna'n well mewn chwinciad. | |
| (1, 0) 237 | Efallai mai'r doctor sydd yna. |
| (1, 0) 239 | Ie, mae'r car y tu allan. |
| (Megan) Y doctor? | |
| (Megan) Mae Hanna Morris yn deall mwy na'r doctoriaid i gyd gyda'i gilydd. | |
| (1, 0) 243 | Gawn ni weld. |
| (Tom) Un... dau... tri... pedwar... pump... chwech... saith... wyth... naw... | |
| (1, 0) 740 | Ie, be' dech chi eisiau? |
| (Tom) Mae angen troi'r gwely. | |
| (Tom) Mae angen troi'r gwely. | |
| (1, 0) 742 | Beth? |
| (Megan) I wynebu'r gogledd. | |
| (Megan) I wynebu'r gogledd. | |
| (1, 0) 744 | Ond pam? |
| (Tom) {Yn flinedig.} | |
| (Tom) Paid â holi, Dafydd bach ─ jyst troia'r gwely. | |
| (1, 0) 747 | Reit-i-o. |
| (1, 0) 748 | Mi fase'n help tasech chi'n codi gyntaf. |
| (1, 0) 750 | Dyna chi. |
| (Megan) {Arwyddo at y gwely.} | |
| (Megan) Pasia'r myg 'na Dafydd. | |
| (1, 0) 758 | Dim ond 'tea bag' sydd yn hwn. |
| (Megan) Mi fydd rhaid iddo wneud y tro. | |
| (Ann) Wel? | |
| (1, 0) 805 | Nhw ddywedodd wrtho fi am ei droi e. |
| (1, 0) 806 | Meddwl y bydde fe'n help i wella annwyd dy Dad... |
| (Ann) Rwyt ti'n mynd yn ddylach bob dydd hefyd. | |
| (Ann) Fydd y tocyn ddim yn cael ei wastraffu! | |
| (1, 0) 815 | Be ti'n feddwl? |
| (Ann) Rydw i wedi werthu e. | |
| (Tom) Ti wedi gwneud beth? | |
| (1, 0) 818 | Wedi'i werthu e'? |
| (Ann) Do. | |
| (Ann) Do. | |
| (1, 0) 820 | Ann! |
| (Tom) I pwy? | |
| (Ann) I pwy beth? | |
| (1, 0) 825 | I pwy werthaist ti'r tocyn? |
| (Ann) Wel, i Aled Morgan wrth gwrs! | |
| (Tom) Wnes i ddim cytuno i'r fath beth. | |
| (1, 0) 830 | Rwyt ti wedi gwerthu y tocyn... |
| (Megan) I Aled Morgan o bawb? | |
| (Ann) Meddwl y byddai'n syniad reit dda i roi'r arian tuag at brynu teledu ar gyfer yr ystafell yma. | |
| (1, 0) 843 | Mae hynny'n syniad da. |
| (Tom) Ie, wel... | |
| (Tom) Ie, wel... | |
| (1, 0) 845 | Meddyliwch 'Nhad, cael teledu i chi eich hun yma yn eich ystafell. |
| (Tom) Mae'n rhaid cyfaddef, mae e'n syniad neis iawn. | |
| (Ann) Cael gorwedd yn esmwyth yn eich gwely... | |
| (1, 0) 848 | A gwylio snwcer drwy'r nos... |
| (Ann) Neu wreslo... | |
| (Ann) A'r gêm rygbi dydd Sadwrn. | |
| (1, 0) 852 | Wel ie, ac mae pawb yn dweud bod chi'n gweld pethau'n well ar y teledu na tasech chi yno! |
| (Tom) Mae hynny'n ddigon gwir... | |
| (Tom) Ac mewn gwirionedd, doedd hi ddim yn sedd mor dda â hynny. | |
| (1, 0) 856 | Dyna hynna wedi setlo 'te. |
| (Ann) Mi gaiff Dafydd fynd lawr i'r dre y prynhawn yma i brynu set. | |
| (Tom) {Cloch y drws yn canu.} | |
| (1, 0) 860 | Mi ateba' i e'. |
| (Gerallt) Ond dech chi ddim yn deall... | |
| (1, 0) 906 | Na, chi sydd ddim yn deall. |
| (Ann) Dech chi'n gweld Mr Lloyd, mae fy 'Nhad wedi gwerthu y tocyn. | |
| (Tom) Wyddost ti be' Dafydd, rwy'n teimlo'n dipyn gwell erbyn hyn. | |
| (1, 0) 919 | Mae'n dda gen i glywed hynny. |
| (Megan) Tomos? | |
| (Tom) Dafydd? | |
| (1, 0) 935 | Ie? |