| (Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.} | |
| (Jared) Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle? | |
| (1, 0) 32 | Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr â ni'n glwt i'r llawr. |
| (1, 0) 33 | Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen. |
| (Jared) Cato pawb! | |
| (Jared) Eiste'n rhywle, Dafydd, nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl Gŵr y Plas i'w orffen. | |
| (1, 0) 41 | Dos di ymlaen. |
| (1, 0) 42 | Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw. |
| (Jared) Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd, ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli. | |
| (Jared) lfan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna. | |
| (1, 0) 46 | Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau. |
| (Jared) Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn. | |
| (Jared) Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn. | |
| (1, 0) 48 | Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared? |
| (Jared) Dyna oedd yn y rhan i hwyrach. | |
| (Ifan) Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd? | |
| (1, 0) 69 | Oedd nen tad, ond beth am danat ti ar dy sêt grydd? |
| (Ifan) Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i. | |
| (Hopcyn) Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio. | |
| (1, 0) 111 | Yn ôl dy syniad di, felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom? |
| (Hopcyn) Ddwedais i mo hynny, Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch. | |
| (Jared) Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti. | |
| (1, 0) 143 | Ie, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol. |
| (Ifan) Mi fentra mhen na chawso nhw rioed well dadlu na fydd yn y gweithdy ma ambell i noson. | |
| (Ifan) Mae'r stori'n wir, fechgyn. | |
| (3, 0) 766 | Paid a bod yn rhy siwr; cwestiwn go gynnil ydi hwn. |
| (3, 0) 767 | Y cwbl welsom ni oedd ei fraich am wddw'r eneth. |
| (3, 0) 768 | Pe gwelsem o'n rhoi cusan iddi mi fasa tir sâff dan ein traed. |
| (Hopcyn) Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi. | |
| (Hopcyn) Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi. | |
| (3, 0) 770 | Howld! be wyddom ni nad cysuro'r eneth yn ei gofid roedd o—i chysuro hi'n rhinwedd ei swydd fel gweinidog?| |
| (Ifan) Rhinwedd ei swydd fel gweinidog, wir! | |
| (3, 0) 775 | Beth ydi'r tacla yma, tybed? |
| (3, 0) 777 | Diain i, mae pwysa ynddyn nhw hefyd. |
| (3, 0) 778 | Clyw, Ifan. |
| (Ifan) {Gan ddal yn ol.} | |
| (Ifan) Be wyddom ni nad tacla'r eneth na i witsio a deyd ffortun ydyn nhw? | |
| (3, 0) 782 | Gafr i! Mi wn be ydyn nhw; efo'r rhain y bydd Dic yn taro talcen y samons fydd o'n ddal. |
| (3, 0) 783 | O boced hen angeu'r pysgod y daetho nhw'n siwr i chi. |
| (Ifan) Mwy tebyg o lawer mai arfa i daro mennydd y cipar ydyn nhw. | |
| (Ifan) Llawer ergyd gafodd hi ganddo o dro i dro, a fedr o ddim marw heb roi un arall iddi, yr hen haffgi brwnt. | |
| (3, 0) 797 | Chware teg, Ifan, cofia fod Dic ar lan yr Iorddonen y munudau yma. |
| (Ifan) Wel, os ar lan yr Iorddonen mae o, mi dyffeia fo y gwnaiff o'i oreu glas i bortsio samon neu ddau ohoni cyn i heglu hi dros y dŵr. | |
| (Nel) Wel, dyna fi'n ffrindia â'r sêt fawr i gyd rwan. | |
| (4, 0) 1181 | Mae'n dda gen i gael cyflei gymodi. |
| (4, 0) 1182 | Mi gaiff Jared chware teg perffaith efo chi—sut mae o? |