| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (Bathseba) Fy Arglwydd Frenin! | |
| (1, 0) 752 | Dydd da, fy Mrenhines. |
| (Bathseba) {Yn codi ac yn cymryd cam at yr Orsedd gan ddangos y cloff.} | |
| (1, 0) 758 | Mab Jonathan! |
| (Meffiboseth) {Yn dynesu at yr Orsedd ar ci faglau gan grymu ei ben, ond heb ddringo'r esgynlawr.} | |
| (Meffiboseth) Trugaredd, Frenin grasol! | |
| (1, 0) 761 | Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia! |
| (Beneia) F'Arglwwydd!... | |
| (Beneia) F'Arglwwydd!... | |
| (1, 0) 763 | Cyrch ymo'r fantell fraith sy ar fy ngwely. |
| (1, 0) 769 | Mab Jonathan yn gloff!... Dwg ef i eistedd, |
| (1, 0) 770 | Gadfridog Joab... Mae cwrteisi ein llys? |
| (1, 0) 773 | Mab Jonathan yn dlawd!—Fy machgen, gwrando,— |
| (1, 0) 774 | Rhoddaf yn ôl i'th gadw dir dy dadau. |
| (1, 0) 775 | Nac ofna mwyach. Mab fy nghyfaill wyt. |
| (1, 0) 778 | Diosg ei garpiog glog, a dyro'r fantell |
| (1, 0) 779 | Fu gennyf fi fy hun dros ei ysgwyddau. |
| (1, 0) 782 | Gwrandewch i gyd! |
| (1, 0) 784 | O'r dwthwn hwn ymlaen |
| (1, 0) 785 | Bydd Meffiboseth megis mab i mi. |
| (1, 0) 786 | Bwyty ar fwrdd y Brenin. Telwch iddo |
| (1, 0) 787 | Yr un wrogaeth ag i'n tywysogion. |
| (1, 0) 790 | Hyn oll, fy machgen, er mwyn Jonathan. |
| (Meffiboseth) Tad pob amddifad tlawd a dalo iti. | |
| (1, 0) 795 | Tyred ac eistedd yma. |
| (1, 0) 797 | Pwy wyt ti? |
| (Abisâg) Dy wasanaethferch Abisâg, O Frenin, | |
| (Abisâg) A Sŵnamês. | |
| (1, 0) 800 | Ple dysgaist ti fy nghân? |
| (Abisâg) Fe'i dysgais gartref, f'arglwydd, gan fy nhad. | |
| (1, 0) 805 | 'Rwyt ti'n ferch |
| (1, 0) 806 | I Eleasar? Cymrawd llawer cad. |
| (1, 0) 808 | Fe drawodd gymaint o'r Philistiaid, Joab, |
| (1, 0) 809 | Nes glynu o'i ddeheulaw wrth y cleddyf |
| (1, 0) 810 | A'i fraich yn ddiffrwyth dro, ar ganol cad. |
| (1, 0) 811 | Pa fodd y ffynna fy hen gymrawd gynt? |
| (Abisâg) Yn dda, fy arglwydd, ar y tir a roddaist | |
| (Abisâg) A'r llaw fu'n glynu wrth gledd yn glynu wrth gryman. | |
| (1, 0) 815 | A chanddo y dysgaist fy ngalarnad? |
| (Abisâg) Ie, | |
| (1, 0) 820 | Peraidd ganiedydd Israel gynt y'm galwent |
| (1, 0) 821 | Pan gyrchodd gwŷr fi'n llanc o blith y praidd |
| (1, 0) 822 | I wared Saul. {Ochenaid.} Mae dyn yn mynd yn hen. |
| (1, 0) 823 | Mwynder ieuenctid,—cynt na'r bore wlith |
| (1, 0) 824 | Ymedy hwn. |
| (1, 0) 825 | Ond heddiw clywais lais |
| (1, 0) 826 | A'm dug yn ôl i Fethlehem fy ienctid, |
| (1, 0) 827 | I ffresni ei blodau ac i'w phorfa serog, |
| (1, 0) 828 | A lliwiau'r Eden goll ar daen i gyd. |
| (1, 0) 829 | Mi glywais lais yn moli cyfeillgarwch |
| (1, 0) 830 | Uwch marwol don,—pan oedd y fron heb frad. |
| (1, 0) 831 | Bendithiaf Dduw a'th yrrodd ataf heddiw, |
| (1, 0) 832 | Bendithiaf dithau a'm lluddiaist â'th hyfrydlais |
| (1, 0) 833 | Rhag tywallt gwaed y gwirion, ac ymddial |
| (1, 0) 834 | Ar lanc diniwed,—er mwyn Jonathan. |
| (Abisâg) {Yn ostyngedig.} | |
| (Abisâg) I Dduw bo'r clod, a'm cymerth i'n offeryn. | |
| (1, 0) 837 | 'Rwy'n hen a blin, ond hoffwn petai'r llais |
| (1, 0) 838 | A glywais heddiw'n aros gyda'r brenin |
| (1, 0) 839 | Yn ei fynediad a'i ddyfodiad fyth. |
| (Abisâg) Nid am dy fod yn frenin, nid am fod | |
| (1, 0) 850 | Yr Arglwydd Dduw a dalo it dy ras. |
| (1, 0) 851 | Er hynny, ni rown fyth aderyn gwyllt |
| (1, 0) 852 | I fyw mewn cawell a gofyn ganddo gân. |
| (1, 0) 853 | Yr wyt ti'n rhydd bob dydd i fynd a dyfod, |
| (1, 0) 854 | Fy Swnamês, fel un o blant y brenin. |
| (1, 0) 855 | Yr wyt ti'n rhydd i ofyn anrheg hael |
| (1, 0) 856 | Yn wobr dy ganu ganddo; nid gŵr tlawd |
| (1, 0) 857 | Yw Brenin Israel. |
| (1, 0) 859 | Cymer y fodrwy hon. |
| (Abisâg) {Yn ysgwyd ei phen.} | |
| (1, 0) 864 | A pheth yw rhin llawenydd, lances fwyn? |
| (Abisâg) Mae'i rin yn syml—gellit ei roi mewn gair. | |
| (Abisâg) Mae'i rin yn syml—gellit ei roi mewn gair. | |
| (1, 0) 866 | Dysg imi'r gair, ac fel mai byw yr Arglwydd, |
| (1, 0) 867 | Mi a'i llefaraf yng ngwylfeydd y nos. |
| (Abisâg) Gair dy lawenydd di yw—"Absalom." | |
| (Hŵsai) Er mwyn dy orsedd, galw Absalom! | |
| (1, 0) 888 | Beth yw dy gyngor dithau, fy Mrenhines? |
| (Bathseba) Ni ddychwel byth. Caledu a wnaeth ei galon | |
| (Bathseba) Â'i dad trwy dymor ei alltudiaeth hir. | |
| (1, 0) 892 | Ac er fy hiraeth, nid anfonais air. |
| (Beneia) Gan hynny, Frenin, ped anfonit heddiw | |
| (Beneia) I'w wneud ei hun yn frenin yn dy le? | |
| (1, 0) 898 | Beneia! Am fy mab yr wyt-ti'n sôn! |
| (Bathseba) {Gan anwesu Solomon.} | |
| (Bathseba) Ai iawn gan hynny galw llofrudd adref? | |
| (1, 0) 903 | Iawn, pan fu'r Brenin yntau'n llofrudd. Iawn! |
| (Bathseba) {Yn protestio tan ei hanadl ac wedi ei chlwyfo.} O! | |
| (Bathseba) {Yn protestio tan ei hanadl ac wedi ei chlwyfo.} O! | |
| (1, 0) 905 | Gwnaf, lances, mi anfonaf am fy mab. |
| (Joab) {Yn codi ar ei draed yn llawen ac agosáu at yr Orsedd.} | |
| (Joab) —Cyflawnaist ddyheadau dwys dy weision. | |
| (1, 0) 912 | Ni chredi-di, Joab, fel ein doeth Frenhines, |
| (1, 0) 913 | Mai ofer anfon?—Na ddychwelai byth |
| (1, 0) 914 | O dir Gesŵr? Fod balchder yn ei war? |
| (Joab) Mae cennad o Gesŵr nawr yn yr ardd | |
| (1, 0) 920 | Wyt-ti'n siŵr? |
| (Joab) Gofyn y mae am arwydd o'th faddeuant, | |
| (Joab) A fynni ei weld? | |
| (1, 0) 924 | Mynnwn, yn enw Duw! |
| (Joab) Nid yw'n llefaru ein tafodiaith ni, | |
| (Joab) F'arglwydd, dyma'r gennad. | |
| (1, 0) 935 | Croesoi'n llys!... |
| (1, 0) 936 | Cennad y Twysog wyt? |
| (1, 0) 939 | Pa raid wrth ragor? |
| (1, 0) 940 | —Modrwy fy mab yw hon! |
| (1, 0) 942 | Dwg dithau iddo ef fy modrwy innau |
| (1, 0) 943 | Yn arwydd cymod a maddeuant tad, |
| (1, 0) 944 | A bod pob croeso iddo adre'n ôl. |
| (1, 0) 948 | Arch iddo frysio, cyn bod fy mhenwynni'n |
| (1, 0) 949 | Disgyn mewn hiraeth mawr amdano i fedd. |
| (Absalom) {Yn ei fwrw ei hun ar ei liniau o flaen y Brenin.} | |
| (1, 0) 959 | Absalom, fy mab! |
| (Solomon) {Yn cytuno â sylw a wnaed gan Meffiboseth am Absalom.} | |
| (Absalom) Gall diffyg pwyll rhwng brodyr droi y ddau. | |
| (2, 1) 1071 | Dydd da, fy meibion. |
| (2, 1) 1073 | Wele mor ddaionus |
| (2, 1) 1074 | A hyfryd ydyw trigo o frodyr ynghŷd. |
| (2, 1) 1075 | Mae fel yr ennaint gwerthfawr... Mi wnaf gân |
| (2, 1) 1076 | Ryw ddydd ar beraroglus rin brawdgarwch. |
| (Absalom) Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad. | |
| (Ahitoffel) Yn awr yn trafod Hebron gyda'i Gyngor. | |
| (2, 1) 1084 | Dwedwch yr helynt wrth fy nhywysogion, |
| (2, 1) 1085 | A thraethent hwythau'u barn. |
| (Ahitoffel) Clywch, fy arglwyddi, | |
| (Absalom) O'n cwmpas yng Nghaersalem. | |
| (2, 1) 1097 | Ond mewn cyrch |
| (2, 1) 1098 | Y trechais i Gaersalem y Jebiwsiaid, |
| (2, 1) 1099 | Trwy ddringo'r gwter i'w caer anorchfygol, |
| (2, 1) 1100 | Ai throi hi'n Ddinas Dafydd, gan ei harddu |
| (2, 1) 1101 | Ag adeiladau teilwng o Brifddinas. |
| (Absalom) Nid adeiladau sydd yn gwneud prifddinas; | |
| (Hŵsai) I'w gwario ar Gaersalem, meddant hwy! | |
| (2, 1) 1107 | Beth yw dy gyngor? |
| (Absalom) {Wrth ei gyd-dywysogion.} | |
| (Joab) Does dim sy'n uno gwlad fel byddin gref. | |
| (2, 1) 1140 | Beth sydd yn uno cenedl, Absalom? |
| (Absalom) Crefydd sy'n uno cenedl, f'arglwydd frenin. | |
| (Absalom) A'r enw hwnnw—"Dinas y Brenin Mawr." | |
| (2, 1) 1155 | "Dinas y Brenin Mawr!" Fy mab ardderchog! |
| (2, 1) 1156 | A chan na chodir hon mewn dydd na blwyddyn, |
| (2, 1) 1157 | Rhoed Duw hir oes i'm plant i'w sylweddoli. |
| (2, 1) 1159 | Pa beth wyt ti'n gynllunio? |
| (Solomon) Teml, fy nhad, | |
| (Meffiboseth) Yn gnapïau addurn ac yn flodau lili. | |
| (2, 1) 1169 | Gwyn fyd pob tad â meibion fel y rhain, |
| (2, 1) 1170 | Fel un, mewn planio ac mewn cydweithredu, |
| (2, 1) 1171 | Er mwyn gogoniant y Goruchaf Dduw. |
| (Ahitoffel) Hyn oll a gymer amser. Eithr heddiw | |
| (Ahitoffel) Cyngor rhagorol—teilwng o Fab Dafydd. | |
| (2, 1) 1185 | Llwydded yr Iôr d'ymweliad, Absalom, |
| (2, 1) 1186 | A'r un dydd mi offrymaf finnau f'offrwm. |
| (2, 1) 1187 | O flaen yr Arch ar allor Duw yng Nghaersalem. |
| (Joab) Ai digon fydd pythefnos i drefnu'r dydd? | |
| (Joab) Ai digon fydd pythefnos i drefnu'r dydd? | |
| (2, 1) 1189 | Digon. Rhoddaf i Sadoc yr offeiriad |
| (2, 1) 1190 | Godaid o arian fel y brysio i brynu |
| (2, 1) 1191 | Bustych ac ŵyn ddigonedd at yr aberth, |
| (2, 1) 1192 | A phorthi'r sanctaidd fflam â braster hyrddod. |
| (Hŵsai) A'r dydd yr edrych Duw i lawr o'r nefoedd | |
| (Hŵsai) Fel y cymododd Ef y tad a'r mab. | |
| (2, 1) 1198 | Cyhoedder wedi'r aberth wledd a dawns |
| (2, 1) 1199 | Ag utgyrn arian i'r dinaswyr oll, |
| (2, 1) 1200 | Yn Hebron a Chaersalem. Boed y dydd |
| (2, 1) 1201 | Yn ddydd o lawen chwedl trwy'r holl wlad. |
| (Ahitoffel) Ai diogel mynd o'n Twysog Absalom | |
| (Ahitoffel) A'u holl ystrywiau politicaidd, | |
| (2, 1) 1233 | Dos, |
| (2, 1) 1234 | A bendith Dduw fo'n dilyn eich cenhadaeth. |
| (2, 1) 1235 | Fy mab, gwna'n fawr o air fy Mhrif Weinidog. |
| (2, 1) 1236 | Mae'n gweld ymhell; a phwyswn ar ei gyngor |
| (2, 1) 1237 | Fel gair y nef ei hun. |
| (Ahitoffel) Gadfridog Joab, | |
| (2, 1) 1254 | A'r ddawns, fy Arglwydd Hŵsai! Os ydym hen, |
| (2, 1) 1255 | Cawn fflach y gwin trwy'n gwaed y dwthwn hwnnw, |
| (2, 1) 1256 | A fllach y ddawns trwy'n neuadd wedi'r wledd. |
| (Joab) Os esgusoda'r Brenin fi yn awr, | |
| (Joab) I erfyn am ei weddi gyda'r antur. | |
| (2, 1) 1263 | Ie, dos, gadfridog. |
| (Solomon) Fy mrawd Absalom, | |
| (Absalom) A ganiatei-di hynny? | |
| (2, 1) 1275 | Pwy yw'r gyrrwr? |
| (Absalom) Y grymus Metheg-Ama. | |
| (Absalom) Y grymus Metheg-Ama. | |
| (2, 1) 1277 | Cerbydwr da! |
| (2, 1) 1279 | Ymaith, y gweilch, mwynhewch awelon gwlad. |
| (Absalom) {Yn atal Solomon er ei frys.} | |
| (Absalom) {Solomon yn clecian y chwip.} | |
| (2, 1) 1284 | Asbri ieuenctid! Pan yw siawns pob dydd |
| (2, 1) 1285 | Yn dwyn gwin antur newydd, lond ei gwpan, |
| (2, 1) 1286 | Heb ddim o'r gwaddod chwerw sy yng nghwpan henaint. |
| (Abisâg) {Wedi ymgrymu.} | |
| (2, 1) 1297 | Eneth, dygaist |
| (2, 1) 1298 | Y peraroglus win i'm bywyd hefyd. |
| (2, 1) 1299 | Yfaf hyd atat. Taled yr Arglwydd iddi, |
| (2, 1) 1300 | Gynghorwyr, ei hymgeledd i hen ŵr. |
| (Hŵsai) Mae'i llaw ar delyn yn gwefreiddio'n llys, | |
| (Abisâg) Cyrchais dy fantell. | |
| (2, 1) 1305 | Mynnaf, Abisâg. |
| (2, 1) 1307 | Neges sydd gennyf at Sadoc yr offeiriad. |
| (2, 1) 1308 | A ddoi-di gyda mi? Cei weld yr Arch. |
| (Abisâg) Yn llawen, f'arglwydd. | |
| (Abisâg) Yn llawen, f'arglwydd. | |
| (2, 1) 1310 | Y Cynghorwr Hŵsai, |
| (2, 1) 1311 | Tyrd dithau gyda ni i drefnu'r Wyl. |
| (Abisâg) Pa Wyl yw honno? | |
| (Ahimâs) Gras a gwrogaeth oddi wrth fy nhad Sadoc. | |
| (2, 1) 1320 | Ein cyfarch i fab Sadoc yr Offeiriad! |
| (Ahitoffel) Paham y rhedaist? | |
| (Ahimâs) Croeso, O Frenin mawr, i dŷ fy nhad. | |
| (2, 1) 1330 | Tywalltwyd gras ar dy wefusau'n ifanc. |
| (2, 1) 1331 | Cyfod, a hebrwng ni at Was yr Arglwydd. |
| (Abisâg) A diolch am dyredeg... 'Fynni-di win? | |
| (Absalom) Mae haul Ethiopia'n fflam yn ei gyhyrau. | |
| (2, 1) 1361 | A dygnwch Iddew ym mwriad Ahimâs! |
| (2, 1) 1362 | Gwystlwn fy nghoron arno....Absalom, |
| (2, 1) 1363 | Mi ddaliaf iti her am gant o siclau |
| (2, 1) 1364 | Y trechir Cŵsi ganddo o fewn tri mis. |
| (Absalom) {Yn chwerthin.} | |
| (Absalom) Mae'r peth fel dwyn dy arian da. | |
| (2, 1) 1369 | Cawn weld. |
| (2, 1) 1370 | 'Fethodd fy llygaid ddim eto am redegwr. |
| (2, 1) 1371 | Tystion ohonoch, bawb!... Ac Ahimâs, |
| (2, 1) 1372 | Gwêl mai tydi sy'n ennill, ac mi roddaf |
| (2, 1) 1373 | Y ddau can sicl oll yn wobr iti. |
| (Abisâg) A minnau'r eurdlws hwn sydd ar fy mron. | |
| (Ahimâs) A'th ymddiriedaeth di, arglwyddes fwyn. | |
| (2, 1) 1381 | O'r gorau, tywys ni i dŷ dy dad, |
| (2, 1) 1382 | Dowch, Abisâg a Hŵsai. |
| (2, 1) 1385 | A threfnwch chwithau, |
| (2, 1) 1386 | Ahitoffel ac Absalom, eich apêl |
| (2, 1) 1387 | At bobol Hebron... Hyd yfory, ynteu! |
| (Absalom) Duw gadwo'r Brenin. | |
| (Hŵsai) {Gan edrych yn ddwys ac yn hir yng ngwaelod ei gwpan gwag, a'r lodes yn prysuro v'w lenwi.} | |
| (2, 2) 1542 | Mi fûm yn ifanc ac yr wyf yn hen; |
| (2, 2) 1543 | Gwelais sawl gwae a gwynfyd, ond ni welais |
| (2, 2) 1544 | Ffïol llawenydd yn fy myw mor llawn. |
| (Joab) Am in gael byw i weld y dwthwn hwn | |
| (Joab) Yn codi ei lef mewn mawl i Dduw. | |
| (2, 2) 1553 | A chlywed |
| (2, 2) 1554 | Y bobol yn ymuno yn ein diolch |
| (2, 2) 1555 | Am gymod bythol rhwng y tad a'r mab. |
| (Joab) Yfwch, gyfeillion, eto i lwydd y brenin, | |
| (Cŵsi) Calon gwŷr Jwda a aeth ar ei ôl. | |
| (2, 2) 1593 | Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog? |
| (Cŵsi) Barn Duw a'i hyso! Ef yw tad y drwg. | |
| (2, 2) 1614 | Byddin i'm herbyn tan fy mab fy hun, |
| (2, 2) 1615 | A baner brad yn llaw fy Mhrif Weinidog. |
| (2, 2) 1616 | Ni roes Duw ddarllen wyneb. |
| (2, 2) 1625 | Solomon, |
| (2, 2) 1626 | Cyrch di fy nghledd a'm helm a'm tarian imi. |
| (2, 2) 1628 | Bathseba, estyn dithau fantell gynnes. |
| (2, 2) 1629 | O dan y sêr y byddi'n cysgu heno. |
| (Beneia) {Wedi saliwt â'i gleddyf.} | |
| (2, 2) 1649 | Nage, fy Nghadfridog, |
| (2, 2) 1650 | Nid yw Caersalem i'w dinistrio er dim. |
| (2, 2) 1651 | Ni allem ddianc mwy na blaidd mewn trap. |
| (Joab) Beth yw dy gyngor? | |
| (Joab) Beth yw dy gyngor? | |
| (2, 2) 1653 | Ffoi ar frys i'r anial, |
| (2, 2) 1654 | Nyni a'n gosgordd. Fel yn nyddiau Saul |
| (2, 2) 1655 | Awn eto ar herw i'r gwyllt. Yn y diffeithwch |
| (2, 2) 1656 | Fe ddichon dyrnaid ddal i herio llu. |
| (2, 2) 1657 | Ac yn y gwyllt bydd ffordd i atgyfnerthion |
| (2, 2) 1658 | Ein cyrraedd o holl Israel, nes cael byddin |
| (2, 2) 1659 | Fo'n ddigon mawr i drechu'r bradwyr hyn. |
| (2, 2) 1660 | Ymladd am amser 'rwyf. |
| (Joab) {Yn llawn edmygedd.} | |
| (2, 2) 1681 | "Pob milwr i drafaelu'n ysgafn."—Hon |
| (2, 2) 1682 | Ni bu ond pwysau arnaf. Felly safed |
| (2, 2) 1683 | Fan yma i'r neb a fyddo'n Frenin Seion. |
| (2, 2) 1684 | Os Duw a'm dychwel, da... Ac onid e, |
| (2, 2) 1685 | Mae helm yn fwy o gysur i ffoadur, |
| (2, 2) 1686 | A chleddyf na theyrnwialen. |
| (Hŵsai) Rhowch gledd i minnau! | |
| (2, 2) 1692 | Na, hen gyfaill, gwrando. |
| (2, 2) 1693 | Yr wyt ti'n ddeg a thrigain; ac ar daith |
| (2, 2) 1694 | Trwy'r anial baich a fyddit arnom. |
| (Hŵsai) Rhaid | |
| (Hŵsai) Im wasanaethu 'Mrenin yn awr y praw. | |
| (2, 2) 1697 | Ti gei fy ngwasanaethu... Aros yma |
| (2, 2) 1698 | A chymer arnat ochri Absalom. |
| (2, 2) 1699 | Felly y rhenni eu cyngor... Anfon allan |
| (2, 2) 1700 | Negesydd â'u cynlluniau hyd ein gwersyll. |
| (2, 2) 1701 | Gosod dy feddwl pwyllog i ddirymu |
| (2, 2) 1702 | Cyngor Ahitoffel. |
| (Joab) Bydd awch dy feddwl | |
| (Hŵsai) Ath adael yno â chusan gŵr di-frad. | |
| (2, 2) 1712 | Yn barod, fy Mrenhines? Doeth y gwnaethost |
| (2, 2) 1713 | Ddwyn mentyll gwlân i gysgu tan y gwlith. |
| (2, 2) 1714 | Encilied ein gordderchau i gadw'r tŷ |
| (2, 2) 1716 | Hyd ein dychweliad yma... |
| (2, 2) 1718 | Ac Abisâg, |
| (2, 2) 1719 | Doeth fyddai i tithau ffoi i dŷ dy dad. |
| (2, 2) 1720 | Yn Sŵnem. Mi anfonaf was i'th hebrwng. |
| (Abisâg) Nac erfyn arnaf i ymado â thi, | |
| (Ahimâs) A bendith Sadoc gyda thi lle'r elych. | |
| (2, 2) 1736 | Fy niolch byth i Sadoc ac i'w fab, |
| (2, 2) 1737 | Ond nid ymedy'r Arch. Â dawns a chân |
| (2, 2) 1738 | Y cyrchais hi i'w gosod yng Nghaersalem, |
| (2, 2) 1739 | Ac yng Nghaersalem mae hi i aros byth. |
| (Ahimâs) Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych. | |
| (Ahimâs) Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych. | |
| (2, 2) 1741 | Mae gennyf amgen gwaith it, Ahimâs, |
| (2, 2) 1742 | Mwy enbyd hefyd. |
| (Ahimâs) Dyro imi'r fraint. | |
| (Ahimâs) Dyro imi'r fraint. | |
| (2, 2) 1744 | Aros yn Seion fel rhedegwr Hŵsai. |
| (2, 2) 1745 | Bydd mab offeiriad uwchlaw pob drwgdybiaeth. |
| (2, 2) 1746 | Ar ôl i Hŵsai ddysgu eu cynllwynion |
| (2, 2) 1747 | Dwg di ei neges im, a chei ymrestru |
| (2, 2) 1748 | Yng ngosgordd Llanciau Joab ddydd y frwydyr. |
| (Ahimâs) {Wedi sefyll a gogwyddo'i ben mewn gwerthfawrogiad o ymddiriedaeth fawr y Brenin.} | |
| (2, 2) 1757 | Deuwch, ffyddloniaid Dafydd... Tua'r anial! |
| (2, 2) 1761 | Na, na, fy machgen ffyddlon! Ni all cloff |
| (2, 2) 1762 | Fyth ganlyn gyda byddin.—Ar ffyn baglau! |
| (2, 2) 1763 | Aros sydd raid i ti. |
| (Meffiboseth) {Mewn dagrau.} | |
| (Abisâg) Ei waith yn anrheg heno wedi'r wledd. | |
| (2, 2) 1774 | Pa le y mae hi? |
| (Abisâg) Cuddiodd hi tan y fainc | |
| (2, 2) 1780 | 'Roi-di mo'r anrheg imi, Meffiboseth? |
| (2, 2) 1783 | Diolch, dywysog hoff... Rwy'n dweud "Nos da" |
| (2, 2) 1784 | Yn awr wrth Goron Israel. |
| (2, 2) 1786 | Ond os daw bore |
| (2, 2) 1787 | Buddugol fy nychweliad, galwaf arnat: |
| (2, 2) 1788 | "Dwg im fy nghoron yn ei phrydferth gist"... |
| (2, 2) 1790 | Ffarwel, Fab Jonathan! |
| (Meffiboseth) {Yn torri i lawr yn llwyr.} | |
| (Beneia) Galwaf, yn ôl eich gair... Mae'n doriad dydd. | |
| (3, 1) 2267 | Dydd da, fy Nghapten. |
| (Beneia) Henffych well, fy Mrenin. | |
| (Beneia) Rhingyll ein Gwŷr o Gard i seinio'r utgorn? | |
| (3, 1) 2283 | Aros, am ennyd. Gad im edrych eto |
| (3, 1) 2284 | Lle'r huna ugain mil o'm milwyr ffyddlon |
| (3, 1) 2285 | Wrth danau'r gwersyll, cyn troi allan heddiw |
| (3, 1) 2286 | I ryfel dros eu brenin. |
| (3, 1) 2288 | Dywed, Joab, |
| (3, 1) 2289 | Am beth y sonia milwyr y nos cyn brwydyr. |
| (Joab) Am amryw bethau:—rhai am wraig a phlant, | |
| (Joab) Yn sôn yn sobr am fyd gwell wedi'r rhyfel. | |
| (3, 1) 2296 | A neb yn sôn am farw? |
| (Joab) Na fydd, neb. | |
| (Abisâg) Achos ein Brenin. | |
| (3, 1) 2304 | Buont ffyddlon imi, |
| (3, 1) 2305 | Pan aeth y miloedd ar ôl Absalom. |
| (3, 1) 2306 | Rhoed Duw i minnau gadw'u ffydd yn lân. |
| (Joab) Gwnaethost dy orau iddynt; ac mae plan | |
| (Joab) Yn planio trostynt. | |
| (3, 1) 2311 | Agor-o allan. |
| (3, 1) 2312 | Archwiliwn unwaith eto wedd y wlad |
| (3, 1) 2313 | Oddi yma, ac awn drosto'r ganfed waith. |
| (Joab) Rhyngom a'r afon dacw Fforest Effraim, | |
| (Joab) Fan acw, 'nôl dy blan, bydd maes y gad. | |
| (3, 1) 2318 | Yn hollol! Rhaid i'w byddin fawr gwtogi |
| (3, 1) 2319 | Ei blaen wrth ddod trwy fforest, fel na byddo |
| (3, 1) 2320 | Fawr lletach na blaen byddin lawer llai. |
| (3, 1) 2321 | A'r coed a ddifa fwy y dwthwn hwn a |
| (3, 1) 2322 | Nag a wna'r cleddyf; dyna'n trap ni, Joab! |
| (Joab) Beth yw d'orchmynion olaf? | |
| (Joab) Beth yw d'orchmynion olaf? | |
| (3, 1) 2324 | Rhanna'n byddin |
| (3, 1) 2325 | Yn dair; un fintai tan dy frawd, i'r chwith; |
| (3, 1) 2326 | Ac un tan Itai'r Gethiad, ar y dde; |
| (3, 1) 2327 | A'r drydedd tanat ti a mi'n y canol |
| (3, 1) 2328 | I ddenu'r gelyn hyd i graidd Coed Effraim. |
| (3, 1) 2329 | Gorchymyn i'r ddwy asgell gelu eu harfau |
| (3, 1) 2330 | O dan eu clogau rhag pelydrau'r haul, |
| (3, 1) 2331 | Dwy asgell, |tu yma| i'r coed,—nes iddynt glywed |
| (3, 1) 2332 | Banllef dy utgorn yn cyhoeddi rhuthro |
| (3, 1) 2333 | O fyddin Absalom ar dy ôl i'r coed. |
| (3, 1) 2334 | Wedyn o dde a chwith, 'sgubed yr esgyll |
| (3, 1) 2335 | Ymlaen, nes cau tu ôl i Absalom, |
| (3, 1) 2336 | Mor ddiymwared ag y caeir trap. |
| (Joab) Mae'n gynllun rheiol, teilwng o'th filwriaeth | |
| (Joab) Rhag ofn diffoddi golau Israel. | |
| (3, 1) 2341 | Pan wêl y llanc fi gyda thi'n y gad, |
| (3, 1) 2342 | Ni chredaf y bydd iddo daro'i dad. |
| (Joab) Nid ei di ddim i'r frwydyr y waith hon. | |
| (Joab) Yn atgyfnerthiad in o Mahanâim. | |
| (3, 1) 2351 | Gan i chwi fentro'ch einioes dros eich brenin, |
| (3, 1) 2352 | Gwnaf innau'r hyn fo da'n eich golwg chwi. |
| (3, 1) 2353 | Un peth yn unig a erfyniaf—Bydd |
| (3, 1) 2354 | Yn esmwyth, er fy mwyn, wrth Absalom... |
| (3, 1) 2355 | Seiniwch yr utgorn! |
| (Joab) Ffarwel, fy Mrenin. | |
| (Joab) Ffarwel, fy Mrenin. | |
| (3, 1) 2359 | Ffarwel, Gadfridog glew. |
| (Joab) Nid Abner na Gideon, ond Dafydd Frenin. | |
| (3, 1) 2366 | Duw a'th warchodo, Joab. |
| (Joab) Ac yn awr | |
| (Joab) Lle y'i gwelo pawb, â'i law mewn bendith drostynt. | |
| (3, 1) 2372 | Mi wnaf. |
| (Abisâg) Os myn y Brenin, af yn awr | |
| (Abisâg) Y fyddin yn ymdeithio i'r frwydyr. | |
| (3, 1) 2377 | Na, |
| (3, 1) 2378 | Gad iddynt gysgu, tra bo cwsg i'w gael. |
| (3, 1) 2381 | Diolch, fy milwyr dewr... Y nef a'ch gwared |
| (3, 1) 2382 | O fagl yr heliwr heddiw yn y Coed. |
| (3, 1) 2383 | Nac ofnwch rhag y saeth a hedo'r dydd, |
| (3, 1) 2384 | Na rhag y waywffon, canys Cyfiawnder |
| (3, 1) 2385 | Fydd darian i chwi'n erbyn haid o fradwyr, |
| (3, 1) 2386 | A Saeth Ymwared Duw a gliria'ch ffordd |
| (3, 1) 2387 | Ifuddugoliaeth... A phan ddelo'r awr, |
| (3, 1) 2388 | Atolwg byddwch esmwyth wrth fy llanc |
| (3, 1) 2389 | A gamarweiniwyd. Dygwch ef at ei dad... |
| (3, 1) 2390 | Ymlaen i'r fuddugoliaeth fawr! Ymlaen! |
| (3, 1) 2394 | I'th ofal, Ahimâs, yn awr cyflwynwn |
| (3, 1) 2395 | Luman y Brenin yn y frwydyr heddiw, |
| (3, 1) 2396 | A hynny er anrhydedd, am it gario |
| (3, 1) 2397 | Negesau Hŵsai atom o Gaersalem |
| (3, 1) 2398 | Trwy bob enbydrwydd. |
| (Ahimâs) {Yn penlinio i dderbyn y faner a'i chusanu.} | |
| (Joab) Yn iach it, arglwydd. | |
| (3, 1) 2403 | Yn iach, Gadfridog, cofia |
| (3, 1) 2404 | Fy ngeiriau olaf ynghylch Absalom. |
| (Joab) Dowch, Ahimâs a Chŵsi! Glynwch wrthyf! | |
| (3, 1) 2424 | Maen'-nhw wedi mynd bob un! Maen'-nhw wedi mynd! |
| (3, 1) 2425 | Sawl un a ddaw yn ôl?... Pwy fyddai'n frenin? |
| (Abisâg) Bu'r straen yn ormod iti. Cwsg ychydig. | |
| (3, 1) 2430 | Ni allaf gysgu, a'm byddin ar ei ffordd |
| (3, 1) 2431 | I faes y gwaed. |
| (Beneia) Bellach ni elli di ragor | |
| (Beneia) Cynhaliaf di i'th stafell wely. Tyrd. | |
| (3, 1) 2436 | Fy mwriad i oedd aros ar y mur |
| (3, 1) 2437 | I ddisgwyl am redegwr o Goed Effraim |
| (3, 1) 2438 | Gyda newyddion. |
| (Beneia) Cwsg. Fe alwn arnat | |
| (Beneia) Cyn gynted ag y gwelwn y rhedegwr. | |
| (3, 1) 2441 | Rwy'n llesg a blin, ond O! ni allwn gysgu |
| (3, 1) 2442 | Er mynd i orwedd dro. |
| (Abisâg) Coffa it ganu, | |
| (Abisâg) Fel i'w anwylyd? | |
| (3, 1) 2452 | Ac fe elwch arnaf? |
| (Beneia) Ar unwaith... Tyred, arglwydd, gorffwys bellach. | |
| (3, 2) 2564 | Pa le y mae-o? |
| (3, 2) 2565 | Dangoswch-o i mi. |
| (Beneia) {Yn pwyntio.} | |
| (3, 2) 2569 | Mae'r llygaid hyn yn hen; dwed a oes eraill |
| (3, 2) 2570 | Yn rhedeg gydag ef o gwr y coed |
| (3, 2) 2571 | Fel ffoaduriaid? |
| (Beneia) Nac oes, neb ond hwn. | |
| (Beneia) Nac oes, neb ond hwn. | |
| (3, 2) 2573 | Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw. |
| (Abisâg) Ynawr 'rwy'n ei adnabod... Cŵsi ddu! | |
| (Abisâg) Ynawr 'rwy'n ei adnabod... Cŵsi ddu! | |
| (3, 2) 2575 | Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges. |
| (Beneia) Edrychwch!... Mae gŵr arall erbyn hyn | |
| (Beneia) Yn rhedeg ar ei ôl... Mae bron â'i ddal. | |
| (3, 2) 2578 | Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau. |
| (Beneia) Edrychwch!... Fo sy'n ennill... Pasiodd Cŵsi! | |
| (Abisâg) Fy Mrenin, 'rwy'n ei nabod... Ahimâs! | |
| (3, 2) 2582 | Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo. |
| (Abisâg) Coffa i'r Brenin ddweud y gwystlai'i goron | |
| (3, 2) 2607 | Ai diogel Absalom fy mab? |
| (Ahimâs) Ar awr y fuddugoliaeth, 'roedd cythrwfl | |
| (Ahimâs) Ymhlith ein milwyr—bloeddio a chroes-floeddio. | |
| (3, 2) 2611 | A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor? |
| (Ahimâs) Ni allwn aros dim i weld beth oedd. | |
| (Ahimâs) Brysia â'r fuddugoliaeth at y Brenin!" | |
| (3, 2) 2615 | Ein diolch, ffrind... Ac fel y cyntaf un |
| (3, 2) 2616 | I ddwyn i'r Brenin y newyddion da |
| (3, 2) 2617 | Am fuddugoliaeth, coffa'r ddefod hen |
| (3, 2) 2618 | Fod y negesydd i gael hawlio'i wobr. |
| (3, 2) 2619 | Ar ben dy redeg gwych y dwthwn hwn |
| (3, 2) 2620 | Cofiwn dy ddewrder fel negesydd Hŵsai. |
| (3, 2) 2621 | Enwa dy wobr, ac fel mai byw yr Arglwydd |
| (3, 2) 2622 | Gofyn a thi a'i cei, beth bynnag fo. |
| (Ahimâs) Fy Mrenin grasol a haelionus, rho | |
| (3, 2) 2627 | Fy nhelynores?... |
| (3, 2) 2629 | Beth a ddywed hi? |
| (Abisâg) Am ei ffyddlondeb mawr i'w Frenin rhoddais | |
| (Abisâg) Yn ôl dy lw, atolwg, gwrando'i gais. | |
| (3, 2) 2635 | Haws, petai wedi gofyn hanner fy nheyrnas! |
| (3, 2) 2636 | Ni fynnwn, ac ni fedrwn byth wynebu |
| (3, 2) 2637 | Ar henaint heb dy gân. |
| (Abisâg) Ac ni bydd rhaid. | |
| (3, 2) 2643 | Cymer hi. |
| (3, 2) 2644 | Ar ei phriodas, Gapten, fe'i gwaddolaf |
| (3, 2) 2645 | Â gwaddol Tywysoges... |
| (3, 2) 2647 | Wyt ti'n fodlon? |
| (Abisâg) O frenin mawr, haelfrydig. | |
| (3, 2) 2661 | Ai diogel Absalom? |
| (Cŵsi) {Yn dynwared ei drywanu ei hun yn ffyrnig deirgwaith â'i gleddau byr.} | |
| (Cŵsi) Sydd heno'n gelain gegrwth... | |
| (3, 2) 2668 | O, fy mab! |
| (3, 2) 2669 | O Absalom, fy mab! O Absalom! |
| (3, 2) 2672 | Na buaswn farw drosot-ti, fy mab! |
| (Cŵsi) {Gan godi ar ei draed o'r diwedd.} | |
| (Cŵsi) Ac felly y darfyddo am bob bradwr! | |
| (3, 2) 2714 | O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab! |
| (Beneia) {Tan ei anadl wrth Gŵsi.} | |
| (Beneia) Baner y Llew fel y bo i'w gweld o bell. | |
| (3, 2) 2734 | O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab! |
| (Abisâg) {Yn ferw o gydymdeimlad.} | |
| (3, 2) 2750 | O, fy mab Absalom! |
| (Abisâg) {Mewn dirfawr ing hithau.} | |
| (Beneia) | |
| (3, 2) 2763 | Absalom! |
| (Abisâg) Rhaid imi ddiffodd fflam y ffaglen yna! | |
| (3, 2) 2824 | ... Absalom! |
| (Joab) Ie, Absalom, mae'n siŵr! Cafodd ei haeddiant. | |
| (3, 2) 2830 | Na, na, Gadfridog. |
| (Joab) O! mi wn yn burion | |
| (3, 2) 2836 | Taw yn awr. |
| (Joab) Na wnaf, nes ychwanegu eto hyn— | |
| (Joab) Tyrd, ymwrola. Dangos dy hun i'th fyddin. | |
| (3, 2) 2848 | Gwnewch â mi fel y mynnoch: aeth y goncwest |
| (3, 2) 2849 | Yn lludw yn fy ngenau. Mae fy nghalon |
| (3, 2) 2850 | Mewn bedd yn Fforest Effraim. |