| (Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un. | |
| (Nansi) {Yn crio.} | |
| (1, 0) 120 | Na chei di, Nansi, na'r plant ddim starvo tra bo Dafi'r Teiliwr yn gallu iwso nodwydd. |
| (1, 0) 121 | Ar dy ffordd adre galw yn ein tŷ ni, a gwêd wrth Marged am roi cwded o flawd i ti, a phishyn o ham y mochyn coch. |
| (Nansi) Diolch yn fowr, Dafi; diolch yn fowr. | |
| (Nansi) {Yn mynd allan.} | |
| (1, 0) 124 | Mae 'ngwâd i'n berwi wrth ych clwed chi, Mr. Williams, yn siarad fel 'na. |
| (1, 0) 125 | Mi allem feddwl fod lladd gwningen yn fwy o bechod na lladd dyn neu blentyn. |
| (1, 0) 126 | Mae'r ffermwyrs 'ma ag ofan siarad o'ch blaen chi. |
| (1, 0) 127 | Mi wyddan mai notis ga nhw, ond diolch i'r nefoedd, 'rwyf i yn byw ar dir fy hunan, a does ofan na sgweier nac arglwydd arna i. |
| (1, 0) 128 | Odi chi'n meddwl fod y Bod mowr wedi trefnu yr hen fyd 'ma i'r cyfoethog yn unig? |
| (1, 0) 129 | Na, na, mi wela i bethe gwell yn dod; fe fydd y gweithiwr a'r tlawd, fel y gwna addysg ledaenu, yn dechreu gweld mai caethion ydynt, yn rhwym, gorff ac enaid, dan law dynion fel chi, a Duw'ch helpo chi a'ch sort y dyddiau hynny. |
| (1, 0) 130 | Mi ellwch ddychrynu Nansi Jac Potcher a ffermwyrs Llansilio, ond mae Dafi'r teiliwr yn golygu bod yn ddyn rhydd, ac yn golygu pregethu rhyddid hefyd. |
| (Scweier) Dyma hi o'r diwedd. | |
| (Tomos) Ma'r si ar lêd, syr, fod Beca a'i merched ar garlam wyllt drwy y gymdogaeth. | |
| (1, 0) 164 | Hwre, bendigedig! |