| (1, 1) 5 | Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud? |
| (TOMOS) Eistedd i lawr, Dora. | |
| (TOMOS) Eistedd i lawr, Dora. | |
| (1, 1) 7 | Mi ydw' i'n gweld hynny'n iawn. |
| (1, 1) 8 | Dim rhaid i chi bwysleisio peth sy'n hollol amlwg. |
| (TOMOS) Wnes i ddim ond ateb eich cwestiwn chi, Dora. | |
| (TOMOS) Beth arall fedrwn i 'i ddweud? | |
| (1, 1) 11 | Nid beth dd'wedsoch chi, ond y ffordd y dywedsoch chi o sy'n amheus. |
| (TOMOS) Amheus? | |
| (TOMOS) Dydw' i ddim yn deall. | |
| (1, 1) 14 | Peidiwch â thrio edrych yn ddiniwed, Tomos. |
| (1, 1) 15 | 'Rydych chi'n gollwng y gath o'r cwd bob tro. |
| (1, 1) 16 | Mae yna rywbeth yn euog o'ch cwmpas chi'n ddiweddar yma. |
| (TOMOS) Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma? | |
| (TOMOS) Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma? | |
| (1, 1) 18 | Mae hi'n braf iawn arnoch chi'n medru llaesu dwylo a hitha' mor brysur arno' ni yma! |
| (TOMOS) Wel ia, ond 'does yna ddim diben— | |
| (TOMOS) Wel ia, ond 'does yna ddim diben— | |
| (1, 1) 20 | Faint o seibiant 'rydw' i'n ei gael? |
| (1, 1) 21 | Dim munud awr o fore tan nos. |
| (1, 1) 22 | Gweithio fy mysedd i'r esgyrn, ac ar alwad pawb yn ddibaid. |
| (1, 1) 23 | Ia, a hynny heb rwgnach hefyd, fel 'rydw' i wiriona'— |
| (TOMOS) Ond Dora— | |
| (TOMOS) Ond Dora— | |
| (1, 1) 25 | Peidiwch â dadla', Tomos. |
| (1, 1) 26 | Rydych chi'n gwybod yn iawn 'mod i'n dweud y gwir. |
| (1, 1) 27 | Os ydych chi am gadw gwesty heddiw, mae'n rhaid i chi fodloni ar fod yn gaethwas. |
| (TOMOS) Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i? | |
| (TOMOS) Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i? | |
| (1, 1) 29 | Wel edrychwch arnoch eich hun, yn llybindian a chlertian o gwmpas fel hyn. |
| (1, 1) 30 | Ac yn smocio fel corn simdde'. |
| (1, 1) 31 | Ydych chi'n fy ngweld i'n gwneud? |
| (TOMOS) Be—smocio fel corn simdde? | |
| (TOMOS) Be—smocio fel corn simdde? | |
| (1, 1) 33 | Peidiwch â chellwair. |
| (1, 1) 34 | 'Rydych chi'n gwybod be' 'rydw i'n ei feddwl yn iawn. |
| (1, 1) 35 | Bob faint fyddwch chi'n fy ngweld i'n segura? |
| (TOMOS) Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma. | |
| (TOMOS) Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma. | |
| (1, 1) 37 | Rhag eich c'wilydd chi, Tomos! |
| (1, 1) 38 | Hi ydy' un o'n cwsmeriaid gora' ni. |
| (1, 1) 39 | Ac yn aelod blaenllaw o Gyngor y Dre. |
| (1, 1) 40 | Ydach chi'n gwarafun munud o sgwrs dros banned o de? |
| (TOMOS) Dim o gwbwl. | |
| (TOMOS) Mi gewch straeona am ddwy awr o'm rhan i! | |
| (1, 1) 43 | Straeona, ddwedsoch chi? |
| (1, 1) 44 | Straeona? |
| (1, 1) 45 | Heblaw ei fod o'n gyhuddiad creulon, mae o'n gelwydd noeth. |
| (TOMOS) Chi oedd yn siarad tra 'roeddwn i'n darllen, Dora. | |
| (1, 1) 48 | 'Does gennych chi ddim amser i ddarllen. |
| (1, 1) 49 | Mi wyddoch y bydd yma lond y lle i ginio. |
| (1, 1) 50 | Mae yna ddwy bwcedaid o datws yn y gegin eisio cael eu plicio. |
| (1, 1) 51 | Mi fydda' i'n disgwyl y byddan' nhw'n barod pan ddo' i'n ôl. |
| (1, 1) 52 | Fydda' i ddim yn hir. |
| (TOMOS) Welsoch chi fy rasal i, Dora? | |
| (TOMOS) Welsoch chi fy rasal i, Dora? | |
| (1, 1) 54 | Rasal? |
| (1, 1) 55 | I be 'rydach chi eisio honno? |
| (TOMOS) Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—! | |
| (TOMOS) Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—! | |
| (1, 1) 57 | Edrychwch yma, Tomos, 'dydw i ddim mewn tymer i'ch ffraethineb chi heddiw o bob diwrnod. |
| (1, 1) 58 | Da chi, triwch gysidro. |
| (TOMOS) Cysidro be'? | |
| (TOMOS) Cysidro be'? | |
| (1, 1) 60 | Ydach chi ddim wedi sylwi 'mod i mewn du? |
| (TOMOS) Wel ia, erbyn i chi ddweud. | |
| (TOMOS) Be sy'n bod—ydach chi'n mynd i gyn'ebrwng rhywun? | |
| (1, 1) 63 | Cynhebrwng? |
| (1, 1) 64 | Prin y medrech chi ddweud dim creulonach, 'taech chi'n sylweddoli hynny. |
| (TOMOS) Mae'n ddrwg gen' i os gwnes i gamgymeriad. | |
| (TOMOS) Fedra' i feddwl am ddim arall—os nad dillad du ydy'r ffasiwn newydd. | |
| (1, 1) 68 | Da chi, peidiwch â rhwbio halen i'r briw. |
| (1, 1) 69 | Ddeng mlynedd i heddiw y collais i William annwyl. {Eistedd i lawr.} |
| (TOMOS) {Yn ddifater} O, hwnnw'! | |
| (TOMOS) {Yn ddifater} O, hwnnw'! | |
| (1, 1) 71 | Gofalwch be' rydach chi'n 'i ddweud, Tomos. |
| (1, 1) 72 | Mae'n ddyletswydd anrhydeddus arna'i i barchu co' fy ngŵr cynta'. |
| (1, 1) 73 | Heddwch i'w lwch! |
| (TOMOS) Ia—mae hi'n reit braf arno fo! | |
| (TOMOS) Ia—mae hi'n reit braf arno fo! | |
| (1, 1) 75 | Beth ydach chi'n 'i feddwl? |
| (TOMOS) Wel, wyddoch chi, allan o stormydd bywyd. | |
| (TOMOS) Cyrraedd hafan ar ôl y ddrycin, mewn ffordd o siarad. | |
| (1, 1) 79 | Ia, mae hynna'n llythrennol wir. |
| (1, 1) 80 | Yn y storm ofnadwy honno ddeng mlynedd yn ôl, yr aeth ei long o i'r gwaelod. {Codi a mynd at y ffenestr.} |
| (1, 1) 81 | Ac er y dydd hwnnw, mae'r hen fôr milain, creulon acw'n atgas gen' i. |
| (1, 1) 82 | 'Dydw i byth yn clywed swn ei donnau heb glywed hefyd chwerthiniad iach fy nghariad cyntaf. |
| (1, 1) 83 | Fedra' i byth edrych ar y tywod heb feddwl am ei esgyrn annwyl yn gymysg â'r gwmon. |
| (1, 1) 84 | Ddaw'r llanw byth i mewn heb lenwi fy nghalon â hiraeth dwys. |
| (1, 1) 85 | Mae cri'r wylan ar adennydd y gwynt yn dennu deigryn o'm llygaid. |
| (TOMOS) Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora? | |
| (TOMOS) Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora? | |
| (1, 1) 87 | Sut fedrwch chi fod mor ddideimlad, Tomos? |
| (1, 1) 88 | Ond beth arall sydd 'i ddisgwyl? |
| (1, 1) 89 | 'Does gennych chi ddim mwy o ramant na chwningan! |
| (TOMOS) Fedra i feddwl am 'run creadur mwy rhamantus na honno! | |
| (TOMOS) Hynny ydy—'does gennych chi fawr o awydd gweithio heddiw, mae'n debyg, yng nghanol eich hiraeth— | |
| (1, 1) 94 | Mi fydda' i bob amser yn meistroli fy nheimlada', fe ddylech wybod hynny. |
| (1, 1) 95 | Hyd yn oed mewn trallod, mi fydda' i'n trio meddwl am eraill. |
| (1, 1) 96 | Ac os oes arnoch chi eisio gwybod, nionod-picl fydd yna i ginio heddiw. |
| (1, 1) 97 | Felly mi gewch sbario'ch trafferth. |
| (TOMOS) Dim trafferth o gwbwl, Dora. | |
| (TOMOS) Pleser o'r mwya'. | |
| (1, 1) 102 | Mae gen' i eisio mynd allan ar negas, Lewis. |
| (1, 1) 103 | Wnei di gadw dy lygaid yn agored rhag ofn i rywun alw? |
| (1, 1) 104 | Mi fydd dy dad yn brysur yn y gegin. |
| (LEWIS) {Swta} O'r gora. {Dod o hyd i'w lyfr.} | |
| (TOMOS) Mae o'n cael anhawster mawr i setlo i lawr ar ôl dwad o'r fyddin. | |
| (1, 1) 110 | Wel, mi ydw' i wedi gwneud fy ngora' iddo fo, Tomos. |
| (1, 1) 111 | 'Tawn i'n fam iddo fo, fedrwn i wneud dim mwy. |
| (1, 1) 112 | Ond 'dwn i ddim ydy' f'ymdrechion i'n cael eu gwerthfawrogi. |
| (TOMOS) O mi fedra' i'ch sicrhau chi o hynny, Dora. | |
| (TOMOS) A dweud y gwir, 'does yna ddim ond un peth sydd wedi amharu ar ein hapusrwydd ni. | |
| (1, 1) 116 | A be ydy' hwnnw? |
| (TOMOS) William. | |
| (TOMOS) William. | |
| (1, 1) 118 | 'Does arna' i ddim eisio trafod hynny rwan, Tomos. |
| (1, 1) 119 | Mi fydda' i'n ddiolchgar os gwnewch chi barchu fy nheimladau. {Troi oddiwrtho.} |
| (1, 1) 120 | William annwyl! |
| (1, 1) 121 | Deng mlynedd—! |
| (TOMOS) Dora. | |
| (TOMOS) Dora. | |
| (1, 1) 123 | Ia? |
| (TOMOS) Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia? | |
| (TOMOS) Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia? | |
| (1, 1) 125 | Wel? |
| (TOMOS) Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw. | |
| (TOMOS) Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw. | |
| (1, 1) 127 | 'Tae ni wedi cael plentyn? |
| (1, 1) 128 | Tomos, peidiwch â siarad mor anweddus, wnewch chi! |
| (1, 1) 129 | Ewch i'r cefn at y tatws yna, cyn i mi anghofio fy hun. |
| (TOMOS) {Yn cychwyn} Yn mynd, Dora, yn mynd. | |
| (TOMOS) {Yn cychwyn} Yn mynd, Dora, yn mynd. | |
| (1, 1) 131 | Yn dweud y fath beth heddiw o bob diwrnod! |
| (1, 1) 132 | Mae'r dyn o'i go'n lân. |
| (BENJA) Helo, Tomos Morgan. | |
| (TOMOS) Arswyd y byd! {Rhedeg yn ei ol, gafael yn y bocs a rhuthro allan.} | |
| (1, 1) 483 | Tomos! |
| (TOMOS) Ia, Dora! | |
| (TOMOS) Ia, Dora! | |
| (1, 1) 485 | Beth ydy'r bocs yma? |
| (TOMOS) Bocs? | |
| (TOMOS) Wyddoch chi—wel bocs mewn ffordd o siarad— | |
| (1, 1) 489 | Beth sydd ynddo fo? |
| (TOMOS) Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair. | |
| (TOMOS) Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair. | |
| (1, 1) 491 | Be! |
| (1, 1) 493 | Beth ydy'ch meddwl chi d'wedwch? |
| (1, 1) 494 | I be' mae nhw'n dda? |
| (TOMOS) Wel—i ddal pysgod. | |
| (TOMOS) Wel—i ddal pysgod. | |
| (1, 1) 496 | Ond fyddwch chi byth yn mynd i bysgota! |
| (TOMOS) Na, na—ei cadw nhw i Benja 'rydw' i, Dora. | |
| (TOMOS) Mae o wedi addo brithyll i mi am danyn' nhw. | |
| (1, 1) 499 | Felly wir. |
| (1, 1) 500 | Ond mae yna glo arno fo! |