| (Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, | |
| (Pobun) Awn yn awr at borth y dref i edrych y darn tir, gael i ni weld a dalo at wneud gardd bleser. | |
| (0, 2) 66 | Y mae aur y Tylwyth Teg yn dy law di, felly bydd popeth yn iawn, fe gei'r peth a fynni—fydd dyn ddim yn hir cyn cwpla'r peth fo wrth ei fodd. |
| (0, 2) 67 | Y mae'r moddion gennyt, felly dyna ben. |
| (Cymydog Tlawd) Dyma dŷ'r gŵr goludog, Pobun. | |
| (0, 2) 71 | le, fel y dywedwyd, rhaid i ni frysio, nid gwiw i ni oedi'n hwy. |
| (Cymydog Tlawd) {Gan godi ei law yn erfyngar.} | |
| (0, 2) 75 | A adwaenost ti'r creadur yna? |
| (Pobun) Myfi? | |
| (Pobun) Dim ond hynny? | |
| (0, 2) 95 | Mae'r gŵr drwg yn ei groen! |
| (0, 2) 96 | Byddai miloedd o fegeriaid ar dy warthaf di—beth, miloedd? |
| (0, 2) 97 | Cannoedd o filoedd! |
| (Cymydog Tlawd) Yr wyt ti'n gyfoethog dros fesur. | |
| (Pobun) Pwy roes gennad i ti sôn am fy nghistiau, fy rhenti a'm llogau i? | |
| (0, 2) 102 | O'm rhan fy hun, byddai'n gywilydd gennyf ofyn y fath beth! |
| (Pobun) {wrth y Cydymaith.} | |
| (Pobun) Am hynny, cymer ef rhag dy flaen, canys dyma dy gyfiawn ran. | |
| (0, 2) 122 | Diau, fe roddaist iddo synnwyr noeth. |
| (0, 2) 123 | Wir Dduw! a fo goludog a fydd doeth! |
| (Pobun) Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau. | |
| (Pobun) Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau. | |
| (0, 2) 126 | Beth yw'r creadur hwn o ddyn sy ganddynt, a'i ddwylo wedi eu rhwymo'n groes? |
| (0, 2) 127 | Mynd ag ef i garchar am ei ddyled, ond odid. |
| (0, 2) 128 | Buasai well iddo edrych ati'n amgenach. |
| (0, 2) 129 | Rhaid iddo bellach feddwl am fara a dŵr, neu ymgrogi wrth ryw hoel neu gilydd. |
| (0, 2) 130 | Ie, was, 'r wyt ti'n rhigymu enwau fel y bydd plant—Sioni poni, Siani pani, a rhyw chwarae felly—mae echwyn ac achwyn yn clymu'n burion! |
| (Dyledwr) Pe bai llyfr echwyn ambell un yn agored, fe welid bod ynddo lawer peth drwg. | |
| (Pobun) Os drwg dy sut wyt ti, beth a allaf i wrth hynny? | |
| (0, 2) 139 | Beth? |
| (Dyledwr) Gair digon ysgafn am ergyd drom. | |
| (Dyledwr) Gair digon ysgafn am ergyd drom. | |
| (0, 2) 141 | Beth! |
| (Pobun) Pwy roes ergyd i ti? | |
| (Pobun) Beth? | |
| (0, 2) 148 | Beth! |
| (Dyledwr) Mae d'enw di wrth amod sy'n fy mwrw i i garchar. | |
| (Pobun) Arian, fel pob masnach arall, y mae arian dan gytundeb a thegwch. | |
| (0, 2) 167 | Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen. |
| (Gwraig y Dyledwr) Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw. | |
| (Dyledwr) [O'm helbul mi enillais rywbeth, sef bod wedi dysgu adnabod magl y diawl, a rhyddhau f'enaid rhag melltith arian.] | |
| (0, 2) 176 | [Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.] |
| (Pobun) Cymer y ddysg hon gennyf i—gŵr doeth a dyrchafedig oedd y sawl a ddyfeisiodd arian i ni, oherwydd drwy hynny, yn lle rhyw gyfnewid pethau a rhyw fan-werthu salw, daeth ein byd ni i gyd i gyflwr uwch, a dyfod pob dyn yn ei gylch ei hun yn ddioed yn debyg i ryw Dduw bychan, [fel y gallo yn ei ffordd gynhyrchu ac achosi llawer o bethau]. | |
| (Pobun) Mi rof yr ardd bleser a'r tŷ pleser ynddi yn rhodd i'm meistres ar ben eì blwydd eto. | |
| (0, 2) 206 | Honno y caf i dy weled gyda hi heno? |
| (0, 2) 207 | Mi ddof â'r dangosiad am y tâl iti yno, wedi ei gwpla yn ôl d'ewyllys. |
| (Pobun) Llawer o ddiolch i ti, gydymaith da, mae awydd arnaf am brysuro yno—dyna'r unig fan yn y byd na bydd ynddo ddim yn andwyo fy mhleser; rhyw wynfyd cwbl baradwysaidd yw'r croeso parod a gaf ganddi hi. | |
| (Pobun) Am hynny, f'ewyllys yw bod pa beth bynnag a ddygaf yn rhodd iddi hi yn dangos fy niolchgarwch iddi megis mewn drych. | |
| (0, 2) 210 | Pa fodd y gwnei di hyn, ym mha ryw ddull? |
| (Pobun) Trefnais yr ardd gyda gofal, a bod tŷ pleser i fod yn ei chanol, a'r gwaith yn union wrth fy mryd fy hun, megis llwyfan agored, a cholofnau teg o faen yno, a dwfr yn neidio i'r awyr a delwau pres na bont yn ôl am un addurn; ac yno hefyd, gosod y gwelâu fel y bo arogleuon blodau o lawer math yn llenwi awel y bore a'r hwyr, lilîau, rhosynnau a lafant. | |
| (Pobun) At hynny, mewn rhyw lannerch gudd, megis gwely y ryw dduwies, mi fynnaf gael ystafell o faen llyfn caboledig, a bâdd ynddi. | |
| (0, 2) 214 | Gardd fach odidog yn sicr, ac nid hawdd taro ar ei thebyg. |
| (Pobun) Mi roddaf honno i'm hanwylyd, a'i harwain hithau yno gerfydd ei dwy law, fel y gwelo hi yn yr ardd fach werthfawr hon ei llun ei hunan megis mewn drych; [lle fydd hwn fydd yn fy llawn foddhau i bob amser, a thes a chysgod hyfryd yn fy llonni, a gardd fach dawel megis hon fydd dedwyddwch a golud y garddwr]. | |
| (Pobun) Mi roddaf honno i'm hanwylyd, a'i harwain hithau yno gerfydd ei dwy law, fel y gwelo hi yn yr ardd fach werthfawr hon ei llun ei hunan megis mewn drych; [lle fydd hwn fydd yn fy llawn foddhau i bob amser, a thes a chysgod hyfryd yn fy llonni, a gardd fach dawel megis hon fydd dedwyddwch a golud y garddwr]. | |
| (0, 2) 216 | Mi welaf dy fam yn dyfod draw. |
| (0, 2) 217 | Afynni di gyfarfod â hi yma? |
| (Pobun) Ni fynnwn ei hysgói hi, ond yn wir nid oes imi ond ychydig amser. | |
| (Pobun) Ni byddaf ddedwydd byth eto tra bwyf! | |
| (0, 4) 498 | Pobun, [fy nghar,] yr wyf i ger llaw, |
| (Meistres Pobun) Pobun! | |
| (0, 4) 517 | Dy dwyllo y mae dy glust. |
| (0, 4) 518 | Y mae golwg drwg arnat. |
| (0, 4) 519 | A gaf i d'arwain di i'r tŷ. |
| (Pobun) Pan drof fy ngolwg atoch, daw fy nerth yn ôl i mi, [hynny yw, ni allai'r fath gri ddigwydd ddwywaith yma. | |
| (Pobun) F'annwyl gydymaith, fe wyddost, fe wyddost— | |
| (0, 6) 591 | Gwn. |
| (0, 6) 592 | [Nid oeddwn bum cam oddi wrthyt, pan ddaeth Angau tuag atat, Pobun, ac fe glywais yr ymddiddan oll. |
| (0, 6) 593 | Yr oedd fy nghalon yn neidio i'm gwddf! |
| (0, 6) 594 | Dyn llawen, cyn iached â'r gneuen, oeddit ti hyd yr awr hon.] |
| (0, 6) 595 | Bellach, daw'r dagrau i'm llygaid wrth edrych arnat, Pobun, fy nghydymaith. |
| (Pobun) Llawer o ddiolch iti, f'annwyl gydymaith. | |
| (Pobun) Llawer o ddiolch iti, f'annwyl gydymaith. | |
| (0, 6) 597 | Beth sy'n dy flino eto, dywed rhag blaen. |
| (Pobun) [Buost yn gyfaill da i mi erioed, cefais di bob amser yn ffyddlon.] | |
| (Pobun) [Buost yn gyfaill da i mi erioed, cefais di bob amser yn ffyddlon.] | |
| (0, 6) 599 | [Ac felly y'm cei bob amser hefyd. |
| (0, 6) 600 | A choelia fi, pe bai dy daith yn union ar ei phen i uffern, fe'm ceit i'n gydymaith hyd y fan.] |
| (Pobun) [Rhoed Duw, fy nghyfaill hoff, mai teilwng fwyf innau ohonot.] | |
| (Pobun) [Rhoed Duw, fy nghyfaill hoff, mai teilwng fwyf innau ohonot.] | |
| (0, 6) 602 | [Nid teilyngdod yw'r peth, buasai'n gywilydd o'r mwyaf gennyf pe na bawn i onid yn bostio ar air a'm bod wedyn yn amharod yn fy ngweithred.] |
| (Pobun) Fy nghyfaill! | |
| (Pobun) Fy nghyfaill! | |
| (0, 6) 604 | Siarad â mi yn rhydd, rhaid ì mi gael popeth yn glir o'th enau di dy hun; mi safaf gyda thi hyd yr awr olaf, yn gymwys fel y dylai Cydymaith Da. |
| (0, 6) 606 | Y mae dy drueni yn gwasgu'n drwm arnaf. |
| (0, 6) 607 | Pa beth bynnag o faterion y byd hwn sy'n poeni dy galon di, mi edrychaf atynt ar dy ran yn ffyddlon. |
| (0, 6) 608 | [Dywed, a wnaeth rhywun gam dro â thi? |
| (0, 6) 609 | Cânt eu cosb o'm llaw i fy hun â'r dur miniog, pe bai raid i mi lyfu'r llwch am hynny.] |
| (Pobun) Nid wy'n poeni dim am bethau felly, Duw a'i gŵyr! | |
| (Pobun) Nid wy'n poeni dim am bethau felly, Duw a'i gŵyr! | |
| (0, 6) 611 | 'Rwyt ti'n poeni llawer efallai ynghylch dy arian a'th eiddo, am nad oes iti'r un etifedd. |
| (Pobun) [Nac wyf, gyfaill, nac wyf! | |
| (Pobun) [Nac wyf, gyfaill, nac wyf! | |
| (0, 6) 613 | [Nid rhaid wrth lawer o eiriau—fe saif d'ymddiried ynof fi. |
| (0, 6) 614 | Mae'r weithred brynu'r tir hwnnw'n ddigon diogel; tebyg mai d'ewyllys fyddai fynd dy gyfoeth i'th feistres serchog, gymaint ag a fo teg, dros byth.] |
| (Pobun) [Na, annwyl gyfaill, gwrando arnaf] | |
| (Pobun) [Na, annwyl gyfaill, gwrando arnaf] | |
| (0, 6) 616 | [Arbed i ti dy hun y drafferth, Pobun, deallaf di heb lawer iawn o eiriau.] |
| (Pobun) Och! peth arall sy'n fy mhoeni i, [peth llawer nes,] fy nghyfaill annwyl. | |
| (Pobun) Och! peth arall sy'n fy mhoeni i, [peth llawer nes,] fy nghyfaill annwyl. | |
| (0, 6) 618 | [Allan ag ef, gad ei glywed rhag blaen—o enau cyfaill cysur fydd.] |
| (Pobun) [Ie, tydi, fy nghyfaill.] | |
| (Pobun) [Ie, tydi, fy nghyfaill.] | |
| (0, 6) 620 | [Onid egluri di i mi? |
| (0, 6) 621 | Efallai nad erys i ti lawer o amser.] |
| (Pobun) [Och fi! peth chwerw fyddai hynny.] | |
| (Pobun) [Och fi! peth chwerw fyddai hynny.] | |
| (0, 6) 623 | [Dywed imi'r peth! ar unwaith, Pobun. |
| (0, 6) 624 | Pa beth a dâl cyfeillgarwch onid hynny?] |
| (Pobun) [Pe tywalltwn fy nghalon allan i ti ac i tithau droi dy gefn arnaf a digio wrth fy ngeiriau, yna byddai imi gymaint ddengwaith o flinder a gwae!] | |
| (Pobun) [Pe tywalltwn fy nghalon allan i ti ac i tithau droi dy gefn arnaf a digio wrth fy ngeiriau, yna byddai imi gymaint ddengwaith o flinder a gwae!] | |
| (0, 6) 626 | [Syr, fel y dywedais wrthych eisoes, felly y gwnaf.] |
| (Pobun) [Taled Duw i ti.] | |
| (Pobun) Am hynny, dyred gyda mi, fy nghydymaith ffyddlon, fel yr addewaist eisoes. | |
| (0, 6) 632 | Ie, ie. |
| (0, 6) 633 | [Dyna'r peth. |
| (0, 6) 634 | Addo, a gwrthod wedyn, cywilydd i mi fyddai hynny—mae meddwl am hynny'n fy ngyrru'n boeth. |
| (Pobun) O, dydi!] | |
| (Pobun) O, dydi!] | |
| (0, 6) 636 | Eto, cyn cychwyn ar y daith, fe ddylid cymryd cyngor da. |
| (Pobun) Beth! | |
| (Pobun) Dywedaist wrthyf eisoes na throit mo'th gefn arnaf nac yn fyw nac yn farw, hyd yn oed ped ai'r ffordd ar ei hunion i uffern. | |
| (0, 6) 639 | Do, dyna oedd fy ngeiriau, yn gywir! |
| (0, 6) 640 | Ond, a dywedyd y gwir, nid dyma'r amser i ysmalio felly. |
| (0, 6) 641 | Pe cychwynnem ar y daith, pa bryd y deuem drachefn yma? |
| (0, 6) 642 | Ha, dyro ateb? |
| (Pobun) Ni ddoem yma mwy. | |
| (Pobun) Ni ddoem mwy hyd ddydd barn. | |
| (0, 6) 645 | Yna, myn crog Crist, mi arosaf yma. |
| (0, 6) 646 | Os dyna ystyr yr alwad, yna, dyma fel y saif pethau—nid af i ddim i'r daith. |
| (Pobun) Nid ei di? | |
| (Pobun) Nid ei di? | |
| (0, 6) 648 | Nid af. |
| (0, 6) 649 | Os felly y saif, arosaf yma. |
| (0, 6) 650 | [Dywedaf wrthyt beth sydd yn fy meddwl. |
| (0, 6) 651 | Gwyddost fy mod i yn agored bob pryd, bid fel y bo, dyma fonid af i ddim i'r daith, er mwyn un enaid byw, yn wir; ie, nid awn er mwyn fy nhad fy hun,—rhoed Duw iddo heddwch tragywydd er hynny.] |
| (Pobun) Yn enw Duw! | |
| (Pobun) Peth arall a addewaist i mi! | |
| (0, 6) 654 | Da gwn. |
| (0, 6) 655 | Ac addewais yn eithaf cywir. |
| (0, 6) 656 | A phe byddit ti'n dymuno rhywbeth arall, bod gyda'r merched yn gwmpeini da, neu beth a fynni, yna, ceit fy ngweled wrth dy ystlys cyhyd ag y rhoddai Duw ddiwrnod teg, neu gyda'r ffaglau tân ar ôl iddi nosi—yr wyf yn dywedyd hyn oll o ddifrif. |
| (Pobun) O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly. | |
| (Pobun) O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly. | |
| (0, 6) 659 | Pa un bynnag ai cyfeillion fuom ai peidio, o hyn allan ni cherddaf i gam gyda thi. |
| (Pobun) 'Rwy'n erfyn arnat, gwna gymaint â hynny er mwyn tosturi Crist, a dyred i'm canlyn hyd at borth y ddinas. | |
| (0, 6) 662 | Ni ddof ddim, [ni rof droed o flaen y llall am bris yn y byd. |
| (0, 6) 663 | Pe bai gennyf ychydig amser, ni adawn iti fod ar dy ben dy hun, ond yn awr ni allaf aros gyda thi. |
| (0, 6) 665 | Rhoed Duw iti daith ysgafn a hwylus hyd yno, rhaid i mi brysuro ar fy ffordd. |
| (Pobun) [{gan roi cam ar ei ôl.} | |
| (Pobun) A adewi di fi yn llwyr?] | |
| (0, 6) 669 | [Yn llwyr, lwyr. |
| (0, 6) 670 | Cymered Duw drugaredd ar d'enaid.] |
| (Pobun) Da boch, fy nghyfaill, y mae fy nghalon yn friw o'th achos di. | |
| (Pobun) Da boch bob pryd, ni welaf i monot fyth eto. | |
| (0, 6) 673 | Da boch dithau, Pobun, da boch. |
| (0, 6) 674 | Dyro i mi dy law. |
| (0, 6) 675 | Ie, trist iawn yw gwahanu, 'rwy'n deall hynny'n awr. |