| (Hen Ŵr) "... alter the whole temperature of the body..." | |
| (Gwas) Rych chi'n weddol gyfforddus, gobeithio. | |
| (1, 0) 103 | Mor gyfforddus, frawd, ag y gall neb fod yn y byd yma fel y mae. |
| (Cwac) Cyfforddus! | |
| (Gwraig 1) Faint o amser gymer hi i fws arall ddod? | |
| (1, 0) 134 | Hanner awr, man pellaf. |
| (1, 0) 135 | Cwac |
| (1, 0) 137 | Os daw e' heb gael sgìd, 'nghariad i. |
| (Gwraig 2) Duw a'n helpo ni! | |
| (Gwraig 1) Mae pethau gwaeth i'w hofni na chael annwyd, Miss, credwch chi fi. | |
| (1, 0) 149 | Beth ych chi'n feddwl? |
| (Athrawes) Wel, dewch, dywedwch eich meddwl, da chi. | |
| (Di-waith) Na, 'dwyf i ddim yn credu'r stori─na fawr o ddim byd arall chwaith. | |
| (1, 0) 169 | Bei'r sistem, frawd─bai'r gapitaliaeth ddiawledig sy'n tagu'r ddynoliaeth. |
| (Gwraig 2) Duw a'n helpo ni! | |
| (Hen Ŵr) Trist yw marw, a meddwl am farw. | |
| (1, 0) 188 | Mae rhai ohonom ni'n ddigon lwcus i fod â rhy ychydig o amser sbâr i feddwl am bethau felly. |
| (Di-waith) A rhai ohonom â chymaint o amser sbâr nes ein bod ni wedi blino meddwl bellach, ac wedi dysgu peidio. | |
| (Cwac) Rum old bird! | |
| (1, 0) 202 | Tipyn o granc. |
| (1, 0) 203 | Dim ond un tant sydd ganddo i rygnu arno, gellid meddwl. |
| (Gwraig 1) 'Welsoch chi ei lygaid e? | |
| (1, 0) 208 | Rych chi'ch dwy fel pâr o ffowls ar gols tân. |
| (1, 0) 209 | Eisteddwch lawr. |
| (1, 0) 210 | 'Ddaw dim niwed i chi, peidiwch â becso. |
| (1, 0) 211 | Mae yma dri dyn, un i bob un ohonoch chi, ac yn barod am bopeth a ddaw. |
| (Cwac) Hear, hear. | |
| (Gwraig 2) Mae'r tŷ wedi ei reibio. | |
| (1, 0) 233 | Hyh! |
| (Athrawes) Sothach! | |
| (Cwac) Da 'merch i. | |
| (1, 0) 254 | A does arnoch |chi| ddim ofn dim byd, sbo? [3] |
| (Athrawes) Ofn! | |
| (1, 0) 299 | Gwell ichi orwedd lawr fanna am dipyn. |
| (Cwac) Ie, cymerwch hi gan bwyll 'nawr am bum munud. | |
| (Cwac) Ie, cymerwch hi gan bwyll 'nawr am bum munud. | |
| (1, 0) 303 | Wel, chi'ch dwy, i fynd 'nôl at eich stori chi─beth am y trydydd corff? |
| (Y Ddwy Wraig) Ie, wel. | |
| (Athrawes) Hey, nonny, nonny." | |
| (1, 0) 313 | Hei! |
| (Cwac) Hei, Miss. | |
| (1, 0) 392 | Arhoswch funud. |
| (1, 0) 393 | Fydd mo'r bws yn hir 'nawr. |
| (Gwraig 1) Ddim un funud yn rhagor. | |
| (Gwraig 1) Arhoswch. | |
| (1, 0) 436 | Lot o sothach. |
| (1, 0) 437 | Does dim byd o'i le ar y te. |
| (Gwraig 1) O'r gorau, 'machgen i, cerwch ymlaen â'i yfed─y tri ohonoch chi. | |
| (Cwac) Wel... wel... peidiwch â phryderu, gyfeillion... peidiwch â phryderu, does gennym ni ddim sicrwydd bod dim byd o'i le ar y te─hynny yw, does dim yn sicr, yn hollol sicr, 'oes e?... hynny yw, efallai y bydd popeth yn iawn yn y man─mae popeth yn sicr o fod yn iawn─peidiwch â phryderu─yn hollol sicr o fod yn iawn. | |
| (1, 0) 458 | Ha─ha, go lew 'nawr, frawd. |
| (Cwac) {Wedi edrych yn ddrwgdybus arno.} | |
| (Cwac) Rwyf i wedi delio o'r blaen â gwragedd fel chi─do, droeon─ac â dynion hefyd, o ran hynny─sydd wedi cael effeithio arnynt gan sioc sydyn. | |
| (1, 0) 467 | 'Rych chi'n siarad fel doctor, ac eto rych chi'n ddieithr i mi. |
| (Gwraig 1) I minnau hefyd. | |
| (Cwac) Gwrandewch arna' i, fenyw, a dywedwch wrthyn' hw' fod "Barton's Pectoria" wedi gwella mwy o bobl mewn mis yn y "States" nag sydd yn y gymdogaeth hon o ben bwy gilydd iddi. | |
| (1, 0) 484 | Gwaith sâl, frawd,─byw ar dwyllo pobl. |
| (Athrawes) Ond mac gennych chi dystysgrif i brofi eich bod chi wedi pasio'n ddoctor, on'd oes? | |
| (Athrawes) Ond mac gennych chi dystysgrif i brofi eich bod chi wedi pasio'n ddoctor, on'd oes? | |
| (1, 0) 486 | Oes, gellwch fentro─ddwy neu dair! |
| (1, 0) 487 | Fydd cwacs ddim yn poeni eu pennau i fynd ati i ddysgu eu crefft. |
| (1, 0) 488 | Twyll. |
| (1, 0) 489 | Dim byd ond twyll i gyd. |
| (Cwac) Twyll, iefe? | |
| (1, 0) 509 | Wir, mae'r hen olau yma yn pallu, yn siŵr i chi. |
| (1, 0) 510 | Dewch, y doctor, rhowch ddropyn neu ddau o'ch "Pectoria" iddo fe, i gael gweld pa effaith gaiff hynny arno. |
| (1, 0) 511 | Dyw hi ddim yn ddigon golau i weld print y papur. |
| (Gwraig 2) {Yn ddistaw gan ddychryn.} | |
| (1, 0) 556 | Mae e'n ddigon iach. |
| (1, 0) 558 | Popeth yn iawn, frawd. |
| (1, 0) 559 | Ofni'r oeddem ni eich bod chi, efallai, wedi─wel─eich bod chi─ |
| (Di-waith) Myn 'yfryd i, mae'n dod i rywbeth pan na all dyn gymryd nap wrth ddisgwyl y bly-blincin bws. | |
| (Gwraig 2) Y mae'r cwpanaid te wedi ei sobri hi, beth bynnag. | |
| (1, 0) 565 | Rych chi'r menywod yn disgwyl braidd gormod o barch. |
| (Gwraig 1) Disgwyl yw'n rhan ni hefyd, gan mwyaf. | |
| (Gwraig 1) Disgwyl yw'n rhan ni hefyd, gan mwyaf. | |
| (1, 0) 567 | Ac fe allech ei gael─parch pob gweithiwr gonest yn y wlad yma, petaech chi'n gwneud eich rhan, a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr, gyda'ch gwŷr a'ch brodyr, gallem fynnu chwarae teg i bawb; chwarae teg i'n brawd fan yma. |
| (1, 0) 569 | Gallem fynnu rhoddi i bob dyn yr hawl i fyw, a byw'n lân ac yn gysurus. |
| (1, 0) 570 | Gallem hawlio llais yn llywodraeth ein gwlad. |
| (Athrawes) 'Rych chi'r Comiwnistiaid yn rhy fyrbwyll─yn eich cario eich hunain ymlaen ar lanw eich huodledd, ac yn gorffen meddwl ar ôl y frawddeg neu ddwy gyntaf. | |
| (Athrawes) Wedyn, 'does dim byd ond sŵn. | |
| (1, 0) 574 | Peth hawdd i'w ddweud, wir, Miss. |
| (1, 0) 575 | Ond a ydych chi erioed wedi gwrando'n ddigon hir i'w brofi? |
| (Athrawes) A pheth arall, pobl arw iawn a di-chwaeth a fyddaf i'n weld yn ymuno â chi'r Comiwnistiaid. | |
| (Athrawes) A pheth arall, pobl arw iawn a di-chwaeth a fyddaf i'n weld yn ymuno â chi'r Comiwnistiaid. | |
| (1, 0) 577 | A beth feddyliwch chi sy'n gwneud i bobl fod felly? |
| (Athrawes) 'Dwyf i ddim yn gweld bob pethau mor ddrwg yn y wlad yma 'nawr. | |
| (Athrawes) Mae'n well byd ar y gweithiwr heddiw nag ydoedd ugain mlynedd nôl. | |
| (1, 0) 580 | Yn well? |
| (1, 0) 581 | 'Ydych chi o ddifri' yn credu hynny? |
| (1, 0) 582 | Gwrandewch. |
| (1, 0) 583 | 'Rydym ni'r gweithwyr yn hawlio gwell cyflog─miliynau ohonom ni yn ei hawlio am nad oes gan ein hanner ni y modd i fyw arno a magu teulu. |
| (Cwac) Hear, hear. | |
| (Gwraig 2) Felly, sbariwch eich llais. | |
| (1, 0) 587 | Pwy yw llywodraethwyr ein gwlad ni heddiw? |
| (1, 0) 588 | Y grŵp bach cyfoethog sy'n rheoli ein gweithiau a'n harian a'n masnach, y dynion sy'n benderfynol o feithrin Capitaliaeth a chadw llywodraeth y wlad yn eu crafangau nhw'u hunain. |
| (1, 0) 589 | Mae polisi'r llywodraethwyr ymhob cylch yn ei gwneud yn amlwg mai da'r bobl gyfoethog yn unig sydd ganddynt mewn golwg. |
| (1, 0) 590 | Rhaid rhoddi i lawr y fath lywodraethu unwaith ac am byth, a chael yn ei le lywodraeth fydd yn gofalu am ddaioni'r bobl. |
| (Hen Ŵr) Pyls cyflym─cant. | |
| (Cwac) {Â i deimlo pyls y Comiwnist.} | |
| (1, 0) 609 | Hei, beth yw hyn? |
| (1, 0) 610 | Beth ydych chi'n feddwl 'rych chi'n ei wneud? |
| (Gwraig 1) 'Welais i erio'd shwd beth, naddo i. | |
| (Hen Ŵr) A chwithau, syr? | |
| (1, 0) 672 | Wedi'r cwbwl, frawd, does dim drwg wedi'i wneud... |
| (Gwraig 1) Dim drwg, wir? | |
| (Athrawes) Mae hi |mor| ddrwg gen i am ddiffyg dealltwriaeth y ddwy chwaer─heb ymdeimlo â phethau |mawr| bywyd, wyddoch chi─ | |
| (1, 0) 709 | Nos da, frawd... |
| (1, 0) 710 | Ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr... |
| (1, 0) 711 | Petaem ni'n cael y menywod o'n hochr... |