| (Dug) Antonio yma eisoes! | |
| (4, 0) 153 | "Dealled cich gras fy mod yn bur wael pan dderbyniais eich llythyr; |
| (4, 0) 154 | ond pan gyrhaeddodd eich cennad yr oedd doethawr ifanc o Rufain yma ar gariadus ymweliad; |
| (4, 0) 155 | ei enw yw Balthasar. |
| (4, 0) 156 | Rhoddais wybod iddo am yr achos sydd ar ddadl rhwng yr Iddew ac Antonio'r marsiandwr; ymgyngorasom ynghyd â llyfrau lawer; |
| (4, 0) 157 | rhoddais iddo fy marn i, ac fe ddwg honno atoch, ar fy nghais taer, wedi ei gloywi â'i ddysgeidiaeth ei hun (na allaf byth ganmol digon arni), i gyflawni eich grasol ddymuniad yn fy lle. |
| (4, 0) 158 | ~ |
| (4, 0) 159 | Na fydded ei ddiffyg blynyddoedd, atolwg, yn un rhwystr iddo rhag derbyn parchus werthfawrogiad; |
| (4, 0) 160 | canys ni wybôm i erioed gorff mor ifanc yn dwyn pen mor hen. |
| (4, 0) 161 | ~ |
| (4, 0) 162 | Gadawaf ef i'ch grasol dderbyniad, gan wybod y bydd prawf arno yn cyhoeddi ei deilyngdod yn well na dim a allwn i ei sgrifennu amdano". |