| (Harmonia) Yli! | |
| (Y Dorf) {Ac yn y blaen} | |
| (0, 1) 359 | Gyfeillion, wnes i erioed gelu dim oddi wrthych. |
| (0, 1) 360 | Nac addo dim ond chwys a llafur a dagrau a gwaed. |
| (0, 1) 361 | A wyddoch chi pam? |
| (0, 1) 362 | Am fy mod i'n nabod fy mhobol. |
| (0, 1) 363 | Yn gwybod natur y graig y'm naddwyd i ohoni. |
| (Dyn Ifanc) Y graig rwyt ti'n 'i malu! | |
| (Y Dorf) {Ac yn y blaen} | |
| (0, 1) 368 | Na, gadwch iddo fo heclo, druan! |
| (0, 1) 369 | Fedr o wneud dim arall. |
| (Dionysos) O? | |
| (0, 1) 374 | Gyfeillion mi wn i am y pryderon sy'n llethu'ch ysbryd. |
| (0, 1) 375 | A'r amheuon sy'n cymylu'ch meddyliau. |
| (0, 1) 376 | Does yna run fam drallodus nad yw ei dagrau'n chwerw ar fy ngwefus. |
| (0, 1) 377 | Run plentyn amddifad nad yw fy mraich yn gynnes am ei sgwyddau. |
| (0, 1) 378 | Mae curiad calon Athen yn annwyl imi. |
| (Pobl Ifainc) Celwydd! | |
| (Pobl Ifainc) {Ac yn y blaen} | |
| (0, 1) 387 | Na, na hidiwch nhw, Gyfeillion. |
| (0, 1) 388 | Ifanc a gwirion ydyn nhw. |
| (0, 1) 389 | Protest yw eu braint. |
| (0, 1) 390 | Fe ddôn nhw, toc, i barchus gydymffurfiol ganol-oed a phwyllog gyfrifoldeb... |
| (Nicias) Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd. | |
| (0, 1) 395 | Ro'n i'n cerdded ar y traeth heddiw yn y bore bach. |
| (0, 1) 396 | Roedd y môr fel gwin. |
| (0, 1) 397 | A gwrid y wawr ar ruddiau swil y dwyrain. |
| (0, 1) 398 | Dim sŵn ond siffrwd pell y feiston. |
| (0, 1) 399 | A chri rhyw wylan unig draw o'r niwlen lwyd. |
| (0, 1) 400 | Roedd heddwch, Gyfeillion, fel bendith ar y byd. |
| (0, 1) 401 | Mi godais fy llygaid a be gredech chi welais i wrth odre'r clogwyn serth? |
| (Llais) Cocos! | |
| (Llais) Cocos! | |
| (0, 1) 404 | Nid dyma'r amser i gellwair, Gymrodyr. |
| (0, 1) 405 | Mae rhai proliadau'n gysegredig... |
| (0, 1) 406 | Na, mi ddweda i be welais i — hen wreigen fach gwmanllyd yn hel gwymon. |
| (0, 1) 407 | A'r funud honno mi es yn ôl i ddyddiau mebyd. |
| (0, 1) 408 | A mi wylais! |
| (0, 1) 409 | Mi wylais am ddiniweidrwydd bachgendod. |
| (0, 1) 410 | Am ddyddiau hirfelyn heddychlon. |
| (0, 1) 411 | Am ddireidi ysgafala. |
| (0, 1) 412 | Am gynhesrwydd cariad mam! |
| (Dionysos) Denwr dagrau da! | |
| (Nicias) Ust! | |
| (0, 1) 421 | Daeth llawer tro ar fyd ers hynny. |
| (0, 1) 422 | Mae cymylau rhyfel wedi tywyllu'r ffurfafen. |
| (0, 1) 423 | Gwelsom y Sbartiaid fel bytheiaid yn sgyrnygu dannedd wrth furiau'r Ddinas. |
| (0, 1) 424 | Yn bygwth y gyfundrefn ddemocrataidd sy mor gysegredig inni... |
| (Nicias) Pwt barddonllyd arall ar y ffordd, Syr! | |
| (0, 1) 427 | Gyfeillion, mi welais rywbeth arall ar y traeth heddiw. |
| (0, 1) 428 | Llong fach yn hercian yn llafurus tua'r lan. |
| (0, 1) 429 | Ei hwyliau'n garpiau llac. |
| (0, 1) 430 | A'i llyw yn yfflon. |
| (0, 1) 431 | Roedd y ddrycin wedi'i dyrnu a'i darnio draw ar y cefnfor. |
| (0, 1) 432 | Ond o'r diwedd daeth hindda a hafan ddiogel y porthladd... |
| (0, 1) 433 | I mi, roedd y llong fach honno'n symbol o Athen. |
| (0, 1) 434 | Ar hyn o bryd rydan ni ynghanol y storm. |
| (0, 1) 435 | Mae'r gwynt yn groes a'r môr yn ferw — |
| (Côr) A'r morwyr wedi blino; | |
| (Côr) A chodi ein calonnau. | |
| (0, 1) 443 | Gwell angau na chywilydd! |
| (0, 1) 444 | Does gen i ddim ond adduned i ymladd ymlaen. |
| (0, 1) 445 | Ymladd hyd at fuddugoliaeth. |
| (0, 1) 446 | Ymladd hyd nes bydd y Sbartiaid yn y llwch. |
| (0, 1) 447 | Ymladd nes bydd muriau'r Ddinas yn lân o'u halogiad. |
| (0, 1) 448 | Ond rhaid inni ehangu ein gorwelion, Gymrodyr, a chodi uwchlaw plwyfoldeb cul. |
| (0, 1) 449 | Ie, a meddwl yn ymerodrol! |
| (0, 1) 450 | Dyna'r ffordd i sicrhau gwell Athen i'n plant ac i blant ein plant. |
| (0, 1) 452 | Ac fel ernes o'n ffydd yn y dyfodol, gwelodd y Llywodraeth yn dda i godi'r pensiwn henoed ddau swllt yr wythnos! |
| (0, 1) 453 | Dau swllt, Gyfeillion! |
| (0, 1) 454 | Ac fei rhown â'r pleser mwya! |