| (Rhagddoedydd) Chwychwi rasusol gwmpeini, yr achos o'm dyfodiad yma | |
| (0, 17) 2193 | Syrs, y sawl a ddirmygo ei dduw ei hun yn annuwiol |
| (0, 17) 2194 | ar ei air neu ar ei weithred er trwstaneiddrwydd bydol, |
| (0, 17) 2195 | i'r duwiau eraill i gyd mae'n gwneuthur cywilydd a cholled |
| (0, 17) 2196 | a hwn a ddylai ddwyn cosbedigaeth galed. |
| (0, 17) 2197 | Hyn a wnaeth y ffilog yma, Cresyd, |
| (0, 17) 2198 | a fu gynt yn ben ar lendid. |
| (0, 17) 2199 | Yr owran mae yn rhoi beiau |
| (0, 17) 2200 | ar waith Fenws a minnau, |
| (0, 17) 2201 | ~ |
| (0, 17) 2202 | yn dywedyd ac yn achwyn am ei rhyglyddus ddrygioni |
| (0, 17) 2203 | mai fy mam a minnau oedd yn achos o hynny; |
| (0, 17) 2204 | yn galw Fenws yn dduwies ddall, anwadal, |
| (0, 17) 2205 | a llawer o ddrwg eiriau anosbarthus, gwamal. |
| (0, 17) 2206 | Hi a fynn fwrw atom ninnau |
| (0, 17) 2207 | ei godinebus fuchedd hithau. |
| (0, 17) 2208 | I hon erioed dangosais |
| (0, 17) 2209 | gymaint o help ag y gellais. |
| (0, 17) 2210 | ~ |
| (0, 17) 2211 | Ac yn gymaint â bod hyn atoch chwi eich pump yn perthyny, |
| (0, 17) 2212 | a chwithau'ch pump yn rhannog o'r holl ysbrydol allu, |
| (0, 17) 2213 | y neb a wnaeth gam i'ch uchel alwedigaeth |
| (0, 17) 2214 | a ddylech chwi ei gosbi â thrwm gosbedigaeth. |
| (0, 17) 2215 | Ni chawsoch, mi a wrantaf, |
| (0, 17) 2216 | y fath gamfraint â hyn yma. |
| (0, 17) 2217 | Cytunwch am y dialedd |
| (0, 17) 2218 | a rowch arni am y camwedd. |