| (Harmonia) Yli! | |
| (0, 2) 1120 | O'r gora, o'r gora! |
| (0, 2) 1121 | Be ydach chi'n 'i feddwl ydw i — ci defaid? |
| (Dionysos) Dyma fo'n dwad. | |
| (0, 2) 1126 | Be gythgam sy'n bod arnoch chi? |
| (0, 2) 1127 | Ydach chi ddim yn sylweddoli bod gen i f'oriau gwaith? |
| (Dionysos) Amgylchiadau arbennig, Charon. | |
| (0, 2) 1130 | O, chi sydd yna, Syr |
| (0, 2) 1132 | Mae'n ddrwg gen' i, doeddwn i ddim wedi'ch nabod. |
| (Dionysos) Popeth yn iawn. | |
| (Dionysos) Prysur? | |
| (0, 2) 1135 | Arhoswch am funud, i mi gael gwneud hwn yn saff. |
| (0, 2) 1137 | Dyna fo! |
| (0, 2) 1138 | Prysur, ddwedsoch chi? |
| (0, 2) 1139 | Welais i erioed dim tebyg. |
| (0, 2) 1140 | Rhwng yr helfa ar y ffyrdd a'r rhyfel, mi ydw i'n methu'n lân â dwad i ben. |
| (Dionysos) Felly wir! | |
| (Dionysos) Felly wir! | |
| (0, 2) 1142 | Amgylchiadau arbennig ddwedsoch chi? |
| (Dionysos) Argyfwng Charon. | |
| (Dionysos) Mae Athen yn mynd â'i phen iddi. | |
| (0, 2) 1146 | O? Ia wel, dyna fo. |
| (0, 2) 1147 | Wna i ddim busnesu. |
| (0, 2) 1149 | Pwy ydy hwn? |
| (Dionysos) Nicias. | |
| (Dionysos) Cymorth fel tae. | |
| (0, 2) 1153 | Felly! |
| (0, 2) 1155 | Edrychwch yma, Syr, gadewch inni ddeall ein gilydd. |
| (0, 2) 1156 | Yn gyntaf, rydach chi am imi fynd â chi dros yr Afon. |
| (0, 2) 1157 | Mae hynna'n amlwg, ne fasach chi ddim wedi galw arna i. |
| (Dionysos) Cywir. | |
| (Dionysos) Cywir. | |
| (0, 2) 1159 | Yn ail, mae hwn yn yr argyfwng efo chi? |
| (Dionysos) Cywir. | |
| (Dionysos) Cywir. | |
| (0, 2) 1161 | Ac os nad ydw i'n camsynied, rydach chi am i mi fynd ag ynta drosodd hefyd? |
| (Dionysos) Cywir. | |
| (Dionysos) Cywir. | |
| (0, 2) 1163 | Anghywir! |
| (Dionysos) Beth? | |
| (Dionysos) Beth? | |
| (0, 2) 1165 | Mae'n ddrwg gen i. |
| (Dionysos) Tybed? | |
| (Dionysos) Tybed? | |
| (0, 2) 1167 | Amhosib, Syr. |
| (0, 2) 1168 | Mi wyddoch y Rheolau cystal â minnau. |
| (0, 2) 1169 | Fedra i mo'u hystumio nhw. |
| (Dionysos) Aros funud. | |
| (Dionysos) Aros funud. | |
| (0, 2) 1171 | Na, maddeuwch imi am ddweud ond ddylech chi ddim gofyn imi. |
| (0, 2) 1172 | Does dim ffafriaeth ar y Stycs fel y gwyddoch chi. |
| (0, 2) 1173 | Yn enwedig i un run fath â hwn. |
| (0, 2) 1175 | Be ddwedaist ti oedd d'enw? |
| (Nicias) Nicias. | |
| (Nicias) Nic i'm ffrindia. | |
| (0, 2) 1178 | Dydw i ddim yn un o'r rheiny. |
| (0, 2) 1180 | Y gwir plaen ydy, Syr, dyw'r cymwysterau ddim ganddo fo — ar hyn o bryd, beth bynnag! |
| (0, 2) 1181 | Wrth gwrs petai modd newid ei statws o — neu ei stâd o yn hytrach — |
| (Nicias) {Ofnus} | |
| (Dionysos) Na, mae hynny'n amhosib. | |
| (0, 2) 1185 | Pam? |
| (Dionysos) Am ei fod o'n dwad yn ôl. | |
| (Dionysos) Am ei fod o'n dwad yn ôl. | |
| (0, 2) 1187 | O, dowch, Syr, mae hynna'n mynd dros ben llestri! |
| (0, 2) 1188 | Dwad yn ôl wir! |
| (0, 2) 1189 | Tynnu 'nghoes i rydach chi rwan! |
| (Dionysos) Rwy' i o ddifri calon. | |
| (0, 2) 1193 | Mae hon yn andros o broblem. |
| (0, 2) 1194 | Hynny ydy, chewch chi mo'i rwyfo fo drosodd. |
| (0, 2) 1195 | A wna inna ddim... |
| (0, 2) 1197 | Yr unig ffordd felly ydy iddo fo rwyfo. |
| (0, 2) 1198 | Does yna ddim yn y Rheolau am hynny, oes yna? |
| (Dionysos) Dim o gwbwl. | |
| (Dionysos) Rwyt ti wedi 'i gweld hi, Charon! | |
| (0, 2) 1201 | Reit, dyna hynna wedi 'i setlo... |
| (0, 2) 1202 | Dowch chi'n gynta, Syr. |
| (0, 2) 1204 | Steddwch yn y fan yma. |
| (0, 2) 1206 | Dyna chi. |
| (0, 2) 1208 | Reit, tyrd ti, rwan... |
| (0, 2) 1209 | Beth ydy d'enw di, hefyd? |
| (Nicias) {Wrth gamu i'r cwch.} | |
| (Nicias) {Mae'n cario'r cas yn ofalus gydag ef} | |
| (0, 2) 1213 | Gafael yn y polyn yna. |
| (0, 2) 1214 | A chymer ofal. |
| (0, 2) 1215 | Os ei di dros yr ochor mi fydd wedi canu arnat ti! |
| (Nicias) Be, oes yna beryg? | |
| (Nicias) Be, oes yna beryg? | |
| (0, 2) 1217 | "Oes yna beryg?", medda'r creadur gwirion! |
| (0, 2) 1218 | Llai o beryg efalla, nag ar Lethe lonydd neu Acheron drist, neu Phlegethon fflamllyd ffrwd. |
| (0, 2) 1219 | O holl afonydd Hades, mae'n well gen' i'r Stycs. |
| (0, 2) 1220 | Ond peryg? |
| (0, 2) 1221 | Oes, peryg marwol i un fel ti! |
| (0, 2) 1223 | Iawn? |
| (Dionysos) lawn. | |
| (Dionysos) lawn. | |
| (0, 2) 1227 | Tawn i yn eich lle chi, Syr, mi fyddwn i'n agor yr ymbarel yna. |
| (0, 2) 1228 | Does yna ddim llawer o siâp ar hwn. |
| (Dionysos) {Yn agor ei ymbarel.} | |
| (Dionysos) Diolch iti, Charon. | |
| (0, 2) 1232 | Reit, i ffwrdd â ni! |
| (Dionysos) Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon! | |
| (Dionysos) Mae hi'n tywyllu'n fuan iawn, Charon! | |
| (0, 2) 1236 | Tarth Stycs, w'chi. |
| (0, 2) 1237 | Yn dew iawn weithia. |
| (0, 2) 1238 | Mynd fel bol buwch. |
| (0, 2) 1240 | Dal trwyn y cwch i'r un cyfeiriad beth bynnag. |
| (0, 2) 1241 | Siawns na phery'r tarth ddim yn hir. |
| (Nicias) Dwy' i'n gweld affliw o ddim! | |
| (Nicias) Dwy' i'n gweld affliw o ddim! | |
| (0, 2) 1245 | Hidia befo. |
| (0, 2) 1246 | Dal i bwnio ymlaen.... |
| (0, 2) 1247 | Ydach chi'n iawn, Syr? |
| (Dionysos) Ydw, diolch. | |
| (Nicias) Mi ydw i bron â fferu! | |
| (0, 2) 1251 | Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi! |
| (Dionysos) Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu. | |
| (Dionysos) Mae hi'n dechra golueo ychydig draw acw rwy'n credu. | |
| (0, 2) 1254 | Ydy, rydach chi'n iawn... |
| (0, 2) 1256 | Gofal rwan, beth bynnag ydy d'enw di hefyd! |
| (Nicias) Be ydi'r sŵn yna, d'wedwch? | |
| (0, 2) 1261 | Aros! |
| (0, 2) 1262 | Rydan ni ynghanol yr Afon, rwan. |
| (0, 2) 1263 | Yn y fan yma mae'r llyffantod. |
| (0, 2) 1264 | Amynedd! |
| (0, 2) 1265 | Chawn ni ddim mynd ymlaen ganddyn nhw am dipyn. |
| (0, 2) 1269 | Paid! |
| (Nicias) Ond maen nhw wedi gorffen dawnsio! | |
| (Nicias) Ond maen nhw wedi gorffen dawnsio! | |
| (0, 2) 1271 | Dydyn nhw ddim wedi dechra ar eu Corws. |
| (0, 2) 1272 | Clywch! |
| (Côr y Llyffantod) C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca! | |
| (Nicias) Mae hi'n dechrau twyllu eto! | |
| (0, 2) 1356 | Y tarth sy'n dwad yn ôl. |
| (0, 2) 1357 | Hidia di befo, pwnia ymlaen. |
| (0, 2) 1360 | Gofal rwan, rydan ni bron wedi cyrraedd. |
| (0, 2) 1361 | Paid â gwneud niwed i'r cwch ar boen dy fywyd... |
| (0, 2) 1362 | Dyma ni!... |
| (0, 2) 1363 | Reit, rho'r polyn i mi. |
| (0, 2) 1366 | Rwan, y cas yna, gynta. |
| (0, 2) 1368 | Reit neidia di rwan. |
| (0, 2) 1370 | Chi, rwan, Syr. |
| (0, 2) 1371 | Dowch, gafaelwch yn fy llaw i. |
| (Dionysos) Gair bach yn dy glust. | |
| (0, 2) 1378 | Ia, wel, os ydach chi'n dweud, Syr. |
| (0, 2) 1379 | Mi gewch chi wneud y trefniada. |
| (0, 2) 1380 | Ond fydd yna ddim bai arna i, cofiwch! |
| (Dionysos) Na fydd siwr. | |
| (Dionysos) Na fydd siwr. | |
| (0, 2) 1382 | Reit... |
| (0, 2) 1383 | O, gyda llaw — |
| (Dionysos) Ia? | |
| (Dionysos) Ia? | |
| (0, 2) 1385 | Dim ond eich atgoffa chi. |
| (Dionysos) O beth? | |
| (Dionysos) O beth? | |
| (0, 2) 1387 | Chewch chi ddim symud cam o'r fan yna heb ganiatâd Cerberws. |
| (Dionysos) Doeddwn i ddim wedi anghofio, Charon. | |
| (Dionysos) Doeddwn i ddim wedi anghofio, Charon. | |
| (0, 2) 1389 | O'r gora. |
| (0, 2) 1390 | Rhaid imi fynd a'ch gadael chi, rwan. |
| (0, 2) 1391 | Dim diwedd ar waith, w'chi. |
| (0, 2) 1393 | Aros am funud imi gael edrach arnat ti unwaith eto. |
| (0, 2) 1395 | Reit, rwy'n credu y bydda i'n dy gofio di — pan ddaw d'amser! |
| (0, 2) 1396 | Beth ydy d'enw di hefyd? |
| (Nicias) Nicias, ond Nic i — | |
| (0, 2) 1399 | Dyna ni felly. |
| (0, 2) 1404 | Croeso. |