| (Harmonia) Yli! | |
| (Dionysos) A chofia beth ddwedais i — dim gair nes bydd rhaid iti! | |
| (0, 2) 1508 | Wel, beth ydy peth fel hyn? |
| (Dionysos) Cyfarchion, Cerberws. | |
| (0, 2) 1511 | Dionysos! |
| (0, 2) 1512 | Rhyfedd iawn dy weld di yma! |
| (Dionysos) Ymweliad arbennig. | |
| (Dionysos) Ymweliad arbennig. | |
| (0, 2) 1514 | Felly? |
| (0, 2) 1515 | Wel, mi gawn y manylion i gyd yn y man. |
| (0, 2) 1517 | Poeth. |
| (0, 2) 1518 | Chwys diferol. |
| (0, 2) 1519 | Prysur w'chi. |
| (0, 2) 1520 | Trio'i dal hi ymhobman ar unwaith. |
| (Dionysos) Diferyn o win i oeri dipyn? | |
| (Dionysos) Diferyn o win i oeri dipyn? | |
| (0, 2) 1522 | Fi? |
| (0, 2) 1523 | Yfed ar ddyletswydd? |
| (0, 2) 1524 | Hollol groes i'r Rheolau. |
| (0, 2) 1525 | Ddylwn i ddim. |
| (0, 2) 1527 | Ond gan mai ti sy'n 'i gynnig o, wel, mi gymera i ryw lymaid. |
| (0, 2) 1529 | Llawer o gic ynddo fo? |
| (Dionysos) {Yn ddiniwed.} | |
| (0, 2) 1533 | Ond dipyn mwy blasus! |
| (0, 2) 1535 | O, ymweliad arbennig, ddwedaist ti? |
| (Dionysos) Ia. | |
| (Dionysos) Ia. | |
| (0, 2) 1537 | Rhaid cael y ffurflen briodol felly. |
| (0, 2) 1538 | Aros di! |
| (0, 2) 1540 | Ia, dyma hi. |
| (0, 2) 1541 | "Special Visits. To be filled in triplicate". |
| (0, 2) 1542 | Rwan, enw? |
| (Dionysos) Ond rwyt ti'n 'i wybod yn barod! | |
| (Dionysos) Ond rwyt ti'n 'i wybod yn barod! | |
| (0, 2) 1544 | Nid dyna'r pwynt. |
| (0, 2) 1545 | Rhaid imi ofyn yn ffurfiol i ti. |
| (0, 2) 1546 | A rhaid i titha, yr un mor ffurfiol, roi'r ateb. |
| (Dionysos) Ond pam? | |
| (Dionysos) Ond pam? | |
| (0, 2) 1548 | Nid fy lle i ydy gofyn pam. |
| (0, 2) 1549 | Dyna'r Rheol. |
| (0, 2) 1550 | Rwan, unwaith eto — enw? |
| (Dionysos) {Yn boenus o amyneddgar.} | |
| (Dionysos) Dionysos. | |
| (0, 2) 1553 | "Occupation and/or Profession." |
| (0, 2) 1554 | Be rown ni fel galwedigaeth? |
| (Dionysos) O, wel, Aelod o'r Sefydliad Nefol, am wn i. | |
| (0, 2) 1557 | Categori? |
| (0, 2) 1558 | Dionysos |
| (0, 2) 1559 | Trydydd. |
| (0, 2) 1561 | "Godling". |
| (0, 2) 1562 | Dironysos |
| (0, 2) 1563 | Beth? |
| (0, 2) 1564 | "Godling" — duwcyn bach yn nhafodiaeth Athen. |
| (0, 2) 1565 | Un o'r mân-dduwiau, i fod yn fanwl, fel tae. |
| (Dionysos) O, rwy'n gweld. | |
| (Dionysos) O, rwy'n gweld. | |
| (0, 2) 1567 | "Reason for and motive or purpose of visit"? |
| (Dionysos) Ymweld â Phlwton. | |
| (Dionysos) Ymweld â Phlwton. | |
| (0, 2) 1569 | "Nature of business or matter to be discussed"? |
| (Dionysos) Achub Athen. | |
| (Dionysos) Achub Athen. | |
| (0, 2) 1571 | Beth! |
| (0, 2) 1572 | Achub Athen? |
| (0, 2) 1573 | Chlywais i erioed y fath beth! |
| (Dionysos) Dyna'r ateb i'r cwestiwn. | |
| (Dionysos) {Cerberws yn sgrifennu.} | |
| (0, 2) 1577 | "Approximate duration of visit"? |
| (Dionysos) Amhenodol. | |
| (Dionysos) Amhenodol. | |
| (0, 2) 1579 | Thâl hynny ddim. |
| (0, 2) 1580 | Hynny ydy, rhaid iti fod yn fwy penodol nag amhenodol, mewn ffordd o siarad. |
| (0, 2) 1581 | Mewn geiria eraill rhaid iti roi rhyw syniad i mi... |
| (0, 2) 1582 | Wel? |
| (Dionysos) Cyfnod gweddol fyr, ynte. | |
| (0, 2) 1585 | Reit, dyna'r cyfan am wn i. |
| (0, 2) 1586 | Mi fedra i lenwi'r gweddill fy hun, rhag gwastraffu amser... |
| (0, 2) 1587 | Rwan, beth am dy gydymaith? |
| (Dionysos) Ia, mi ddylwn i egluro, Cerberws — | |
| (0, 2) 1591 | Hanner munud! |
| (0, 2) 1593 | Beth ydy peth fel hyn? |
| (Dionysos) Os goddefi imi egluro — | |
| (Dionysos) Os goddefi imi egluro — | |
| (0, 2) 1595 | Rwy'n synnu atat ti, Dionysos. |
| (0, 2) 1596 | "Blatant breach of the Regulations and Contravention of the Law". |
| (0, 2) 1597 | Dyna be ydy hyn! |
| (Dionysos) Ond fel dywedais i eisoes, mae yna amgylchiadau arbennig. | |
| (Dionysos) Ond fel dywedais i eisoes, mae yna amgylchiadau arbennig. | |
| (0, 2) 1599 | Nid i mi. |
| (0, 2) 1600 | Waeth heb na hel dail. |
| (0, 2) 1601 | Mae'r peth yn drosedd anfaddeuol. |
| (0, 2) 1603 | Yn ôl "Regulation 7 Sub-Section 2B" mae hwn yn "Prohibited Immigrant". |
| (Dionysos) Mi fydda i'n warantydd drosto fo. | |
| (Dionysos) Mi fydda i'n warantydd drosto fo. | |
| (0, 2) 1605 | Amhosib! |
| (Dionysos) Dim os ystumi di rywfaint bach ar y Gyfraith. | |
| (Dionysos) Dim os ystumi di rywfaint bach ar y Gyfraith. | |
| (0, 2) 1607 | Ystumio'r Gyfraith? |
| (0, 2) 1608 | I mi mae'r Gyfraith yn gysegredig, pob llythyren ohoni. |
| (0, 2) 1609 | Ewch i unman heb Gyfraith. |
| (0, 2) 1610 | Wnewch chi affliw o ddim heb Gyfraith. |
| (0, 2) 1611 | A gwas y Gyfraith ydw i. |
| (0, 2) 1612 | Nid y fi sy'n gwneud y Gyfraith. |
| (0, 2) 1613 | Ond fy nyletswydd i ydy gofalu bod y Gyfraith yn cael ei chadw. |
| (0, 2) 1614 | Pob Cyfraith. |
| (0, 2) 1615 | Nid fy lle i ydy gofyn prun ai Cyfraith Dda ynte Cyfraith Ddrwg ydy hi. |
| (0, 2) 1616 | Mater i eraill ydy dehongli'r Gyfraith. |
| (0, 2) 1617 | Fel y dwedais i, gweinyddu'r Gyfraith yn unig ydy fy ngorchwyl i. |
| (0, 2) 1618 | Ac felly cheith hwn, pwy bynnag ydy o, ddim mynd cam ymlaen. |
| (0, 2) 1619 | Hyd yn oed yn dy gwmni di. |
| (0, 2) 1620 | Hynny ydy, nes daw 'i amser o fel pawb arall. |
| (0, 2) 1621 | Mi gaf olwg ar ei gymwysterau o bryd hynny. |
| (0, 2) 1623 | Does yna neb erioed o deip hwn {cyfeirio at Nicias} wedi mynd heibio i mi, wyddost ti. |
| (0, 2) 1624 | Dim un copa gwalltog! |
| (Dionysos) Dim un? | |
| (Dionysos) Dim un? | |
| (0, 2) 1626 | Dim un. |
| (0, 2) 1627 | Record go dda, 'te? |
| (Dionysos) Ond roeddwn i'n meddwl —! | |
| (Dionysos) Ond roeddwn i'n meddwl —! | |
| (0, 2) 1629 | O mi wn i be rwyt ti'n mynd i ddweud. |
| (0, 2) 1630 | Bod yna un wedi mynd. |
| (0, 2) 1631 | Mae hynny oes y cogau yn ôl. |
| (0, 2) 1632 | A dim ond trwy dwyll y llwyddodd o, deall di! |
| (0, 2) 1633 | Felly dydw i ddim yn ei gyfri o... |
| (0, 2) 1634 | Am hwnnw roeddet ti'n meddwl, ynte? |
| (0, 2) 1635 | Y canwr-pop gwallt hir hwnnw, beth bynnag oedd ei enw fo. |
| (Dionysos) Orffiws. | |
| (Dionysos) Orffiws. | |
| (0, 2) 1637 | la, rhywbeth felly. |
| (0, 2) 1638 | A wyddost ti be, fedra i ddim diodde 'i deip o byth er hynny. |
| (0, 2) 1639 | Codi 'ngwrychyn i bob amser. |
| (0, 2) 1640 | Meddwl am ddim ond am ferchaid a chyffuriau, a sothach o'r fath. |
| (Dionysos) Tybed? | |
| (Dionysos) Tybed? | |
| (0, 2) 1642 | Dim amheuaeth! |
| (0, 2) 1643 | Beth oedd o'n i wneud yn Hades, meddet ti? |
| (0, 2) 1644 | Cymowta ar ôl y ferch honno, dyna iti be. |
| (Dionysos) Ewridice. | |
| (Dionysos) Ewridice. | |
| (0, 2) 1646 | Beth? |
| (Dionysos) Ewridice — dyna oedd ei henw hi. | |
| (Dionysos) Ewridice — dyna oedd ei henw hi. | |
| (0, 2) 1648 | Ia, mae o'i lawr gen i yn rhywle. |
| (0, 2) 1649 | Doeddwn i ddim yn 'i ddisgwyl o. |
| (0, 2) 1650 | Fe ddaeth o yma, chwap, fel huddyg i botes. |
| (0, 2) 1651 | A mi ddweda i sut y twyllodd o fi. |
| (0, 2) 1653 | Ro'n i'n gofyn cwestiynau iddo fo. |
| (0, 2) 1654 | Yn union fel ro'wn i'n dy holi di rwan. |
| (0, 2) 1655 | Ac yn sydyn, dyna fo'n gofyn imi gâi o fwyta brechdanau a oedd ganddo fo mewn papur. |
| (0, 2) 1656 | "Dim gwrthwynebiad", medda fi, "yn ôl y Rheolau", medda fi.... |
| (0, 2) 1657 | Ydy'r gwin yma braidd yn gry dwedwch?... |
| (0, 2) 1658 | Ple roeddwn i hefyd? |
| (Dionysos) Pecyn brechdanau. | |
| (Dionysos) Pecyn brechdanau. | |
| (0, 2) 1660 | O ia, brechdanau. |
| (0, 2) 1661 | Wel yn sydyn, dyma fo'n tynnu teisen allan. |
| (0, 2) 1662 | "Dyma ichi gacen werth chweil", medda fo. |
| (0, 2) 1663 | "Yn llawn o gyrans gora Corinth", medda fo. |
| (0, 2) 1664 | "Ac wedi ei thylino gan nwydus lodesau, llygatddu lluniaidd", medda fo... |
| (0, 2) 1665 | Merched eto, sylwch!... |
| (0, 2) 1666 | "A'u crasu, medda fo wedyn, 'a'u crasu ar gerrig cysegredig, euraid-Ynys Samos... |
| (0, 2) 1667 | Gymerwch chi damaid?", medda fo wedyn. |
| (0, 2) 1668 | Wel ar ôl y fath ganmol, sut oedd modd imi wrthod? |
| (0, 2) 1669 | Hynny ydy, heb ymddangos... {mae Cerberws yn ymladd yn erbyn cwsg}... heb ymddangos yn be-ydach-chi'n-'i-alw... be-ydach-chi'n-'i-alw...! |
| (Dionysos) Anghwrtais. | |
| (Dionysos) Anghwrtais. | |
| (0, 2) 1671 | Dyna fo'r gair... |
| (0, 2) 1672 | Anghwrtais... |
| (0, 2) 1673 | "Tamaid bach", medda fo. |
| (0, 2) 1674 | "Lleia erioed", medda fi. |
| (0, 2) 1675 | "Dim ond mymryn i brofi dan fy naint", medda fi wedyn. |
| (0, 2) 1676 | "Dydw i ddim i fod i fwyta ar ddyletswydd." |
| (0, 2) 1677 | "Dyma chi", medda ynta wedyn, a rhoi andros o sleisen imi... |
| (0, 2) 1678 | Wel, i lawr â hi. |
| (0, 2) 1679 | Blasus tu hwnt! |
| (0, 2) 1680 | Erioed wedi profi gwell... |
| (0, 2) 1681 | Ond nid cyrans Corinth yn unig oedd yn y gacen honno. |
| (0, 2) 1682 | O na! |
| (0, 2) 1683 | Roedd y cnaf strywgar wedi rhoi rhyw gyffur felltith ynddi... |
| (0, 2) 1685 | Cyffuria... |
| (0, 2) 1686 | Finna, wedyn yn dechra teimlo... dechra teimlo'n gysglyd... hynny ydy... ia... cysglyd... cysglyd... c... y... s... g... l... y... d...! |
| (Dionysos) Dyna ni, rwy'n credu, Nicias! | |
| (0, 4) 2276 | Wel rwy i'n brysur ofnadwy, Dionysos. |
| (0, 4) 2277 | Official duties. |
| (0, 4) 2278 | Dim amser i ddal pen rheswm na malu awyr. |
| (Dionysos) Wna i ddim dy gadw di'n hir. | |
| (Dionysos) Mater pwysig tu hwnt. | |
| (0, 4) 2282 | Edrych yma Dionysos, rwyt ti wedi achosi digon o drafferth a helbul imi'n barod. |
| (0, 4) 2283 | Ti a'r tipyn gwas yna oedd gen' ti o'r Byd Arall. |
| (0, 4) 2284 | Mi leciwn i gael gafael arno fo! |
| (Dionysos) Hwnnw oedd gen' i dan sylw. | |
| (Dionysos) Welaist ti o yn rhywle? | |
| (0, 4) 2287 | Dim golwg, y bwbach beiddgar! |
| (0, 4) 2288 | Rhaid ei fod o wedi sleifio heibio y tu ôl imi pan oeddwn i'n sgwrsio efo ti wrth y Porth. |
| (0, 4) 2289 | Y llabwst anghwrtais! |
| (0, 4) 2290 | Ond aros imi gael fy nwylo arno fo. |
| (0, 4) 2291 | Mi fydd yn difaru hyd at ei flewyn olaf! |
| (Dionysos) Mi ydw i'n meddwl mai anelu at y Stycs mae o, y munud yma! | |
| (Dionysos) Mi ydw i'n meddwl mai anelu at y Stycs mae o, y munud yma! | |
| (0, 4) 2293 | Dim o gwbwl. |
| (0, 4) 2294 | Rhy amlwg. |
| (0, 4) 2295 | Dyna mae o'n 'i |ddisgwyl| inni gredu. |
| (0, 4) 2296 | O na, mae gen i syniad go lew ble mae o. |
| (0, 4) 2297 | O oes! |
| (Dionysos) O? | |
| (Dionysos) O? | |
| (0, 4) 2299 | Y lle mwya annhebygol inni fynd i chwilio amdano fo. |
| (Dionysos) A hwnnw? | |
| (Dionysos) A hwnnw? | |
| (0, 4) 2301 | Yn ymyl Tartarws. |
| (0, 4) 2302 | Ar fy ffordd yno roeddwn i rwan. |
| (0, 4) 2303 | Ddoi di efo fi? |
| (Dionysos) Â chroeso... | |
| (Dionysos) Mae'r creadur yna'n beryg bywyd. | |
| (0, 4) 2311 | Dyna fo'r llaprwth powld! |
| (0, 4) 2312 | Hei, ti yna, aros! |
| (0, 4) 2314 | Wyt ti'n clywed, y cnaf digywilydd! |
| (0, 4) 2315 | Yr adyn haerllug! |
| (0, 4) 2316 | Tyrd yma imi gael gafael ar dy wegil di! |