| (1, 1) 18 | O wel, dyna hwnna drosodd. |
| (1, 1) 19 | Rhaglen reit dda y pnawn yma, Huw. |
| (Huw) Ia, Catrin, ardderchog. | |
| (Huw) Mwy o stwff fel yna sydd arna ni eisio, yn lle'r sothach mae nhw'n roi am oria bob nos. | |
| (1, 1) 22 | Pwy oedd y dyn yna, tybed? |
| (Huw) Pa ddyn? | |
| (Huw) Pa ddyn? | |
| (1, 1) 24 | Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan. |
| (Huw) O wn i ddim. | |
| (Huw) Fforinars ydy rhain i gyd. | |
| (1, 1) 29 | Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw. |
| (Huw) Y? | |
| (Huw) Dyfal-barhad, Catrin, hwnnw sydd ar ôl. | |
| (1, 1) 36 | Mi gei di weld peth arall rhyw ddiwrnod. |
| (1, 1) 37 | Os buasa Wili John ni'n cael tipyn o chware teg, mi fuasa'n gwneud ei enw ar y biano i ti! |
| (Huw) Y? | |
| (Huw) Buasa—efo cyllell boced! | |
| (1, 1) 40 | O mae'n rhaid i ti gael taflu dŵr oer am ben bob dim. |
| (1, 1) 41 | Mi ydw i'n dweud wrtha ti—mae Wili John yn gerddor o'i grud. |
| (Huw) Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag. | |
| (Huw) Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag. | |
| (1, 1) 43 | Dyna chdi eto—mae'r peth bach yn cael ei anwybyddu. |
| (1, 1) 44 | Oes gen ti ddim cywilydd dwad? |
| (1, 1) 45 | Dy blentyn dy hun, yn byrlymu efo talent, a chditha'n chwerthin am ei ben a... |
| (Huw) Ond Catrin... | |
| (Huw) Ond Catrin... | |
| (1, 1) 47 | Ia, ia, mae'n hen bryd i ti gael y gwir. |
| (1, 1) 48 | Does yna ddim symud arnat ti erioed. |
| (1, 1) 49 | Mi fuaset ar dy ben yn y wal ers talwm ond fy mod i y tu ôl i ti. |
| (Huw) Dim o gwbwl... | |
| (Huw) Dim o gwbwl... | |
| (1, 1) 51 | O, fedri di ddim gwadu. |
| (1, 1) 52 | Does gen ti ddim mymryn o ysfa i wella dy hun na dy deulu, dim ond mynd dow dow o ddiwrnod i ddiwrnod, run fath â hen geffyl gwedd. |
| (1, 1) 53 | Mi fydda i'n mynd yn gynddeiriog weithia. |
| (1, 1) 54 | Ond, yli, dydw i ddim yn mynd i adael i Wili John bach golli ei gyfle yn y byd yma... |
| (Huw) Ond dydw inna ddim yn... | |
| (Huw) Ond dydw inna ddim yn... | |
| (1, 1) 56 | Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad. |
| (Huw) Does dim eisio taflu weips. | |
| (Huw) Does dim eisio taflu weips. | |
| (1, 1) 58 | Mae o'n wir bob gair. |
| (Huw) Nac ydy. | |
| (Huw) Nac ydy. | |
| (1, 1) 60 | Ydy. |
| (Huw) Nac ydy medda finna. | |
| (Huw) Nac ydy medda finna. | |
| (1, 1) 62 | Ydy medda finna. |
| (Huw) O be ydy'r iws dadla! | |
| (Huw) Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser. | |
| (1, 1) 66 | Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti! |
| (Huw) Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o? | |
| (Huw) Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o? | |
| (1, 1) 68 | Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg. |
| (Huw) Wel mi wyt ti'n gwneud camgymeriad. | |
| (Huw) Ond wrth gwrs fydda i ddim yn dangos y cwbwl. | |
| (1, 1) 72 | Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim. |
| (Huw) Twt lol, tynnu dy goes di roeddwn i. | |
| (Huw) Rhaid iti fod yn amyneddgar yn y busnas yma, Catrin. | |
| (1, 1) 76 | Amyneddgar wir. |
| (1, 1) 77 | Wyt ti'n meddwl y cei di biano wrth chwibanu? |
| (Huw) Dim o gwbwl. | |
| (Huw) Fedri di ddim mynd i'r siop a phrynu un ar lab run fath ag owns o faco. | |
| (1, 1) 81 | Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad? |
| (Huw) I be? | |
| (Huw) Doedd yna ddim sôn am Wili John 'r adeg honno. | |
| (1, 1) 84 | Twt, paid â hel esgus. |
| (1, 1) 85 | Pen yn y gwynt, dyna dy hanes di erioed. |
| (Huw) Aros am funud, da chdi. | |
| (Huw) Mi ddweda i wrtha ti be ydy fy nghynllun i. | |
| (1, 1) 89 | Wel? |
| (Huw) Uncle Enoc. | |
| (Huw) Uncle Enoc. | |
| (1, 1) 91 | Uncle Enoc? |
| (1, 1) 92 | Beth amdano fo? |
| (Huw) Mi wyddost fel y mae o, yn ddigon simsan ers misoedd. | |
| (Huw) 'Rhen greadur, ar ei ben ei hun yn y tŷ yna. | |
| (1, 1) 95 | O chdi a dy Uncle Enoc! |
| (1, 1) 96 | Os mai dyna ydy dy gynllun di... |
| (Huw) Aros am funud, paid â bod mor wyllt. | |
| (Huw) Tri chant o bunna medda nhw. | |
| (1, 1) 100 | Twt, 'run peth roeddet ti'n ddweud ddeng mlynedd yn ôl. |
| (1, 1) 101 | Hen longwr ydy o cofia. |
| (1, 1) 102 | Mi fydd yn fyw i fynd yn gant oed mi gei di weld. |
| (Huw) Dim peryg i ti. | |
| (Huw) Mae o wedi bod yn reit gwla y tro yma. | |
| (1, 1) 106 | Clyw! |
| (1, 1) 107 | Dyna fel mae Wili John drwy'r dydd—yn llond ei groen o fiwsig. |
| (1, 1) 108 | Mae'n bechod na fuasa fo'n cael piano. |
| (Huw) Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc. | |
| (Huw) Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc. | |
| (1, 1) 110 | Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog. |
| (Huw) Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg! | |
| (Huw) Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg! | |
| (1, 1) 112 | O mae o'n ddigon gwir. |
| (1, 1) 113 | Pam mae o'n hen lanc medda chdi? |
| (1, 1) 114 | Am ei fod o'n ormod o gyb i gadw gwraig, dyna i ti pam. |
| (1, 1) 115 | Mi ydw i'n nabod dy gefndar Dic Betsi'n reit dda erbyn hyn, o ydw! |
| (Huw) Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti. | |
| (Huw) Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti. | |
| (1, 1) 117 | Nag ydan, diolch i'r tad. |
| (1, 1) 118 | Ond os oes yna ddima i'w chael yn rhywle, mae'r llwynog yna'n saff ohoni. |
| (Huw) Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto. | |
| (Huw) Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto. | |
| (1, 1) 120 | Wel? |
| (Huw) Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely. | |
| (Huw) Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely. | |
| (1, 1) 122 | Be ydy dy gynllun di felly? |
| (Huw) Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma. | |
| (Huw) Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma. | |
| (1, 1) 124 | Dwad yma? |
| (1, 1) 125 | Na ddaw byth. |
| (1, 1) 126 | Wyt ti'n drysu? |
| (Huw) Gwranda am funud | |
| (Huw) {Huw yn eistedd i lawr.} | |
| (1, 1) 129 | Beth wyt ti'n feddwl ydy'r lle yma—hospital? |
| (1, 1) 130 | Mae gen i ddigon i wneud fel mae hi heb gael yr hen gono blin yna ar draws y tŷ. |
| (1, 1) 131 | Sôn am slafio wir... |
| (Huw) Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu. | |
| (Huw) Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu. | |
| (1, 1) 133 | Pa ochor arall sydd yna? |
| (Huw) Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin. | |
| (Huw) Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin. | |
| (1, 1) 135 | Waeth i ti roi'r ffidil yn y to ddim Huw. |
| (1, 1) 136 | Weli di 'r un ddima, mae hynny'n saff. |
| (1, 1) 137 | A pheth arall, rwan mae Wili John eisio piano, nid ymhen blynyddoedd. |
| (Huw) Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir? | |
| (Huw) Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir? | |
| (1, 1) 139 | Y fi. |
| (1, 1) 140 | Mae'r hen ddyn yn iach fel cneuan. |
| (1, 1) 141 | Mi fydd yn rhaid ei saethu o. |
| (Huw) Na, dydy o ddim mor iach a'i olwg, Catrin. | |
| (Huw) Be ydy ei enw fo hefyd? | |
| (1, 1) 146 | Doctor James? |
| (Huw) Ia, dyna fo. | |
| (Huw) Mae o'n mynd i lawr yr allt yn gyflym, medda'r Doctor. | |
| (1, 1) 150 | Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o. |
| (Huw) Paid â siarad yn wirion Catrin. | |
| (Blodwen) O dim ond ei fod o eisio barn Doctor James. | |
| (1, 1) 169 | Ei farn o ar be? |
| (Blodwen) Y "Sailor's Rest". | |
| (Blodwen) {BLODWEN yn tynnu ei chôl.} | |
| (1, 1) 176 | Ple mae o? |
| (Blodwen) Dydw i ddim yn cofio'n iawn. | |
| (Blodwen) Be sy Nhad? | |
| (1, 1) 184 | Dim byd Blodwen, ond ei fod o wedi colli lojiwr. |
| (1, 1) 185 | Roedd dy dad yn meddwl gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma. |
| (Blodwen) O? | |
| (Huw) Ond mae dy fam yn benderfynol na ddaw o ddim yma. | |
| (1, 1) 191 | Wel pwy ddynas fuasa'n lecio cael hen ddyn fel yna ar draws y tŷ? |
| (1, 1) 192 | Am beth wyt ti'n chwilio Blodwen? |
| (Blodwen) Am y llyfr hwnnw oeddwn i'n ddarllen ddoe. | |
| (Huw) Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin. | |
| (1, 1) 203 | Mi ydw i wedi dweud wrtha ti'n barod. |
| (1, 1) 204 | Fedrwn i byth wneud efo fo. |
| (Blodwen) O dydy o ddim mor ddrwg â hynny, Mam. | |
| (Blodwen) Mae ei galon o yn y lle iawn. | |
| (1, 1) 208 | Hy, dwyt ti ddim yn nabod dynion eto, ngeneth i. |
| (Blodwen) Wel dydy hi ddim yn rhy hwyr i mi ddechra, Mam. | |
| (Huw) {Huw yn eistedd i lawr.} | |
| (1, 1) 220 | Chware teg iddi. |
| (1, 1) 221 | Mae Doctor James yn ddyn ifanc neis iawn. |
| (Huw) Dyna be ydy'r cerdded o gwmpas yma mewn hanner breuddwyd felly! | |
| (Huw) Ple aflwydd welodd hi'r doctor yna tybed? | |
| (1, 1) 225 | Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist? |
| (Huw) Doctor James wir! | |
| (Huw) Doctor James wir! | |
| (1, 1) 227 | O gad lonydd i'r hogan! |
| (1, 1) 228 | Rwan mae ei chyfle hi. |
| (1, 1) 229 | Wyt ti ddim yn falch o weld dy deulu'n gwneud mor dda dwad? |
| (Huw) Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin. | |
| (Huw) Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin. | |
| (1, 1) 231 | Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti. |
| (Huw) Sgwn i! | |
| (Huw) Does yna ddim llawer er pan mae hi wedi dechra gweithio. | |
| (1, 1) 234 | Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi. |
| (Huw) Ia, ond mae petha'n wahanol heddiw. | |
| (Huw) Mae ganddi swydd reit dda—be arall sy arni eisio? | |
| (1, 1) 238 | Fedri di ddim nadu pobol ifanc syrthio mewn cariad, Huw. |
| (Huw) O wel... wyddost ti be, fedra i ddim peidio meddwl am yr hen Enoc. | |
| (1, 1) 243 | Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna. |
| (Huw) Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin! | |
| (Huw) Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin! | |
| (1, 1) 245 | O na. |
| (1, 1) 246 | Ond mae arna i ofn y bydd o'n fwy unig nag erioed yn y fan honno. |
| (Huw) Ia, ymhell o bob man, yng nghanol Saeson reit siwr. | |
| (Huw) Mae hi'n rhy hwyr rwan. | |
| (1, 1) 251 | Wn i ddim am hynny. |
| (Huw) Beth wyt ti'n feddwl? | |
| (Huw) Beth wyt ti'n feddwl? | |
| (1, 1) 253 | Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd. |
| (Huw) Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma? | |
| (Huw) Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma? | |
| (1, 1) 255 | Mi gawn weld ymhellach ymlaen. |
| (Huw) Wyt ti o ddifri? | |
| (Huw) Wyt ti o ddifri? | |
| (1, 1) 257 | Ydw, ond cofia di hyn Huw—meddwl am biano i Wili John rydw i. |
| (1, 1) 258 | Mae hynny'n werth unrhyw aberth. |
| (1, 1) 259 | A mi fydd hi'n aberth hefyd cael yr hen Enoc yma. |
| (Huw) Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin. | |
| (Huw) Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin. | |
| (1, 1) 261 | Mi gei di weld peth arall. |
| (Huw) Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn. | |
| (Huw) Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn. | |
| (1, 1) 263 | Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal. |
| (Huw) Ddaw henaint ddim ei hunan, Catrin. | |
| (Huw) O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─ | |
| (1, 1) 268 | Aros am funud, mae Wili John yn dwad. |
| (1, 1) 269 | Gofyn iddo fo be fuasa fo'n lecio gael ar ei ben-blwydd. |
| (Huw) I be? | |
| (Huw) I be? | |
| (1, 1) 271 | Gofyn di iddo fo. |
| (1, 1) 272 | Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o. |
| (Huw) Hei, llai o dwrw, boi bach. | |
| (Wili John) {Cychwyn unwaith eto.} | |
| (1, 1) 281 | Dyna ddigon, Wili John. |
| (1, 1) 282 | Allan mae eisio chware. |
| (1, 1) 283 | Mae dy Dad eisio siarad efo ti. |
| (Wili John) Be sy Nhad? | |
| (Huw) Be sy be? | |
| (1, 1) 286 | O bobol annwl, sôn am Blodwen mewn breuddwyd! |
| (1, 1) 287 | Wyt ti wedi anghofio'n barod? |
| (Huw) O ia. | |
| (Wili John) Gwn dŵr. | |
| (1, 1) 293 | Twt lol, Wili John, paid â siarad yn wirion. |
| (1, 1) 294 | Miwsig, Wili John, miwsig—rwan be fuasat ti'n lecio? |
| (Wili John) Mouth Organ. | |
| (Wili John) Mouth Organ. | |
| (1, 1) 296 | Mouth Organ, wir. |
| (1, 1) 297 | Be sy ar yr hogyn! |
| (1, 1) 298 | Fuaset ti'n lecio cael piano? |
| (Wili John) Piano go iawn? | |
| (Huw) Ble rwyt ti'n mynd, Catrin? | |
| (1, 1) 306 | Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas. |
| (1, 1) 307 | Fydda i ddim yn hir gobeithio. |
| (Wili John) Ga i ddwad, Mam? | |
| (Wili John) Ga i ddwad, Mam? | |
| (1, 1) 309 | Cei am wn i. |
| (1, 1) 310 | Aros, rhaid i mi roi cadach ar dy wyneb di. |
| (1, 1) 312 | Saf yn llonydd da chdi, rwyt ti run fath â chynonyn! |
| (1, 1) 313 | Rwan y tu ôl i'r clustia yma... |
| (1, 1) 314 | Ple rwyt ti'n hel y fath faw dwad? |
| (1, 1) 315 | Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa. |
| (Huw) Pa bryd fyddi di'n ôl tybed? | |
| (Huw) Pa bryd fyddi di'n ôl tybed? | |
| (1, 1) 318 | Wel fydda i byth yn hir iawn, rwyt ti'n gwybod hynny. |
| (1, 1) 319 | Ag yli, mae yna deisen yn y popty yn y cefn—mi fydd yn barod ymhen rhyw chwarter awr. |
| (1, 1) 320 | Gofala ei thynnu hi allan os na fydda i wedi dwad yn ôl. |
| (Huw) Reit. | |
| (Huw) Reit. | |
| (1, 1) 322 | Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row. |
| (Huw) O paid â phoeni. | |
| (Huw) Mi arhosa i yma yn lle mynd i'r gweithdy. | |
| (1, 1) 325 | Tyrd Wili John. |