| (John) Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall. | |
| (John) Cymer lamp oddiar y dresel i'w goleu, ac wrth siarad a'i gŵr, y mae'n paratoi'r bwrdd at bryd. | |
| (1, 0) 24 | Ewch i molchi, John, a gadwch i'r tân yna. |
| (1, 0) 25 | Mi goleua i o. |
| (John) Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth. | |
| (John) Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth. | |
| (1, 0) 27 | O'r gora, brysiwch wir; mae hi'n oer ofnadwy i sefyllian o gwmpas, a chitha wedi cael annwyd fel rydech chi. |
| (1, 0) 29 | Beth sy arnoch chi'r bore ma, John? |
| (1, 0) 30 | Rydech chi'n ddistaw iawn. |
| (1, 0) 31 | Oes rhwbeth ar ych meddwl chi, deudwch? |
| (John) Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny? | |
| (John) Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny? | |
| (1, 0) 33 | Ych clywed chi'n ochneidio, a'ch gweld chi'n edrych mor syn. |
| (1, 0) 34 | Rhoswch, dowch yma, John; mi wn i bedi'r mater. |
| (John) Beth, meddwch chi? | |
| (John) Beth, meddwch chi? | |
| (1, 0) 36 | Poeni rydech chi fod yr hen fargen yna yn y chwarel wedi mynd mor sâl, ac ofn arnoch chi na chewch chi ddim digon o gyflog y mis yma i dalu'r addewid at ddyled y capel. |
| (1, 0) 37 | Wel, wir, wn i ddim i beth rydech chi'n gneud baich o'ch crefydd fel hyn─tasa bawb yn rhoi cystal at yr achos ag yr yden ni 'n roi, fasa raid poeni dim pan ddaw ambell i fis gwan fel hyn heibio. |
| (John) Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha. | |
| (John) Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha. | |
| (1, 0) 39 | Wel, dowch i gael ych brecwast ynte, mae'r y tê yn barod. |
| (1, 0) 40 | Mi gewch molchi wedyn. |
| (1, 0) 43 | John! |
| (1, 0) 44 | Beth ydi'r mater?─ |
| (1, 0) 45 | Deudwch wrtha i; fethis i erioed ych cysuro chi o'r blaen, a fethai ddim y tro yma.─ |
| (1, 0) 46 | Dowch, deudwch wrth ych gwraig. |
| (John) Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch? | |
| (John) Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch? | |
| (1, 0) 48 | Chwe blynedd i fis Ebrill dwytha; mi ddylech chi gofio cystal a finna. |
| (John) le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna? | |
| (John) le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna? | |
| (1, 0) 50 | Gwylia? |
| (1, 0) 51 | Beth ydech chi'n feddwl? |
| (1, 0) 52 | Mynd am dro'n bell ydech chi'n feddwl? |
| (John) Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel? | |
| (John) Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel? | |
| (1, 0) 54 | Dim ond yr wythnos y bu'ch mam farw, rydw i'n meddwl. |
| (1, 0) 56 | Ydech chi'n meddwl mynd am dro i rywle? |
| (John) Wn i ddim, neno'r tad annwyl. | |
| (John) Mae Tomos ych brawd yn cadw sŵn o hyd arna'i fynd hefo fo. | |
| (1, 0) 61 | Peidiwch a chyboli, wir─lle cawn arian i gychwyn, ydech chi'n feddwl? |
| (1, 0) 62 | Dydech chi ddim yn hapus yma hefo mi ag Ifan bach, John? |
| (John) Wyddoch chi'n iawn y mod i'n hapus yma, Catrin─ar ych cownt chi ag Ifan yr ydw i'n poeni. | |
| (1, 0) 70 | John? |
| (John) Wel? | |
| (John) Wel? | |
| (1, 0) 72 | Deudwch beth sy wedi'ch styrbio chi'r bora ma... mi wela fod yna rwbeth go fawr o'i le arnoch chi. |
| (John) Newch chi ddim ond chwerthin am y mhen i, mi wn, dawn i'n deud wrthoch chi. | |
| (John) Ydi Mr. Jones y scŵl yn sôn am godi Ifan i'r |First Class| y tro yma? | |
| (1, 0) 75 | Hitiwch chi befo Ifan,─troi'r stori ydi peth fel yna... |
| (1, 0) 76 | Deudwch wrtha i, nghariad i. |
| (John) Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i. | |
| (John) Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i. | |
| (1, 0) 78 | Wna i ddim chwerthin, John, mi wyddoch yn iawn. |
| (John) {Yn sydyn.} | |
| (John) Mae'n gâs genni feddwl am dano fo, na'i ddeud o. | |
| (1, 0) 84 | Wel, mi fydd oddiar ych meddwl chi wedi i chi ddeud o. |
| (1, 0) 85 | Dowch. |
| (John) Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch? | |
| (John) Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch? | |
| (1, 0) 87 | Wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi,─bydda ac na fydda chwaith. |
| (John) Mi fyddai'n meddwl weithia fod yna ryw synnwyr ymhob dyn wedi mynd ar goll, rhywbeth sy gan yr anifeiliaid nag sy gynnon ni, a phan fydd y synwyra erill yn cysgu, mi fydd hwnnw'n cael i gyfle i ddeud gair weithia. | |
| (John) Ydech chi'n y nghofio i'n sôn am Sion y Muria rywdro? | |
| (1, 0) 90 | Hwnnw fu'n gweithio yn ych ymyl chi ym Mhonc Mosus? |
| (John) la, dyna fo─y creadur meddwa yn yr holl sir, heb ddim dowt.. | |
| (John) Mae ambell un yn medru gweld yng ngola llwyd i freuddwyd yr hyn na feder o weld yn llygad haul pan yn effro; mae'r gola yn i ddallu o. | |
| (1, 0) 96 | Medru gweld beth? |
| (John) Gweld drwy amser, Catrin, heb len o gwbl. | |
| (John) Mae'r co yn medru gweld drwy'r llen gynta, ac mae yna ryw synnwyr arall yn medru gweld drwy'r llall, pan fyddwn ni'n breuddwydio. | |
| (1, 0) 100 | Fedrai ddim mynd ar ych hol chi yn y fan yna, John; rydech chi'n ormod o sglaig i mi... |
| (1, 0) 101 | Ond deudwch ych breuddwyd. |
| (John) {Yn eistedd i lawr, ac yn codi wedyn ar ganol dwedyd ei freuddwyd.} | |
| (1, 0) 109 | Na wn i, wir. |
| (John) {Mewn llais ofnus.} | |
| (1, 0) 113 | Twt, peidiwch â styrbio'ch hunan ddim,─does gen i ddim coel o gwbwl ar freuddwydion. |
| (1, 0) 114 | Dydech chi ddim yn cofio amdanoch ych hunan yn breuddwydio ers talwm, newydd i Ifan gael ei eni, fod rhyw bobol fawr wedi dwad heibio, wedi i gipio fo yn i cerbyd, a chitha {yn gwenu} wedi rhedeg ar i hola, ac wedi taro Ifan oddiar sêt y car hefo'ch esgid? |
| (John) {Yn chwerthin.} | |
| (John) Rydw i dest a pheidio mynd i'r chwarel─heblaw fod arnon ni eisio arian i orffen pen y flwyddyn yn y capel, dawn i ddim chwaith. | |
| (1, 0) 120 | Peidiwch a gadael imi'ch perswadio chi beth bynnag, y naill ffordd na'r llall. |
| (1, 0) 121 | Gnewch chi fel rydech chi'n meddwl yn ora, John bach. |
| (John) Ie, dim iws rhoi coel ar bopeth─esgus dyn diog ydi peth felly yn amal. | |
| (Tomos) Lle mae John? | |
| (1, 0) 129 | Hylo, Tomos! |
| (1, 0) 130 | Beth sy wedi d'yrru di yma allan o dy ffordd yr adeg yma o'r dydd, fel hyn? |
| (1, 0) 131 | Eistedd i lawr. |
| (1, 0) 132 | Mae John wrthi hi'n molchi. |
| (Tomos) Galw arno fo; mae genni rwbeth pwysig i ddeud wrtho fo. | |
| (Tomos) Galw arno fo; mae genni rwbeth pwysig i ddeud wrtho fo. | |
| (1, 0) 134 | Aros funud; mae arna i eisio gofyn rhwbeth i ti, a fynnwn i er dim i John glywed. |
| (1, 0) 136 | Mae hi'n fain iawn arnon ni'r mis yma, ac mae ar Ifan bach eisio lot o betha newydd. |
| (1, 0) 137 | Oes gen ti ddim rhyw chweigien roet ti'n fenthig ini dan ben y mis? |
| (Tomos) {Yn rhoi i law ar ei hysgwydd.} | |
| (Tomos) Mi rois y chweigien i ddwytha oedd gen i neithiwr i orffen cownt y capel─daset ti wedi gofyn yn gynt imi, mi faswn wedi i chadw ond mi dreia i gael benthig un i ti gan John Ellis y Siop─mae o'n un reit barod. | |
| (1, 0) 141 | Diolch yn fawr iti. |
| (1, 0) 143 | Dim gair, Tomos, cofia. |
| (John) Hylo, Twm, ti sy'na? | |
| (Tomos) Mi riteiria i o'r byd yma os â i i'r chwarel heddiw, rydw i'n ddigon siwr o hynny. | |
| (1, 0) 159 | Wel, dwad dy reswm, Twm. |
| (Tomos) Wel, dyma fo─ac mi gei ditha chwerthin, os leici di, ond dydw i ddim yn mynd i wrando dim arnat... | |
| (1, 0) 174 | Dydi John ddim yn mynd i'r chwarel chwaith, Twm. |
| (John) Wel, dyma'r peth rhyfedda glywis i erioed. | |
| (Tomos) O ia! | |
| (1, 0) 183 | Rhybudd gan Ragluniaeth oedd o, yn deud fod damwain i fod yn ych bargen chi heddiw. |
| (1, 0) 184 | Dos yn ol i dy wely, Twm, a chitha hefyd, John. |
| (1, 0) 185 | Nid yn amal y byddwch chi'n cael siawns i gysgu heb ddim yn galw arnoch chi. |
| (John) Ia, dyden ni ddim i fynd i'r chwarel heddiw, mae hynny'n amlwg ddigon. | |
| (John) Doedd y breuddwyd ddim yn deud pa bryd yr oedd y ddamwain i fod,─hwyrach mai fory neu'r wythnos nesa, neu'r flwyddyn nesa... | |
| (1, 0) 192 | Arhoswch chi adre heddiw ych dau beth bynnag, ac mi gewch weld beth ddigwydd yno heddiw. |
| (John) {Yn cerdded o gwmpas.} | |
| (John) Catrin! sana pwy ydi'r rhain? | |
| (1, 0) 209 | Sana Ifan bach. |
| (John) {Yn gafael ynddynt ac yn edrych arnynt.} | |
| (John) Y mae nhw'n lyb dyferu! | |
| (1, 0) 212 | Yn lyb? |
| (John) Ia, teimlwch nhw... | |
| (John) Oes gynno fo bâr arall? | |
| (1, 0) 219 | Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed. |
| (John) Faint o arian sydd yma yn y ty? | |
| (John) Faint o arian sydd yma yn y ty? | |
| (1, 0) 224 | Dim ond deuswllt dan ben y mis. |