| (Dieithryn) Dydd da ichi. | |
| (Nain) Jonah! | |
| (0, 1) 104 | Mae'r ddynas yna fel gafr efo pendics. |
| (Prys) Efo be, fy Nghapten? | |
| (Prys) Efo be, fy Nghapten? | |
| (0, 1) 106 | Pendics. |
| (Prothero) Llid y coluddyn. | |
| (Prydderch) Poen yn ei bol. | |
| (0, 1) 113 | Oes gan be, be? |
| (Prys) Gafr, — oes ganddi pendics? | |
| (Prys) Gafr, — oes ganddi pendics? | |
| (0, 1) 115 | Wn i ar y ddaear. |
| (0, 1) 116 | Mae'n eitha posib. |
| (0, 1) 117 | Ond dyna'r math o sŵn fydda hi'n ei wneud tae ganddi hi un. |
| (0, 1) 118 | A hwnnw'n magu dolur. |
| (0, 1) 119 | A hithau'n brefu i ddeud wrth y bydysawd fod ei bol hi'n ei phoeni hi. |
| (0, 1) 120 | Wyt ti'n deall rwan, Prys? |
| (0, 1) 121 | Neu hoffet ti imi sgwennu traethawd ar y pwnc? |
| (Prys) Na, na, na, mi ydw i'n dilyn perwyl eich perorasiwn chi rwan... rydw i'n meddwl. | |
| (Prothero) Cyffelybiaeth anllenyddol. | |
| (0, 1) 125 | Dewcs, mi ydw i'n fodlon ei newid hi os ydi'n eich blino chi Prothero! |
| (0, 1) 126 | Crocodeil efo'r ddannodd os mynnwch chi. |
| (0, 1) 127 | Ne forfil efo diffyg traul... |
| (0, 1) 128 | Dim rhaid ei gymryd o mor ddifrifol, w'chi. |
| (0, 1) 129 | 'Dwy' i ddim yn honni mod i'n fardd nag yn fab i fardd. |
| (0, 1) 130 | Ond mi wn i beth ydi sŵn drwg! |
| (Nain) {O'r golwg.} | |
| (Nain) Jonah! | |
| (0, 1) 134 | Dyma hi eto ar fengoch chi! |
| (Prys) Yn llawn helbul o hyd, druan! | |
| (Prydderch) Mater o farn. | |
| (0, 1) 139 | Prun bynnag, mae hi am ddeud ei chŵyn. |
| (Nain) {Dod i'r golwg.} | |
| (Nain) Mwya'r brys, mwya'r rhwystr, mi fydda i'n deud bob amser...! | |
| (0, 1) 241 | Ia wel, pawb ei datws ei hun! |
| (0, 1) 242 | Mi fydda'n ddiddorol ei gweld hi'n crafangu i fyny'r clogwyn yna! |
| (Prys) Mae o wedi bod yn her i'r pentre ers cyn co' on'd ydi? | |
| (Prothero) Rwy'n tueddu i gytuno efo chi y tro yma, Prydderch, mae'n ddrwg gen i ddeud! | |
| (0, 1) 258 | Dim byd sicrach. |
| (0, 1) 259 | A mi ddeuda i wrthych chi pam rydw i mor bendant. |
| (0, 1) 260 | Rhaid i ddyn goelio ei lygaid a'i glustia ei hun. |
| (Prys) Be felly, fy Nghapten? | |
| (Prys) Be felly, fy Nghapten? | |
| (0, 1) 262 | Rhyw fis yn ôl ro'n i'n mynd â llond sgwnar o bobol ar hyd y glannau yma. |
| (0, 1) 263 | Ymwelwyr. |
| (0, 1) 264 | Pobol gefnog, dwylo meddal, ffroenuchel. |
| (0, 1) 265 | Fe wyddoch y teip. |
| (Prys) Eu nabod nhw'n iawn! | |
| (Prys) Eu nabod nhw'n iawn! | |
| (0, 1) 267 | Roedd hi'n ddiwrnod braf. |
| (0, 1) 268 | Dim cwmwl yn yr awyr. |
| (0, 1) 269 | A'r môr fel melfed. |
| (0, 1) 270 | Roedd yr haul yn hwylio i fachlud. |
| (0, 1) 271 | A'r clogwyn ar dân. |
| (0, 1) 272 | Ac wrth inni nesau ato fo, dyma un ohonyn nhw, dynas fawr, flonegog efo het fel nyth brân, — dyma hi'n neidio ar yr hatsus fel hyn! |
| (0, 1) 274 | "O edrychwch yonder, fan acw," medda hi, yn ei llais trwynol, "Y clogwyn yn llosgi, welwch chi? |
| (0, 1) 275 | Mor lyfli! |
| (0, 1) 276 | O on'd ydi God yn Good!" |
| (0, 1) 277 | Dyna'i geiria hi, cyn wiried â mod i'n sefyll yn fan'ma rwan! |
| (0, 1) 278 | Glywsoch chi'r fath erthyl o ebychiad erioed! |
| (Prothero) Mae pobol wedi anghofio sut i siarad. | |
| (Prothero) Mi hoffwn i wneud datganiad. | |
| (0, 1) 285 | Mae Prothero am wneud datganiad. |
| (0, 1) 286 | Sylw!... |
| (0, 1) 287 | Reit, Prothero. |
| (Prothero) Fe glywsoch Prydderch yn "twt-twtio" rwan. | |
| (Prydderch) Mae fy nhrowsus i'n dwad i lawr! | |
| (0, 1) 305 | Rhoswch funud. |
| (0, 1) 306 | Tric hen longwr, Prydderch... |
| (0, 1) 308 | Gwneud twll fel hyn, ydach chi'n gweld... |
| (0, 1) 309 | Wedyn tynnu'r bresus drwyddo fo... a hoelen drwy hwnnw wedyn... fel hyn. |
| (Jonah) A gwrando ar y gwynt. | |
| (0, 1) 329 | Be ddeudodd y gwylanod wrthyt ti? |
| (Jonah) Addo tywydd drwg yfory. | |
| (Prys) Prentis proffwyd ar f'enaid i! | |
| (0, 1) 332 | Fuost ti ar y clogwyn, broffwyd bach ceiniog-a-dima? |
| (Jonah) Fi? | |
| (Jonah) Naddo. | |
| (0, 1) 336 | Dwed y gwir, y gwalch! |
| (Jonah) Wel... mi fûm i yno neithiwr. | |
| (Jonah) Wel... mi fûm i yno neithiwr. | |
| (0, 1) 338 | Neithiwr, aie! |
| (Jonah) A'u rhoi'n fwclis i Nain. | |
| (0, 1) 343 | Prentis bardd hefyd, ddyliwn! |
| (Prys) Mwclis? | |
| (0, 1) 347 | Doedd ei ddehongliad o gri'r wylan ddim ymhell ohoni. |
| (0, 1) 348 | Mae'r gwynt wedi troi. |
| (0, 1) 349 | Mi gawn gythral o ddrycin gyda hyn. |
| (0, 1) 350 | Mae'r rhagolygon yn hyll. |
| (0, 1) 351 | Hyll iawn. |
| (Prydderch) Gwir bob gair. | |
| (Prydderch) Beth yw ein Tynged? | |
| (0, 1) 359 | Cwestiwn dyrys. |
| (0, 1) 360 | Andros o ddyrys. |
| (0, 1) 361 | Melltigedig o ddyrys. |
| (Prys) Dewcs, tybed d'wch? | |
| (Prothero) Ond waeth heb na hel dail, — mae'n argyfwng. | |
| (0, 1) 368 | Creisis! |
| (Prydderch) Croesffordd Ffawd! | |
| (Prothero) A does yna ddim ond un ffordd allan inni. | |
| (0, 1) 380 | Prun ydi honno, Prothero, os nad ydi o'n ormod i ofyn? |
| (0, 1) 381 | Dowch, mae dynol ryw yn disgwyl am y neges fawr. |
| (0, 1) 382 | Mae'r bydysawd yn glustia i gyd! |
| (Prothero) {Mae'n neidio ar rostrwm a datgan yn ddramatig.} | |
| (Prothero) Heb falu awyr na hel dail. | |
| (0, 1) 396 | Prys, gofyn iddo fo. |
| (Prys) Fi?... | |
| (Prothero) Mi gawn benderfynu hynny, toc! | |
| (0, 1) 427 | Prys, ydi ei ddwy ysgwydd o ar lawr? |
| (0, 1) 428 | Os ydyn nhw, mae Prothero wedi ennill. |
| (Prys) Anodd deud... | |
| (Prys) Dwy ysgwydd ar lawr, Capten! | |
| (0, 1) 443 | Reit! |
| (0, 1) 445 | Un... dau... tri! |
| (0, 1) 446 | Buddugoliaeth foesol i Prothero... |
| (0, 1) 447 | Codwch rwan... |
| (0, 1) 448 | Dowch, i fyny â chi! |
| (0, 1) 449 | Brysiwch! |
| (0, 1) 450 | Mae'r sgarmes drosodd. |
| (Prydderch) Yng nghwmni rhai pobol, — heb enwi neb — mi fydda i'n diolch i Dduw mai anffyddiwr ydw i! | |
| (Prydderch) Yng nghwmni rhai pobol, — heb enwi neb — mi fydda i'n diolch i Dduw mai anffyddiwr ydw i! | |
| (0, 1) 454 | Ia, wel, digon am heddiw gyfeillion. |
| (0, 1) 455 | Mae'r holl gyffro yna wedi codi cythral o syched arna i. |
| (0, 1) 456 | 'Thâl dim imi rwan ond tywallt chwart o gwrw bendigedig i lawr fy nghorn-gwddw. |
| (0, 1) 457 | A hynny ar un llwnc. |
| (0, 1) 458 | Ar fy nhalcen! |
| (Prys) Syniad haidd-iannus, fy Nghapten! | |
| (Prys) Syniad haidd-iannus, fy Nghapten! | |
| (0, 1) 460 | Dowch, Prothero. |
| (0, 1) 461 | Rhaid i fara-sych-a-dŵr ildio i'r cwrw-chwerw-coch heddiw... |
| (0, 1) 462 | Prydderch, brysiwch. |
| (Prydderch) Fy ngherdyn! | |
| (Prydderch) Fe gewch chi i gyd wybod. | |
| (0, 1) 476 | Yn y cyfamser, bwrw i'r cwrw chwerw... |
| (0, 1) 477 | Dowch! |