| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (1, 0) 280 | Clywaf ac ufuddhaf. |
| (Joab) {Gan daflu ei law o amgylch y neuadd.} | |
| (1, 0) 322 | Sefwch! Dim cam ymhellach heb roi'r gair! |
| (Beneia) {O'r golwg.} | |
| (1, 0) 326 | Ewch ymlaen eich dau. |
| (Beneia) {Yn dyrchafu ei law dde mewn saliwt wrth ganfod Joab.} | |
| (Abisâg) Y Brenin nid ysgogir byth... | |
| (2, 2) 1585 | Brad! Brad!! Brad!!! |
| (Joab) Pa beth sy'n bod? Pa beth a wnaeth gwŷr Hebron? | |
| (2, 2) 1589 | Cyhoeddi Absalom yn Frenin Jwda. |
| (Joab) Yr wyt ti'n drysu. Ni chydsyniai byth. | |
| (Joab) Yr wyt ti'n drysu. Ni chydsyniai byth. | |
| (2, 2) 1591 | Mae Absalom eisoes yn teyrnasu yn Hebron, |
| (2, 2) 1592 | Calon gwŷr Jwda a aeth ar ei ôl. |
| (Dafydd) Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog? | |
| (Dafydd) Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog? | |
| (2, 2) 1594 | Barn Duw a'i hyso! Ef yw tad y drwg. |
| (2, 2) 1595 | Bradwr! Rhagrithiwr! Cythraul o lwynog ffals! |
| (Hŵsai) Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem? | |
| (Hŵsai) Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem? | |
| (2, 2) 1597 | O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw. |
| (Hŵsai) Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth. | |
| (Hŵsai) Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth. | |
| (2, 2) 1599 | Ar flaen eu byddin y daw Ahitoffel, |
| (2, 2) 1600 | Tan gario baner teyrn-fradwriaeth Absalom. |
| (Joab) Ar flaen eu byddin? A chyrhaeddant heddiw? | |
| (2, 2) 1604 | Rhedais bob cam... Cyrhaeddant hwy 'mhen dwyawr. |
| (Joab) Estyn fy arfau... Cân y Gloch Alarwm! | |
| (3, 2) 2651 | Buddugoliaeth! |
| (3, 2) 2655 | Gwrando fy nghenadwri innau, arglwydd; |
| (3, 2) 2656 | Myfi a anfonwyd gyntaf... Dial gwaedlyd |
| (3, 2) 2657 | Heddiw a fu ar bawb o'r bradwyr budron. |
| (3, 2) 2658 | Miloedd o'u cyrff fydd 'fory'n fwyd i frain |
| (3, 2) 2659 | Tan farn y duwiau.. |
| (Dafydd) {Yn ddiamynedd.} | |
| (3, 2) 2663 | Fel hyn... a hyn...a hyn, boed i bob bradwr |
| (3, 2) 2664 | A godo i'th erbyn... Felly y bu i'r llanc |
| (3, 2) 2665 | Sydd heno'n gelain gegrwth... |
| (Dafydd) O, fy mab! | |
| (3, 2) 2678 | Pob parch i'w dad. Thraethais-i ddim ond y gwir |
| (3, 2) 2679 | Am ddiwedd bradwr. |
| (Beneia) Sut y lladdwyd ef? | |
| (Beneia) Sut y lladdwyd ef? | |
| (3, 2) 2681 | Yn awr y fuddugoliaeth, a'n gelynion |
| (3, 2) 2682 | Yn rhusio bendramwnwgwl drwy'r coed, |
| (3, 2) 2683 | Safodd fy Meistr i dynnu saeth o'i glun |
| (3, 2) 2684 | A golchi ei glwyf; a daeth picellwr ato |
| (3, 2) 2685 | Gan ddweud mewn arswyd: "Fy Nghadfridog Joab, |
| (3, 2) 2686 | Ganllath oddi yma gwelais olygfa syn— |
| (3, 2) 2687 | Mae Absalom yn hongian wrth ei hirwallt |
| (3, 2) 2688 | Tan dewfrig derwen, a'i anifail mud |
| (3, 2) 2689 | Gerllaw'n ei ffroeni, wedi colli ei farchog |
| (3, 2) 2690 | Oddi ar ei gefn wrth rusio o dan y gangen... |
| (3, 2) 2691 | Mae'r llanc yn fyw!... "O, ynfyd!" medd fy Meistr, |
| (3, 2) 2692 | ~ |
| (3, 2) 2693 | "Paham na threwaist ef ac ennill gennyf |
| (3, 2) 2694 | Wregys anrhydedd a deg o siclau arian?" |
| (3, 2) 2695 | ~ |
| (3, 2) 2696 | "Na," meddai yntau, "cofia air y Brenin! |
| (3, 2) 2697 | Er mil o siclau byth nis lladdwn ef." |
| (3, 2) 2698 | ~ |
| (3, 2) 2699 | Yna'r Cadfridog, o gawell arfau'r gŵr |
| (3, 2) 2700 | A gipiodd yn ei lid dair o'i bicellau |
| (3, 2) 2701 | A gwaeddodd arnom, "Hai! Dilynwch fi!" |
| (3, 2) 2702 | ~ |
| (3, 2) 2703 | Ac â'r tair picell, ac Absalom eto'n fyw |
| (3, 2) 2704 | Yn hongian felly, brathodd ef trwy'i galon. |
| (3, 2) 2705 | A gwaeddodd ar ei lanciau oll i'w daro |
| (3, 2) 2706 | A'i roi o'i boen... Felly y trengodd ef. |
| (3, 2) 2707 | ~ |
| (3, 2) 2708 | A chan nad oedd ei gorff dan yr holl glwyfau |
| (3, 2) 2709 | Yn gymwys i'w ddwyn adref at ei dad, |
| (3, 2) 2710 | Fe'i claddwyd mewn ffos ddofn o dan y coed, |
| (3, 2) 2711 | A gosod arno garnedd gerrig fawr; |
| (3, 2) 2712 | Ac felly y darfyddo am bob bradwr! |
| (Dafydd) O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab! | |
| (Beneia) Dos, galw hi yma ar frys,—a Solomon! | |
| (3, 2) 2720 | 'Rwy'n deall, Gapten. Gwnaf yn ôl dy air. |