| (Harmonia) Yli! | |
| (Lleisiau) Socrates? | |
| (0, 1) 504 | Roedd hynna i gyd yn swnio'n dda! |
| (0, 1) 505 | Gwladgarwr pybyr ddwedech chi, |
| (0, 1) 506 | A thynged Athen yn ing enaid iddo; |
| (0, 1) 507 | A'i ofal beunydd am y tlawd a'r gwan. |
| (0, 1) 508 | Ond cofiwch hyn: does fawr o dro |
| (0, 1) 509 | Ers pan oedd hwn a'i Blaid |
| (0, 1) 510 | Ar fin bradychu'r Ddinas a'i thrigolion oll |
| (0, 1) 511 | I'r Sbartiaid am aur a mantais masnach. |
| (0, 1) 512 | O na, nid ffyliaid ydym! |
| (0, 1) 513 | Ofer disgwyl dim gan hwn a'i griw, |
| (0, 1) 514 | Plaid yr Ychydig a'r Breintiedig Rai, |
| (0, 1) 515 | Plaid elw glwth; Plaid busnes calon-galed. |
| (Dionysos) Wel, beth wyt ti'n i feddwl? | |
| (Côr A) Yn bwysig mewn cymdeithas. | |
| (0, 1) 544 | Ond eto i gyd, peth trist yw gweld |
| (0, 1) 545 | Neb dyn o'r fath athrylith fawr |
| (0, 1) 546 | Yn cael ei lusgo gan yr Heddlu Cudd |
| (0, 1) 547 | A'i gladdu'n fyw mewn carchar, |
| (0, 1) 548 | Ynghanol lladron meddw, caridyms — |
| (0, 1) 549 | Gwehilion ein cymdeithas. |
| (0, 1) 550 | Ai dyna'r ffordd mae Athen Fawr yn trin |
| (0, 1) 551 | Y diniweitiaf wron yn ein plith? |
| (0, 1) 552 | A thoc fe ddaw o flaen y Llys |
| (0, 1) 553 | A'r Fainc Ynadon cib-ddall, brwd, |
| (0, 1) 554 | Mor ffyddlon i'r Sefydliad; |
| (0, 1) 555 | Sy'n haeru'n danbaid ymhob Praw, |
| (0, 1) 556 | Fod Deddf uwchlaw Cyfiawnder. |
| (Dionysos) Aros funud. | |
| (Côr A) Y truan hwn a'i debyg? | |
| (0, 3) 1985 | Na, na! |
| (0, 3) 1986 | Dyw hynna ddim yn hollol wir; |
| (0, 3) 1987 | Nid dyna ble Dionysos. |
| (0, 3) 1988 | Y cyfan a ofynnodd inni'n gwrtais oedd |
| (0, 3) 1989 | Ystyried pa mor ymarferol fyddai gofyn ffafr |
| (0, 3) 1990 | Gan wrol arwyr ac arweinwyr Athen gynt, |
| (0, 3) 1991 | Sy bellach yma gyda ni yn Hades, |
| (0, 3) 1992 | Mewn anrhydeddus a breintiedig stâd. |
| (0, 3) 1993 | Ni ofynnir inni wneud dim oll ond hyn. |