| (Harmonia) Yli! | |
| (Dionysos) Diddorol. | |
| (0, 1) 463 | Rhydd i bob dyn ei farn, |
| (0, 1) 464 | Ac i bob barn ei llafar. |
| (0, 1) 465 | Clywsom eiriau Cleon a'i addewid gwag, |
| (0, 1) 466 | Sydd inni, bellach, o'i ail-adrodd fynych dro |
| (0, 1) 467 | Yn ddincod ar y dannedd. |
| (0, 1) 468 | Tyrd, Cadmos, be sy gennyt ti i'w ddweud? |
| (0, 1) 469 | Beth yw dy neges di i Athen? |
| (Cadmos) Gyfeillion dydy huodledd Gleon ddim gen i. | |
| (Llais) Dyna ddiwedd y datganiad. | |
| (0, 1) 535 | Be ddwedodd o — Socrates yn y Ddalfa? |
| (0, 1) 536 | Wel, a bod yn hollol onest, |
| (0, 1) 537 | Dyw hynna ddim yn syndod inni. |
| (0, 1) 538 | Wedi'r cyfan, dyn peryglus ydy o — eithafwr, |
| (0, 1) 539 | Sy'n arwain ein ieuenctid ar ddisberod |
| (0, 1) 540 | A mwydro eu meddyliau â'i syniadau od. |
| (0, 1) 541 | Fe fydd yn ddiogel yn y carchar: dyna'r lle |
| (0, 1) 542 | I ddysgu'r wers fod ufuddhau a chydymffurfio llwyr |
| (0, 1) 543 | Yn bwysig mewn cymdeithas. |
| (Côr B) Ond eto i gyd, peth trist yw gweld | |
| (Blaenor y Côr) Ni allaf ddirnad sut mae modd ei bontio. | |
| (0, 3) 1978 | Wedi'r cyfan, beth sydd a wnelom ni ag Athen? |
| (0, 3) 1979 | Paham y dylem yma yn ein bythol hedd |
| (0, 3) 1980 | Roi heibio ein hysbrydol ddiddordebau; |
| (0, 3) 1981 | Ein breiniol, ddyrchafedig fyfyrdodau |
| (0, 3) 1982 | Er mwyn ymboeni â bawaidd hynt a helynt |
| (0, 3) 1983 | Y truan hwn a'i debyg? |
| (Côr B) Na, na! | |
| (Plwton) Pa ateb a gawsoch ganddyn nhw? | |
| (0, 3) 2056 | Fel y dywedaist, Plwton, cawsom gan y Gwrol Rai |
| (0, 3) 2057 | Dderbyniad rhwydd a phob cwrteisi; |
| (0, 3) 2058 | Cyn rhoi yn gryno ger eu bron |
| (0, 3) 2059 | Ddiffuant gais Dionysos. |
| (0, 3) 2060 | Yna rôl iddynt ymneilltuo dro |
| (0, 3) 2061 | I ymgynghori'n ddwys a phwyllog drin a thrafod, |
| (0, 3) 2062 | Fe gawsom ganddynt, toc, ddatganiad fel a ganlyn: |
| (0, 3) 2063 | "Gwerthfawrogwn daerni ple Dionysos, |
| (0, 3) 2064 | Anrhydedd inni oedd ei dderbyn. |
| (0, 3) 2065 | Eto i gyd, nid yw ein gallu, gwaetha'r modd |
| (0, 3) 2066 | Yn llawn gymhesur â'i fawr hyder ynom. |
| (0, 3) 2067 | Ond gwyddom a deallwn yn rhy dda |
| (0, 3) 2068 | Pa bryder a'i cymhellodd. |
| (0, 3) 2069 | Mae cyflwr Athen a'i hargyfwng trist |
| (0, 3) 2070 | Yn loes i ninnau hefyd. |
| (0, 3) 2071 | Ond ofer fyddai inni fynd yn ôl |
| (0, 3) 2072 | I geisio'i hysbrydoli. Ni allem ychwanegu dim |
| (0, 3) 2073 | Nas argymhellwyd gennym eisoes yn y dyddiau gynt. |
| (0, 3) 2074 | A hyd yn oed petaem dros dro'n dychwelyd, |
| (0, 3) 2075 | Yn y carchar fyddem ninnau hefyd cyn pen dim, |
| (0, 3) 2076 | Fel llawer gwron arall sydd y funud hon |
| (0, 3) 2077 | Mewn cyffion, am iddynt wrthod plygu glin |
| (0, 3) 2078 | I ormes, ac am feiddio codi llais |
| (0, 3) 2079 | Yn erbyn cydymffurfio gwasaidd eu cyd-wladwyr. |
| (0, 3) 2080 | Pa angen ysbrydoliaeth arall sydd? |
| (0, 3) 2081 | Mae i bob oes ei harwyr. |
| (0, 3) 2082 | Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi ei hun." |