| (Hlin) PRELŴD | |
| (Hlin) PRELŴD | |
| (1, 0) 6 | Cwpan y grawnwin melys, |
| (1, 0) 7 | min wrth fin, min wrth fin, |
| (1, 0) 8 | cwpan a'i sawr fel y mefus, |
| (1, 0) 9 | cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus, |
| (1, 0) 10 | cwpan y gwin. |
| (1, 0) 11 | ~ |
| (1, 0) 12 | Mac carol y flwyddyn mewn cerwyni |
| (1, 0) 13 | yn sypiau, grawnsypiau gwin, |
| (1, 0) 14 | a'r winllan yn synnu ysgawned ei llwyni |
| (1, 0) 15 | a'r basgedeidiau grawn o'r twyni, |
| (1, 0) 16 | fin wrth fin, |
| (1, 0) 17 | wedi cyrraedd eu ffin. |
| (1, 0) 18 | ~ |
| (1, 0) 19 | Dawnsiwn, canwn, lanciau, llancesi, |
| (1, 0) 20 | glin wrth lin, min wrth fin, |
| (1, 0) 21 | Bacchws lon a'r grawn yn ei dresi |
| (1, 0) 22 | a'i draed dano, siawns, |
| (1, 0) 23 | i arwain y ddawns, |
| (1, 0) 24 | Bacchws a Fenws i gusanu ag anwesu,─ |
| (1, 0) 25 | gwin ar fin yw min ar fin. |
| (1, 0) 26 | Dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden, |
| (1, 0) 27 | canwn i'r gwin, min wrth fin, |
| (1, 0) 28 | diod cariadon |
| (1, 0) 29 | ag offeiriadon, |
| (1, 0) 30 | hwb i galon |
| (1, 0) 31 | yr hen a'r blin,─ |
| (1, 0) 32 | dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden, |
| (1, 0) 33 | glin wrth lin. |
| (1, 0) 34 | ~ |
| (1, 0) 35 | Cwpan y grawnwin melys, |
| (1, 0) 36 | min ar fin yw gwin ar fin, |
| (1, 0) 37 | cwpan a'i sawr a'i wawr fel y mefus, |
| (1, 0) 38 | cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus, |
| (1, 0) 39 | cwpan y gwin, y gwin. |
| (Clitandre) Mac gwin a serch yn unfryd | |
| (1, 0) 86 | Ond serch |
| (1, 0) 87 | sy'n clymu c'lonnau mab a merch, |
| (1, 0) 88 | a phlentyn siawns yw serch. |
| (1, 0) 89 | Unwn ddwylo, |
| (1, 0) 90 | pa raid wylo? |
| (1, 0) 91 | Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo? |
| (1, 0) 92 | ~ |
| (1, 0) 93 | Os siawns |
| (1, 0) 94 | sy'n cyplu c'lonnau yn ei dawns, |
| (1, 0) 95 | hai, yfwn ati, Siawns! |
| (1, 0) 96 | Unwn ddwylo, |
| (1, 0) 97 | pa raid wylo? |
| (1, 0) 98 | Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo? |
| (Hlin2) RESITATIF | |
| (1, 0) 129 | Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod, |
| (1, 0) 130 | canwn i'r byw, y byw o bob oed; |
| (1, 0) 131 | gwell llygoden fyw na llew wedi darfod; |
| (1, 0) 132 | canwn cyn drewi; cyn rhewi o bob troed |
| (1, 0) 133 | a gorwedd yn y llan yn anniddan lonydd, |
| (1, 0) 134 | dawnsiwn i serch a llannerch llawenydd; |
| (1, 0) 135 | heddiw mae byw; canwn i ddaioni |
| (1, 0) 136 | a phêr haelioni'r ddaear crioed. |
| (Hlin2) RESITATIF | |
| (Y Tri Arall) Oblegid bod ganddo winllannau... | |
| (1, 0) 161 | Be' wnewch chi, be' wnewch chi â'r aeres? |
| (1, 0) 162 | Nid ei chloi hyd ei thranc |
| (1, 0) 163 | na'i chau mewn lleiandy |
| (1, 0) 164 | i suro'n grin |
| (1, 0) 165 | yn rhyw flin abades! |
| (1, 0) 166 | O rhowch hi i'r llanc, |
| (1, 0) 167 | rhowch hi i'r llanc gydag aur o'r banc |
| (1, 0) 168 | i goroni cynhaea'r gwinllandy. |
| (1, 0) 169 | Be' wnewch chi â'r ferch siwgwr candi? |
| (1, 0) 170 | Nid fel anwariad |
| (1, 0) 171 | ei bwrw i'r llaid, |
| (1, 0) 172 | ond ei rhoi hi i'w chariad, |
| (1, 0) 173 | ag fe brifiwch yn daid, |
| (1, 0) 174 | fe brifiwch yn daid |
| (1, 0) 175 | a mwyneiddio yn hen fel hen frandi. |
| (Hlin2) RESITATIF | |
| (Sganarelle) Ffowch! | |
| (1, 0) 183 | Unwn ddwylo, |
| (1, 0) 184 | pa raid wylo, |
| (1, 0) 185 | pwy sy dlawd pan fo'n anwylo? |