| (Harmonia) Yli! | |
| (Blaenor y Côr) Dieithriaid i bob golwg. | |
| (0, 1) 254 | Gwas a meistr, ddwedwn i, a barnu wrth eu gwisg |
| (0, 1) 255 | A'u hymarweddiad. Ys gwn i o ble y daethon nhw? |
| (0, 1) 256 | O Delffi, Thebau, neu o Gorinth bell ei hun? |
| (0, 1) 257 | Does wybod yn y byd pwy ydyn nhw, |
| (0, 1) 258 | Prun ai pererinion llesg neu garedigion llon |
| (0, 1) 259 | Y Ddrama. Neu Thesbiaid hwyrach — dau actor brwd |
| (0, 1) 260 | A'u bryd ar ennill clod ar hen lwyfannau Athen. |
| (0, 1) 261 | Beth bynnag ydyn nhw, mae hyn yn amlwg ddigon |
| (0, 1) 262 | Nid caridyms mo'r rhain, nid dau o'r llu twristiaid hurt |
| (0, 1) 263 | Sy'n tyrru yma o bob cwr, pob un â'i dafod allan, bron |
| (0, 1) 264 | Yn awchio am ddiwylliant tridiau, |
| (0, 1) 265 | A llygad-rythu'n geg-agored, syn |
| (0, 1) 266 | Ar ogoniannau adfeiliedig ein gorffennol. |
| (0, 1) 268 | Ond dacw rywun yn mynd atyn nhw i ysgwyd llaw, |
| (0, 1) 269 | A dweud bod croeso Athen 'run mor hael |
| (0, 1) 270 | Er gwaetha gwae y rhyfel. |
| (Dionysos) Wedi blino? | |
| (Llais) Rhowch glust iddyn nhw pan ddôn nhw atoch. | |
| (0, 1) 327 | Nid i glywed newydd drwg, gobeithio! |
| (0, 1) 328 | Rydym wedi hen flino ar bryder, gwae a gofid; |
| (0, 1) 329 | Ac yn dyheu am ryw friwsionyn bach o gysur; |
| (0, 1) 330 | Llygedyn bach o obaith. |
| (0, 1) 331 | Gad inni fwynhau rhyw awr ne ddwy o seibiant, |
| (0, 1) 332 | I stelcian yma ar y sgwâr |
| (0, 1) 333 | A sgwrsio'n ddioglyd efo hwn a'r llall |
| (0, 1) 334 | Heb sôn am ryfel. Wedi'r cyfan |
| (0, 1) 335 | Rhyw bethau bach fel hyn sy'n bwysig |
| (0, 1) 336 | I sgafnu'r baich sydd ar ein sgwyddau beunydd, |
| (0, 1) 337 | Rhag bod ein bywyd yn ddiflastod llwyr. |
| (0, 1) 338 | A heno, mae'n rhy braf i fwydro am faterion dwfn |
| (0, 1) 339 | Na datrys cymhlethdodau'r byd. |
| (0, 1) 340 | Yn hytrach, noson yw i wneud dim oll |
| (0, 1) 341 | Ond sipian gwin, neu wrando'n swrth ar felys gân, |
| (0, 1) 342 | Neu garu! |
| (Nicias) Cleon ydy hwn, Syr. | |
| (Cleon) Mae'r gwynt yn groes a'r môr yn ferw — | |
| (0, 1) 436 | A'r morwyr wedi blino; |
| (0, 1) 437 | A hyd y gwyddon nid oes i ni na hafan deg na hindda. |
| (0, 1) 438 | Rydym yn dechrau cynefino â thywydd drwg; |
| (0, 1) 439 | Diflastod inni bellach yw addewidion gwag |
| (0, 1) 440 | A geiriau teg na ellir eu gwireddu. |
| (0, 1) 441 | Rho inni rywbeth pendant i gynnal a chryfhau ein ffydd, |
| (0, 1) 442 | A chodi ein calonnau. |
| (Cleon) Gwell angau na chywilydd! | |
| (Dionysos) Atheniaid! | |
| (0, 1) 698 | Na, na Ddieithryn, ofer gofyn dim i ni |
| (0, 1) 699 | Does gennym ni run farn i'w chynnig; |
| (0, 1) 700 | Neu, yn hytrach, gwir f'ai dweud bod gennym amryw. |
| (0, 1) 701 | Mae rhai ar dân ynghylch y peth a'r peth, |
| (0, 1) 702 | Ac eraill sydd yn haeru run mor daer |
| (0, 1) 703 | Yn hollol i'r gwrthwyneb. |
| (0, 1) 704 | Pob un, wrth gwrs, |
| (0, 1) 705 | Yn credu gydag argyhoeddiad llwyr |
| (0, 1) 706 | Mai efô sy'n iawn, a bod pob daliad |
| (0, 1) 707 | Sy'n wahanol, nid yn unig yn sarhâd |
| (0, 1) 708 | Personol iddo ef ei hun, ond hefyd |
| (0, 1) 709 | Yn golygu aflwydd mawr i Athen. |
| (0, 1) 710 | Ond teg yw dweud, yn ddistaw bach, fod ambell lais, |
| (0, 1) 711 | Os nad yw'n plesio'r Awdurdodau'n llawn, |
| (0, 1) 712 | Yn cael ei fygu, neu ei foddi'n llwyr |
| (0, 1) 713 | Gan gytgan cryf y cydymffurfwyr. |
| (0, 1) 714 | ~ |
| (0, 1) 715 | Fe welwch, felly, mai peth anodd iawn |
| (0, 1) 716 | I ni yw rhoi ein barn yn bendant, glir. |
| (0, 1) 717 | Rhyw ymbalfalu, rydym, yn y niwl, |
| (0, 1) 718 | A gogr-droi mewn penbleth. Beth arall |
| (0, 1) 719 | Allwn ni ei wneud? A dal ein gobaith |
| (0, 1) 720 | Y bydd Athen annwyl drwy ryw hynod wyrth |
| (0, 1) 721 | Yn dal i fyw; gan syfrdan sylweddoli |
| (0, 1) 722 | Yr arswydus ffaith fod ein diwylliant, |
| (0, 1) 723 | Etifeddiaeth, iaith — yn wir, bod ein bodolaeth |
| (0, 1) 724 | Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle. |
| (Nicias) Dim llawer o dderbyniad, Syr? | |
| (Dionysos) Dyma iti felltith sydd mor hen â'r ddynoliaeth ei hun: | |
| (0, 3) 1766 | Mae tawelwch yn ein pentre ni heddiw, |
| (0, 3) 1767 | Mudandod galar rhy ddwfn i ddagrau; |
| (0, 3) 1768 | Nid oes, bellach, ochenaid i liniaru gwewyr y galon. |
| (0, 3) 1769 | Ai breuddwyd echrydus a gawsom ni neithiwr |
| (0, 3) 1770 | Pan ddaeth y belen dân o'r nef |
| (0, 3) 1771 | Ynghanol rhuo gwyllt y dreigiau du |
| (0, 3) 1772 | A wibiodd drosom drwy gymylau'r nos? |
| (0, 3) 1773 | A gawn ni ddeffro yn y man i'n gweld ein hunain |
| (0, 3) 1774 | Yn eistedd ar farwydos ein haelwydydd oer, |
| (0, 3) 1775 | A chofleidio'r plant i wneud yn siwr |
| (0, 3) 1776 | Eu bod yn gynnes a dianaf, iach? |
| (0, 3) 1777 | Na, na, ofer yw'r gobaith gwan y mynnem gydio ynddo |
| (0, 3) 1778 | Fel y cydia un ar foddi, laswelltyn. |
| (0, 3) 1779 | Gwyddom, pe codem ein llygaid, |
| (0, 3) 1780 | Y gwelem y lliain llonydd yn y gornel, |
| (0, 3) 1781 | A'r llaw fach, ddisymud, yn ymestyn oddi tano. |
| (0, 3) 1782 | Eisteddwn, felly, gan syllu'n hurt i'r lludw llwyd, |
| (0, 3) 1783 | I ail-fyw yr arswyd ddaeth i'r pentre neithiwr |
| (0, 3) 1784 | Ar fachlud haul. Clywn eto sŵn y traed |
| (0, 3) 1785 | A llais y swyddog swta yn y stryd. |
| (0, 3) 1786 | Clywn chwerthiniad iach plentyndod |
| (0, 3) 1787 | Yn fferru'n sydyn yn riddfaniad hir. |
| (0, 3) 1788 | Gwelwn fflach y bidog gwaedlyd yn y fflam |
| (0, 3) 1789 | A'r milwyr yn symud o dŷ i dŷ |
| (0, 3) 1790 | Mor hamddenol â phladurwyr yn y meysydd ŷd. |
| (0, 3) 1791 | Yna, y distawrwydd syfrdan, a chlindarddach |
| (0, 3) 1792 | Y cerbydau dur yn toddi draw i'r tarth. |
| (0, 3) 1793 | Clywn eto sgrech y fam |
| (0, 3) 1794 | Uwchben y corffyn bychan yn y llwch |
| (0, 3) 1795 | Sy'n llwtra gwlyb o gnawd a gwaed, |
| (0, 3) 1796 | A hithau'n darnio'i dillad yn ei hing. |
| (0, 3) 1797 | Wylo chwerw fu yma drwy oriau'r tywyllwch. |
| (0, 3) 1798 | Udodd y cŵn, hwythau eu galarnad trist |
| (0, 3) 1799 | O stomp a drewdod yr adfeilion. |
| (0, 3) 1800 | Ond heddiw mae'n pentre ni'n dawel, dawel. |
| (0, 3) 1801 | Torrodd y wawr, ond ni welsom olau dydd; |
| (0, 3) 1802 | Dringodd yr haul dros ysgwydd y grib, |
| (0, 3) 1803 | Ond ni threiddiodd ei belydrau |
| (0, 3) 1804 | I lymder oer ein calonnau clwyfedig. |
| (0, 3) 1805 | Bellach, nid oes gennym ddim ar ôl |
| (0, 3) 1806 | Ond diymadferthwch ac anobaith du. |
| (0, 3) 1807 | Ac eto, rhywfodd rhaid stryffaglio ymlaen, |
| (0, 3) 1808 | Heb wybod dim ond mai fel hyn |
| (0, 3) 1809 | Mae pethau wedi bod erioed, |
| (0, 3) 1810 | A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd. |
| (Nicias) Wyddoch chi be, dwy' i ddim yn teimlo'n benisel yn amal. | |
| (Blaenor y Côr) Hyd yn oed, rhaid inni dderbyn dy gyngor. | |
| (0, 3) 1931 | Cytunwn yn llwyr. |
| (0, 3) 1932 | Rhodded Dionysos ei adroddiad inni felly, |
| (0, 3) 1933 | Ac esbonied pa sefyllfa enbyd |
| (0, 3) 1934 | A pha achos dwys a barodd iddo ddod i Hades |
| (0, 3) 1935 | Ar siwrna mor frawychus. |
| (0, 3) 1936 | Siaraded yn rhwydd: fe gaiff wrandawiad astud; |
| (0, 3) 1937 | Wedi'r cyfan nid bob dydd |
| (0, 3) 1938 | Y'n gelwir yma ger dy fron |
| (0, 3) 1939 | I drafod cais mor hynod! |