| (1, 0) 5 | Mi wyddost na fedr hyn ddim para. |
| (Efnisien) Wrth gwrs na fedr o ddim para. | |
| (Efnisien) Mae cysgod y bedd droson-ni cyn inni golli cysgod y groth. | |
| (1, 0) 10 | Ffwlbri, frawd bach. |
| (Efnisien) Sut hynny? | |
| (Efnisien) Sut hynny? | |
| (1, 0) 12 | Cysgod y groth! |
| (1, 0) 13 | Cysgod y bedd! |
| (1, 0) 14 | Welaist ti rioed na'r naill na'r llall. |
| (1, 0) 15 | Roedd dy lygaid di wedi'u cau yn y groth, ac mi fyddan wedi'u cau cyn dy fedd. |
| (Efnisien) {Wedi chwerthin.} | |
| (Efnisien) Mae gwell gwaith na hynny ar wely, on'd oes? | |
| (1, 0) 21 | Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg. |
| (Efnisien) Rydw i wedi lladd dynion. | |
| (Efnisien) Ias! | |
| (1, 0) 25 | Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb. |
| (Efnisien) Un oer a chaled wyt ti, Branwen. | |
| (Efnisien) Mae dy garu di fel croesi cleddau gyda gelyn. | |
| (1, 0) 28 | Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi. |
| (Efnisien) Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon. | |
| (Efnisien) Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon. | |
| (1, 0) 30 | Craig wedi'i hollti. |
| (Efnisien) Ei hollti?... | |
| (Efnisien) Gan be? | |
| (1, 0) 33 | Paid â gofyn. |
| (1, 0) 34 | Mi wyddost. |
| (1, 0) 35 | Gan ein gwarth ni. |
| (Efnisien) {Wedi gafael yn ei throed hi a rhoi tro iddi.} | |
| (Efnisien) Tyn y gair yna'n ôl. | |
| (1, 0) 38 | Rwyt ti'n brifo. |
| (1, 0) 39 | Paid! |
| (Efnisien) {Tro gwaeth a hithaw'n sgrechian yn isel.} | |
| (Efnisien) Tyn y gair yna'n ôl. | |
| (1, 0) 42 | Be ddweda i? |
| (Efnisien) Gan ein cariad ni. | |
| (Efnisien) Gan ein cariad ni. | |
| (1, 0) 44 | Gan ein cariad ni. |
| (Efnisien) Mi allwn i dy ladd di. | |
| (Efnisien) Mi allwn i dy ladd di. | |
| (1, 0) 46 | Dianc fyddai hynny. |
| (Efnisien) Dianc rhagof i? | |
| (Efnisien) Dianc rhagof i? | |
| (1, 0) 48 | Wn i ddim. |
| (1, 0) 49 | Ti ydy 'mhechod i. |
| (1, 0) 50 | Mae'n well gan i 'mhechod na 'mywyd. |
| (Efnisien) {Gan ollwng ei throed hi.} | |
| (Efnisien) Does dim rhaid dewis. | |
| (1, 0) 53 | Mi wyddost na fedr hyn ddim para. |
| (Efnisien) Ferch fach, ein cariad ni ydy'n bywyd ni. | |
| (Efnisien) Mi ddwedais, fe bery tra bydd para i ti, tra bydd para i mi. | |
| (1, 0) 56 | Heb feddwl am farw? |
| (Efnisien) Rwyt ti yn llygad dy le. | |
| (Efnisien) Nid marw ydy caru, ond byw, byw, byw. | |
| (1, 0) 59 | Fy nghariad i, paid â gwrthod 'y neall i. |
| (1, 0) 60 | Yr unig farw sy'n anodd, sy'n boen, ydy'r marw y bydd dyn yn para'n fyw ar ei ôl o. |
| (1, 0) 61 | Dyna'r unig wynebu angau nad ydy o ddim yn gelwydd. |
| (1, 0) 62 | Cyn hir bydd yn rhaid i ti a minnau wneud hynny. |
| (Efnisien) Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu. | |
| (Efnisien) Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu. | |
| (1, 0) 64 | Ti ddwedodd mai'n cariad ni ydy'n bywyd ni. |
| (1, 0) 65 | Ein marw ni fydd tynnu'n cariad ni allan o'n bywyd ni... a mynd ymlaen i fyw ar ôl hynny. |
| (Efnisien) {Wedi saib.} | |
| (Efnisien) Mewn gwaed oer, yn ei wrthod o'n bendant, am byth. | |
| (1, 0) 70 | Hanner brawd wyt ti; nid brawd. |
| (Efnisien) {Wedi chwerthin.} | |
| (Efnisien) Fi piau ti gorff ac enaid. | |
| (1, 0) 75 | Na. |
| (1, 0) 76 | Fi piau fi... |
| (1, 0) 77 | Ond rydw i wedi rhoi nghalon i ti. |
| (Efnisien) Rhaid imi wrth hynny a rhagor. | |
| (Efnisien) Gwae i'r neb a ddêl rhyngon ni. | |
| (1, 0) 81 | Mae dy eiriau fel y gwin. |
| (Efnisien) Geiriau sobrwydd a gwirionedd. | |
| (Efnisien) Geiriau sobrwydd a gwirionedd. | |
| (1, 0) 83 | Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd? |
| (Efnisien) Brân? | |
| (Efnisien) Brân? | |
| (1, 0) 85 | Y brenin. |
| (Efnisien) Wyt ti am imi ddweud wrtho? | |
| (Efnisien) Wyt ti am imi ddweud wrtho? | |
| (1, 0) 87 | Go brin. |
| (1, 0) 88 | Rhaid imi dy gadw di yma tra bydda i yma. |
| (Efnisien) Yma yr wyt ti. | |
| (Efnisien) Gyda mi. | |
| (1, 0) 92 | O na bai eto ryfel. |
| (Efnisien) Pam wyt ti am ryfel? | |
| (Efnisien) Pam wyt ti am ryfel? | |
| (1, 0) 94 | Ti ydy'r penteulu a'r gorau sy gennyn ni. |
| (1, 0) 95 | Fedr Brân ddim mynd i ryfel hebot ti. |
| (1, 0) 96 | Rwyt ti'n anhepgor. |
| (1, 0) 97 | Ond pan mae hi'n heddwch rwyt ti'n boen i'r brenin. |
| (Efnisien) Fi ydy dy frenin di, nid Brân. | |
| (Efnisien) Fi ydy dy frenin di, nid Brân. | |
| (1, 0) 99 | Ti yw fy mhlentyn i. |
| (1, 0) 100 | Dyna'r pam rwyt ti'n frenin arna i, y ngwas mawr i. |
| (Efnisien) A Brân? | |
| (Efnisien) A Brân? | |
| (1, 0) 102 | Brawd. |
| (1, 0) 103 | Brawd cyfan. |
| (Efnisien) Ond? | |
| (Efnisien) Ond? | |
| (1, 0) 105 | Ond brenin. |
| (1, 0) 106 | Mae ganddo gariad arall. |
| (Efnisien) Nid ei chwaer? | |
| (Efnisien) Nid ei wraig? | |
| (1, 0) 109 | Ei deyrnas. |
| (Efnisien) Oes ganddi hi hawliau? | |
| (Efnisien) Oes ganddi hi hawliau? | |
| (1, 0) 111 | Arno fo. |
| (1, 0) 112 | Arnaf innau. |
| (1, 0) 113 | Nid arno fo mae'r bai mai rhywbeth i'w brynu a'i werthu ym marchnad y gwledydd ydy chwaer y brenin. |
| (1, 0) 114 | I brynu heddwch neu selio cyfamod. |
| (1, 0) 115 | Mae pob merch i frenin yn gwybod hynny'n ddeg oed. |
| (1, 0) 116 | A gwae hi os na na bydd hi'n ddigon hardd ei gwedd i gostio gwlad. |
| (Efnisien) Paid â bod mor chwerw. | |
| (Efnisien) All hynny ddim digwydd i ti. | |
| (1, 0) 119 | Rwyt ti yma yn y llys ddwy flynedd heb ddysgu dim. |
| (1, 0) 120 | Yn anghyfrifol fel mellten. |
| (1, 0) 121 | Cyfle i hwyl a miri yw rhyfel iti. |
| (1, 0) 122 | Dyna yw'r llys iti. |
| (1, 0) 123 | Dyna ydw innau iti. |
| (Efnisien) Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol. | |
| (Efnisien) Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol. | |
| (1, 0) 125 | Fel plentyn gyda thegan. |
| (Efnisien) Nid tegan wyt ti i mi. | |
| (Efnisien) Nid tegan wyt ti i mi. | |
| (1, 0) 127 | Profiad? |
| (Efnisien) Tynged... | |
| (Efnisien) Terfyn y daith. | |
| (1, 0) 130 | Dwyt ti ddim yn frenin. |
| (Efnisien) Ac felly? | |
| (Efnisien) Ac felly? | |
| (1, 0) 132 | Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i. |
| (Efnisien) Mi ofynna i heddiw. | |
| (Efnisien) Rydyn ni'n un cnawd eisoes ym mhob ystyr a modd. | |
| (1, 0) 136 | Act wleidyddol ydy priodi. |
| (1, 0) 137 | Does a wnelo'r peth ddim oll â charu. |
| (1, 0) 138 | Rhaid profi i'r brenin a'i gyngor fod y peth yn fantais i'r llywodraeth. |
| (Efnisien) {Yn syn.} | |
| (Efnisien) I'n gwely ni. | |
| (1, 0) 143 | I hynny y'm magwyd i. |
| (1, 0) 144 | I hynny y'm dysgwyd i a 'ngwisgo a 'nghynefino bob dydd o 'mywyd. |
| (1, 0) 145 | Dydw i ddim yn cofio dim arall... |
| (1, 0) 146 | Yr hyn ddrysodd y cwbl oedd i ti ddod i'r llys yn llanc. |
| (Efnisien) Ydy'n ddrwg gen ti? | |
| (Efnisien) Ydy'n ddrwg gen ti? | |
| (1, 0) 148 | Ydy. |
| (1, 0) 149 | Fe fydd madael... |
| (Efnisien) Nid iâr yn gori allan wyt ti. | |
| (1, 0) 153 | Bore heddiw mi welais longau'n hwylio tuag yma, llongau brenhinol. |
| (1, 0) 154 | Welaist ti? |
| (Efnisien) Mi wyddost imi fynd i hela. | |
| (Efnisien) Mi wyddost imi fynd i hela. | |
| (1, 0) 156 | Erbyn hyn maen nhw wedi glanio. |
| (Efnisien) O'r gogledd? | |
| (Efnisien) O'r gogledd? | |
| (1, 0) 158 | O Iwerddon. |
| (Efnisien) Matholwch? | |
| (Efnisien) Mi wnâi daid iawn iti. | |
| (1, 0) 164 | Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau. |
| (Efnisien) Beth! | |
| (Efnisien) Wyt ti eisoes yn gweld dy orsedd? | |
| (1, 0) 168 | Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti. |
| (Efnisien) I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd. | |
| (Efnisien) I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd. | |
| (1, 0) 170 | Pwy ŵyr? |
| (Efnisien) Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled. | |
| (Efnisien) Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled. | |
| (1, 0) 172 | A pha les fydd hynny? |
| (Efnisien) Branwen, rydw i'n dy garu di'n enbyd, enbyd. | |
| (Efnisien) Rwyt tithau'n paratoi i 'mradychu i. | |
| (1, 0) 175 | Rydw i'n edrych ar yr hyn sydd o'n blaen ni. |
| (1, 0) 176 | Rydw i'n gwneud 'y ngore i'th gael dithau i wynebu'r peth. |
| (Efnisien) {Gan dynnu cyllell o'i wregys.} | |
| (Efnisien) Rydw i'n barod i'w wynebu, yn barod gyda holl greulondeb 'y ngwaed. | |
| (1, 0) 179 | O'r gore, mi heria i di. |
| (Efnisien) Sut? | |
| (Efnisien) Sut? | |
| (1, 0) 181 | Os dod yma mae Matholwch i ofyn amdana i'n wraig tyrd gyda mi i'r cyngor a dweud wrthyn nhw mai dy ordderch di, fy hanner-brawd, ydw i; mai ti fu gyda mi yn y gwely yma drwy'r nos neithiwr, ac nad oes gan neb arall hawl arna i. |
| (Efnisien) {Ymhen ysbaid.} | |
| (Efnisien) Mi wyddost na fedra i ddim. | |
| (1, 0) 184 | Pam? |
| (Efnisien) Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle. | |
| (Efnisien) Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle. | |
| (1, 0) 186 | Fedra innau ddim chwaith. |
| (Efnisien) A pham? | |
| (Efnisien) A pham? | |
| (1, 0) 188 | Nid am ddim y medra i ymfalchïo ynddo. |
| (1, 0) 189 | Ond nid dyna fy natur i. |
| (1, 0) 190 | Fedrwn i ddim peidio â syrthio mewn cariad â thi pan ddest ti gynta i'r llys. |
| (1, 0) 191 | Welais i monot ti'n blentyn. |
| (1, 0) 192 | Damwain oedd inni'n dau fod yn yr un groth. |
| (1, 0) 193 | Dydw i'n gofidio dim am hynny. |
| (1, 0) 194 | Ti ydy unig gariad 'y mywyd i. |
| (1, 0) 195 | Ond rydw i'n ferch i frenin; rydw i'n chwaer i frenin. |
| (1, 0) 196 | Fy nhynged i ydy bod yn fam i frenin. |
| (1, 0) 197 | Fedra i ddim wrth y peth. |
| (1, 0) 198 | Mi wyddost fod gwrthod yn ymarferol amhosib. |
| (1, 0) 199 | Ond heblaw hynny, brad fyddai gwrthod. |
| (Efnisien) Mae'n haws gen'ti 'mradychu i. | |
| (Efnisien) Mae'n haws gen'ti 'mradychu i. | |
| (1, 0) 201 | Efnisien, paid â ffraeo. |
| (1, 0) 202 | Bob tro yr ei di i frwydr rwyt tithau'n taflu'n serch ni i'r tân. |
| (1, 0) 203 | Cwlwm nad ydy o ddim yn dal ydy cariad. |
| (1, 0) 204 | Rhaid i gleddyf neu briodas ei dorri o neu ei ddatod. |
| (1, 0) 205 | Mae'n well gen i dorri na datod. |