| (0, 1) 2 | Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu, |
| (0, 1) 3 | Oedd hoff i'm golwg dwys ym more byd, |
| (0, 1) 4 | A geisiaf nau eilwaith eich anwesu, |
| (0, 1) 5 | A blyg fy nghalon eto dan yr hud? |
| (0, 1) 6 | Ymdyrrwch yna ynteu, ac ymresu, |
| (0, 1) 7 | Megys y dowch o darth a niwl ynghŷd; |
| (0, 1) 8 | Yn ieuanc eto, cryn fy nghalon hithau |
| (0, 1) 9 | O dan yr hud a ddaw pan ddeloch chwithau. |
| (0, 1) 10 | ~ |
| (0, 1) 11 | I'ch canlyn, fe ddaw cof am ddyddiau mwynion, |
| (0, 1) 12 | A chyfyd llun rhai annwyl mwy nad ynt; |
| (0, 1) 13 | Fel rhyw hen ramant hanner mud, daw swynion |
| (0, 1) 14 | Y cariad cyntaf a'r gyfeillach gynt; |
| (0, 1) 15 | Daw gofid hefyd, ac atseinia gŵynion |
| (0, 1) 16 | Bywyd ei hunan a'i drofâog hynt, |
| (0, 1) 17 | Ac enwa imi lawer hoff gydymaith |
| (0, 1) 18 | O'm blaen o'i ddedwydd awr a gipiwyd ymaith. |
| (0, 1) 19 | ~ |
| (0, 1) 20 | Ni chlywant hwy mo'r newydd gân, y rheiny |
| (0, 1) 21 | Y canwn iddynt gerddi'r bore llon; |
| (0, 1) 22 | Ar wasgar, mwy, yr aeth y mwyn gwmpeini, a |
| (0, 1) 23 | A'r atsain gyntaf, bellach, mud yw hon; |
| (0, 1) 24 | Fy nghân, yn awr, i estron dorf y seini, |
| (0, 1) 25 | A'u clod ei hun sydd megys braw i'm bron; |
| (0, 1) 26 | A'r sawl o'm cân a gaffo ddim diddigrwydd, |
| (0, 1) 27 | Os ceir, drwy'r byd y crwydra mewn unigrwydd. |
| (0, 1) 28 | ~ |
| (0, 1) 29 | A mi, rhyw ryfedd hiraeth mwy a'm tery |
| (0, 1) 30 | Am dawel fyd di boen yr ysbryd fry; |
| (0, 1) 31 | A nawf fy sisial gân, fel chwa pan chwery |
| (0, 1) 32 | Drwy dannau telyn, yn ddilafar su; |
| (0, 1) 33 | Rhed iasau drwof, dagrau li'n goferu, |
| (0, 1) 34 | A'r galon gref, yn wan a masw y try; |
| (0, 1) 35 | A feddaf, megys draw ymhell y gwelaf, |
| (0, 1) 36 | A'r peth a aeth, sydd, eto, ddiogelaf. |