| (Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs. | |
| (Shan) Mae cysgod lled dda fan hyn. | |
| (1, 0) 38 | Ddaw Nel ddim 'nol, os gall fynd i'w gweld rywfodd. |
| (1, 0) 39 | O diar! mae'n noson ofnadwy! |
| (1, 0) 40 | Glyw di'r gwynt yn rhuo, ac yn curo'r tonnau yn erbyn y graig. |
| (1, 0) 41 | Mae'n llawn cynddrwg heno a'r noson honno pan aeth y "Lady Mary" yn ddarnau ar y graig─mae yna agos i ddwy flynedd oddiar hynny, on'd oes e'? |
| (Nel) {Yn dod nol gan sychu ei hwyneb, ac yn ymddangos yn flinedig} | |
| (Nel) A welwch chi'r bad 'nawr yn rhywle? | |
| (1, 0) 129 | Na, mae'r tonna' yn hy uchel. |
| (1, 0) 131 | Isht! |
| (1, 0) 132 | Dyna |rocket| arall! |
| (1, 0) 133 | Mae hi bron bod ar ben ar y llong druan. |
| (1, 0) 134 | Faint sydd ynddi, tybed? |
| (Sal) Wn i yn y byd. | |
| (Sal) Mae rhyw wragedd bach yn rhywle mewn pryder mawr heno ynghylch y rhai sydd fan draw yn disgwyl y bad i ddod. | |
| (1, 0) 139 | Tybed a all y bad eu cyrraedd ar noson mor arw? |
| (1, 0) 140 | Mae'n galed arnynt. |
| (1, 0) 141 | Beth petai'r bad yn methu, a'n bechgyn ni'n cael eu taflu i'r môr! |
| (1, 0) 142 | O, mam fach annwyl! |
| (Mari) Dim ond gweddïo yn ddistaw bach alla i wneud 'nawr, a'r un geiriau o hyd, "Duw, cadw hwynt." | |
| (Sal) Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy. | |
| (1, 0) 168 | Edrych, Sal, dyna ragor wedi dod. |
| (1, 0) 169 | O! Lisa Jones, a Dai Jones, a Tim Ned sydd yna. |
| (Sal) Ie, dau dda ydynt hwy. | |
| (Nel) Wn i ddim yn wir, wela i ddim. | |
| (1, 0) 185 | O 'mhlant bach i─a ddaw eich tad 'nol? |
| (Sal) Dere fan hyn, Beti, i ni weddïo ar i Dduw eu cadw, a'u dwyn yn ol. | |
| (1, 0) 402 | Pwy yw e'? |
| (Nel) Ben, brawd Mari a Bess. | |
| (Nel) Dyna ryfedd mae pethau yn digwydd! | |
| (1, 0) 405 | "Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr |
| (1, 0) 406 | Yn dwyn Ei waith i ben." |
| (Shan) Ie'n wir. | |
| (Pegi) O, nid ydynt damaid gwaeth; maent wedi newid 'nawr, ac yn cael tamaid o fwyd. | |
| (1, 0) 435 | Yr oedd rhaid i ni ddod lawr pan glywsom y gwaeddi, i gael gweld pwy oedd Bess a Mari wedi ei gael o'r môr. |
| (1, 0) 436 | Dewch i lan i'r tŷ. |