| (Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon | |
| (1, 0) 324 | Y gair yw "Cymod." |
| (Cŵsi) {O'r golwg.} | |
| (1, 0) 343 | Dydd da, Gadfridog. |
| (1, 0) 344 | (Yn ffug-chwareus.} A ddechreuodd chwyldro |
| (1, 0) 345 | Na chaffai Capten y Gard ddynesu i'r plas |
| (1, 0) 346 | Heb roddi gair yr arwydd? |
| (Joab) Maddau hyn, | |
| (1, 0) 351 | Rhaid fod yn wir! Y mae fy ngwŷr i'n gwarchod |
| (1, 0) 352 | Pob porth ac adwy. Erioed ni chlywais-i gŵyn |
| (1, 0) 353 | Fod neb o'm gwŷr o gard yn dechrau hepian, |
| (1, 0) 354 | Fod eisiau gwyliwr arall yn yr ardd |
| (1, 0) 355 | Ar fore teg o haf. Ai rhag llaw brad |
| (1, 0) 356 | Y rhoed dy was i gadw llwybrau'r ardd |
| (1, 0) 357 | Â'i gleddyf ysgwydedig, fel y rhoed |
| (1, 0) 358 | Ceriwbiaid Eden i warchod pren y bywyd? |
| (1, 0) 359 | Ceriwb go dlws, wir Dduw,—mor ddu ag uffern! |
| (1, 0) 361 | Fy rhwystro gan ddienwaededig gi! |
| (Joab) Gwrando, Beneia, nid rhag ofn llaw brad | |
| (1, 0) 372 | Newydd ddychwelyd, |
| (1, 0) 373 | Ar ôl cyflawni neges dros y brenin. |
| (1, 0) 376 | P'le cest-ti hon, Gadfridog? |
| (Joab) Yn ardal Sŵnem. | |
| (Joab) Yn ardal Sŵnem. | |
| (1, 0) 378 | Ha! Gwlad y lili a'r pomgranadau pêr, |
| (1, 0) 379 | Cartref caneuon serch a merched hardd, |
| (1, 0) 380 | A blas y gwin ar eu cusanau brwd. |
| (1, 0) 382 | Llongyfarchiadau, f'arglwydd! Mae dy chwaeth |
| (1, 0) 383 | Mor sicr wrth ddewis milwr, march,—a merch. |
| (1, 0) 384 | Cei ddiolch y brenin am gaethferch deg fel hon, |
| (1, 0) 385 | A cherddgar hefyd,—at ei ordderchwragedd. |
| (Abisâg) {Yn taro ei law ymaith mewn balchder clwyfedig. Syll Meffiboseth arni.} | |
| (1, 0) 395 | Purion, Gadfridog! |
| (Joab) Dywed pwy yw hwn— | |
| (Joab) Â'i garpiog glog? {Yn ysgafn.} Wneith hwn ddim gŵr o gard! | |
| (1, 0) 399 | Y Brenin a ddywedodd wrthyf, "Dos |
| (1, 0) 400 | I Lo-Debâr, i dŷ Machîr, mab Amiel. |
| (1, 0) 401 | Clywais fod yno un o deulu Saul |
| (1, 0) 402 | Yn fabwysiedig. Brysia, cyrch ef ataf." |
| (1, 0) 403 | Minnau a frysiais ac a gefais hwn |
| (1, 0) 404 | A fagwyd ar ei dyddyn gan Machîr. |
| (Joab) Pa beth sy ym mryd y Brenin? | |
| (Joab) Pa beth sy ym mryd y Brenin? | |
| (1, 0) 406 | Ni wn i, |
| (1, 0) 407 | Onid ei grogi fel y gwnaeth â meibion |
| (1, 0) 408 | Rispa a Saul, ar furiau tref Gibeon. |
| (1, 0) 410 | A'r deyrnas mor aniddig, yr unig aelod |
| (1, 0) 411 | Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw, |
| (1, 0) 412 | Rhag creu gwrthryfel eto. A dyma'r cyw |
| (1, 0) 413 | Olaf o'r nyth adfydus—Meffiboseth, |
| (1, 0) 414 | Mab Jonathan, medd Machîr. Y cloff hwn. |
| (Joab) A'i dâl?—Ei hela o le i le fel petris. | |
| (1, 0) 421 | Am hynny, meddaf innau, f'arglwydd Joab, |
| (1, 0) 422 | Colofn ddi-syfl Tŷ Dafydd, yr unig aelod |
| (1, 0) 423 | Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw. |
| (Joab) Eto pa bleser crogi llencyn cloff | |
| (Meffiboseth) Arglwyddes Telyn, a gaf i wneud it gist? | |
| (1, 0) 451 | Rhaid iti frysio, 'r cyw! Oherwydd sydyn |
| (1, 0) 452 | Yw barnau'r Brenin. |
| (Abisâg) {Wrth Meffiboseth yn wawdlyd am Beneia.} | |
| (Abisâg) Crachach fel hwn na wybu urddas Saul. | |
| (1, 0) 469 | Dydd da i'n Twysog Solomon, lleufer llys. |
| (Solomon) Dydd da, foneddigion... Gapten, beth yw "lleufer"? | |
| (Solomon) Dydd da, foneddigion... Gapten, beth yw "lleufer"? | |
| (1, 0) 471 | "Lleufer," Dywysog, yw goleuni disglair, — |
| (1, 0) 472 | Dy dad yw'r haul, dy freiniol fam yw'r lloer, |
| (1, 0) 473 | Ac ynot cydgyferfydd eu disgleirdeb. |
| (Solomon) {Yn ysgrifennu.} | |
| (Abisâg) Anrhydedd fydd. | |
| (1, 0) 502 | Yr olaf o Dŷ Saul yw'r efrydd hwn. |
| (1, 0) 503 | Â'r fantell garpiog. Dy frenhinol dad |
| (1, 0) 504 | A'i galwodd yma fel y gwypai'i ddedfryd, |
| (1, 0) 505 | A'i enw yw Meffiboseth. |
| (Solomon) O Dŷ Saul | |
| (1, 0) 568 | F'arglwyddes, nid oedd hyn ond chwarae plant |
| (1, 0) 569 | Heb unrhyw fwriad drwg. |
| (Bathseba) Gadfridog Joab, | |
| (Bathseba) Pa hyd bydd Gorsedd Dafydd mewn enbydrwydd? | |
| (1, 0) 596 | Dyma'r cyw olaf un o nyth y neidr. |
| (1, 0) 597 | Sathred y Brenin heddiw ar ei ben, |
| (1, 0) 598 | A dyna ddiwedd arnynt! |
| (Meffiboseth) Trugarha, | |
| (Dafydd) Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia! | |
| (1, 0) 762 | F'Arglwwydd!... |
| (Dafydd) Cyrch ymo'r fantell fraith sy ar fy ngwely. | |
| (Dafydd) Ac er fy hiraeth, nid anfonais air. | |
| (1, 0) 893 | Gan hynny, Frenin, ped anfonit heddiw |
| (1, 0) 894 | Ar ôl distawrwydd hir, onid fel gwendid |
| (1, 0) 895 | Yn Israel y cyfrifai yntau hyn, |
| (1, 0) 896 | A chroesi'r ffin â gwrthryfelgar blaid |
| (1, 0) 897 | I'w wneud ei hun yn frenin yn dy le? |
| (Dafydd) Beneia! Am fy mab yr wyt-ti'n sôn! | |
| (2, 2) 1633 | Clywsom y Gloch Alarwm! Gelwais y Gard. |
| (2, 2) 1634 | Atolwg, fy Nghadfridog, be' sy'n bod? |
| (Joab) Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron. | |
| (Joab) A bydd ei fyddin yma ym mhen dwyawr. | |
| (2, 2) 1637 | Y bradwr ffiaidd! |
| (2, 2) 1639 | ... O! mi wyddwn i |
| (2, 2) 1640 | Er pan adferaist ef i ffafr y Brenin... |
| (2, 2) 1641 | Beth yw d'orchmynion? |
| (Joab) Caeer holl byrth y ddinas. | |
| (Joab) A chroesi Rhyd Iorddonen am y gwyllt. | |
| (2, 2) 1671 | Purion, Gadfridog... Rhyw orchymyn pellach? |
| (Joab) Oes. Mae pob milwr i drafaelu'n ysgafn. | |
| (Joab) Dim ond ei arfau. Ymborthwn ar y wlad. | |
| (2, 2) 1674 | Fy Arglwydd Frenin, trefnaf y llu i'ch disgwyl. |
| (Dafydd) {Wrth newid ei goron am yr helm, a'i gosod ar y fantell, liwus ar yr orsedd.} | |
| (Absalom) Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd. | |
| (3, 1) 2260 | Fy Arglwydd Frenin!... Fy Nghadfridog Joab! |
| (3, 1) 2261 | Galwaf, yn ôl eich gair... Mae'n doriad dydd. |
| (Dafydd) Dydd da, fy Nghapten. | |
| (Dafydd) Dydd da, fy Nghapten. | |
| (3, 1) 2269 | Henffych well, fy Mrenin. |
| (3, 1) 2270 | Mae'r haul am godi'n glir ar ddydd dy frwydr. |
| (3, 1) 2271 | Clir ar dy fuddugoliaeth y machludo. |
| (Joab) {Yn edrych allan dros y mur.} | |
| (3, 1) 2281 | A gaf i alw |
| (3, 1) 2282 | Rhingyll ein Gwŷr o Gard i seinio'r utgorn? |
| (Dafydd) Aros, am ennyd. Gad im edrych eto | |
| (Dafydd) I faes y gwaed. | |
| (3, 1) 2432 | Bellach ni elli di ragor |
| (3, 1) 2433 | I'w helpu nag a wnaethost eisoes. Tyrd, |
| (3, 1) 2435 | Cynhaliaf di i'th stafell wely. Tyrd. |
| (Dafydd) Fy mwriad i oedd aros ar y mur | |
| (Dafydd) Gyda newyddion. | |
| (3, 1) 2439 | Cwsg. Fe alwn arnat |
| (3, 1) 2440 | Cyn gynted ag y gwelwn y rhedegwr. |
| (Dafydd) Rwy'n llesg a blin, ond O! ni allwn gysgu | |
| (Dafydd) Ac fe elwch arnaf? | |
| (3, 1) 2453 | Ar unwaith... Tyred, arglwydd, gorffwys bellach. |
| (3, 1) 2462 | "Bydd esmwyth er fy mwyn wrth Absalom." Baw! |
| (3, 1) 2467 | Pe bawn i'n Joab, fe gâi'r llanc "esmwythyd"! |
| (Abisâg) {Yn canu.} | |
| (3, 2) 2509 | Peth braf yw gallu cysgu ar ganol brwydr. |
| (Abisâg) Chefais-i ond cyntun byr... A oes rhyw newid? | |
| (Abisâg) Chefais-i ond cyntun byr... A oes rhyw newid? | |
| (3, 2) 2511 | Dim newid, na dim arwydd, na dim sŵn. |
| (3, 2) 2512 | Weli di Fforest Effraim ar y gorwel |
| (3, 2) 2513 | Fel rhimyn du? Am oriau bu fy llygaid |
| (3, 2) 2514 | Yn craffu arni a heb weled dim; |
| (3, 2) 2515 | Dim, er yr awr y llithrodd ein dwy asgell |
| (3, 2) 2516 | I dde a chwith o'i chwmpas i'w hamgylchu. |
| (3, 2) 2517 | Am oriau bu fy nghlustiau'n gwrando'n ddwys |
| (3, 2) 2518 | Am unrhyw sŵn o'r Fforest. Dim yw dim. |
| (3, 2) 2519 | Ac eto mae cymrodyr imi ynddi |
| (3, 2) 2520 | Mewn ymdrech ddreng ag angau. Rhwng y cangau |
| (3, 2) 2521 | Mae trwst y brwydro'n tarfu'r adar cân,— |
| (3, 2) 2522 | Clinc cledd ar helm, clonc gwaywffon ar darian, |
| (3, 2) 2523 | Bloeddiadau utgyrn a gweryriad meirch, |
| (3, 2) 2524 | Gwaedd y capteiniaid, ac ysgrech sawl llanc |
| (3, 2) 2525 | Mewn ing, yn treiglo â saeth yn ei goluddion, |
| (3, 2) 2526 | A rhu cynddaredd ei ddialwyr ef. |
| (Abisâg) Ton brwydr, yn ôl a blaen, a thynged gwlad | |
| (Abisâg) Heb wahaniaethu dim rhwng ffrind a gelyn. | |
| (3, 2) 2540 | Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith. |
| (Abisâg) Yr wyt ti'n galed. | |
| (Abisâg) Yr wyt ti'n galed. | |
| (3, 2) 2542 | Caled yw gair y nef |
| (3, 2) 2543 | Am bob llanc tebyg, a watwaro'i dad;— |
| (3, 2) 2544 | "Y fagl a osodwyd ar ei lwybr; |
| (3, 2) 2545 | Ei gannwyll a ddiffoddir ganol nos; |
| (3, 2) 2546 | Cigfrain y dyffryn sydd i dynnu ei lygaid, |
| (3, 2) 2547 | Eryrod rheibus sydd i fwyta'i gnawd." |
| (Abisâg) Och! Meddwl am ei dad. | |
| (Abisâg) {Gan syllu allan.} | |
| (3, 2) 2550 | Byth ni bydd llawen. |
| (3, 2) 2551 | Tad a genhedlo ffŵl, hyd ddydd ei dranc. |
| (Abisâg) Edrych!... Ar y gwastadedd... Gŵr yn rhedeg! | |
| (Abisâg) Edrych!... Ar y gwastadedd... Gŵr yn rhedeg! | |
| (3, 2) 2553 | Negesydd ydyw!... Galw ar y Brenin |
| (3, 2) 2556 | Geidwad y Porth! |
| (Llais) le, Gapten? | |
| (Llais) le, Gapten? | |
| (3, 2) 2558 | Y negesydd! |
| (3, 2) 2559 | Agor y porth i'w dderbyn. |
| (Llais) Purion, syr. | |
| (Llais) Purion, syr. | |
| (3, 2) 2561 | A galw'r Gwŷr o Gard. |
| (Dafydd) {Gan edrych dros y canllaw castellog.} | |
| (3, 2) 2567 | Draw ar y gwastad. |
| (Dafydd) {Yn cysgodi ei lygaid.} | |
| (Dafydd) Fel ffoaduriaid? | |
| (3, 2) 2572 | Nac oes, neb ond hwn. |
| (Dafydd) Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw. | |
| (Dafydd) Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges. | |
| (3, 2) 2576 | Edrychwch!... Mae gŵr arall erbyn hyn |
| (3, 2) 2577 | Yn rhedeg ar ei ôl... Mae bron â'i ddal. |
| (Dafydd) Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau. | |
| (Dafydd) Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau. | |
| (3, 2) 2579 | Edrychwch!... Fo sy'n ennill... Pasiodd Cŵsi! |
| (Abisâg) {Yn gyffrous iawn.} | |
| (3, 2) 2587 | Y nefoedd! Y fath ras! |
| (3, 2) 2589 | Y Gard! Trowch allan er anrhydedd iddynt! |
| (3, 2) 2591 | Buddugoliaeth! |
| (Ahimâs) Heddwch, fy Arglwydd Frenin! Bendigedig | |
| (Cŵsi) Am ddiwedd bradwr. | |
| (3, 2) 2680 | Sut y lladdwyd ef? |
| (Cŵsi) Yn awr y fuddugoliaeth, a'n gelynion | |
| (3, 2) 2716 | Os na chest wobr y Brenin, cei wobr Bathseba! |
| (3, 2) 2717 | Prysura'n awr i'w llety yn y ddinas |
| (3, 2) 2718 | Ac adrodd wrthi hi dranc Absalom; |
| (3, 2) 2719 | Dos, galw hi yma ar frys,—a Solomon! |
| (Cŵsi) 'Rwy'n deall, Gapten. Gwnaf yn ôl dy air. | |
| (Cŵsi) {Prysura ymaith i lawr y grisiau de.} | |
| (3, 2) 2724 | Baner y Llew a fo'n croesawu'n harwyr |
| (3, 2) 2725 | Buddugoliaethus adref. |
| (3, 2) 2727 | Ho yna'r, Gard! |
| (3, 2) 2728 | Estynnwch ffaglen imi i oleuo |
| (3, 2) 2729 | Baner y Llew fel y bo i'w gweld o bell. |
| (Dafydd) O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab! | |
| (Abisâg) Mae'u trwst yn sicr o ladd y Brenin. | |
| (3, 2) 2757 | Beth? |
| (3, 2) 2758 | Diffodd y ffaglen sy'n croesawu'r hogiau |
| (3, 2) 2759 | Fu'n mentro'u bywyd trosom? Taw, y ffŵl. |
| (3, 2) 2760 | Nid mewn tywyllwch y mae derbyn arwyr, |
| (3, 2) 2761 | Ond dygant hwythau toc eu ffaglau tân. |
| (3, 2) 2773 | Mae rhai o'n milwyr eisoes wrth y Porth |
| (3, 2) 2774 | Yn llithro i'r ddinas megis lladron nos, |
| (3, 2) 2775 | Fel pe mewn cwilydd.... Os dy fwriad oedd |
| (3, 2) 2776 | Gwarthruddo'r bechgyn cywir a fu'n ymladd |
| (3, 2) 2777 | Yn erbyn bradwyr, cefaist dy ddymuniad. |
| (3, 2) 2779 | 'Disgwyl dy fod di'n fodlon—y gath wyllt! |