| (1, 1) 4 | Tân brwmstan gwyllt, darperwch fflamllyd Gethern, |
| (1, 1) 5 | Mwyhewch ei wrês â holl feginau uffern, |
| (1, 1) 6 | I drochi'r CYMRY yn ei fflamau gwyrddion; |
| (1, 1) 7 | I'w poeni—tyngaf fil-fyrdd o ellyllon! |
| (1, 1) 8 | Pob un a ddaw o'r genedl atgas yma |
| (1, 1) 9 | Eu hyrddio wnaf i lawr i'r dyfnder eitha', |
| (1, 1) 10 | I gael eu rhwygo gan bicellau gwynias, |
| (1, 1) 11 | A seirph a dreigiau tanllyd yn gymdeithas: |
| (1, 1) 12 | Mae enw'r CYMRY bron mor anyoddefol |
| (1, 1) 13 | Gan lîd fy mron, ag enw'r Duw tragwyddol; |
| (1, 1) 14 | Och fi! nad allwn wneud y ddau yn wag-nod, |
| (1, 1) 15 | A threisio llwybr i orsedd fawr y Duwdod: |
| (1, 1) 16 | Ond yn lle hyny, rhwym wrth danllyd gadwen, |
| (1, 1) 17 | Dan gosb yr wyf, yn glythu ar genfigen; |
| (1, 1) 18 | A llygaid byw fy ngelyn Hollalluog |
| (1, 1) 19 | Yn gwylied arnaf gyda thremiant llidiog; |
| (1, 1) 20 | A phob edrychiad sydd yn âeth tragwyddol |
| (1, 1) 21 | Yn creu pangfeydd ar ol pangfeydd dirdynol: |
| (1, 1) 22 | Ond er y cwbl, mi chwarddaf yn ei wyneb, |
| (1, 1) 23 | A meddwaf ar gynddaredd a chasineb; |
| (1, 1) 24 | A holl alluoedd y tywyllwch ŷraf |
| (1, 1) 25 | I frwydro'r CYMRY câs, ei bobl anwylaf, |
| (Siomedigaeth) Ein penaeth uchel! cyfiawn yw dy gwynfan: | |
| (Cenfigen) Ddarlunio gwarth mor fawr yn ddigon erchyll! | |
| (1, 1) 151 | Melldithion uffern, gwlawiwch yn echrydus |
| (1, 1) 152 | Gawodydd eirias ar y Cymry bradus! |
| (1, 1) 153 | Gwarth, ing, a dinystr, yn eu mysg ymdaenwch, |
| (1, 1) 154 | Phïolau gwae ar ben pob un tywalltwch! |
| (1, 1) 155 | Nid oes un genedl yn y byd daearol |
| (1, 1) 156 | Mor wrthryfelgar ì lywodraeth diafol! |
| (1, 1) 157 | Er's llawer canrif ofn sibrydai wrthyf |
| (1, 1) 158 | Y rhoddent i mi archoll gwaeth na chleddyf, |
| (1, 1) 159 | Ryw ddydd i dd'od, nes teimlai uffern drwyddi, |
| (1, 1) 160 | Ac Och! mae'r archoll wedi cael ei roddi, |
| (1, 1) 161 | Nes mae fy mron, gan loesion, yn gynddeiriog, |
| (1, 1) 162 | A'm llid yn arllwys allan fflamau fforchog: |
| (1, 1) 163 | Mae genyf ddigon o gynddaredd meddw |
| (1, 1) 164 | Y munud hwn, i wneud y byd yn ulw,— |
| (1, 1) 165 | I ddamnio enaid pob Cymraes a Chymro, |
| (1, 1) 166 | A chreu ellyllon fil-fyrdd i'w poenydio: |
| (1, 1) 167 | O! fel y dawnsiwn ar eu penau celyd— |
| (1, 1) 168 | Dyrchafwn grechwen hyd at borth y gwynfyd, |
| (1, 1) 169 | Ac arddangoswn hwynt yn ngwydd y Duwdod |
| (1, 1) 170 | Yn arwydd-nôd o fuddugoliaeth pechod! |
| (1, 1) 171 | A gwnawn i uffern ganu cân cynddaredd, |
| (1, 1) 172 | Wylofain, gruddfan, och, a rhingcian danedd; |
| (1, 1) 173 | Ond hyn nid allaf, —Duw sydd yn fy ngwylio, |
| (1, 1) 174 | A'i olwg beunydd trwy fy mron yn treiddio; |
| (1, 1) 175 | Yr eiliad hwn, fe wêl fy nrwg amcanion— |
| (1, 1) 176 | Fe glyw fy iaith, ac enfyn ei angylion |
| (1, 1) 177 | I sefyll ar fy ffordd fel cedyrn dduwiau, |
| (1, 1) 178 | Heb neb a'u beiddia trwy fy holl daleithiau: |
| (1, 1) 179 | Pe suddo wnawn i'r dwfn anfesuradwy |
| (1, 1) 180 | Ac uwch fy mhen dywyllwch anhreiddiadwy, |
| (1, 1) 181 | Fe fyddwn yno hefyd yn ei wyddfod, |
| (1, 1) 182 | A'i bresenoldeb rüai fy nghydwybod; |
| (1, 1) 183 | Pe na b'ai gair o'm genau yn diferu, |
| (1, 1) 184 | Fy meddwl distaw glywai yn llefaru |
| (1, 1) 185 | Yn gwbl mor eglur â fy mron fy hunan— |
| (1, 1) 186 | Fel pe llefarwn â tharanau allan; |
| (1, 1) 187 | Ac felly darganfyddai fy nghynlluniau |
| (1, 1) 188 | A gwnai yn llawer tynach fy nghadwynau |
| (1, 1) 189 | Er hyn i gyd, mi weithiaf yn ei erbyn— |
| (1, 1) 190 | Cynlluniau dynaf gyda bron ddiddychryn: |
| (1, 1) 191 | Dichellion fyrdd grynhöant yn fy meddwl— |
| (1, 1) 192 | Rhaid i mi ddechrau.. |
| (1, 1) 194 | Ust! glywch chwi y gwaeddi? |
| (1, 1) 195 | Mae talaeth Rhagrith mewn cyffröad trwyddi! |
| (1, 1) 196 | Dialedd Chwim, fy hên negesydd ffyddlon, |
| (1, 1) 197 | Yn gynt na mellten disgyn i'r gwaelodion |
| (1, 1) 198 | O gylch i gylch, trwy ganol fflamau myglyd, |
| (1, 1) 199 | A myn y rheswm am y twrf disyfyd. |
| (1, 1) 201 | Yn uwch, ac uwch, fe gyfyd eu 'sgrechiadau, |
| (1, 1) 202 | O hyd fe adymdorant íel taranau, |
| (1, 1) 203 | Nes yw holl uffern gan y twrf yn crynu, |
| (1, 1) 204 | A phawb o'i mewn gan ofnau yn gruddfanu; |
| (1, 1) 205 | Yr wyf yn methu yn fy myw a dirnad |
| (1, 1) 206 | Beth allai fod yr achos o'r cyffrôad; |
| (1, 1) 207 | Feallai mai gwrthryfel newydd ydyw, |
| (1, 1) 208 | I wneud gwerinaeth o unbenaeth distryw; |
| (1, 1) 209 | Ond dichon nad yw ddim ond ffrwyth anghydfod |
| (1, 1) 210 | Rhwng y penaethiaid a'u dilynwyr parod,— |
| (1, 1) 211 | Neu ynte frwydr gynddeiriog rhwng ellyllon |
| (1, 1) 212 | Y dalaeth isel hon a'r damnedigion! |
| (1, 1) 213 | Ond dacw'm cenad ar ei edyn pygddu |
| (1, 1) 214 | Fel mellten drwy y caddug yn dynesu, |
| (1, 1) 215 | A'r hanes oll yn drefnus ar eì dafod— |
| (Dialedd) Dialedd yn dyfod i mewn. | |
| (Dialedd) Dialedd yn dyfod i mewn. | |
| (1, 1) 217 | Ha! dyma fe o flaen ei feistr yn barod: |
| (1, 1) 218 | Dialedd, adrodd—adrodd mewn amrantiad |
| (1, 1) 219 | Yr achos, maint, a natur y cyffröad! |
| (Dialedd) Ha, ha, ha! mae chwerthin bron fy hollti, | |
| (Dialedd) Ac yn eu canol safwn mewn amrantiad: | |
| (1, 1) 274 | Yr achos, maint, a natur y cyffröad, |
| (1, 1) 275 | Ac nid dy daith, a geisiais genyt adrodd,— |
| (1, 1) 276 | Gad wybod pwy o'm deiliaid a'i hachosodd? |
| (Dialedd) Neb yn neillduol: Piwsi bach o Gymro | |
| (Dialedd) Ac yfed gwaddod cwpan ei ddialedd. | |
| (1, 1) 287 | Rhagorol iawn. |
| (Pawb) Rhagorol iawn. | |
| (Pawb) Rhagorol iawn. | |
| (1, 1) 289 | Ardderchog! |
| (1, 1) 290 | Yn wir teilyngant fy nghanmòliaeth wresog: |
| (1, 1) 291 | Ac er mwyn talu iddo gyflog ddigon, |
| (1, 1) 292 | Ewch chwithau, hefyd, iy nghynghorwyr ffyddlon, |
| (1, 1) 293 | I lawr yn union a mwyhewch y cyffro, |
| (1, 1) 294 | A rhoddwch groesaw heb ei ail i'r Cymro! |
| (Pawb) Awn, awn. | |
| (1, 1) 318 | Daeth i fy meddwl rhyw feddylddrych gynau |
| (1, 1) 319 | A allai fod yn ddedwydd ei effeithiau; |
| (1, 1) 320 | Pe byddai modd ei roddi mewn gweithrediad |
| (1, 1) 321 | Nid oes fawr os beth fyddai ei ganlyniad: |
| (1, 1) 322 | Ond rhwystrau fyrdd sydd i gwblhau fy amcan, |
| (1, 1) 323 | Mae deddfau Duw mor sicr âg ef ei hunan: |
| (1, 1) 324 | Pob deddf o'i eiddo sydd yn hollalluog |
| (1, 1) 325 | Ac uffern oll ni ddichon byth eu hysgog; |
| (1, 1) 326 | Fe fyddai ceisio myned yn eu herbyn, |
| (1, 1) 327 | A thori trwyddynt, i gwblhau fy nghynllun, |
| (1, 1) 328 | Mor anobeithiol â'r gwrthryfel cyntaf |
| (1, 1) 329 | I dreisio gorsedd gadarn y Goruchaf; |
| (1, 1) 330 | Ei holl ewyllys a'i fwriadau dwyfol |
| (1, 1) 331 | Fel Crewr pawb a Llywydd pen-arglwyddol |
| (1, 1) 332 | A fỳn gwblhau, er gwaethaf fy ngelyniaeth, |
| (1, 1) 333 | Cadarnach y'nt na seiliau'r greadigaeth! |
| (1, 1) 334 | A'r neb mewn rhyfyg ar eu ffordd a safant |
| (1, 1) 335 | A fethrir byth dan draed anfeidrol soriant, |
| (1, 1) 336 | Fe allwn ddwyn byd newydd i fodolaeth |
| (1, 1) 337 | A dim ond gair; dileu y greadigaeth |
| (1, 1) 338 | A Duw ei hun, mor hawdd ag atal iota |
| (1, 1) 339 | O arfaeth ben-arglwyddol y Jehofa: |
| (1, 1) 340 | Ond er nad allaf drwy fy ngallu lwyddo, |
| (1, 1) 341 | Trwy ddichell cyfrwys mynaf ei effeithio; |
| (1, 1) 342 | Cyflawnais fwy na hyn dan anfanteision |
| (1, 1) 343 | Nad oes eu tebyg ar fy ffordd yr awrhon: |
| (1, 1) 344 | Pan ydoedd dyn mor lân âg engyl gwynion, |
| (1, 1) 345 | Heb duedd ddrwg na llygredd yn ei galon, |
| (1, 1) 346 | A Duw ag ef yn cyfeillachu beunydd— |
| (1, 1) 347 | Gan daflu drosto gysgod ei adenydd, |
| (1, 1) 348 | Mi weithiais ffordd i'w galon yn llwyddianus |
| (1, 1) 349 | A gwnaethum ef yn adyn pechadurus,— |
| (1, 1) 350 | Yn elyn Duw—yn fradwr fel fy hunan, |
| (1, 1) 351 | A ffurfiais ef yn ol fy nelw aflan; |
| (1, 1) 352 | Mi dynais ddagrau, do, o lygaid engyl, |
| (1, 1) 353 | Fath lwyddiant mawr nid oeddwn byth yn dysgwyl; |
| (1, 1) 354 | Fe ddysgais i'r Cerubiaid ocheneidio |
| (1, 1) 355 | Ac i'r Seraphiaid uwch fy mrâd i wylo; |
| (1, 1) 356 | Mi deflais brudd-der dros drigfanau gwynfyd |
| (1, 1) 357 | A dwysder sỳn ar wyneb y cyfanfyd! |
| (1, 1) 358 | Ac er i'r dyn, trwy allu mawr trugaredd, |
| (1, 1) 359 | Gael ei ryddhau o rwymau ei anwiredd, |
| (1, 1) 360 | Mi gefais fuddugoliaeth gwerth ei chofio |
| (1, 1) 361 | A'i chanlyniadau sydd yn aros eto. |
| (1, 1) 362 | ~ |
| (1, 1) 363 | Rhaid i mi gyfaddasu fy nghynlluniau |
| (1, 1) 364 | I ateb natur dyn a'i amgylchiadau; |
| (1, 1) 365 | Oblegid nid yw Duw yn llywodraethu |
| (1, 1) 366 | Y teulu dynol gyda deddfau gallu; |
| (1, 1) 367 | Pe felly gwnai, nid allwn yn oes oesoedd |
| (1, 1) 368 | Gwblhau fy amcan, mwy na chloi y Nefoedd; |
| (1, 1) 369 | Ond gyda deddfau cariad, —deddfau denu, |
| (1, 1) 370 | Mae'n dirio'r byd —a'r dyn yn ymresymu; |
| (1, 1) 371 | Mae yn ei lwytho â daioni beunydd |
| (1, 1) 372 | Gan daflu drosto gysgod ei adenydd,— |
| (1, 1) 373 | Gan ddangos ar un llaw y gwynfyd bythol |
| (1, 1) 374 | Ac ar y llall, echryslawn wae tragwyddol! |
| (1, 1) 375 | Gan adael iddo ddewis, ynte gwrthod, |
| (1, 1) 376 | Anfeidrol olud cariad rhâd y Duwdod: |
| (1, 1) 377 | Yn awr, mae yma le i minau weithio, |
| (1, 1) 378 | A mantais fawr sydd genyf hefyd arno; |
| (1, 1) 379 | Ei galon ddrwg sydd wrthyf yn ymlynu |
| (1, 1) 380 | Ac yn fy llwybrau mae yn ymyfrydu; |
| (1, 1) 381 | I mi mae pawb yn ddeiliaid wrth naturiaeth, |
| (1, 1) 382 | Trwy feiau fyrdd arddelant fy llywodraeth; |
| (1, 1) 383 | Ac oni b'ai fod Duw â'i ras yn tynu, |
| (1, 1) 384 | Ni welid un o honynt yn fy ngwadu; |
| (1, 1) 385 | Ond pwy a ŵyr na lwyddaf finau eto |
| (1, 1) 386 | I ddwyn rhyw luoedd lawer oddi arno? |
| (1, 1) 387 | ~ |
| (1, 1) 388 | Ond och! och fi! mae llygad yr Anfeidrol |
| (1, 1) 389 | Yn tremio arnaf nes mae poen dirdynol |
| (1, 1) 390 | Yn cynddeiriogi gwae fy holl deimladau, |
| (1, 1) 391 | Ac yn lle pleser, ing ddaw o'm cynlluniau: |
| (1, 1) 392 | Rhaid i mi fyned, gan fy mhoen, am enyd |
| (1, 1) 393 | I lawr i orphwys ar fy ngwely tanllyd. |