| (Y Ddewines gyntaf) Cyfwrdd eto, bryd y daw | |
| (Macbeth) Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg. | |
| (1, 3) 100 | Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Forres? |
| (1, 3) 101 | Pa bethau yw'r rhai hyn, mor wyw a gwyllt eu trwsiad, nad tebyg ynt i drigolion daear, ac eto sydd arni? |
| (1, 3) 102 | Ai byw chwi? |
| (1, 3) 103 | Neu a ydych unpeth y dichon dyn ei holi? |
| (1, 3) 104 | Mi dybygwn eich bod yn fy neall, gan fod y naill a'r llall ohonoch ar unwaith yn dodi ei bys migyrnog ar ei gwefus deneu. |
| (1, 3) 105 | Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddehongli mai dyna ydych. |
| (Macbeth) Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi? | |
| (Y drydedd Ddewines) Henffych, Macbeth, a fyddi frenin wedi hyn! | |
| (1, 3) 111 | Hawyr! pam y cyffrowch gymaint, ac edrych fel pe bai arnoch ofn y pethau y mae hyfryted swn ynddynt? |
| (1, 3) 112 | A chwithau, yn enw'r gwir, ai drychiolaethau ydych, ai'r hyn y mae ei lun allanol arnoch? |
| (1, 3) 113 | Yr ydych yn cyfarch fy nghydymaith urddasol â gras yn awr ac a darogan gwych am urddasol feddiant a brenhinol obaith, onid yw'r cwbl fel cyfaredd arno; wrthyf fi, ni leferwch. |
| (1, 3) 114 | O gellwch chwi chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un na thyf, lleferwch wrthyf finnau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas. |
| (Y Ddewines gyntaf) Henffych! | |
| (Macbeth) Tynghedaf chwi, llefarwch! | |
| (1, 3) 129 | Mae byrlymau ar dir fel ar ddwr, a dyma rai o honynt. |
| (1, 3) 130 | I ba le y diflanasant? |
| (Macbeth) I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt. | |
| (Macbeth) Mynaswn ped arosasent! | |
| (1, 3) 133 | A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn siarad am danynt, ynte a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n gwneuthur y rheswm yn garcharor? |
| (Macbeth) Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd. | |
| (Macbeth) Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd. | |
| (1, 3) 135 | Byddwch chwithau'n frenin eich hunan. |
| (Macbeth) A phendefig Cawdor hefyd, onid e? | |
| (Macbeth) A phendefig Cawdor hefyd, onid e? | |
| (1, 3) 137 | Ie, dyna'r gair yn union. |
| (1, 3) 138 | Ond pwy sydd yma? |
| (Ross) Macbeth, derbyniodd y brenin y newyddion am dy lwyddiant; a phan fo ef yn darllen dy antur di ym mrwydr y gelynion, y mae ei syndod a'i ganmoliaeth yn ymryson a'i gilydd pa un a ddylai fod yn eiddot ti neu eiddo ef; | |
| (Ross) Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi drosto dy alw'n Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas, henffych deilwng arglwydd, canys eiddot yw. | |
| (1, 3) 145 | Pa beth! |
| (1, 3) 146 | A ddichon y diafol ddywedyd y gwir? |
| (Macbeth) Mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg? | |
| (Macbeth) Onid ydych yn gobeithio y bydd eich plant chwi'n frenhinoedd, am nad addawyd iddynt lai gan y rhai a roes i mi arglwyddiaeth Cawdor? | |
| (1, 3) 156 | Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwi eto hyd at y goron, heblaw arglwyddiaeth Cawdor. |
| (1, 3) 157 | Ond rhyfedd yw, er mwyn ein hennill i'n niwed ein hunain, y mae cyfryngau'r tywyllwch yn fynych yn dywedyd y gwir wrthym, gan ein hennill â rhyw fân bethau gonest i'n bradychu i bethau o'r pwys mwyaf.— |
| (1, 3) 158 | Atolwg, geraint, un gair. |
| (Macbeth) {Wrtho'i hun.} | |
| (Macbeth) y mae fy meddwl, nad yw'r mwrdwr ynddo eto namyn rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint fel y mae ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes namyn nad yw. | |
| (1, 3) 167 | Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo. |
| (Macbeth) {Wrtho'i hun.} | |
| (Macbeth) Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, dioer, coroned siawns fi, heb i mi mo'r symud. | |
| (1, 3) 170 | Nid yw ei urddau newydd, mwy na'n dillad dieithr yn gorwedd yn wastad ar a fo tanynt namyn drwy gymorth arfer. |
| (Macbeth) {Wrtho'i hun.} | |
| (Macbeth) Y mae'r amser a'r awr yn rhedeg drwy y dydd garwaf. | |
| (1, 3) 174 | Deilwng arglwydd, yr ym at eich galwad pan fynnoch. |
| (Macbeth) Rhowch i mi eich ffafr, yr oedd pethau anghofiedig yn moedro f'ymennydd dwl. | |
| (Macbeth) Meddyliwch am a ddamweiniodd, a phan gaffom amgen hamdden, wedi y bo i'r ysbaid bwyso'r peth, gadawer ini ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd. | |
| (1, 3) 179 | Yn llawen iawn. |