| (DORA) Tomos, be' ydych chi'n 'i wneud? | |
| (DORA) Mae'r dyn o'i go'n lân. | |
| (1, 1) 137 | Helo, Tomos Morgan. |
| (1, 1) 138 | Fi sydd 'ma. |
| (1, 1) 139 | Ydy' hi'n glir? |
| (TOMOS) Ydy', Benja. | |
| (Tomos) Siawns y cawn ni lonydd am funud neu ddau. | |
| (1, 1) 145 | Ydach chi'n siwr? |
| (1, 1) 146 | Beth am y misus? |
| (TOMOS) Newydd fynd allan ar negas. | |
| (TOMOS) Ia, reit siwr. | |
| (1, 1) 152 | Wedi ei gwisgo mewn du oedd hi, dwedwch? |
| (TOMOS) Ia, du fel y frân. | |
| (TOMOS) Ia, du fel y frân. | |
| (1, 1) 154 | Be—ydy' hi wedi colli rhywun? |
| (TOMOS) Ydy'. | |
| (TOMOS) Ei gŵr. | |
| (1, 1) 159 | Ydach chi'n teimlo'n iawn, Tomos Morgan? |
| (TOMOS) Ydw', cystal â'r disgwyliad. | |
| (TOMOS) Pam? | |
| (1, 1) 162 | Wel hwyrach mai fi wnaeth eich cam-ddeall chi. |
| (TOMOS) Cam-ddeall be? | |
| (TOMOS) Cam-ddeall be? | |
| (1, 1) 164 | Wel yr hyn dd'wedsoch chi rwan—bod y misus wedi colli ei gŵr. |
| (1, 1) 165 | Ond wrth gwrs, fi'n sy'n gwneud camgymeriad. |
| (TOMOS) Wnest ti ddim camgymeriad o gwbwl. | |
| (TOMOS) Dyna'n hollol a dd'wedais i. | |
| (1, 1) 168 | Maddeuwch i mi, Tomos Morgan, ond 'dydach chi ddim yn edrach fel 'taech chi wedi marw. |
| (TOMOS) Nid am danaf fy hun 'roeddwn i'n son, y twpyn. | |
| (TOMOS) Am ei gŵr cynta' hi—yr anfarwol William! | |
| (1, 1) 171 | O, 'rydw' i'n gweld rwan.... |
| (1, 1) 172 | Ond sut fedar o fod yn anfarwol os ydy' o wedi marw? |
| (TOMOS) Mi ddeallit ti hynny, Benja, 'taet ti'n byw yn y tŷ yma. | |
| (TOMOS) Mae o wedi mynd yn stwmp ar fy stumog i. | |
| (1, 1) 176 | Wel ydy', mi greda i. |
| (TOMOS) A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs. | |
| (TOMOS) A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs. | |
| (1, 1) 178 | O? |
| (TOMOS) Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld. | |
| (TOMOS) Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld. | |
| (1, 1) 180 | Pen-blwydd? |
| (TOMOS) Ia—pen-blwydd ei farwolaeth o, ddeng mlynedd yn ôl. | |
| (TOMOS) Aros am funud, mae yna amser am gêm bach os byddwn ni'n handi. | |
| (1, 1) 189 | Tipyn o fentar ydy' priodi, Tomos Morgan. |
| (1, 1) 190 | Yn enwedig am yr ail dro. |
| (1, 1) 191 | Mae yna lawer i ddweud dros bod yn hen lanc. |
| (TOMOS) Oes, reit siwr. | |
| (TOMOS) Yn un peth, mae hi wedi bod yn od o ffeind efo Lewis, yr hogyn yma. | |
| (1, 1) 198 | Sut mae o, y dyddia' yma? |
| (TOMOS) Digon ansefydlog, fachgan. | |
| (TOMOS) Mi gafodd o amser go ddrwg allan yn Affrica, wyddost ti. | |
| (1, 1) 202 | Do—a heb ddwad dros hynny mae o reit siwr. |
| (1, 1) 203 | Amser sydd arno fo eisio. |
| (TOMOS) O mi ddaw o—dim cwestiwn o hynny. | |
| (TOMOS) A hwyrach y medar Ann helpu i sadio dipyn arno fo. | |
| (1, 1) 206 | Ann? |
| (TOMOS) Ia, ia—wyddost ti, y ferch ifanc sy'n aros yma. | |
| (TOMOS) Mae hi'n gweithio efo Jones y Twrna'. | |
| (1, 1) 209 | O ia. |
| (1, 1) 210 | Be—ydy' hi a Lewis yn canlyn? |
| (TOMOS) Wel ydy', rhyw gybodlian fel y byddwn ni'n dweud... | |
| (TOMOS) Mi ydw'i am roi andros o gweir i ti heddiw, Benja. | |
| (1, 1) 214 | O, cyn i mi ddechra', Tomos Morgan. |
| (1, 1) 215 | Mi ydw i wedi gwneud rhyw ddau ne' dri o fân betha i chi gael eu gwerthu. |
| (1, 1) 216 | Mae nhw yn y parsel yma gen i. |
| (TOMOS) {Eu cymryd} Wel ardderchog, Benja! | |
| (TOMOS) "Look here," medda' fi wrtho fo, "Wooden spoon belonging to the grandmother of Owen Glyndwr." | |
| (1, 1) 227 | Go dda! |
| (1, 1) 228 | Beth oedd o go iawn? |
| (TOMOS) Pric-pwdin Dora. | |
| (TOMOS) Pric-pwdin Dora. | |
| (1, 1) 230 | A mi lyncodd y stori? |
| (TOMOS) Do—a phrynu'r lwy bren! | |
| (TOMOS) Wyddost ti faint sydd ynddo fo rwan? | |
| (1, 1) 235 | Wel rhoswch chi—na 'does gen i ddim syniad. |
| (TOMOS) Can punt, 'rhen fach. | |
| (TOMOS) Can punt ond chwe' cheiniog. | |
| (1, 1) 238 | Be! |
| (TOMOS) Ffaith iti. | |
| (TOMOS) Roeddwn i'n eu cyfri' nhw gynna'. | |
| (1, 1) 241 | Arswyd y byd! |
| (TOMOS) I gyd ar yr achos da, Benja. | |
| (TOMOS) Yr hen gwdihŵ gebyst! | |
| (1, 1) 247 | Hidiwch chi befo. |
| (1, 1) 248 | Mi lwyddwn er ei gwaetha' hi a'i siort. |
| (1, 1) 249 | Sut mae ganddyn nhw galon i edrach ar hen begnos yn cicio'u sodlau ar gongla'r strydoedd yma dwedwch? |
| (TOMOS) Dim arall i' ddisgwyl—dyna'u hanes nhw erioed wyddost ti... | |
| (1, 1) 253 | Wel, mi dria' i o'n fan'ma, Tomos Morgan. |
| (TOMOS) {Symud} A dyna i ti gi-defaid i' gornelu o, 'rhen fach! | |
| (TOMOS) {Symud} A dyna i ti gi-defaid i' gornelu o, 'rhen fach! | |
| (1, 1) 255 | O, peidiwch â bod yn rhy siwr rwan, peidiwch â bod yn rhy siwr! |
| (1, 1) 256 | Rhoswch am funud. |
| (TOMOS) Yn hollol groes i f'egwyddorion i. | |
| (1, 1) 262 | O mi ydw' i'n reit chwannog i ddiferyn dros y galon rwan ac yn y man. |
| (1, 1) 263 | Yn enwedig y tywydd oer yma. {Yfed o'r botel.} |
| (TOMOS) Mae o'n iawn fel ffisig, Benja. | |
| (TOMOS) Ond am lymeitian mewn gwaed oer—na, 'dydy' o ddim yn iawn rhywsut. | |
| (1, 1) 267 | Ond i gyn'esu'ch gwaed chi mae o'n dda, Tomos Morgan... |
| (1, 1) 268 | Ydach chi wedi symud, dwedwch? |
| (TOMOS) Na, mi ydw' i'n disgwyl wrthyt ti. | |
| (TOMOS) Tyrd yn dy flaen. | |
| (1, 1) 271 | Reit. |
| (1, 1) 272 | 'Rhoswch chi, 'rhoswch chi, 'rhoswch chi. {Astudio'r bwrdd drafft.}. |
| (1, 1) 273 | Mi dria'i hwn yn fan'ma, 'rydw i'n meddwl. {Mynd i symud ond tynnu'n ol.} |
| (1, 1) 274 | Na, hanner munud, hanner munud, hanner munud. |
| (TOMOS) Gwna dy feddwl i fyny, da ti! | |
| (TOMOS) 'Rwyt ti 'run fath â hen iâr yn methu dodwy. | |
| (1, 1) 277 | Dyna fo rwan. |
| (1, 1) 280 | Duwcs annwyl, Tomos Morgan, be' sy'n bod? |
| (TOMOS) {Dal i besychu} Hen anwyd yn dechra' magu ar fy mrest i, fachgan. | |
| (TOMOS) {Dal i besychu} Hen anwyd yn dechra' magu ar fy mrest i, fachgan. | |
| (1, 1) 282 | Wyddoch chi be, mae o'n swnio'n ddigon drwg. |
| (1, 1) 283 | Rhaid i chi gymryd gofal ohonno fo. |
| (TOMOS) Na, na, mi fydda' i'n iawn mewn munud. | |
| (1, 1) 286 | Ond 'does yna ddim allan o'i le ynddo fo mewn gwaeledd meddech chi. |
| (TOMOS) Be? | |
| (TOMOS) A phob llwyddiant i Gaban yr Hynafgwyr! | |
| (1, 1) 296 | "Caban yr Hynafgwyr"! |
| (TOMOS) Diaist i, 'roeddit ti'n iawn, Benja! | |
| (TOMOS) Yli, mi ydw' i am neidio dau i ti. | |
| (1, 1) 305 | Ar fengoch i, welais i mo hwnna... |
| (1, 1) 306 | Ond hidiwch befo—mi gymera inna hwn. |
| (1, 1) 307 | A gwnewch o'n geiliog i mi, Tomos Morgan! |
| (TOMOS) Diaist i, 'rwyt ti'n gwella yn dy chware, fachgan. | |
| (TOMOS) Mi ddoi di, gyda gofal a bwyd llwy. | |
| (1, 1) 312 | D'wedwch wrtha' i, Tomos Morgan— |
| (1, 1) 313 | TOMOS |
| (1, 1) 314 | Wel? |
| (1, 1) 315 | Fyddwch chi ddim blys rhoi swlltyn ar geffyl weithia? |
| (TOMOS) Be'ddwedaist ti! | |
| (TOMOS) Paid byth a sôn am y fath beth wrtha' i! | |
| (1, 1) 319 | Ond dim ond meddwl 'roeddwn i. |
| (1, 1) 320 | Hynny ydy'—wel wyddoch chi, cael chwanneg o arian at y Caban a— |
| (TOMOS) Arian anonest, halogedig? | |
| (TOMOS) Rwy'n synnu atat ti'n awgrymu'r fath beth! | |
| (1, 1) 325 | O wel, dyna fo. |
| (1, 1) 326 | Lles yr hen begnos oedd gen' i mewn golwg, ynte. |
| (1, 1) 327 | Dim bai ar y cynnig— |
| (TOMOS) Fynna'i i ddim baeddu fy nwylo efo aur llygredig, Benja. | |
| (TOMOS) Rhaid i mi gofio golchi hon cyn i Dora ddwad yn ei hôl, ne mi fydd yma andros o le! | |
| (1, 1) 331 | Wyddoch chi be', Tomos Morgan—wrth i chi sôn am wragedd blin? |
| (TOMOS) Pwy oedd yn sôn am wragedd blin? | |
| (TOMOS) Pwy oedd yn sôn am wragedd blin? | |
| (1, 1) 333 | Wel dyna roeddech chi'n 'i awgrymu dan eich gwynt, ynte! |
| (1, 1) 334 | Hyn oedd gen' i i' ddweud: mae yna ddynion mawr iawn wedi cael 'run helbul â chi o dro i dro. |
| (TOMOS) O? | |
| (TOMOS) O? | |
| (1, 1) 336 | Dyna i chi Socrates, er enghraifft. |
| (1, 1) 337 | Hen feudan stormus oedd Santhipa, ei wraig o, medda' nhw. |
| (TOMOS) Felly wir? | |
| (TOMOS) Felly wir? | |
| (1, 1) 339 | Ia—a dyna pam 'raeth o ati i sgwennu llyfra', i anghofio'i boen a'i helbul. |
| (TOMOS) Fe wnaeth beth call iawn! | |
| (TOMOS) P'le ddarllenaist ti am hyn, dwed? | |
| (1, 1) 342 | Mewn hen lyfr sydd gen' i yn y tŷ acw. |
| (1, 1) 343 | Wyddoch chi be' arall sydd ynddo fo? |
| (TOMOS) Na wn i, be? | |
| (TOMOS) Na wn i, be? | |
| (1, 1) 345 | Hanes yr hen Ddoctor Ffawstws. |
| (1, 1) 346 | Glywsoch chi am Doctor Ffawstws? |
| (TOMOS) Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed? | |
| (TOMOS) Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed? | |
| (1, 1) 348 | Twt, twt, choelia' i fawr! |
| (1, 1) 349 | Ydach chi ddim yn gwybod? |
| (1, 1) 350 | Y dyn hwnnw werthodd ei enaid i'r diafol ers talwm. |
| (TOMOS) Bobol annwyl! | |
| (TOMOS) Gwraig flin oedd ganddo ynta' hefyd? | |
| (1, 1) 354 | Wn i ddim, ond synnwn i flewyn. |
| (TOMOS) Mae o'n swnio'n llyfr diddorol dros ben, fachgan. | |
| (TOMOS) Ydy' o'n dweud yn hollol sut i godi'r Gŵr Drwg? | |
| (1, 1) 357 | Ydy'—y manylion i gyd. |
| (1, 1) 358 | Leiciech chi gael golwg arno fo? |
| (TOMOS) Leiciwn. | |
| (TOMOS) Ond cymer ofal rhag i Dora 'i weld o, wyt ti'n deall? | |
| (1, 1) 362 | O mi wna' i, peidiwch â phryderu. |
| (1, 1) 363 | Mi ro'i o mewn papur llwyd—wêl hi mo'i deitl o wedyn. |
| (TOMOS) O, helo Ann. | |
| (TOMOS) Miss Ann Thomas—Benja. | |
| (1, 1) 378 | Sut 'rydach chi, Miss Thomas? |
| (ANN) Reid dda, diolch. | |
| (ANN) Dy hunan-dosturi a'th ddifaterwch. | |
| (1, 1) 444 | Ia, siwr o fod. |
| (LEWIS) Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja. | |
| (LEWIS) Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja. | |
| (1, 1) 446 | Ond 'doeddwn i ddim ond pethma, Lewis. |
| (LEWIS) Wel peidiwch â phethma, da chi! | |
| (TOMOS) {Neidio i fyny.} Ar fengoch i! | |
| (1, 1) 473 | Be' sy'n bod, Tomos Morgan? |